Agenda item

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Cofnodion:

 

Cafodd yr Aelodau wybod y derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr G Stacey ac M Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu na fyddai cwestiwn 6 yn cael ei gyflwyno i’r Aelod o'r Cabinet ac y byddai ymatebion ysgrifenedig yn cael eu darparu mewn perthynas â chwestiynau 5, 14 a 23.

 

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Cox i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Rosser:

“Pa baratoadau y mae CBS RhCT yn eu gwneud mewn perthynas â'r cynnig i gyflwyno Prydau Ysgol am Ddim i holl ddisgyblion cynradd Cymru?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Rosser:

 

Dywedodd y Cynghorydd Rosser fod gwasanaethau arlwyo RhCT ar hyn o bryd yn adolygu’r ddarpariaeth prydau ysgol ym mhob un o ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig y Cyngor drwy asesu offer y gegin a’r cyfleusterau storio er mwyn amcangyfrif y cynnydd yn nifer y prydau bwyd a’r gofynion ychwanegol o ran staff, offer, storio a faint o le sydd yn y ffreutur. Ychwanegodd y Cynghorydd Rosser fod y Cyngor wedi cwrdd ag Awdurdodau Lleol eraill, cyflenwyr a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru i drafod yr heriau a wynebir ledled Cymru a’i fod ar hyn o bryd yn aros i Lywodraeth Cymru gadarnhau manylion y cynigion, y trefniadau ariannu a’r amserlenni er mwyn dechrau'r gwaith gweithredu.

Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Cox:

“A yw’r Cyngor yn edrych ar y fformiwlâu ariannu yn fewnol ac yn asesu ai dyma'r fformiwla ariannu orau ar gyfer y gwasanaeth ac yn asesu’r buddion ar gyfer yr ysgolion? A wnaiff yr Aelod o'r Cabinet ymuno â mi i longyfarch yr ymgyrchwyr sydd wedi brwydro’n galed am gyfnod hir i sicrhau bod hyn yn cael ei fabwysiadu ac i Blaid Cymru sydd wedi mynnu hyn yn rhan o’r cytundeb gyda Llafur er gwaethaf ei wrthod yn y Senedd?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Rosser:

 

Dywedodd y Cynghorydd Rosser fod y Cyngor yn aros i gael rhagor o wybodaeth am drefniadau ariannu ond rhoddodd sicrwydd y byddai popeth yn cael ei asesu'n briodol ac mewn da bryd. Ychwanegodd fod pawb yn falch o'r canlyniad ond ychwanegodd mai'r penderfyniad cywir oedd aros ar gyfer adolygiad cynhwysfawr o wariant cyn ymrwymo i'r cynnig, a hynny gan nad oedd Llywodraeth San Steffan wedi rhoi unrhyw sicrwydd ynghylch cyllid.

 

Atgoffodd y Cynghorydd Rosser y Cyngor fod y Cynnig gan Blaid Cymru yn galw am brydau ysgol am ddim ar gyfer pob plentyn, gan gynnwys y rhai mewn ysgolion preifat. Mae hefyd yn gofyn bod pob teulu sy’n derbyn Credyd Cynhwysol yn gymwys ond nid oedd y cynnig yn cynnwys costau nac yn cynnig unrhyw argymhellion ynghylch cyllid.  I gloi, dywedodd y Cynghorydd Rosser fod hyn yn enghraifft o gydweithio ym myd gwleidyddiaeth yng Nghymru a mae modd dathlu'r newidiadau cadarnhaol y mae'r cynnig yn ei wneud.

 

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Holmes i Arweinydd y Cyngor - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd teuluoedd ar incwm isel a budd-daliadau cymwys yn derbyn £100 i’w helpu gyda’u biliau cyfleustodau y gaeaf hwn. All Arweinydd y Cyngor roi rhagor o wybodaeth am hyn a faint o bobl fydd yn elwa o hyn yn RhCT?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y Cynllun Tanwydd y Gaeaf yn mynd yn fyw ar wefan y Cyngor ddydd Llun yr wythnos hon a bydd y cynllun yn rhoi cyfle i unigolion perthnasol wneud cais am £100 i'w helpu gyda chostau cyfleustodau dros y Gaeaf. Esboniodd fod y Cyngor wedi ysgrifennu at tua 15,400 o aelwydydd sy'n hawlio cymorth ar hyn o bryd yn rhan o Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor RhCT.  Mae yna nifer o aelwydydd eraill sy'n gymwys ac sy'n hawlio budd-dal perthnasol ond sydd ddim yn gymwys ar gyfer Gostyngiad Treth y Cyngor ac mae opsiwn gyda nhw i hawlio'r cymorth ar wefan y Cyngor. Ar hyn o bryd rydyn ni'n amcangyfrif y bydd hyd at 15,800 o aelwydydd eraill yn elwa o’r cymorth hwn sy’n golygu ei bod hi'n bosibl y bydd 31,200 o aelwydydd yn RhCT yn gymwys i gael y taliad hwn, sy’n golygu bod £3.12m yn mynd yn uniongyrchol i’r teuluoedd tlotaf yn y Sir dros y gaeaf.

Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod Swyddogion wrthi'n cyflawni gwaith i ennill dealltwriaeth well o bwy yw'r aelwydydd yma, a'u nodi nhw, fel bod modd i'r Cyngor ganolbwyntio ar gysylltu â nhw. I gloi, galwodd yr Arweinydd ar yr Aelodau i annog aelwydydd i gofrestru ar gyfer y cymorth hwn.

Cwestiwn ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Holmes:

“Mae llawer o bensiynwyr yn byw ar eu pen eu hunain ac yn ei chael hi'n anodd oherwydd y cynnydd mewn costau, oes modd i ni alw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o gymorth iddyn nhw?"

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Morgan fod hyn y tu allan i gwmpas y gronfa ond dywedodd fod gan aelwydydd Pobl H?n hawl i Lwfans Tanwydd Gaeaf ar hyn o bryd a bod gan y rhai dros 80 oed hawl i gynnydd pellach gan Lywodraeth Cymru. Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai'n codi hyn gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru cyn gynted â phosibl.

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Williams i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Gwasanaethau Treftadaeth - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Crimmings:

“All yr Aelod Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ffigurau ailgylchu hyd yma eleni a chadarnhau a ydyn ni ar y trywydd iawn i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Crimmings:

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Crimmings fod gan y Cyngor dargedau statudol ar gyfer ailgylchu sydd wedi'u pennu gan Lywodraeth Cymru a tharged eleni yw 64%. Gall methu â'i gyflawni arwain at ddirwy o £200 am bob tunnell ychwanegol. Ychwanegodd y Cynghorydd Crimmings taw'r her gynyddol dros y 18 mis diwethaf oedd darparu gwasanaethau yn ystod y pandemig a dymunodd ddiolch i'r staff am eu hymroddiad a'u hymrwymiad. Cadarnhaodd y Cynghorydd Crimmings fod y cyfraddau ailgylchu ar gyfer y flwyddyn hyd yma (Ebrill-Hydref) ychydig dros 69% (69.11%) sy'n uwch na tharged Llywodraeth Cymru, mae hwn yn cynrychioli cyflawniad sylweddol gan y Cyngor a thrigolion RhCT yn ystod y Pandemig.

Dywedodd y Cynghorydd Crimmings fod ffigurau eleni'n cynrychioli'r ffigurau uchaf erioed ar gyfer y Cyngor ac mae bod mor agos at y targedau yn ystod y cyfyngiadau yn dyst i ymrwymiad y staff a threfniadau casglu. Dywedodd y Cynghorydd mai'r targed nesaf ar gyfer y Cyngor hwn yw targed 2024/2025 o 70% ac, os gellir ei gynnal a'i wella ychydig, bydd y Cyngor ar y trywydd iawn i barhau i weithio tuag at gyflawni ei nod o 80%. Mae newid arferion gweithredu wedi rheoli effaith y cyfyngiadau a difrifioldeb y mesurau er mwyn bodloni rheolau a chanllawiau a sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu mewn modd diogel, a hynny o ran y staff a'r trigolion.

Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Williams:

“Beth arall y mae modd i ni ei wneud o ran cyfathrebu â thrigolion i gyrraedd targed y Cyngor o 80%?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Crimmings:

 

Dywedodd y Cynghorydd Crimmings fod y Cyngor, er y cynnydd rhagorol ac ymdrechion trigolion, yn awyddus i gyflawni mwy. Yn ddiweddar, mae negeseuon ailgylchu Nadoligaidd wedi'u rhannu ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor. Mae ymgyrchoedd llwyddiannus hefyd wedi’u cynnal dros y blynyddoedd diwethaf, yn lleol ac yn rhan o’r ymgyrch ranbarthol “Bydd Wych” gydag Awdurdodau Lleol eraill De Ddwyrain Cymru. Dywedodd y Cynghorydd Crimmings fod y Cyngor yn bwriadu lansio ymgyrch codi ymwybyddiaeth ryngweithiol yn 2022 i bwysleisio bod angen i drigolion ailgylchu cymaint â phosibl. I gloi, cadarnhaodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Gwasanaethau Treftadaeth fod yr Awdurdod yn parhau i edrych ar ffyrdd o leihau ei ôl troed carbon, mae dwy enghraifft ddiweddar yn cynnwys y sachau gwastraff gwyrdd newydd a threialu cerbyd casglu trydan yn ddiweddar.

 

 

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Caple i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

“A wnaiff yr Arweinydd ddatganiad ar sut mae'r Cyngor yma yn gweithio gyda Trivallis a darparwyr tai cymdeithasol eraill i gyflawni gwelliannau amgylcheddol?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y Cyngor wedi gweithio'n agos gyda chymdeithas tai Trivallis dros nifer o flynyddoedd i nodi llwybrau troed wedi'u mabwysiadu ar ei hystadau a gwelliannau eraill i seilwaith. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi derbyn cymorth ariannol gan Trivallis ac mae'r Cyngor wedi cyfrannu'r un swm i gynnal gwaith gwella ystadau ym Mhen-y-waun, Cwm-bach, Maerdy, Dinas, Cymer, Trebanog a Thonyrefail. Yn ogystal â hyn, cynhaliwyd gwaith ar y cyd ar fuddsoddi ym meysydd chwarae ar safleoedd Trivallis. Mae gan y Cyngor Warden Gorfodi/Ymwybyddiaeth ar hyn o bryd (wedi'i ariannu gan Trivallis o dan Gytundeb Lefel Gwasanaeth) sy'n delio â phroblemau/troseddau amgylcheddol ar yr ystadau.

Nododd yr Arweinydd fod gan y Cyngor staff glanhau ychwanegol (2 swydd cyfwerth ag amser llawn) sy'n ymgymryd â gwaith glanhau ychwanegol ar nifer o ystadau Trivallis sy'n achosi problemau. Hefyd, mae'r Cyngor yn gweithio'n rheolaidd gyda Trivallis i nodi problemau (gwastraff/tipio'n anghyfreithlon/ac ati yn bennaf) a chydlynu gweithwyr i gynnal gwaith glanhau ac ymateb i broblemau.

Cwestiwn ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Caple:

“Oes modd i chi ehangu ar y buddion ariannol i'r Cyngor a Trivallis o ganlyniad i'r gwelliannau amlwg ar gyfer tenantiaid a thrigolion hen Ystadau'r Cyngor e.e. gwelliannau i briffyrdd ar Ystad Rhiw Garn, Trebanog?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

Nododd yr Arweinydd ei bod yn bwysig manteisio i'r eithaf ar y buddion lle mae modd i'r Cyngor weithio'n agos â Trivallis. Rhoddodd enghraifft o hyn gan gyfeirio at wella mynediad i fflatiau. Mewn rhai achosion, mae'r Cyngor wedi ymgymryd â gwaith a oedd yn rhan o gylch gwaith Trivallis o ran gwelliannau amgylcheddol ond mae eu hychwanegu nhw at gontractau'r Cyngor pan fo ar y safle yn barod yn manteisio i'r eithaf ar effeithlonrwydd yn achos y Cyngor a Trivallis. 

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd ei fod wedi ymweld â safleoedd gyda Trivallis a swyddogion yr Awdurdod Lleol er mwyn trafod rhaglen waith y flwyddyn nesaf. O ran gwella llifogydd, nododd yr Arweinydd fod Trivallis wedi gwneud cyfraniadau ariannol er mwyn gwella asedau llifogydd i ddarparu mesurau gwrthsefyll ychwanegol yn yr eiddo. Yn ogystal â Trivallis, cadarnhaodd yr Arweinydd fod gwaith ar y cyd â Darparwyr Tai eraill yn parhau.

 

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. P. Thomas i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

“A all Arweinydd y Cyngor amlinellu pa geisiadau sydd wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru, ac sy'n mynd i gael eu cyflwyno iddi, o ran gwella cwlferi a chynlluniau lliniaru llifogydd?

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

Nododd yr Arweinydd fod carfan Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor wrthi'n datblygu ceisiadau am nifer o brosiectau a chamau prosiectau mawr fydd yn llywio amserlen Llywodraeth Cymru o ran ceisiadau grant ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23. Rhoddwyd gwybod i Aelodau y cafodd y ceisiadau am y rhain eu cyflwyno erbyn 10 Rhagfyr 2021. Mae'r garfan yn edrych ar gynlluniau piblinellau cenedlaethol ac mae wedi cyflwyno cynlluniau ar gyfer y tair blynedd nesaf. Bydd cynlluniau pellach yn cael eu hychwanegu at flynyddoedd dau a thri dros amser.

Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod cyllid sylweddol wedi'i dderbyn trwy'r prosiectau ar raddfa fach sy'n cynnwys prosiectau hyd at £150K. Mae nifer o gynlluniau wedi'u cymeradwyo yn barod. Mae nifer o geisiadau wedi cael eu cyflwyno ar gyfer y flwyddyn nesaf a bydd rhagor o wybodaeth o ran cymeradwyo ar gael erbyn mis Chwefror/Mawrth 2022, er bod pob cais wedi'i gyflwyno hyd yn hyn wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodaeth Cymru.

O ran y Gronfa Ffyrdd Cydnerth, sy'n cynnwys cynlluniau draenio priffyrdd yn bennaf, nododd yr Arweinydd fod nifer o gwlferi wedi achosi llifogydd ar briffyrdd. Hefyd, nododd fod eiddo preswyl wedi'u heffeithio wedi bod yn destun ceisiadau grant unigol. Cyfanswm buddsoddiad y ceisiadau grant yma yw £8M y flwyddyn nesaf.

 

Yn dilyn llifogydd pellach, mae'r Cyngor yn parhau i gyflymu rhaglen heriol o brosiectau rheoli perygl llifogydd gyda 9 cais arall am waith ar raddfa fach wedi'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru.  Cafodd y rhain eu cymeradwyo ym mis Tachwedd 2021 ar gyfer 2021/22, gan greu buddsoddiad arall o £480k. Cyfanswm y portffolio presennol o brosiectau rheoli perygl llifogydd sy'n cael eu cyflawni neu'u datblygu yn 2021/22 yw 70. I gloi, esboniodd yr Arweinydd fod y prosiectau yma'n debygol o barhau dros y 5-10 mlynedd nesaf.

Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Thomas:

 

“Mewn perthynas â'r datganiad i'r wasg diweddar o ran Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n annog pobl i wirio eu risg llifogydd, oes modd i chi roi cyngor pellach os bydd trigolion yn cysylltu â ni?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

Esboniodd yr Arweinydd fod y datganiad i'r wasg diweddar o ran Cyfoeth Naturiol Cymru ar wefan y Cyngor wedi hyrwyddo'r offeryn gwirio codau post sydd i'w ddefnyddio ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Caiff trigolion wirio a ydyn nhw mewn perygl o fathau penodol o lifogydd. O safbwynt y Cyngor, cytunodd y Cabinet ar Garfan Gorfodi Llifogydd a Swyddog Ymwybyddiaeth a Chymorth Llifogydd yn ddiweddar, fydd yn ymgysylltu â thrigolion er mwyn cynnig cyngor ar faterion lliniaru llifogydd.

 

Dogfennau ategol: