Agenda item

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd G Jones a chafodd yr Aelodau wybod na fyddai cwestiwn 6 yn cael ei gyflwyno i Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar faterion Cyllid a Chyflawniad.

 

 

1. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Edwards i Arweinydd y Cyngor – Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

“All yr Arweinydd roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith gwella sy'n cael ei gyflawni ar geuffosydd Ynys-hir, yn enwedig ger Teras y Waun?”

 

Ymateb gan yr Arweinydd:

 

Dywedodd yr Arweinydd, yn dilyn arolwg o'r geuffos, y cwrs d?r agored a'r llinellau cwlfer caeedig, fod difrod sylweddol uwchlaw Trem y Faner. Cafodd gwaith leinio strwythurol gwerth dros £110,000 ei gwblhau yn ystod Haf 2021. Gosodwyd tyllau archwilio ychwanegol hefyd. Dechreuodd y gwaith ar y ddau gwrs d?r uwchlaw Teras y Waun ar ddiwedd yr Hydref ond bu oedi gyda'r gwaith oherwydd tywydd garw. Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai’r gwaith wedi’i gwblhau erbyn mis Mawrth 2022. Mae rhaglen gyfredol yn dangos buddsoddiad gwerth rhwng £175,000-£200,000 i ddatrys y problemau yn yr ardal. Mae'r rhaglen wedi'i hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru yn dilyn Storm Dennis.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

2. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol L. Walker i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Rosser:

 

“All yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant amlinellu’r cynnydd sydd wedi’i wneud mewn perthynas â'r safle arfaethedig ar gyfer yr Ysgol Arbennig newydd yn RhCT a pha gamau sydd wedi’u cymryd, os o gwbl, o ran materion cyllid a'r broses adeiladu gan ystyried problemau capasiti parhaus mewn ysgolion arbennig? ”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Rosser

 

Dywedodd y Cynghorydd Rosser mai hwn fyddai ei chwestiwn olaf fel Aelod o'r Cabinet ac mae hi'n falch o'i gwaith buddsoddi mewn perthynas â chyfleusterau ysgolion arbennig a sicrhau cyllid ar gyfer datblygu safle ysgol newydd. Mae Rhaglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor wedi cael ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Mae ysgol arbennig newydd wedi'i chynnwys yn rhan o'r rhaglen yma, mae cyllid hefyd wedi'i gynnwys yn rhan o'r buddsoddiad yn amodol ar gymeradwyo'r achos busnes angenrheidiol a'r broses graffu gan Lywodraeth Cymru. Cadarnhaodd y Cynghorydd Rosser fod y Cyngor bellach wedi cyrraedd y cam dichonoldeb, mae'r cynnydd yn unol ag amserlenni'r rhaglen Band B gyfredol.

 

Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol L Walker

 

“All yr Aelod o'r Cabinet roi unrhyw wybodaeth o ran amserlenni a pha ymgynghoriadau sydd wedi’u cynnal gyda staff yr ysgol yngl?n â’r adeilad newydd hwn?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd J Rosser:

 

Dywedodd y Cynghorydd Rosser fod Swyddogion o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg yn rheoli’r galw am leoedd ysgol, yn unol â’r Cod Derbyniadau Ysgol 2013 a Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg Cymru 2018 a bod Swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r holl Benaethiaid yn hyn o beth. Mae prosiectau i gynyddu nifer yr adeiladau ar y gweill mewn dwy ysgol, Ysgol Hen Felin ac Ysgol T? Coch a chwblhawyd addasiadau mewnol yn ddiweddar yn Ysgol T? Coch ac Ysgol Arbennig Lôn y Parc i reoli nifer y lleoliadau hysbys, presennol a'r lleoliadau a ragwelir. Cadarnhaodd y Cynghorydd Rosser nad yw unrhyw ysgol arbennig y Cyngor yn wynebu mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael a bod y Cyngor yn hyrwyddo safonau addysgol uchel yn lleol yn barhaus i sicrhau mynediad teg i addysg fel y mae modd ei weld o edrych ar lefel y buddsoddiadau a glustnodwyd ar gyfer y cynigion newydd a chyffrous ar gyfer yr ysgolion.

 

 

3. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Turner i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

“A wnaiff yr Aelod o'r Cabinet sy’n gyfrifol am y Priffyrdd roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Bont Droed Llanharan?”

 

Ymateb gan yr Arweinydd:

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y bont wedi'i chau ym mis Medi 2021 oherwydd diffygion diogelwch a nodwyd. Y bwriad oedd cael gwared ar y bont droed i gerddwyr dros gyfnod gwyliau'r Nadolig; fodd bynnag, torrodd y craen i lawr ar y safle a bu'n rhaid i Network Rail ei gasglu. Mae’r gwaith i symud y cynllun hwn yn ei flaen wedi parhau a chyhoeddodd yr Arweinydd y bydd y craen yn cael ei osod ar y safle nos yfory. Bydd y bont yn cael ei thynnu oddi yno dros nos ac yn cael ei symud i'r tir cyferbyn â'r safle a'i rhannu'n darnau. Dywedodd yr Arweinydd fod contractwr newydd wedi'i benodi i fwrw ymlaen â'r bont newydd y mae disgwyl iddi fod yn ei lle a'i chwblhau erbyn mis Gorffennaf 2022 gan ddibynnu ar nifer o ffactorau hollbwysig.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

4. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol T Williams i Arweinydd y Cyngor - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

“All yr Arweinydd roi trosolwg o’r gwaith sydd wedi’i gwblhau hyd yma er mwyn helpu i ddiogelu trigolion Teras Bronallt yn Abercwmboi rhag llifogydd, ac a all yr Arweinydd hefyd amlinellu p'un a oes modd cymryd camau pellach?”

 

Ymateb gan yr Arweinydd:

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod mesurau atal llifogydd wedi'u cynnig i 42 eiddo yn Nheras Bronallt, mae'r rhain yn cynnwys llifddorau, bagiau tywod a sachau llifogydd brys. Mae 24 o'r 42 eiddo wedi derbyn yr holl fesurau. Mae Swyddogion bellach yn y broses o drafod opsiynau gyda thrigolion eraill gan fod rhai yn pryderu am yr effaith bosibl ar eu heiddo. Dywedodd yr Arweinydd fod y gwaith ar y daliwr malurion uchaf ar yr un brif geuffos wedi costio £40,000, mae gwaith  gwerth £160,000 wedi'i gyflawni i ehangu'r geuffos ac adnewyddu'r bibell danddaearol ar Deras Bronallt. Mae gwaith ar fin dechrau ar y gilfach ar Deras Mostyn, cost y gwaith yma fydd rhwng £95,000 a £100,000 ac mae gwaith o nodi cynlluniau pellach ar gyfer yr ardal yn parhau.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

5. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol H Boggis i Ddirprwy Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Webber:

 

“A wnaiff y Dirprwy Arweinydd roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog, yn dilyn penderfyniad y Cabinet?”

 

Ymateb y Dirprwy Arweinydd:

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod y Cabinet wedi rhoi caniatâd i ddatblygu a gweithredu’r cynllun gwarantu cyfweliad yn ei gyfarfod ar 4 Hydref 2021. Mae'r cynllun wedi bod ar waith ar gyfer milwyr wrth gefn a chyn-filwyr ers 1 Ionawr 2022. Mae'r ymrwymiad ychwanegol yn dangos cefnogaeth y Cyngor i gymuned y Lluoedd Arfog ac yn parchu cyfamod y Lluoedd Arfog y mae'r Cyngor wedi'i lofnodi. Mae'r Cyngor hefyd yn dal y Wobr Safon Aur am lefel y gwaith sy'n cael ei wneud gyda'r Lluoedd Arfog a'r ymrwymiad parhaus.

 

Eglurodd y Dirprwy Arweinydd fod y cynllun gwarantu cyfweliad yn sicrhau bod cyn-filwyr a milwyr wrth gefn sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd a hysbysebir yn sicr o gael cyfweliad. Cydnabuwyd y gall aelodau o’r Lluoedd Arfog ddod â sgiliau a rhinweddau gwerthfawr ac y mae modd eu trosglwyddo i’r gweithlu. Yn ogystal â’r cynllun gwarantu cyfweliad, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i hysbysebu swyddi sy'n berthnasol i Gymuned y Lluoedd Arfog yn rhan o'r CTP, yn ogystal â'u cynnwys yn rhan o'r broses hysbysebu arferol. I gloi, rhoddodd y Dirprwy Arweinydd sicrwydd bod yr Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i gyfamod y Lluoedd Arfog ac y bydd yn parhau â’i waith gyda theuluoedd y Lluoedd Arfog ledled y fwrdeistref sirol. 

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

6. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Jones i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Gwasanaethau Treftadaeth - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Crimmings:

 

“All yr Aelod Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Bafiliwn Parc Blaenrhondda”

 

Ymateb y Cynghorydd A Crimmings:

 

Ymatebodd y Cynghorydd Crimmings drwy nodi bod Pafiliwn Parc Blaenrhondda mewn cyflwr gwael a'i bod yn cydnabod gwerth y pafiliwn i'r gymuned. Cafodd y pafiliwn newydd ei gymeradwyo yn rhan o Raglen Gyfalaf y Parciau 2021 ond o ganlyniad i fynediad cyfyngedig i'r parc, rhoddwyd gorau i'r cynllun i osod adeilad dros dro. Rhoddodd y Cynghorydd Crimmings sicrwydd y bydd hyn yn flaenoriaeth yn amodol ar gymeradwyo’r Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf ar gyfer 2022/23.

 

Cwestiwn ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Jones:

 

“Mae adnewyddu’r cyfleuster yr un mor bwysig i'r gymuned â llefydd eraill megis Parc y Darren. Nid bai'r gymuned yw hi bod mynediad cyfyngedig i'r parc. Oes modd i chi bennu dyddiad cwblhau ar gyfer y gwaith. Mae'r parc yn cael ei ddefnyddio ar gyfer chwaraeon, yn ogystal â bowls, ac yn cael ei ddefnyddio gan y gymuned a phensiynwyr.”

 

Ymateb y Cynghorydd A Crimmings:

 

Roedd y Cynghorydd Crimmings wedi cydnabod gwerth y parc i'r trigolion a dywedodd y byddai diweddariadau rheolaidd yn cael eu darparu i'r gymuned ond nid oedd modd iddi bennu dyddiad cwblhau ar hyn o bryd. Rhoddodd y Cynghorydd Crimmings sicrwydd bod y Cyngor yn parhau i weithio'n agos gyda chlybiau chwaraeon ledled y Fwrdeistref Sirol, gan gydnabod eu pwysigrwydd.

 

 

7. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Treeby i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol C Leyshon: -

 

“All yr Aelod o'r Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Apêl Siôn Corn a’r haelioni enfawr a ddangoswyd gan drigolion a busnesau?”

 

Ymateb y Cynghorydd C Leyshon:

 

Dywedodd y Cynghorydd Leyshon fod amserlenni Apêl Siôn Corn wedi’u hymestyn ym mis Rhagfyr oherwydd yr heriau sy’n gysylltiedig â Phandemig Covid, er mwyn rhoi rhagor o amser i bobl roi anrhegion. O ganlyniad i hyn, cafodd pob plentyn ar y rhestr anrheg Nadolig. Oherwydd y pandemig, methodd nifer o sefydliadau gyfrannu at yr apêl megis Prifysgol Morgannwg ac Undeb Myfyrwyr De Cymru a oedd wedi casglu a dosbarthu dros 1,500 o anrhegion yn y deng mlynedd diwethaf. Eleni casglwyd 50 bag o anrhegion ganddyn nhw. Roedd tua 1,862 o roddion ac roedd rhai o’r rhoddwyr mwyaf yn cynnwys Gwasanaeth Gwaed Cymru, Eglwys Bethel Bush, Y Bathdy Brenhinol, Y Fagloriaeth Ryngwladol, Rhwydwaith Recriwtio Cymru, Coleg y Cymoedd, Gwasanaethau Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, Ysgol Gynradd Hirwaun, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chlwb Pêl-droed i Ferched Tref Pontypridd.

 

Roedd y Cynghorydd Leyshon wedi diolch i holl staff yr awdurdod lleol a phawb a gymerodd ran ac a helpodd yr apêl yn enwedig trigolion unigol a theuluoedd RhCT a oedd hefyd yn wynebu heriau yn ystod Pandemig Covid-19.

 

Dogfennau ategol: