A. Trafod y Rhybudd o Gynnig isod sydd wedi’i gyflwyno yn enwau'r Cynghorwyr L Hooper, S Trask a J James:
“Mae nifer o unigolion a theuluoedd ledled Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn dyheu am fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, ac mae'r Cyngor yn ymdrechu i'w helpu i wireddu'r freuddwyd yma.
O ganlyniad i brisiau tai cynyddol a phrinder eiddo, mae gwireddu'r freuddwyd o fod yn berchen ar gartref yn ymddangos yn fwyfwy heriol i unigolion a theuluoedd. Un ffactor sydd wedi cyfrannu'n sylweddol at hyn yw tuedd gynyddol datblygwyr tai i gymryd rhan mewn arfer y cyfeirir ato'n gyffredin fel 'bancio tir', lle mae'r datblygwr yn llwyddo i sicrhau caniatâd cynllunio ond nad yw'n cyflawni'r datblygiad arfaethedig.
Mae hwn yn fater sy'n effeithio ar y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, ac mae'n berthnasol ar gyfer hyd at 4,517 eiddo a roddwyd caniatâd i'w hadeiladu yn y Fwrdeistref Sirol yma rhwng 2012/13 a 2019/20, ond sydd eto i'w hadeiladu.
Er bod nifer o ffactorau a all esbonio pam na chaiff cais llwyddiannus i adeiladu eiddo ei ddwyn ymlaen, mae'n amlwg bod llawer iawn o'r achosion hyn o ganlyniad i'r arfer o 'fancio tir'.
Yn ogystal ag atal llawer o'n preswylwyr rhag prynu eu cartrefi cyntaf, gall hyn hefyd gael effaith andwyol ar ymddiriedaeth preswylwyr yn y system gynllunio pan fydd datblygwyr yn 'bancio tir' ar safleoedd 'tir llwyd' - gan roi pwysau ar y Cynllun Datblygu Lleol i gynnig safleoedd newydd ar gyfer dyraniadau tai a allai fod yn llai addas ar gyfer datblygiad o'r fath.
Felly, mae'r Cyngor yma'n penderfynu:
- Y bydd Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Weinidog Newid Hinsawdd Cymru (y mae ei phortffolio yn cynnwys tai) yn gofyn bod Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn cael y grym i godi taliadau treth y cyngor ar geisiadau anghyflawn sydd ddim wedi'u dwyn ymlaen ar ôl amserlen gytûn a bennwyd gan yr awdurdodau lleol.
- Gofyn i swyddogion y cyngor gyflwyno adroddiad i'r Cyngor Llawn yn y Flwyddyn Newydd, yn nodi pa gamau mae modd eu cymryd yn y tymor byr i leihau effaith yr arfer niweidiol yma.
***********************************************************************************************
A. Trafod y Rhybudd o Gynnig isod sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol G. Davies, P Jarman, E, Webster, D. Grehan, E. Stephens, L. Jones, J. Williams, A. Cox, S. Evans, A. Chapman, S. Rees-Owen, M. Weaver, J. Davies, J. Cullwick, K. Morgan, H. Fychan ac E. Griffiths.
Mae'r Cyngor yma'n mynegi pryder ynghylch polisi llywodraeth y DU i recriwtio pobl ifainc 16 oed i'r fyddin. Llywodraeth y DU yw'r unig wlad o fewn NATO ac Ewrop sy'n gwneud hyn.
Mae modd i'r polisi yma gael effaith niweidiol ar bobl ifainc 16 a 17 oed sydd wedi'u recriwtio. Mae tystiolaeth yn dangos: -
1) Eu bod ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu lladd wrth eu gwaith na recriwtiaid h?n.
2) Eu bod nhw'n fwy tebygol o ddioddef problem iechyd meddwl fel PTSD, ac iselder.
3) Eu bod nhw'n fwy tebygol o fod yn gaeth i alcohol a chyffuriau
4) Eu bod nhw'n fwy tebygol o gyflawni hunanladdiad.
5) Bod 28% yn methu â chwblhau'r hyfforddiant sylfaenol.
Gwrthwynebwyd y polisi gan Gomisiynydd Plant Cymru ar y sail ei fod yn gwrthdaro â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau i'r Plentyn.
Mae'r Cyngor yn bwriadu ysgrifennu at Brif Weinidog y DU yn gofyn i'r polisi gael ei newid ar frys. Bydd copi o'r llythyr hefyd yn cael ei anfon at Brif Weinidog Cymru.
Cofnodion:
Derbyniwyd y Rhybudd o Gynnig canlynol yn enwau'r Cynghorwyr L Hooper, S Trask a J James:
“Mae nifer o unigolion a theuluoedd ledled Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn dyheu am fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, ac mae'r Cyngor yn ymdrechu i'w helpu i wireddu'r freuddwyd yma.
O ganlyniad i brisiau tai cynyddol a phrinder eiddo, mae gwireddu'r freuddwyd o fod yn berchen ar gartref yn ymddangos yn fwyfwy heriol i unigolion a theuluoedd. Un ffactor sydd wedi cyfrannu'n sylweddol at hyn yw tuedd gynyddol datblygwyr tai i gymryd rhan mewn arfer y cyfeirir ato'n gyffredin fel 'bancio tir', lle mae'r datblygwr yn llwyddo i sicrhau caniatâd cynllunio ond nad yw'n cyflawni'r datblygiad arfaethedig.
Mae hwn yn fater sy'n effeithio ar y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, ac mae'n berthnasol ar gyfer hyd at 4,517 eiddo a roddwyd caniatâd i'w hadeiladu yn y Fwrdeistref Sirol yma rhwng 2012/13 a 2019/20, ond sydd eto i'w hadeiladu.
Er bod nifer o ffactorau a all esbonio pam na chaiff cais llwyddiannus i adeiladu eiddo ei ddwyn ymlaen, mae'n amlwg bod llawer iawn o'r achosion hyn o ganlyniad i'r arfer o 'fancio tir'.
Yn ogystal ag atal llawer o'n preswylwyr rhag prynu eu cartrefi cyntaf, gall hyn hefyd gael effaith andwyol ar ymddiriedaeth preswylwyr yn y system gynllunio pan fydd datblygwyr yn 'bancio tir' ar safleoedd 'tir llwyd' - gan roi pwysau ar y Cynllun Datblygu Lleol i gynnig safleoedd newydd ar gyfer dyraniadau tai a allai fod yn llai addas ar gyfer datblygiad o'r fath.
Felly, mae'r Cyngor yma'n penderfynu:
- Y bydd Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Weinidog Newid Hinsawdd Cymru (y mae ei phortffolio yn cynnwys tai) yn gofyn bod Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn cael y grym i godi taliadau treth y cyngor ar geisiadau anghyflawn sydd ddim wedi'u dwyn ymlaen ar ôl amserlen gytûn a bennwyd gan yr awdurdodau lleol.
- Gofyn i swyddogion y cyngor gyflwyno adroddiad i'r Cyngor Llawn yn y Flwyddyn Newydd, yn nodi pa gamau mae modd eu cymryd yn y tymor byr i leihau effaith yr arfer niweidiol yma.
Yn dilyn trafodaeth ar y mater, PENDERFYNWYD – peidio â mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig.
(Nodwch: Roedd yr Aelodau canlynol o'r Gr?p Ceidwadol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Hooper a Chynghorydd y Fwrdeistref Sirol Trask, yn ogystal â'r Aelod Annibynnol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Belzak yn dymuno bod y cofnodion yn nodi eu bod nhw wedi pleidleisio o blaid y Rhybudd o Gynnig).
11B *********************************
Derbyniwyd y Rhybudd o Gynnig isod sydd yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol G. Davies, P Jarman, E, Webster, D. Grehan, E. Stephens, L. Jones, J. Williams, A. Cox, S. Evans, A. Chapman, S. Rees-Owen, M. Weaver, J. Davies, J. Cullwick, K. Morgan, H. Fychan ac E. Griffiths.
"Mae'r Cyngor yma'n mynegi pryderon ynghylch polisi llywodraeth y DU i recriwtio pobl ifainc 16 oed i'r fyddin. Llywodraeth y DU yw'r unig wlad o fewn NATO ac Ewrop sy'n gwneud hyn.
Mae modd i'r polisi yma gael effaith niweidiol ar bobl ifainc 16 a 17 oed sydd wedi'u recriwtio. Mae tystiolaeth yn dangos: -
1) Eu bod ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu lladd wrth eu gwaith na recriwtiaid h?n.
2) Eu bod nhw'n fwy tebygol o ddioddef problem iechyd meddwl fel PTSD, ac iselder.
3) Eu bod nhw'n fwy tebygol o fod yn gaeth i alcohol a chyffuriau
4) Eu bod nhw'n fwy tebygol o gyflawni hunanladdiad.
5) Bod 28% yn methu â chwblhau'r hyfforddiant sylfaenol.
Gwrthwynebwyd y polisi gan Gomisiynydd Plant Cymru ar y sail ei fod yn gwrthdaro â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau i'r Plentyn.
Mae'r Cyngor yn bwriadu ysgrifennu at Brif Weinidog y DU yn gofyn i'r polisi gael ei newid ar frys. Bydd copi o'r llythyr hefyd yn cael ei anfon at Brif Weinidog Cymru.
Yn dilyn trafodaeth ar y mater, PENDERFYNWYD – peidio â mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig.
(Noder: Roedd yr Aelodau canlynol o Gr?p Plaid Cymru, Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol; y Cynghorydd A Chapman, y Cynghorydd A Cox, y Cynghorydd J Cullwick, y Cynghorydd G Davies, y Cynghorydd J Davies, y Cynghorydd S Evans, y Cynghorydd H Fychan, y Cynghorydd D Grehan, y Cynghorydd P Jarman, y Cynghorydd L Jones, y Cynghorydd K Morgan, y Cynghorydd S Rees-Owen y Cynghorydd E Stephens, y Cynghorydd M Weaver, y Cynghorydd E Webster a'r Cynghorydd J Williams a'r Aelod Annibynnol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Belzak yn dymuno bod y cofnodion yn nodi eu bod nhw wedi pleidleisio o blaid y Rhybudd o Gynnig
Roedd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol canlynol o Gr?p Annibynnol RhCT; y Cynghorydd P Howe, y Cynghorydd K Jones, y Cynghorydd W Jones, y Cynghorydd W Owen a'r Cynghorydd L Walker a Chynghorwyr y Gr?p Ceidwadol; y Cynghorydd L Hooper a'r Cynghorydd S Trask yn dymuno bod y cofnodion yn nodi eu bod nhw wedi pleidleisio yn erbyn y Rhybudd o Gynnig).