Agenda item

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor yn rhoi diweddariad i'r Aelodau am y gwaith a wnaed wrth ddatblygu Strategaeth y Cyngor ar gyfer Gwefru Cerbydau Trydanol (EVC).

 

Cofnodion:

 Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad a amlinellodd y cyfle i Aelodau drafod a herio'r amcanion sydd wedi'u nodi yn y Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan. Cafodd y Strategaeth ei chyflwyno, a'i mabwysiadu gan y Cabinet yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2021.

 

Cafodd Aelodau eu hatgoffa o waith y Gweithgor Trosolwg a Chraffu i drafod 'datblygu seilwaith i gefnogi perchnogaeth cerbydau carbon isel yn Rhondda Cynon Taf' a llunio naw argymhelliad. Nodwyd ei waith ymgysylltu diweddar o ran yr ymgynghoriad eang a gyfrannodd at Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd 2021-2025 drafft y Cyngor.

 

Rhoddodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor fanylion am yr ymgynghoriad mewnol â rhanddeiliaid a dau ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd eu cynnal trwy wefan ymgysylltu'r Cyngor, 'Dewch i Siarad RhCT', er mwyn bwrw ymlaen â'r Strategaeth a'i lywio. Mae'r strategaeth bellach wedi cael ei chymeradwyo gan y Cabinet.

 

Nododd y Cyfarwyddwr ddeg uchelgais y strategaeth a thynnodd sylw at y gydberthynas â'r deg argymhelliad a gafodd eu llunio gan y Gweithgor Craffu a'u cymeradwyo gan y Cabinet. Pwysleisiodd fod y gwaith craffu blaenorol wedi llywio'r strategaeth gyfredol a rhoddodd wybod am sut y byddai'r strategaeth yn helpu i nodi dull RhCT o ran hyrwyddo ac annog datblygiad rhwydwaith gwefru cerbydau trydan cadarn ac ymarferol yn y tymor byr, canolig a hir, a hynny wrth ystyried y materion ehangach megis y pontio o gerbydau petrol a diesel i gerbydau trydan yn rhan o nodau trafnidiaeth gynaliadwy ehangach y Cyngor.

 

Yn dilyn cyflwyniad cynhwysfawr y Cyfarwyddwr o'r Strategaeth ar gyfer Gwefru Cerbydau Trydan yn RhCT, rhoddodd wybod am ganllawiau diweddar Llywodraeth Cymru a gafodd eu cyhoeddi heddiw yn gofyn am enghreifftiau o arfer da gan yr awdurdod lleol yma.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr fod pob cynllun sydd wrthi'n mynd rhagddo ledled yr Awdurdod Lleol hyd yn hyn wedi'i ariannu gan Fargen Prifddinas-Ranbarth Caerdydd megis mannau gwefru ym meysydd parcio cyhoeddus. Serch hynny, mae'n bosibl y bydd angen cyllid ychwanegol i gyflawni ffrydiau gwaith newydd yn y dyfodol.

 

Cafodd Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu gyfle i ofyn cwestiynau:

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad o ran uchelgais rhif wyth. Yn ôl yr Aelod, dyma fyddai'r her fwyaf oherwydd y nifer uchel o dai teras ledled y Fwrdeistref Sirol. Hefyd, gofynnodd a yw'r cyllid gan Fargen Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer tacsis neu'r cyhoedd ehangach?

 

Aeth y Cyfarwyddwr ati i gydnabod y problemau o ran yr uchelgais benodol ond tawelodd feddyliau Aelodau trwy nodi y bydd canllawiau a map ffordd ar gael i drigolion pan fydd cwestiynau am wefru'n agos i eiddo preswyl yn codi. Os na fydd digon o dacsis yn defnyddio'r seilwaith ac offer gwefru, byddan nhw ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio cyn belled â bod modd iddyn nhw dalu am y cyfleuster gwefru.

 

Awgrymodd Aelod arall i'r Cyngor ystyried ei fannau cyhoeddus lle y gallai cyfleusterau gwefru ar gyfer tai teras ddod yn anodd. Gofynnwyd cwestiwn o ran a fydd modd i drigolion a phartneriaid fanteisio ar gyfleusterau gwefru gweithleoedd y Cyngor ac yn achos adeiladau newydd ac adeiladau wedi'u hadnewyddu'n sylweddol yn darparu 10% o'r lleoedd parcio ar gyfer gwefru, beth mae'r Cyngor yn ei wneud i fanteisio i'r eithaf ar ei waith adnewyddu diweddar?

 

O ran ansawdd mynediad i gyfleusterau gwefru, awgrymwyd bod angen i'r strategaeth ystyried ffyrdd o gefnogi ardaloedd heb safleoedd i sicrhau bod y safleoedd hynny yn cael eu nodi a sicrhau nad ydyn ni'n caniatáu i ddarpariaeth rhannau uchaf y cwm fod yr olaf neu'r gwaethaf yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Roedd Aelodau eraill o blaid gwefru yn y gweithle sydd, yn ardaloedd lle mae nifer uchel o dai teras, yn cynnig datrysiad i drigolion wefru eu cerbydau yn y gwaith a gyrru adref. A oes tystiolaeth i ddangos a yw'r symudiad at gerbydau trydan wedi cynyddu yn yr ardaloedd hynny lle mae seilwaith ar gael, gan y byddai hynny'n ffactor sy'n cyfrannu at ddylanwadu'r penderfyniad i brynu cerbyd trydan? Gofynnodd yr Aelod a yw pob opsiwn wedi cael ei ystyried megis cyllid grant i ddatblygu cefn gerddi tai teras trigolion er mwyn gosod seilwaith gwefru.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol y cynhelir prawf ar gerbydau trydan y Cyngor yn rhan o gyfnod prawf i olrhain pellter y cerbyd yn ystod yr wythnos gwaith ar ôl ei wefru unwaith. Esboniodd y bydd ysgolion wedi'u hadeiladu'n ddiweddar gan y Cyngor a phob ysgol newydd yn darparu cyfleusterau gwefru cerbydau trydan yn rhan o ddull blaengar y Cyngor, yn ogystal ag ystyried safleoedd priodol eraill sy'n eiddo i'r Cyngor ac sy'n cael eu rheoli gan y Cyngor.

 

Pwyntiau eraill a gafodd eu gwneud:

 

  • A fydd ap fydd yn rhannu lleoliad y cyfleusterau gwefru lleol i helpu i gynllunio taith?
  • Beth yw'r cydweithrediad â'r Bwrdd Iechyd?
  • Sut bydd y pandemig yn effeithio ar wefru yn y gweithle gan fod cynifer o weithwyr yn gweithio gartref? Ydy'r strategaeth yn ystyried y symudiad o werthu injans diesel o 2030 gan wahardd cerbydau hybrid fel opsiwn arall, fydd y Cynllun Strategol yn ystyried y materion yma?

 

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor y berthynas waith agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Aeth ati i gydnabod y byddai'r Cynllun Gweithredu yn cael ei drafod gan y Pwyllgor Craffu maes o law. Nododd y Cyfarwyddwr fod y ddau fater wedi cael eu hystyried wrth baratoi'r strategaeth a chynhaliwyd ymgynghoriad â thrigolion ar newid gofynion eu hanghenion teithio o ganlyniad i'r pandemig.

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr i ymholiad o ran gwefru yn y gweithle gan nodi y bydd partneriaid yn cael cyfle i ddefnyddio cyfleusterau'r Cyngor pan fydd y seilwaith gwefru cyflym ar waith. Rhoddodd wybod y bydd y mapiau yn y strategaeth, sydd i'w gweld yn Atodiad 3, yn cael eu cyflawni yn 2021/22. Mae'r pinnau yn y mapiau'n cynrychioli'r ardaloedd hynny lle mae'r seilwaith wedi'i gyflwyno eleni. Serch hynny, nid dyma restr derfynol gan nad yw ychwanegiadau diweddar megis yr ysgol gynradd newydd yn Hirwaun, sydd â 2 gyfleuster gwefru newydd, ar y map. Ychwanegodd y bydd y gwaith yn mynd rhagddo gan ymgynghori â thrigolion a rhanddeiliaid.

 

I grynhoi, rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod ei garfan yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yr adran Cynllunio a chadarnhaodd fod canllawiau polisi cynllunio yn cael eu diweddaru. Eglurodd hefyd fod gwaith adnewyddu mewn canolfan hamdden leol eisoes yn cynnwys pibellau o dan y llawr yn y maes parcio er mwyn cynnwys seilwaith cyfleusterau gwefru yn y dyfodol.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

  1. Cydnabod yr adroddiad ac atodiadau (wedi'u hatodi) a mabwysiadu'r strategaeth a'i gyhoeddi'n ffurfiol ar wefan y Cyngor, yn dilyn trafod canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus; a

 

  1. Bydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cynnal gwaith cyn y cam craffu ar y cynllun gweithredu, fydd yn cynnig sut bydd seilwaith gwefru cerbydau trydan yn cael ei ddatblygu ledled y Fwrdeistref Sirol.

 

Dogfennau ategol: