Agenda item

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant drosolwg cryno o Adroddiad Blynyddol Mabwysiadu Rhanbarthol y Fro, y Cymoedd, a Chaerdydd. Rhoddwyd gwybod i Aelodau'r Pwyllgor fod y Pwyllgor Craffu eisoes wedi trafod yr adroddiad ym mis Rhagfyr 2021; cafwyd sylwadau calonogol am yr adroddiad. 

 

Nododd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant mai dyma'r 6ed Adroddiad Blynyddol y Cydwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol a gafodd ei sefydlu yn seiliedig ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Yn yr adroddiad mae manylion am adrodd ar gyflawniad mewn perthynas â materion megis recriwtio mabwysiadwyr, gwneud penderfyniadau er mwyn i blant gael eu mabwysiadu, chwilio am deuluoedd a chymorth ar ôl mabwysiadu.

 

Cafodd Aelodau wybod am y gostyngiad bach yn y galw yn ystod cyfnod cyntaf y pandemig. Serch hynny, mae'r galw wedi dechrau cynyddu. 

Yn yr adroddiad tynnwyd sylw at y 26 gorchymyn lleoliad. Serch hynny, pan ymchwiliwyd i gyflawniad y Gwasanaethau i Blant ddiwethaf, roedd 33 gorchymyn mabwysiadu wedi cael eu gwneud yn ystod 2020/21.  Yn ystod cyfnod adrodd 2020/21, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant y bydd 22 o blant yn cael eu mabwysiadu erbyn 31 Mawrth 2021. Rhoddwyd gwybod i Aelodau i nodi effeithiolrwydd yr ymgyrch recriwtio a chynnydd yn nifer y mabwysiadwyr sydd wedi creu effaith gadarnhaol o ran nifer is o fabwysiadau nad ydyn nhw'n gysylltiedig ag asiantaeth. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant wybod i Aelodau am y cynnydd yn nifer y ceisiadau am gymorth ar ôl mabwysiadu a nododd arwyddocâd rhoi cymorth i fabwysiadwyr. Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant yr angen am adnoddau ychwanegol i fabwysiadwyr gan fod y galw wedi cynyddu. 

 

Roedd y Cadeirydd yn hapus gyda'r wybodaeth a ddarparwyd a gofynnodd i Aelodau am unrhyw gwestiynau.

 

Roedd un Aelod yn hapus gyda'r cyllid a ddarparwyd i gyflogi gweithiwr cymdeithasol rhan amser i gefnogi rhieni geni. Serch hynny, gofynnodd yr Aelod am y mecanweithiau atgyfeirio a'r math o gymorth y mae modd ei ddefnyddio i gefnogi rhieni geni.

 

Yn rhan o ddatblygiad gwasanaethau ychwanegol, rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant wybod i Aelodau am gyflwyno gwasanaeth 'Llwybr Cyn Geni'. Y bwriad yw gwella'r cymorth sydd ar gael i atal plant a rhieni rhag cael eu gwahanu. Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant wasanaeth datblygu arbrofol newydd, sef Eiriolaeth Rhieni. Bydd hyn yn cynnwys cymorth i rieni i fynychu cyfarfodydd megis Cynadleddau Amddiffyn Plant. Nodwyd canlyniadau gwych gan Awdurdodau Lleol eraill sy'n rhoi'r gwasanaeth yma ar brawf gan fod rhieni wedi teimlo eu bod nhw'n cymryd rhan fwy yn y gwasanaethau cymorth a ddarperir.

O ran y mecanwaith atgyfeirio, nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant bwysigrwydd cwnsela i'r rhieni geni yn rhan o'r broses fabwysiadu. Felly, cyn i unigolyn sy'n gwneud penderfyniadau o'r asiantaeth ystyried mabwysiadu plentyn, mae'n sicrhau bod atgyfeiriadau wedi'u gwneud at wasanaeth cwnsela i rieni.

 

Croesawodd un Aelod roi eiriolaeth rhieni ar waith, gan gydnabod ei bod yn hanfodol o ran rhoi cyfle i rieni gymryd rhan a mynegi eu hunain. Gofynnodd yr Aelod am ragor o wybodaeth am ddyfodol y gwasanaethau ar fuddsoddiadau yn dilyn cynnydd yn y galw y flwyddyn ganlynol.

 

Cytunodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant â'r Aelod gan nodi'r angen am fuddsoddiad a chyllid pellach i symud gwasanaethau ychwanegol yn eu blaenau er mwyn diwallu'r galw. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant wybod i'r Pwyllgor am ddyddiad sydd wedi'i drefnu ar gyfer y mis canlynol i ymchwilio i sut mae modd i rieni sy'n mabwysiadu gael y cymorth cywir ar yr adeg gywir a sicrhau bod modd i rieni sy'n mabwysiadu fanteisio ar yr holl wasanaethau cymorth cynnar sydd ar gael iddyn nhw. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant lansiad y gwasanaeth cymorth amlasiantaeth sy'n wasanaeth therapiwtig i blant sydd wedi'u mabwysiadu a phlant sy'n derbyn gofal. Byddai gwybodaeth bellach yn cael ei rhoi i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol mewn cyfarfodydd yn y dyfodol i dynnu sylw at y cynlluniau gweithredu a'r cynnydd sydd wedi'i wneud gan y gwasanaeth.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

-        Nodi cynnwys yr adroddiad

 

Dogfennau ategol: