Agenda item

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaeth ei hun i'r Pwyllgor fel y person enwebedig at ddibenion AGC o ran maethu yn RhCT. Rhoddodd wybod i Aelodau'r Pwyllgor mai nod yr adroddiad yw rhoi trosolwg o ansawdd blynyddol gofal o ran y gwasanaeth maethu yn 2020/21. Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaeth mai canolbwynt y gwasanaeth yn ystod 2020/21 oedd sicrhau bod rhieni maeth yn cael y cymorth gorau posibl. O ganlyniad i ddefnyddio technoleg, cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaeth fod modd cynnal cysylltiad cyson â rhieni maeth, er enghraifft dros y ffôn neu drwy alwadau fideo. Hefyd, cafodd y gwasanaeth ei addasu er mwyn cynnal cyfarfodydd ar-lein, megis y Panel Maethu.

 

Yn ogystal â chymorth cyson parhaus i rieni maeth, rhoddodd Rheolwr y Gwasanaeth wybod i Aelodau am wasanaeth newydd a gafodd ei gyflwyno sy'n cynnwys ymgynghori â chynhalwyr sy'n berthynas a chynhalwyr prif ffrwd. Pwrpas yr ymgynghoriadau oedd nodi gwelliannau y byddai modd eu gwneud o ran mynychu cyfarfodydd y panel, prosesau'r panel, arfarniadau ar gyfer Aelodau'r panel, ac aildrefnu dyddiadau cyfarfodydd y panel i annog gweithwyr cymdeithasol i fynychu. Aeth Rheolwr y Gwasanaeth ati i gydnabod yr angen i weithio'n agos gyda rhieni ac o ganlyniad i ymgynghori â rhieni ar blant sy'n derbyn gofal maeth, mae hyn wedi cael ei roi ar waith. Mae'r garfan wrthi'n gweithio gyda gwasanaeth y Swyddogion Adolygu Annibynnol i lunio adroddiadau i rieni er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw fynegi eu barn ar y gofal maeth a dderbyniwyd. 

 

Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaeth waith ar y cyd â Rhwydwaith Maethu yn rhan o raglen les. Rhoddwyd gwybod i Aelodau am lwyddiant y rhaglen les o ran cyflwyno Arloeswyr. Nodwyd arwyddocâd Arloeswyr o ran cefnogi rhieni maeth newydd yn RhCT. Cafwyd gwybod am yr heriau y mae'r gwasanaeth yn eu hwynebu megis recriwtio rhieni maeth ychwanegol sy'n barod i weithio gyda phobl ifainc sydd ag anghenion cymhleth, a phobl ifainc yn eu harddegau h?n.

 

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaeth Ms Grenter i'r Pwyllgor a roddodd drosolwg o rôl a phrofiadau Arloeswr yn RhCT. Nododd yr Arloeswr fanylion y gweithgareddau amrywiol sy'n cael eu cynnal yn rhan o'r rôl. Roedd y rhain yn cynnwys gweithio ar y cyd â Maethu Cymru mewn perthynas â lansiad 22 Drws Maethu, mynd i Baneli Cyflogaeth a thrafod effeithiolrwydd polisïau. Rhoddodd yr Arloeswr wybod am arwyddocâd y rôl o ran creu systemau cymorth i rieni maeth ac amgylchedd lle mae cyfathrebu agored yn cael ei annog er mwyn trafod yr heriau a datrysiadau. Siaradodd yr Arloeswr am ddatblygiad y rôl, gyda chymorth yn cael ei roi i rieni maeth ar-lein o ganlyniad i'r pandemig. Serch hynny, roedd yr Arloeswr yn gobeithio ailddechrau cynnal y gwasanaeth wyneb yn wyneb wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio. 

 

Roedd y Cadeirydd yn hapus gyda'r gwaith a'r cymorth a ddarperir i rieni maeth gan Arloeswyr. Aeth y Cadeirydd ati i gydnabod pwysigrwydd cyfathrebu rhwng rhieni maeth ac Arloeswyr er mwyn rhannu profiadau, cyngor a datrysiadau.

 

PENDERFYNODDy Bwrdd Rhianta Corfforaethol:

 

-        Cydnabod yr wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: