Agenda item

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol

 

Cofnodion:

Rhannodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol wybodaeth mewn perthynas â'r Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro ar gyfer 2022/23 a gyhoeddwyd ar 21 Rhagfyr 2021 gan gyfeirio at ei adroddiad a chyflwyno sylwadau cychwynnol ar effaith debygol y setliad dros dro ar ddarparu gwasanaethau'r Cyngor.

 

Rhannodd y Cyfarwyddwr y prif benawdau data o'r setliad â'r Aelodau fel sydd wedi'u nodi yn adran 4. Rhoddodd wybod am y cynnydd gwerth 9.4% (+£437M) ledled Cymru a bod disgwyl i adnoddau'r Cyngor yma gynyddu i 8.4% Mae lefelau setliad dangosol dros dro hefyd wedi'u cynnwys ar gyfer y 2 flynedd ddilynol ar gyfradd o 3.5% a 2.4% yn y drefn honno, sy'n awgrymu bod cyfnod mwy heriol o'n blaenau. Mae nifer o drosglwyddiadau i'r setliad hefyd wedi'u nodi yn adran 4 yn ogystal â gostyngiad gwerth £2.165miliwn o ran cyllid cyfalaf y Cyngor.

 

Mae'r setliad yn fwy cadarnhaol na'r hyn a gafodd ei gynllunio yn rhan o gynllun ariannol tymor canolig diweddaraf y Cyngor ac mae hefyd yn adlewyrchu sylfaen costau a phwysau cynyddol sylweddol ar wasanaethau'r Cyngor. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dod â’r Gronfa Galedi i ben. Mae'r gronfa yma’n ad-dalu llywodraeth leol am gostau a cholledion incwm o ganlyniad i’r pandemig. Mae'r rhagamcanion yn nodi y bydd y cymorth gan y gronfa eleni'n cyfateb i £30miliwn. Bydd rhywfaint o'r cyllid yma ar gyfer risgiau ariannol allweddol y mae angen eu rheoli yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf a thu hwnt.

 

Mae’r gofynion cynyddol o ran y gyllideb wedi’u nodi ac mae'r rhain yn cynnwys cyllid i dalu am gynnydd mewn nifer o feysydd megis cyfraniadau YG cyflogwyr sy’n gysylltiedig ag Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU, talu’r Cyflog Byw Sylfaenol sydd wedi cynyddu o £9.50 i £9.90 yr awr i ddarparwyr gofal cymdeithasol ledled RhCT, costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg, chwyddiant ar draws y Cyngor a’r pwysau ar y gadwyn gyflenwi gan gynnwys costau gweithwyr, costau parhaus sy’n ymwneud â'r pandemig e.e. gwasanaethau gwastraff a chostau lleoliadau arbenigol y sector gofal cymdeithasol. Mae pob un o'r rhain wedi’u nodi yn nhabl 2 yr adroddiad, gan gyfateb i gynnydd net gwerth £11.7miliwn yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod effaith gyfunol y setliad dros dro a'r gofynion cyllideb sylfaenol wedi'u diweddaru wedi'u nodi yn Nhabl 3, yn erbyn bwlch yn y gyllideb o £9.2M adeg y cam cynllunio ariannol tymor canolig, gan dybio y byddai setliad o 4%. Mae'r gofyniad ychwanegol o ran y gyllideb, ar ôl eu gosod yn erbyn yr adnoddau ychwanegol a ddarparwyd ar lefel y setliad dros dro yn arwain at fwlch yn y gyllideb gwerth £229,000.

 

Yn dilyn ei grynodeb, dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai'r Cabinet yn mynd ati i drafod ei strategaeth gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf, gan gynnwys unrhyw arbedion effeithlonrwydd, lefelau Treth y Cyngor, adnoddau ar gyfer ysgolion a gwasanaethau eraill y Cyngor. Bydd trefniadau cynllunio ariannol tymor canolig y Cyngor yn parhau i fod yr un mor bwysig ag erioed yn y dyfodol.

 

I gloi, dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai'r setliad terfynol yn cael ei gyhoeddi'n gynnar ym mis Mawrth a mater i'r Cyngor fydd cymeradwyo'i gynigion terfynol a lefelau Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Roedd yr Aelodau wedi croesawu bod y Setliad Llywodraeth Leol dros dro ar gyfer 2022/23 wedi'i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Yn dilyn trafodaeth, roedd y Cyfarwyddwr wedi ymateb i sawl ymholiad, megis darpariaeth grant penodol Prydau Ysgol am Ddim ar gyfer Dysgwyr Ysgolion Cynradd fel y cytunwyd yn rhan o Gytundeb Cydweithio Plaid Cymru, gwerth £40miliwn ar gyfer 2022/23, £70miliwn ar gyfer 2023/24 a £90miliwn ar gyfer 2024/25. 

 

PENDERFYNWYD:

 

1. Nodi bod Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro ar gyfer 2022/23, wedi'i gyhoeddi gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 21 Rhagfyr 2021;

 

2. Nodi bod disgwyl i'r Setliad Llywodraeth Leol terfynol gael ei gyhoeddi

    yn gynnar ym mis Mawrth 2022; a

 

3. Nodi'r dull o ran ymgynghori ar gyllideb 2022/23 fel sydd wedi'i bennu eisoes.

 

(Noder: Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol L Walker y buddiant personol a ganlyn - “Hoffwn ddatgan fy mod i'n Aelod o Gyngor Cymuned Llanilltud Faerdref”

 

Dogfennau ategol: