Trafod y Rhybudd o Gynnig isod sydd wedi’i gyflwyno yn enwau:
S. Bradwick, M. Forey, L. M. Adams, J. Barton, D. R. Bevan, H. Boggis, J. Bonetto, J. Brencher, A. Calvert, G. Caple, A. Crimmings, A. Davies-Jones, L. De- Vet, J. Edwards, J. Elliott, S. Evans, G. Jones, M. Fidler Jones, A. Fox, E. George, M. Griffiths, J. Harries, G. Holmes, G. Hopkins, R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S. Pickering, S. Powell, S. Rees, A. Roberts, J. Rosser, G. Stacey, M. Tegg, G. Thomas, W. Treeby, R. K. Turner, M. Webber, D. Williams, R. Williams, T. Williams, R. Yeo
Dylai banciau fod yn wasanaeth hanfodol yn ein cymunedau, gan gynnig mynediad cyfleus i drigolion i'w harian a'u galluogi nhw i ofalu am unrhyw faterion ariannol personol. Yn aml, maen nhw wedi'u lleoli yng nghanol ein trefi, yn agos at gyfleusterau a siopau hanfodol eraill.
Yr hysbysiad sy'n nodi y bydd cwmni Barclays yn cau ei gangen yn Sgwâr Fictoria yn Aberdâr ym mis Mawrth 2022 yw'r enghraifft ddiweddaraf o wasanaethau ariannol yn cael eu tynnu’n ôl o gymunedau Rhondda Cynon Taf. Os bydd y cynlluniau'n cael eu cymeradwyo, byddan nhw'n cael effaith niweidiol ar y cyfleoedd sydd gan ein trigolion i ddefnyddio'r cyfleusterau yma, yn ogystal â chael effaith ar fywiogrwydd canol ein trefi. Mae'r Cyngor wedi gweithio'n galed i sicrhau bod ein canol trefi yn llefydd deniadol a chroesawgar ar gyfer y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu, yn enwedig ar ôl yr anawsterau eithriadol y mae masnachwyr lleol wedi'u hwynebu yn ystod y 18 mis diwethaf.
Mae Aberdâr eisoes wedi gweld NatWest a HSBC yn tynnu eu gwasanaethau o'r dref, tra bod Trefforest, Treorci, Porth ac Aberpennar ymhlith yr ardaloedd eraill sydd hefyd wedi gweld banciau'n cau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ni fydd y sicrwydd sy'n cael ei ddarparu gan Barclays ynghylch y gwasanaethau agosaf ym Merthyr Tudful a Phontypridd yn fawr o gysur i nifer o bobl, bydd y daith i'r naill gangen yn cymryd rhwng 40-50 munud.
Mae'r Cyngor hwn yn dymuno cofnodi ei wrthwynebiad i'r cynlluniau i gau Banc Barclays yn Aberdâr ac yn penderfynu:
· Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Bennaeth Cysylltiadau Corfforaethol Wales and West a Phrif Weithredwr Banc Barclays i alw am ailystyried y cynlluniau.
· Gofyn bod y Cyngor yn ceisio sicrhau bod y buddion cymdeithasol sy'n gysylltiedig â chynnal cyfleusterau bancio lleol yn ein cymunedau yn cael eu cynnwys yn rhan o'n perthynas â'r sector bancio yn y dyfodol.
Cofnodion:
Derbyniwyd y Rhybudd o Gynnig canlynol yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol: S. Bradwick, M. Forey, L. M. Adams, J. Barton, D. R. Bevan, H. Boggis, J. Bonetto, J. Brencher, A. Calvert, G. Caple, A. Crimmings, A. Davies-Jones, L. De- Vet, J. Edwards, J. Elliott, S. Evans, G. Jones, M. Fidler Jones, A. Fox, E. George, M. Griffiths, J. Harries, G. Holmes, G. Hopkins, R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S. Pickering, S. Powell, S. Rees, A. Roberts, J. Rosser, G. Stacey, M. Tegg, G. Thomas, W. Treeby, R. K. Turner, M. Webber, D. Williams, R. Williams, T. Williams, R. Yeo
Dylai banciau fod yn wasanaeth hanfodol yn ein cymunedau, gan gynnig mynediad cyfleus i drigolion i'w harian a'u galluogi nhw i ofalu am unrhyw faterion ariannol personol. Yn aml, maen nhw wedi'u lleoli yng nghanol ein trefi, yn agos at gyfleusterau a siopau hanfodol eraill.
Yr hysbysiad sy'n nodi y bydd cwmni Barclays yn cau ei gangen yn Sgwâr Fictoria yn Aberdâr ym mis Mawrth 2022 yw'r enghraifft ddiweddaraf o wasanaethau ariannol yn cael eu tynnu'n ôl o gymunedau Rhondda Cynon Taf. Os bydd y cynlluniau'n cael eu cymeradwyo, byddan nhw'n cael effaith niweidiol ar y cyfleoedd sydd gan ein trigolion i ddefnyddio'r cyfleusterau yma, yn ogystal â chael effaith ar fywiogrwydd canol ein trefi. Mae'r Cyngor wedi gweithio'n galed i sicrhau bod ein canol trefi yn llefydd deniadol a chroesawgar ar gyfer y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu, yn enwedig ar ôl yr anawsterau eithriadol y mae masnachwyr lleol wedi'u hwynebu yn ystod y 18 mis diwethaf.
Mae Aberdâr eisoes wedi gweld NatWest a HSBC yn tynnu eu gwasanaethau o'r dref, tra bod Trefforest, Treorci, Porth ac Aberpennar ymhlith yr ardaloedd eraill sydd hefyd wedi gweld banciau'n cau yn ystod y blynyddoedd diwethaf
Ni fydd y sicrwydd sy'n cael ei ddarparu gan Barclays ynghylch y gwasanaethau agosaf ym Merthyr Tudful a Phontypridd yn fawr o gysur i nifer o bobl, bydd y daith i'r naill gangen yn cymryd rhwng 40-50 munud.
Mae'r Cyngor hwn yn dymuno cofnodi ei wrthwynebiad i'r cynlluniau i gau Banc Barclays yn Aberdâr ac yn penderfynu:
· Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Bennaeth Cysylltiadau Corfforaethol Wales and West a Phrif Weithredwr Banc Barclays i alw am ailystyried y cynlluniau.
· Gofyn bod y Cyngor yn ceisio sicrhau bod y buddion cymdeithasol sy'n gysylltiedig â chynnal cyfleusterau bancio lleol yn ein cymunedau yn cael eu cynnwys yn rhan o'n perthynas â'r sector bancio yn y dyfodol.
Yn y cyfarfod, cyhoeddodd y Cadeirydd, yn unol â Rheol 10.4.1 o Weithdrefn y Cyngor, fod y diwygiad canlynol i'r Rhybudd o Gynnig wedi'i dderbyn gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol P. Jarman, A. Cox, J. Williams, D. Grehan, G. Davies, J. Davies, J. Cullwick, K. Morgan, L. Jones, E. Stephens, S. Rees-Owen, M. Weaver, E. Webster, A. Chapman, S. Evans, H. Fychan ac E. Griffiths.
Roedd y cynnig diwygiedig yn nodi:
Dylai banciau fod yn wasanaeth hanfodol yn ein cymunedau, gan gynnig mynediad cyfleus i drigolion i'w harian a'u galluogi nhw i ofalu am unrhyw faterion ariannol personol. Yn aml, maen nhw wedi'u lleoli yng nghanol ein trefi, yn agos at gyfleusterau a siopau hanfodol eraill.
Yr hysbysiad sy'n nodi y bydd cwmni Barclays yn cau ei gangen yn Sgwâr Fictoria yn Aberdâr ym mis Mawrth 2022 yw'r enghraifft ddiweddaraf o wasanaethau ariannol yn cael eu tynnu'n ôl o gymunedau Rhondda Cynon Taf. Os bydd y cynlluniau'n cael eu cymeradwyo, byddan nhw'n cael effaith niweidiol ar y cyfleoedd sydd gan ein trigolion i ddefnyddio'r cyfleusterau yma, yn ogystal â chael effaith ar fywiogrwydd canol ein trefi. Mae'r Cyngor wedi gweithio'n galed i sicrhau bod ein canol trefi yn llefydd deniadol a chroesawgar ar gyfer y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu, yn enwedig ar ôl yr anawsterau eithriadol y mae masnachwyr lleol wedi'u hwynebu yn ystod y 18 mis diwethaf.
Mae Aberdâr eisoes wedi gweld NatWest, The Co-operative Bank a HSBC yn tynnu eu gwasanaethau o'r dref, tra bod Trefforest, Treorci, Porth ac Aberpennar ymhlith yr ardaloedd eraill sydd hefyd wedi gweld banciau'n cau yn ystod y blynyddoedd diwethaf
Ni fydd y sicrwydd sy'n cael ei ddarparu gan Barclays ynghylch y gwasanaethau agosaf ym Merthyr Tudful a Phontypridd yn fawr o gysur i nifer o bobl, bydd y daith i'r naill gangen yn cymryd rhwng 40-50 munud.
Mae'r Cyngor hwn yn dymuno cofnodi ei wrthwynebiad i'r cynlluniau i gau Banc Barclays yn Aberdâr ac yn penderfynu:
· Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Bennaeth Cysylltiadau Corfforaethol Wales and West a Phrif Weithredwr Banc Barclays i alw am ailystyried y cynlluniau.
· Gofyn bod adroddiad ar y cyd gan y Prif Weithredwr, y Swyddog 151 a'r Swyddog Monitro yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor gan fynd i'r afael â phob mater sy'n berthnasol i drafod opsiwn i newid ein bancwyr o Barclays.
· Gofyn bod y Cyngor yn ceisio sicrhau bod y buddion cymdeithasol sy'n gysylltiedig â chynnal cyfleusterau bancio lleol yn ein cymunedau yn cael eu cynnwys yn rhan o'n perthynas â'r sector bancio yn y dyfodol.
· Nodi cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu a lansio Banc Cymunedol newydd i Gymru sydd â'i bencadlys yng Nghymru. Mae'r Cyngor hwn hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu gwaith sefydlu a chyflwyno Banc Cambria sy'n bwriadu agor canghennau'r stryd fawr mewn trefi ledled Cymru.
(Noder: Yn ystod adeg yma'r cyfarfod ac yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant personol canlynol eu gwneud yngl?n â'r Rhybudd o Gynnig:
Yn ystod trafodaethau, ac mewn perthynas â'r diwygiad i'r Rhybudd o Gynnig, darllenodd Arweinydd y Cyngor y datganiad canlynol mewn ymateb i ymholiad o ran prosesau caffael y Cyngor mewn perthynas â banc Barclays:
“Mae gyda ni berthynas gontractiol gyda Barclays i ddarparu gwasanaethau bancio corfforaethol i'r Cyngor. Dydy'r Contract ddim yn cynnwys unrhyw ddarpariaethau sy'n gysylltiedig â mandadu canghennau lleol.
Cafwyd trafodaeth bellach ac yn unol â Rheolau Gweithdrefn 12.7 y Cyngor, cynhaliwyd pleidlais mewn perthynas â'r diwygiad i'r Rhybudd o Gynnig a PHENDERFYNWYD peidio â mabwysiadu'r diwygiad.
(Nodwch: Roedd Gr?p Plaid Cymru a oedd yn bresennol yn dymuno iddo gael ei gofnodi ei fod wedi pleidleisio o blaid y diwygiad i'r Rhybudd o Gynnig: Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol P Jarman, A Cox, J Cullwick, G R Davies, S Evans, H Fychan, D Grehan, E Griffiths, L Jones, E Webster a J Williams).
Yn dilyn trafodaeth mewn perthynas â'r cynnig gwreiddiol ac yn unol â Rheolau Gweithdrefn 12.7 y Cyngor, PENDERFYNWYD mabwysiadu'r cynnig gwreiddiol.
Dogfennau ategol: