Agenda item

TrafodRhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A. Roberts, W. Lewis, L. M. Adams, J. Barton, D. R. Bevan, H. Boggis, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, A. Calvert, G. Caple, A. Crimmings, A. Davies-Jones, L. De- Vet, J. Edwards, J. Elliott, S. Evans, M Griffiths, G. Jones, M. Fidler Jones, M. Forey, A. Fox, E. George, J. Harries, G. Holmes, G. Hopkins, R. Lewis,  C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S. Pickering, S. Powell, S. Rees, J. Rosser, G. Stacey, M. Tegg, G. Thomas, W. Treeby, R. K. Turner, M. Webber, D. Williams, R. Williams, T. Williams,  R. Yeo:

Mae'rCyngor hwn yn cydnabod ymdrechion Llywodraeth Cymru i helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru, o ran darparu cymorth ariannol i aelwydydd incwm isel, a hefyd drwy amrywiaeth o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref drwy'r fenter Cartrefi Clyd.

Ers 2009/10, mae dros 67,000 o gartrefi incwm is wedi elwa ar welliannau effeithlonrwydd ynni, gydag arbediad cyfartalog amcangyfrifedig o £300 ar eu biliau ynni gyda'r fantais ychwanegol o leihau allyriadau carbon.

Un elfen o raglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yw cynllun Grant Nyth, sy’n cynnig ystod o gyngor diduedd am ddim a meini prawf i ymgeiswyr cymwys gael mynediad at becyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim fel boeler newydd, gwres canolog neu inswleiddio, sy'n gallu gostwng biliau ynni a bod o fudd i iechyd a lles yr ymgeisydd.  

Mae gwaith ardderchog wedi'i wneud gan garfan Gwresogi ac Arbed y Cyngor, er gwaethaf pandemig COVID-19. RhCT oedd yr ardal uchaf ond un o ran atgyfeirio yn 2020-21 – roedd 9% o atgyfeiriadau i'r cynllun Nyth wedi dod oddi wrth drigolion RhCT. RhCT hefyd oedd yr ardal uchaf ond un o ran gosod offer yn llwyddiannus, â chanran o 12.5% Yn ystod 2021-2022 mae Adran Gwresogi ac Arbed y Cyngor wedi anfon 3,631 o lythyron uniongyrchol i ardaloedd strategol mewn partneriaeth â Nyth yn cynnig ymyriad wedi'i dargedu i helpu'r aelwydydd sydd ei angen i gael mynediad at gymorth Nyth.

Er gwaethaf y gwaith cadarnhaol hwn a wnaed yng Nghymru ac yn lleol yn RhCT, mae costau cynyddol ynni yn golygu bod mwy a mwy o aelwydydd yn mynd i dlodi tanwydd. 

Mae’rduedd hon yn bygwth y targedau a amlinellwyd yn strategaeth Trechu Tlodi Tanwydd 2021-2035 Llywodraeth Cymru. A Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad yn ddiweddar ar lunio’r fersiwn nesaf o’r rhaglen Cartrefi Clyd, mae bellach yn amser da i archwilio dichonoldeb ehangu’r meini prawf ar gyfer ceisiadau ar gyfer cynllun Nyth.

Felly mae'r Cyngor hwn yn nodi:

  • Y gwaith da sydd wedi'i wneud yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, ac ar lefel leol gan garfan Gwresogi ac Arbed y Cyngor wrth fynd i'r afael â thlodi tanwydd.

 

Ac yn penderfynu:

           Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Julie James, Aelod o'r Senedd, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, er mwyn gwneud y sylwadau angenrheidiol yngl?n ag ehangu meini prawf cymhwysedd y cynllun Nyth (a chynlluniau eraill) er mwyn caniatáu i geisiadau pellach gael eu cymeradwyo, er lles ein trigolion.

**********************************************************************************************

13B Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J. Barton, J. Edwards, L. M. Adams, D. R. Bevan, H. Boggis, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, A. Calvert, G. Caple, A. Crimmings, A. Davies-Jones, L. De- Vet, J. Elliott, S. Evans, M Griffiths, G. Jones, M. Fidler Jones, M. Forey, A. Fox, E. George, J. Harries, G. Holmes, G. Hopkins, R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S. Pickering, S. Powell, S. Rees, A Roberts, J. Rosser, G. Stacey, M. Tegg, G. Thomas, W. Treeby, R. K. Turner, M. Webber, D. Williams, R. Williams, T. Williams,  R. Yeo:

Mae cost gynyddol prisiau ynni yn cael ei disgrifio'nargyfwng cenedlaetholsy’n effeithio ar gartrefi, busnesau a’r cwmnïau ynni eu hunain.

Mae'rcynnydd sylweddol mewn prisiau nwy wedi gweld sector ynni'r DU yn talu tua £20 biliwn yn fwy eleni.  Mae'r cap ar brisiau ynni, sydd ar hyn o bryd wedi'i gyfyngu i £1,277, ar fin cynyddu ym mis Ebrill. O ganlyniad, gallai aelwydydd weld eu biliau ynni’n yn cynyddu o 50%, sy’n golygu y gallai aelwydydd fod cymaint â £1,200 y flwyddyn ar eu colled wrth i gyfraniadau Yswiriant Gwladol godi hefyd.

Mae pris cynyddol ynni wedi gweld mwy nag 20 o gyflenwyr ynni yn mynd i'r wal ers mis Medi, gyda llawer o gwsmeriaid wedi'u symud ymlaen at ddarparwyr newydd ar dariffau drutach, sy'n annheg.

Er bod y rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn cael eu diogelu gan y cap ar gostau ynni o £1,277 ar gyfer defnydd domestig arferol, bydd y terfyn yn codi ar 1 Ebrill yn unol â chyhoeddiad disgwyliedig ddechrau mis Chwefror. Mae hyn yn golygu bod amser yn brin i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â'r argyfwng.

Mae elusen National Energy Action (NEA) wedi rhybuddio y bydd 6 miliwn o aelwydydd yn y DU (y nifer uchaf a gofnodwyd erioed) yn byw mewn tlodi tanwydd pan fydd y cynnydd yn y terfyn ar brisoedd ynni yn dod i rym ym mis Ebrill. Mae'r canfyddiadau hyn wedi'u cefnogi gan felin drafod The Resolution Foundation, a rybuddiodd y byddai miliynau o deuluoedd yn y DU yn wynebu blwyddyn dynn yn 2022 o ganlyniad i gynnydd yn eu biliau ynni, cyflogau disymud a threthi uwch. Mae Banc Lloegr hefyd wedi dweud ei fod yn disgwyl i chwyddiant gyrraedd 6% erbyn y gwanwyn.

 

Mae The Resolution Foundation wedi dweud y gallai cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol o fis Ebrill ymlaen, ynghyd â chynnydd disgwyliedig mewn biliau ynni yn yr un mis olygu ergyd o £1,200 i gyllid yr aelwyd, gyda theuluoedd incwm isel yn cael eu gorfodi i ysgwyddo baich mwyaf y cynnydd hwn, gan eu bod yn gwario cyfran fwy o'u hincwm ar drydan a nwy.

 

Yngynharach y mis hwn, galwodd gr?p o ugain o ASau ac Arglwyddi Ceidwadol - gan gynnwys pump cyn Weinidog - ar y Prif Weinidog i gymryd camau i fynd i’r afael â chostau byw cynyddol a lleddfu’r pwysau ar y teuluoedd â'r incwm isaf. 

Mae cyflenwyr ynni gan gynnwys Good Energy, EDF a’r corff masnach Energy UK wedi galw am ymyrraeth gan y llywodraeth, ar ôl i gost nwy mewn marchnadoedd cyfanwerthu godi mwy na 500% mewn llai na blwyddyn.  Mae'r cynnydd wedi golygu bod dros ugain o gyflenwyr wedi mynd yn fethdalwyr, yn sgil gorfod prynu nwy ar y farchnad gyfanwerthu am brisiau uwch nag y cân nhw ei werthu.

 

Mae diffyg gweithredu Llywodraeth San Steffan yn arwain at "argyfwng enfawr ar gyfer 2022" gyda biliau ynni o bosib yn cynyddu o 50% arall oni bai bod y llywodraeth yn ymyrryd.  Mae llawer o lywodraethau eraill ledled Ewrop wedi lleihau trethi ac ardollau eraill, a gallai cymryd camau tebyg yn y DU arbed bron i £200 y flwyddyn ar fil cyfartalog.

 

Un ateb a leisiwyd gan y diwydiant yw symud ardollau gwyrdd o filiau ynni i drethiant cyffredinol gan y byddai'n golygu bod enillwyr uwch yn talu mwy na chartrefi incwm is, sy'n gwario cyfran fwy o'u hincwm ar hanfodion fel gwresogi.

Maennhw hefyd yn dadlau y byddai hyn yn gostwng y mesur chwyddiant, gan arbed arian i'r llywodraeth ar gostau benthyca sy'n gysylltiedig â chwyddiant. Serch hynny, nid yw’n ymddangos bod y Trysorlys yn ffafrio’r dull hwn o weithredu gan ei fod yn amharod i gynyddu’r baich treth cyffredinol, a’r arwyddion yw y bydd Llywodraeth y DU yn lle hynny yn ceisio ehangu’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes gwerth £140 yn rhan o becyn rhyddhad wedi’i dargedu hyd at 6 miliwn o gartrefi.

Er gwaethaf anallu ymddangosiadol Llywodraeth San Steffan i weithredu’n bendant, mae trigolion yng Nghymru ac ar draws RhCT wedi elwa ar fentrau sydd wedi’u cynllunio i leihau tlodi tanwydd a chynyddu effeithlonrwydd ynni cartrefi.

Mae cynllun Arbed am Byth Llywodraeth Cymru wedi darparu 206 o fesurau ynni i 113 o gartrefi ym Mhenrhiwceiber, tra bod RhCT hefyd yw'r ardal uchaf ond un yng Nghymru o ran cyfeirio aelwydydd i'r cynllun a gosod mesurau yn 2020-21.  Mae Grant Gwresogi RhCT y Cyngor ei hunsy’n darparu cyllid o hyd at £5,000 i gynorthwyo hyd at 20 o aelwydydd sydd mewn perygl o dlodi tanwydd ond nad ydynt yn gymwys ar gyfer cynlluniau cymorth eraillwedi derbyn 24 o geisiadau gyda 7 grant wedi’u cymeradwyo ar gost o £1,500 fesul eiddo.

Mae Swyddogion y Cyngor hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth a sefydliadau eraill i gyfeirio unigolion a theuluoedd sydd angen cymorth at y ffrwd fwyaf priodol o gymorth ariannol.

Mae'rCyngor hwn, felly, yn penderfynu:

-           Galw ar Lywodraeth y DU i anrhydeddu addewid ymgyrch Brexit o dorri’r gyfradd TAW o 5% ar filiau ynni, neu i gyflwyno pecyn cymorth amgen sy’n darparu cyllid ychwanegol - i roi cymhorthdal i gwmnïau ynni ac i roi rhyddhad i gartrefi - fel nad yw aelwydydd ar draws y DU, gan gynnwys yma yn Rhondda Cynon Taf, yn ysgwyddo baich y cynnydd mewn prisiau. 

 

-           Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Busnes, Canghellor y Trysorlys a Phrif Weinidog y DU i ofyn bod camau brys yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r argyfwng prisiau ynni.

 

Cofnodion:

13A  Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A. Roberts, W. Lewis, L. M. Adams, J. Barton, D. R. Bevan, H. Boggis, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, A. Calvert, G. Caple, A. Crimmings, A. Davies-Jones, L. De- Vet, J. Edwards, J. Elliott, S. Evans, M Griffiths, G. Jones, M. Fidler Jones, M. Forey, A. Fox, E. George, J. Harries, G. Holmes, G. Hopkins, R. Lewis,  C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S. Pickering, S. Powell, S. Rees, J. Rosser, G. Stacey, M. Tegg, G. Thomas, W. Treeby, R. K. Turner, M. Webber, D. Williams, R. Williams, T. Williams,  R. Yeo:

Mae'r Cyngor hwn yn cydnabod ymdrechion Llywodraeth Cymru i helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru, o ran darparu cymorth ariannol i aelwydydd incwm isel, a hefyd drwy amrywiaeth o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref drwy'r fenter Cartrefi Clyd.

Ers 2009/10, mae dros 67,000 o gartrefi incwm is wedi elwa ar welliannau effeithlonrwydd ynni, gydag arbediad cyfartalog amcangyfrifedig o £300 ar eu biliau ynni gyda'r fantais ychwanegol o leihau allyriadau carbon.

Un elfen o raglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yw cynllun Grant Nyth, sy’n cynnig ystod o gyngor diduedd am ddim a meini prawf i ymgeiswyr cymwys gael mynediad at becyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim fel boeler newydd, gwres canolog neu inswleiddio, sy'n gallu gostwng biliau ynni a bod o fudd i iechyd a lles yr ymgeisydd.  

Mae gwaith ardderchog wedi'i wneud gan garfan Gwresogi ac Arbed y Cyngor, er gwaethaf pandemig COVID-19. RhCT oedd yr ardal uchaf ond un o ran atgyfeirio yn 2020-21 - roedd 9% o atgyfeiriadau i'r cynllun Nyth wedi dod oddi wrth drigolion RhCT. RhCT hefyd oedd yr ardal uchaf ond un o ran gosod offer yn llwyddiannus, â chanran o 12.5% Yn ystod 2021-2022 mae Adran Gwresogi ac Arbed y Cyngor wedi anfon 3,631 o lythyron uniongyrchol i ardaloedd strategol mewn partneriaeth â Nyth yn cynnig ymyriad wedi'i dargedu i helpu'r aelwydydd sydd ei angen i gael mynediad at gymorth Nyth.

Er gwaethaf y gwaith cadarnhaol hwn a wnaed yng Nghymru ac yn lleol yn RhCT, mae costau cynyddol ynni yn golygu bod mwy a mwy o aelwydydd yn mynd i dlodi tanwydd. 

Mae’r duedd hon yn bygwth y targedau a amlinellwyd yn strategaeth Trechu Tlodi Tanwydd 2021-2035 Llywodraeth Cymru. A Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad yn ddiweddar ar lunio’r fersiwn nesaf o’r rhaglen Cartrefi Clyd, mae bellach yn amser da i archwilio dichonoldeb ehangu’r meini prawf ar gyfer ceisiadau ar gyfer cynllun Nyth.

Felly mae'r Cyngor hwn yn:

  • Cydnabod y gwaith da sydd wedi'i wneud yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, ac ar lefel leol gan garfan Gwresogi ac Arbed y Cyngor wrth fynd i'r afael â thlodi tanwydd.

 

Ac yn penderfynu:

  • Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Julie James, Aelod o'r Senedd, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, er mwyn gwneud y sylwadau angenrheidiol yngl?n ag ehangu meini prawf cymhwysedd y cynllun Nyth (a chynlluniau eraill) er mwyn caniatáu i geisiadau pellach gael eu cymeradwyo, er lles ein trigolion.

 

Gyda chaniatâd y cynigydd ac yn unol â Rheolau Gweithdrefn 12.7 y Cyngor, pleidleisiwyd ar y newid a ganlyn i’r Cynnig a chynigiwydGofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Julie James, Aelod o'r Senedd, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, er mwyn gwneud y sylwadau angenrheidiol yngl?n ag ehangu a chyllido meini prawf cymhwysedd y cynllun Nyth (a chynlluniau eraill) er mwyn caniatáu i geisiadau pellach gael eu cymeradwyo, er lles ein trigolion.

 

Mae'r Rhybudd o Gynnig wedi'i ddiwygio fel a ganlyn:

 

Mae'r Cyngor hwn yn cydnabod ymdrechion Llywodraeth Cymru i helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru, o ran darparu cymorth ariannol i aelwydydd incwm isel, a hefyd drwy amrywiaeth o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref drwy'r fenter Cartrefi Clyd.

Ers 2009/10, mae dros 67,000 o gartrefi incwm is wedi elwa ar welliannau effeithlonrwydd ynni, gydag arbediad cyfartalog amcangyfrifedig o £300 ar eu biliau ynni gyda'r fantais ychwanegol o leihau allyriadau carbon.

Un elfen o raglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yw cynllun Grant Nyth, sy’n cynnig ystod o gyngor diduedd am ddim a meini prawf i ymgeiswyr cymwys gael mynediad at becyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim fel boeler newydd, gwres canolog neu inswleiddio, sy'n gallu gostwng biliau ynni a bod o fudd i iechyd a lles yr ymgeisydd.  

Mae gwaith ardderchog wedi'i wneud gan garfan Gwresogi ac Arbed y Cyngor, er gwaethaf pandemig COVID-19. RhCT oedd yr ardal uchaf ond un o ran atgyfeirio yn 2020-21 - roedd 9% o atgyfeiriadau i'r cynllun Nyth wedi dod oddi wrth drigolion RhCT. RhCT hefyd oedd yr ardal uchaf ond un o ran gosod offer yn llwyddiannus, â chanran o 12.5% Yn ystod 2021-2022 mae Adran Gwresogi ac Arbed y Cyngor wedi anfon 3,631 o lythyron uniongyrchol i ardaloedd strategol mewn partneriaeth â Nyth yn cynnig ymyriad wedi'i dargedu i helpu'r aelwydydd sydd ei angen i gael mynediad at gymorth Nyth.

Er gwaethaf y gwaith cadarnhaol hwn a wnaed yng Nghymru ac yn lleol yn RhCT, mae costau cynyddol ynni yn golygu bod mwy a mwy o aelwydydd yn mynd i dlodi tanwydd. 

Mae’r duedd hon yn bygwth y targedau a amlinellwyd yn strategaeth Trechu Tlodi Tanwydd 2021-2035 Llywodraeth Cymru. A Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad yn ddiweddar ar lunio’r fersiwn nesaf o’r rhaglen Cartrefi Clyd, mae bellach yn amser da i archwilio dichonoldeb ehangu’r meini prawf ar gyfer ceisiadau ar gyfer cynllun Nyth.

Felly mae'r Cyngor hwn yn:

·       Cydnabod y gwaith da sydd wedi'i wneud yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, ac ar lefel leol gan garfan Gwresogi ac Arbed y Cyngor wrth fynd i'r afael â thlodi tanwydd.

 

Ac yn penderfynu:

·       Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Julie James, Aelod o'r Senedd, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, er mwyn gwneud y sylwadau angenrheidiol yngl?n ag ehangu meini prawf cymhwysedd y cynllun NEST (a chynlluniau eraill) er mwyn caniatáu i geisiadau pellach gael eu cymeradwyo, er lles ein trigolion.

 

Yn dilyn trafodaeth hir, PENDERFYNWYD mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig yma gyda'r newid dan sylw. 

 

(Nodwch): Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Powell ddatganiad o fuddiant personol – “Mae gen i dros 40 mlynedd o brofiad o weithio yn y diwydiant gwresogi a gwaith plymwr”.

 

 

***************************************************************************************

 

13B  Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J. Barton, J. Edwards, L. M. Adams, D. R. Bevan, H. Boggis, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, A. Calvert, G. Caple, A. Crimmings, A. Davies-Jones, L. De- Vet, J. Elliott, S. Evans, M Griffiths, G. Jones, M. Fidler Jones, M. Forey, A. Fox, E. George, J. Harries, G. Holmes, G. Hopkins, R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S. Pickering, S. Powell, S. Rees, A Roberts, J. Rosser, G. Stacey, M. Tegg, G. Thomas, W. Treeby, R. K. Turner, M. Webber, D. Williams, R. Williams, T. Williams,  R. Yeo:

Mae cost gynyddol prisiau ynni yn cael ei disgrifio'n “argyfwng cenedlaethol” sy’n effeithio ar gartrefi, busnesau a’r cwmnïau ynni eu hunain.

Mae'r cynnydd sylweddol mewn prisiau nwy wedi gweld sector ynni'r DU yn talu tua £20 biliwn yn fwy eleni.  Mae'r cap ar brisiau ynni, sydd ar hyn o bryd wedi'i gyfyngu i £1,277, ar fin cynyddu ym mis Ebrill. O ganlyniad, gallai aelwydydd weld eu biliau ynni’n yn cynyddu o 50%, sy’n golygu y gallai aelwydydd fod cymaint â £1,200 y flwyddyn ar eu colled wrth i gyfraniadau Yswiriant Gwladol godi hefyd.

Mae pris cynyddol ynni wedi gweld mwy nag 20 o gyflenwyr ynni yn mynd i'r wal ers mis Medi, gyda llawer o gwsmeriaid wedi'u symud ymlaen at ddarparwyr newydd ar dariffau drutach, sy'n annheg.

Er bod y rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn cael eu diogelu gan y cap ar gostau ynni o £1,277 ar gyfer defnydd domestig arferol, bydd y terfyn yn codi ar 1 Ebrill yn unol â chyhoeddiad disgwyliedig ddechrau mis Chwefror. Mae hyn yn golygu bod amser yn brin i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â'r argyfwng.

Mae elusen National Energy Action (NEA) wedi rhybuddio y bydd 6 miliwn o aelwydydd yn y DU (y nifer uchaf a gofnodwyd erioed) yn byw mewn tlodi tanwydd pan fydd y cynnydd yn y terfyn ar brisoedd ynni yn dod i rym ym mis Ebrill. Mae'r canfyddiadau hyn wedi'u cefnogi gan felin drafod The Resolution Foundation, a rybuddiodd y byddai miliynau o deuluoedd yn y DU yn wynebu blwyddyn dynn yn 2022 o ganlyniad i gynydd yn eu biliau ynni, cyflogau disymud a threthi uwch. Mae Banc Lloegr hefyd wedi dweud ei fod yn disgwyl i chwyddiant gyrraedd 6% erbyn y gwanwyn.

 

Mae The Resolution Foundation wedi dweud y gallai cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol o fis Ebrill ymlaen, ynghyd â chynnydd disgwyliedig mewn biliau ynni yn yr un mis olygu ergyd o £1,200 i gyllid yr aelwyd, gyda theuluoedd incwm isel yn cael eu gorfodi i ysgwyddo baich mwyaf y cynnydd hwn, gan eu bod yn gwario cyfran fwy o'u hincwm ar drydan a nwy.

 

Yn gynharach y mis hwn, galwodd gr?p o ugain o ASau ac Arglwyddi Ceidwadol – gan gynnwys pump cyn Weinidog – ar y Prif Weinidog i gymryd camau i fynd i’r afael â chostau byw cynyddol a lleddfu’r pwysau ar y teuluoedd â'r incwm isaf. 

Mae cyflenwyr ynni gan gynnwys Good Energy, EDF a’r corff masnach Energy UK wedi galw am ymyrraeth gan y llywodraeth, ar ôl i gost nwy mewn marchnadoedd cyfanwerthu godi mwy na 500% mewn llai na blwyddyn.  Mae'r cynnydd wedi golygu bod dros ugain o gyflenwyr wedi mynd yn fethdalwyr, yn sgil gorfod prynu nwy ar y farchnad gyfanwerthu am brisiau uwch nag y cân nhw ei werthu.

 

Mae diffyg gweithredu Llywodraeth San Steffan yn arwain at "argyfwng enfawr ar gyfer 2022" gyda biliau ynni o bosib yn cynyddu o 50% arall oni bai bod y llywodraeth yn ymyrryd.  Mae llawer o lywodraethau eraill ledled Ewrop wedi lleihau trethi ac ardollau eraill, a gallai cymryd camau tebyg yn y DU arbed bron i £200 y flwyddyn ar fil cyfartalog.

 

Un ateb a leisiwyd gan y diwydiant yw symud ardollau gwyrdd o filiau ynni i drethiant cyffredinol gan y byddai'n golygu bod enillwyr uwch yn talu mwy na chartrefi incwm is, sy'n gwario cyfran fwy o'u hincwm ar hanfodion fel gwresogi.

Maen nhw hefyd yn dadlau y byddai hyn yn gostwng y mesur chwyddiant, gan arbed arian i'r llywodraeth ar gostau benthyca sy'n gysylltiedig â chwyddiant. Serch hynny, nid yw’n ymddangos bod y Trysorlys yn ffafrio’r dull hwn o weithredu gan ei fod yn amharod i gynyddu’r baich treth cyffredinol, a’r arwyddion yw y bydd Llywodraeth y DU yn lle hynny yn ceisio ehangu’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes gwerth £140 yn rhan o becyn rhyddhad wedi’i dargedu hyd at 6 miliwn o gartrefi.

Er gwaethaf anallu ymddangosiadol Llywodraeth San Steffan i weithredu’n bendant, mae trigolion yng Nghymru ac ar draws RhCT wedi elwa ar fentrau sydd wedi’u cynllunio i leihau tlodi tanwydd a chynyddu effeithlonrwydd ynni cartrefi.

Mae cynllun Arbed am Byth Llywodraeth Cymru wedi darparu 206 o fesurau ynni i 113 o gartrefi ym Mhenrhiwceiber, tra bod RhCT hefyd yw'r ardal uchaf ond un yng Nghymru o ran cyfeirio aelwydydd i'r cynllun a gosod mesurau yn 2020-21.  Mae Grant Gwresogi RhCT y Cyngor ei hun – sy’n darparu cyllid o hyd at £5,000 i gynorthwyo hyd at 20 o aelwydydd sydd mewn perygl o dlodi tanwydd ond nad ydynt yn gymwys ar gyfer cynlluniau cymorth eraill – wedi derbyn 24 o geisiadau gyda 7 grant wedi’u cymeradwyo ar gost o £1,500 fesul eiddo.

Mae Swyddogion y Cyngor hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth a sefydliadau eraill i gyfeirio unigolion a theuluoedd sydd angen cymorth at y ffrwd fwyaf priodol o gymorth ariannol.

Mae'r Cyngor hwn, felly, yn penderfynu:

-        Galw ar Lywodraeth y DU i anrhydeddu addewid ymgyrch Brexit o dorri’r gyfradd TAW o 5% ar filiau ynni, neu i gyflwyno pecyn cymorth amgen sy’n darparu cyllid ychwanegol – i roi cymhorthdal i gwmnïau ynni ac i roi rhyddhad i gartrefi – fel nad yw aelwydydd ar draws y DU, gan gynnwys yma yn Rhondda Cynon Taf, yn ysgwyddo baich y cynnydd mewn prisiau. 

 

-        Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Busnes, Canghellor y Trysorlys a Phrif Weinidog y DU i ofyn bod camau brys yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r argyfwng prisiau ynni.

 

Yn dilyn trafodaeth hir, PENDERFYNWYD mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig.