Agenda item

Cofnodion:

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Williams i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol C Leyshon: -

 

“A wnaiff yr Aelod o'r Cabinet roi datganiad mewn perthynas ag Apêl Siôn Corn eleni ac egluro pa rôl y mae modd i'r Aelodau ei chwarae wrth gefnogi’r fenter?”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

Dywedodd y Cynghorydd C Leyshon fod Apêl Siôn Corn, a drefnir gan y Cyngor, yn apêl hirsefydlog sy'n cefnogi teuluoedd sy'n hysbys i'r Gwasanaethau i Blant ond sydd ddim yn derbyn gofal. Pan fydd y Cyngor yn gweithio'n benodol gydag un plentyn mewn teulu a bod brodyr a chwiorydd eraill yn y cartref, byddan nhw hefyd yn derbyn cymorth. Ychwanegodd y Cynghorydd Leyshon fod llwyddiant yr Apêl yn dibynnu ar haelioni’r cyhoedd, busnesau lleol, yn ogystal ag Aelodau Etholedig a staff y Cyngor.

Roedd y Cynghorydd Leyshon wedi cydnabod fod eleni yn arbennig o heriol i deuluoedd gyda’r cynnydd Credyd Cynhwysol yn dod i ben ynghyd â chostau cynyddol ynni a thanwydd. Roedd y Cynghorydd wedi diolch i'r Aelodau am eu cymorth a oedd wedi sicrhau bod cannoedd o blant yn cael anrheg ar Ddydd Nadolig. Dywedodd y Cynghorydd Leyshon fod modd i Aelodau gynorthwyo trwy hyrwyddo'r apêl yn eu wardiau gan ddefnyddio'u cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol ac annog trigolion a busnesau lleol i gymryd rhan yn yr apêl trwy addo prynu anrheg i blentyn neu berson ifanc.

Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Forey i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu a Thai, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol, D. R. Bevan:

 

“Sut mae'r Cyngor yn cefnogi canol ein trefi i adfer yn dilyn pandemig COVID-19, yn y dyfodol agos a'r hir dymor?

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D.R.Bevan:

 

Cyhoeddodd y Cynghorydd D R Bevan y bydd ystod o fentrau a mesurau a gyflwynwyd yn parhau ac yn cael eu datblygu yn y dyfodol megis y £460,000 o gymorth grant sydd ar gael i helpu busnesau i addasu i amodau masnachu newydd, gan gynnwys mannau awyr agored, gyda chymorth LlC. Derbyniodd dros 80 o fusnesau’r cymorth yma, gan gynnwys busnesau mewn canol trefi llai megis Abercynon a Threherbert.

 

Dywedodd y Cynghorydd D R Bevan fod Cronfa Buddsoddi mewn Mentrau'r Cyngor hefyd wedi cael ei addasu i sicrhau ei fod yn fwy hyblyg i fusnesau fanteisio arni yn ystod cyfnod adfer yn dilyn Covid.  Lansiwyd cynllun cymorth grant newydd i fusnesau gwerth £35miliwn i help gyda'r broses adfer yn dilyn Covid ledled Cymru ddoe ac fe fydd yn cael ei ddarparu gan y Cyngor. Ychwanegodd fod gwaith gydag AGB RhCT a'r Siambrau Masnach, gan gynnwys ymgyrch farchnata Siopa'n Lleol, yn rhoi cyfle i bob un o'n trefi allweddol, Pontypridd, Treorci ac Aberdâr, farchnata eu busnesau lleol eu hunain.

 

Esboniodd y Cynghorydd Bevan fod cyfres o brosiectau yn cael ei datblygu ar gyfer eiddo canol y dref yn ogystal â mentrau i gynyddu nifer yr ymwelwyr a gwariant lleol mewn trefi, gan fanteisio ar ffynonellau cyllid newydd fel Cronfa Codi'r Gwastad y DU. Cyfeiriodd y Cynghorydd Bevan at Ganolfan Drafnidiaeth y Porth a fydd yn rhoi mynediad gwell i'r dref gan ddefnyddio gwasanaethau newydd y Metro a'r bysiau.

 

I gloi, dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu a Thai fod cyfanswm y gefnogaeth yn cyfateb i fwy na £75miliwn gyda swm sylweddol wedi'i roi i fusnesau yng nghanol ein trefi.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Williams i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Rosser:

 

“A wnewch chi rannu gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â'r cyhoeddiad diweddar bod y Cabinet wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol ar gyfer gwelliannau Ysgolion yr 21ain Ganrif, yn enwedig o ran y cynnig ar gyfer ardal Glyn-coch”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Rosser:

 

Ymatebodd y Cynghorydd Rosser trwy ddweud y bydd proses ymgynghori statudol ar gyfer trefniadaeth ysgolion yn cychwyn yn y Flwyddyn Newydd, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, a hynny mewn perthynas â chreu ysgol gynradd newydd sbon ar gyfer ardal Glyn-coch. Ychwanegodd nad oedd unrhyw brosiect arall sy'n rhan o raglen fuddsoddi Ysgolion yr 21ain Ganrif yn galw am ymgynghoriad statudol.

Dywedodd y Cynghorydd Rosser y bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu wrth i brosiectau gael eu datblygu ac amserlenni yn cael eu cadarnhau, ac roedd hi'n rhagweld y bydd trigolion lleol yn y gymuned yn cadw llygad ar y cynnydd hwn.

Cwestiwn ategol gan y Cynghorydd D Williams:

 

Croesawodd y Cynghorydd Williams y cynnydd ac ychwanegodd y bydd y gymuned yn sicr yn edrych ymlaen at hyn. Gofynnodd pa waith ymgysylltu y bydd y Cyngor yn ei wneud gyda staff a disgyblion o ran y cynlluniau lliw a sut bydd yr ysgol yn edrych?

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Rosser:

 

Dywedodd y Cynghorydd Rosser fod datblygu'r cynigion yn cynnwys nifer o gamau ymgysylltu megis: 

 

  • Cynnal cyfarfodydd datblygu gyda'r pennaeth i drafod lleoliad yr ystafelloedd, cynllun cyffredinol y safle a bydd gan y staff ehangach gyfle hefyd i gyfrannu at gynllun ystafelloedd a dodrefn;

 

  • Bydd disgyblion sy'n rhan o'r cyngor ysgol yn cael cyfle i gyflwyno eu barn ar liwiau, tra bydd contractwr y cynllun hefyd yn ymgysylltu â disgyblion yn ystod y camau dylunio ac adeiladu;

 

  • Yn olaf, ychwanegodd y Cynghorydd Rosser fod yr holl ddigwyddiadau hyn yn amodol ar y Cabinet yn cymeradwyo ymgynghoriad statudol. Byddwn ni'n ceisio cymeradwyaeth ynghylch achos busnes hefyd i gwblhau trefniadau cyllido.

 


Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Pickering i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Gwasanaethau Treftadaeth - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Crimmings:

 

“All yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Gwasanaethau Treftadaeth ddarparu diweddariad mewn perthynas â'r buddsoddiad ar gyfer Parc Coffa Ynysangharad gan amlinellu unrhyw gynlluniau sydd ar y gweill ar gyfer y dyfodol?”

Cadarnhaodd y Cynghorydd Crimmings fod cynnydd wedi'i wneud yn ystod 2021 i ddarparu pecyn o welliannau gwerth £1.2mliwn a ariannwyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru yn rhan o fenter Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Mae gwelliannau hefyd wedi cynnwys adnewyddiad llawn o'r holl brif lwybrau, gosod goleuadau stryd LED wedi'u huwchraddio a chyfleuster newid newydd yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty.   

Dywedodd y Cynghorydd Crimmings fod cyllid ychwanegol gwerth £1.9miliwn wedi'i sicrhau gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru ar gyfer dylunio ac adfer yr ardd isel, ardal y bandstand, yr ardal creigiau a darparu canolfan hyfforddi/gweithgareddau newydd. Disgwylir y bydd yr elfen hon o'r prosiect yn cael ei chwblhau ar ddechrau 2023.

Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Howe i'r Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Crimmings:

 

“Allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ystafelloedd newid ym Mharc Darren, Glynrhedynog, os gwelwch yn dda?”

Ymateb gan y Cynghorydd A. Crimmings:

Cadarnhaodd y Cynghorydd Crimmings fod ailosod yr ystafelloedd newid sy'n gwasanaethu'r Astroturf ym Mharc Darren wedi'u cymeradwyo yn rhan o'r rhaglen gyfalaf 20/21 ar gyfer Parciau.  Ychwanegodd y Cynghorydd fod angen symud y prosiect i'r flwyddyn ariannol gyfredol o ganlyniad i'r pandemig ac mae wedi arwain at nifer o rwystrau, yn bennaf oherwydd y mynediad cyfyngedig i'r safle.

Dywedodd y Cynghorydd Crimmings fod hyn wedi arwain at ganslo'r archeb ar gyfer adeilad dros dro a oedd ar fin cael ei anfon i'r safle a'r penderfyniad i fwrw ymlaen ag adeilad brics yn ei le. Mae swyddogion wrthi'n cwblhau dyluniadau yn barod ar gyfer cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio cyn gynted â phosibl, rydyn ni'n gobeithio y bydd hynny mor gynnar â'r mis nesaf.

 

Cwestiwn Ategol gan y Cynghorydd P Howe:

 

Dywedodd y Cynghorydd Howe fod yr Aelod o'r Cabinet eisoes wedi ateb ei gwestiwn ategol.

 

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman i Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol L Hooper, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd:

 

“A wnewch chi ddatganiad ar amrywiaeth mewn Bywyd Cyhoeddus?”

Ymateb y Cynghorydd L Hooper:

Dywedodd y Cynghorydd Hooper fod amrywiaeth mewn bywyd cyhoeddus yn rhan hanfodol o sicrhau bod y broses ddemocrataidd yn cynrychioli'r rhai rydyn ni'n eu cynrychioli ac o fudd pawb. Mae mwy o amrywiaeth yn arwain at broses benderfynu well a rhagor o ymgysylltu â'r trigolion hynny. Ychwanegodd y Cynghorydd fod llawer o waith wedi cael ei wneud yn y maes yma ers iddo ddod yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd megis sut i wneud rôl y Cynghorydd yn fwy deniadol trwy gyflwyno cyfarfodydd hybrid a sicrhau bod cyfarfodydd mor hygyrch â phosibl ar gyfer Aelodau a sicrhau bod cymorth gofal ar gael i Aelodau beth bynnag yw eu hanghenion gofal unigol.  

Cyfeiriodd y Cynghorydd Hooper at adroddiad y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol a oedd yn nodi cynigion ar gyfer tâl Cynghorwyr gan nodi ei fod e wedi ymateb i'r Panel yn rhan o'i rôl fel Cadeirydd. Rhoddodd wybod am y gwelliannau pellach sydd wedi cael eu gwneud i wefan y Cyngor i sicrhau bod yr wybodaeth yn fwy hygyrch a deniadol yn ogystal â phresenoldeb y Cyngor ar y cyfryngau cymdeithasol. I gloi, rhoddodd y Cynghorydd Hooper wybod bod rhagor i'w wneud yn y maes hwn, a hynny gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, Aelodau Etholedig a phob Gr?p Gwleidyddol.

Cwestiwn Ategol gan y Cynghorydd P Jarman:

 

“Cyfeiriodd y Cynghorydd Jarman at wefan y Cyngor, nododd y dylai fod yn ffynhonnell ddibynadwy ar gyfer gwybodaeth gyhoeddus ac mae'n rhestru enwau a manylion pob un o'r 75 Aelod sy'n cynrychioli'r Cyngor hwn waeth beth fo'u rhyw neu gysylltiadau gwleidyddol. Dywedodd y Cynghorydd Jarman mai dim ond y 3 Aelod o'r Blaid Lafur sydd wedi'u nodi ar dudalen we'r Cyngor lle mae  enwau'r Aelodau Seneddol ac Aelodau'r Senedd yn cael eu cyhoeddi. Tynnodd y Cynghorydd Jarman sylw at y ffaith ei fod yn gwahaniaethu yn erbyn y rhai sydd wedi eu hethol yn rhan o'r broses ddemocrataidd gan nad yw unrhyw un o’r 4 Aelod Plaid Cymru a'r 4 Aelod o'r Blaid Geidwadol sy'n Aelodau Rhanbarthol y Senedd ar gyfer Canol De Cymru a Gorllewin De Cymru yn cael eu cynrychioli, er bod dau yn Aelodau o’r Cyngor yma. Ymhlith yr Aelodau sydd wedi'u hepgor y mae Huw Irranca-Davies, Aelod o'r Senedd (Llafur) dros Ogwr a Chris Elmore, Aelod o'r Senedd sydd hefyd yn cynrychioli rhan o RCT.

Gofynnodd y Cynghorydd Jarman beth fydd y Cynghorydd Hooper yn ei wneud i unioni'r sefyllfa”.

Ymateb y Cynghorydd L Hooper:

Atgoffodd y Cynghorydd Hooper yr Aelodau o'i addewid fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, a hynny bod modd i Aelodau gysylltu ag ef ynghylch unrhyw ymholiad sy'n ymwneud â materion democrataidd. Ychwanegodd y byddai'n mynd ati i ddiweddaru'r tudalennau gwe perthnasol a gofyn bod adroddiad yn cael ei gyflwyno yn ystod cyfarfod nesaf o'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ble'n addas.

 

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Brencher i Arweinydd y Cyngor - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

“All Arweinydd y Cyngor roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cwblhau cynllun Llys Cadwyn, Pontypridd, a'r gwaith marchnata dilynol?"

Ymateb gan y Cynghorydd A. Morgan:

Dywedodd yr Arweinydd y cafodd y prosiect ei gwblhau yn 2020, yn unol â'r rhaglen y cytunwyd arni. Mae nifer o denantiaid eisoes wedi symud i'r adeilad ac mae'r datblygiad wedi cyfrannu at nifer cynyddol o ymwelwyr yn y dref. Esboniodd fod strategaeth farchnata wedi bod yn llwyddiannus iawn hyd yma ac mae eisoes wedi arwain at 3 sefydliad ar wahân yn meddiannu adeilad 3 Llys Cadwyn, sef Trafnidiaeth Cymru, Bradleys Coffee a Lounges sydd wedi'u lleoli yn yr adeilad mwyaf o'r tri. Defnyddiodd y Cyngor adeilad 1 Llys Cadwyn fel canolfan i'r gymuned yn ystod y pandemig ac yn fwy diweddar mae'r gampfa, llyfrgell a'r gwasanaeth 'i bob un' wedi bod yn gweithredu'n llwyddiannus. Cytunwyd ar Benawdau'r Telerau ar gyfer darpar denant llawr gwaelod a llawr cyntaf adeilad 2 Llys Cadwyn ac mae'r ddwy ochr wedi penodi eu cynghorwyr cyfreithiol. I gloi, rhoddodd yr Arweinydd wybod bod trafodaethau cynnar ar y gweill gyda darpar denantiaid ar gyfer yr uned fanwerthu fach sy'n wynebu Stryd y Taf.