Agenda item

Derbyn cynrychiolwyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau mewn perthynas â gwaith adfer yn dilyn Covid, y rhaglen wella, Gwasanaethau Mamolaeth a gwaith allweddol arall y Bwrdd.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Mr Emrys Elias, ei hun a phedwar aelod o'r Garfan Weithredol, Mr P Mears, Prif Weithredwr, Dr Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Mr Greg Dix, Cyfarwyddwr Nyrsio a Mr Gareth Robinson, Prif Swyddog Gweithredol.

 

Trwy gymorth sleidiau Powerpoint cyflwynodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Mr Paul Mears, drosolwg o faterion allweddol o dan y penawdau canlynol:

 

  • Diweddariad o ran Covid
  • Rhaglen Adfer Gofal Dewisol / Wedi'i Gynllunio
  • Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol

 

Yn ogystal â'r materion a oedd wedi'u cynnwys yn y cyflwyniad PowerPoint, rhoddodd y Prif Weithredwr wybodaeth am y trefniadau o ran ymweliadau sydd ar waith ar draws gwasanaethau ysbytai ar hyn o bryd, sydd wedi'u rhoi ar waith yn unol â'r Canllawiau Cenedlaethol. Ychwanegodd fod statws coch, oren a gwyrdd yn bodoli o ran ymweliadau, ac ar hyn o bryd mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dilyn trefniadau statws coch, gyda chyfyngiadau ar ymweliadau. Serch hynny, mae hyn yn destun adolygiad wrth i gyfraddau trosglwyddo'r feirws o fewn yr ysbyty leihau. O safbwynt y gwasanaethau mamolaeth, mae ymweliadau wedi parhau, gyda phartneriaid geni yn dod i sganiau dyddio, er mae ymweliadau a'r wardiau ôl-enedigol wedi'u cyfyngu er mwyn lleihau'r risg bod ymwelwyr allanol yn trosglwyddo'r feirws i famau a babanod newydd.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Gweithredol ddiweddariad hefyd ar yr uned mân anafiadau yn Ysbyty Cwm Cynon, sydd wedi profi trafferthion o ran cynnal gwasanaeth, gan fod dwy o'r pedair nyrs sy'n gweithio yna i ffwrdd o'r gwaith oherwydd salwch hir dymor ar hyn o bryd. Mae'r gwasanaeth felly wedi cael ei ymgorffori i wasanaeth Ysbyty'r Tywysog Siarl fel bod modd ei weithredu mewn ffordd fwy cyson ac effeithiol. Y gobaith yw y bydd yr uned yn ailagor yn y Flwyddyn Newydd pan fydd y staff yn ailafael yn eu dyletswyddau.

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i aelodau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am eu cyflwyniad a'r berthynas waith agos â'r awdurdod lleol yn ystod pandemig Covid-19, yn arbennig o fewn y sector gofal cymdeithasol sydd dan bwysau aruthrol. Cydnabu'r Arweinydd ewyllys dda pawb er gwaethaf y prinder staff yn y tymor byr a'r anawsterau sy'n cael eu profi ar hyn o bryd.

Cyfeiriodd yr Arweinydd at adroddiad diweddaraf y Panel Annibynnol ar Oruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth a nododd fethiannau mawr mewn dros 20 o achosion, a chyhoeddodd ei fod yn teimlo cyfiawnhad am ddweud ei ddweud ar yr adeg honno, a bod celwydd wedi'i ddweud wrtho yngl?n â'r methiannau yn yr achosion hynny, lle gallai'r canlyniad wedi bod yn dra gwahanol pe na bai prinder staff a phe bai digwyddiadau difrifol wedi'u hadrodd. Gofynnodd yr Arweinydd am gadarnhad a oedd yr holl argymhellion a godwyd o ganlyniad i'r adolygiad wedi cael sylw. Rhoddodd gymeradwyaeth i'r arweinwyr presennol a'r garfan weithredol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am y gwaith maen nhw wedi'i wneud i fynd i'r afael a'r materion hyn.

Cadarnhaodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fod y mesurau diogelu a oedd modd rhoi yn eu lle ar unwaith wedi'u rhoi ar waith, a rhoddodd wybod fod y Panel Annibynnol ar Oruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth wedi'i gomisiynu'n uniongyrchol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg gan eu bod o'r farn nad oedd y Gwasanaethau Newyddenedigol yn gweithredu ar y lefel angenrheidiol. Ychwanegodd y bu gwelliannau i'r ymarfer clinigol yn dilyn yr adolygiad, gan fod fferyllydd llawn-amser bellach yn Ysbyty'r Tywysog Siarl i ragnodi ar gyfer yr Uned Newyddenedigol a chynnig cymorth. Datblygiad pwysig arall yw bod cysylltiadau gwell wedi'u datblygu gyda'r canolfannau arbenigol yng Nghaerdydd ac Abertawe, fel bod modd i feddygon ymgynghorol a nyrsys newyddenedigol gael mynediad at arbenigedd a derbyn hyfforddiant a datblygu'r sgiliau angenrheidiol. Bydd argymhellion eraill yn cymryd rhagor o amser i'w gweithredu.

Gofynnodd y Cynghorydd P Jarman y cwestiynau canlynol:

- I ddechrau, roedd Heddlu De Cymru wedi cymryd diddordeb yn y Gwasanaethau Mamolaeth, a yw hyn yn wir o hyd ac a oes unrhyw arwydd y bydd y Gwasanaethau Newyddenedigol yn cael eu rhyddhau o fesurau arbennig?

- A wnewch chi egluro'r sefyllfa gydag adrannau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Siarl gan nad yw'n ymddangos ei fod yn ymdopi'n dda ag amseroedd aros nac argaeledd gwelyau?

Ymatebodd y Prif Weithredwr nad oedd yr atgyfeiriad cychwynnol at Heddlu De Cymru wedi'i symud yn ei flaen. Cydnabu fod rhai o'r heriau yn Ysbyty'r Tywysog Charles yn ganlyniad i gynllun llawr yr adran ac o ganlyniad i lif y cleifion sy'n aros am leoliadau dilynol i gartrefi gofal neu mewn achosion eraill, gofal lliniarol, sy'n cael ei adolygu, er mwyn rhyddhau lle yn yr ysbyty. Dywedodd fod staff yn gweithio'n galed iawn gydag arweiniad a chyngor diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru, ond lle nad oes modd datrys y broblem yn sydyn, mae'r carfanau yn ceisio sicrhau bod profiad y claf gystal ag y gallai fod.

Gofynnwyd cwestiynau eraill fel a ganlyn:

- Sut mae rhestri Llawfeddygaeth Ddewisol yn cael eu rheoli ac a ydy'r Bwrdd yn gwrando ar ei feddygon ymgynghorol?

- Awgrymwyd bod Meddygfeydd Teulu yn Aberdâr yn cynghori cleifion i fynd yn uniongyrchol i adrannau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Siarl gan nad oes apwyntiadau ar gael yn y meddygfeydd teulu

- Pa gamau sy'n cael eu cymryd i ddarparu brechiadau i bobl ifanc fregus ag awtistiaeth neu anawsterau dysgu? Nid yw rhai o'r profiadau hyd yma wedi bod yn foddhaol.

- Mae stori newyddion ddiweddar gan y BBC wedi bod am 2,000 o gleifion yn marw yn yr ysbyty ar ôl dal y firws, beth yw'r sefyllfa ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg?

Dywedodd Prif Weithredwr y Bwrdd y byddai'n mynd i'r afael â'r achos penodol am y Feddygfa Teulu yn Aberdâr yn dilyn y cyfarfod ac yn sicrhau bod ymateb ar gael i'r Cynghorydd unigol, er ei fod yn cydnabod y pwysau sydd ar feddygon teulu ar yr adeg hon wrth iddynt ymdrechu i ateb y galw. Ymatebodd i fater pobl ifanc ag awtistiaeth / anawsterau dysgu yn mynychu'r canolfannau brechu a rhoddodd wybod fod negeseuon wedi'u cylchredeg i sicrhau bod trefniadau ar waith sy'n sensitif i anghenion pobl ifanc, fel ystafell ar wahân i roi'r brechlyn. Ychwanegodd fod trefniadau bellach ar waith i sicrhau bod eu profiad yn un boddhaol.

Mewn ymateb i'r ffigurau cenedlaethol a ryddhawyd ynghylch y marwolaethau sy'n gysylltiedig â Covid mewn ysbytai a nodi a oedd y marwolaethau oherwydd haint a gafwyd yn y gymuned neu oedd y claf wedi dal Covid tra ei fod yn yr ysbyty, dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg eu bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddeall y data a byddai'n rhannu'r canfyddiadau gyda'r teuluoedd dan sylw a gyda sefydliadau partner allweddol fel yr awdurdod lleol.

Mewn ymateb i'r cwestiwn am restri aros orthopedig, rhoddodd y Prif Swyddog Gweithredol wybod bod y cleifion hynny sy'n cael eu hatgyfeirio ar y llwybr brys/argyfwng yn derbyn triniaeth yn unol â'r amserlen arferol. Mae'r meddygon ymgynghorol orthopedig yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ar flaen y gad yn yr ymateb i'r rhaglen adfer dewisol gan gynnwys ceisio cynyddu'r capasiti ar gyfer cyflawni llawdriniaethau orthopedig ar safleoedd ysbytai eraill er mwyn ehangu'r ddarpariaeth a lleihau'r nifer o bobl sy'n aros am driniaeth yn gynt.

Gofynnwyd cwestiynau pellach:

- Beth ydych chi'n ei wneud i weithio mewn partneriaeth â'r Meddygfeydd Teulu?

- A yw pobl iau yn derbyn triniaeth o flaen cleifion h?n?

- A allwch chi roi gwybod a yw'r trefniadau trosglwyddo o fewn y Gwasanaethau Mamolaeth wedi gwella?

Esboniodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg bod y Bwrdd Iechyd yn gweithio'n agos gyda meddygfeydd teulu ond doed dim datrysiad sydyn i'r heriau mae cydweithwyr ym maes gofal sylfaenol yn eu hwynebu. Ychwanegodd ei bod yn hanfodol bod cleifion yn cael mynediad at eu meddygon teulu pan fydd ei angen arnynt ond mae lle i'r prosesau rhwng yr ysbyty a'r meddyg teulu fod yn fwy llyfn. Cydnabu fod yna hefyd ffyrdd pellach i'r Bwrdd Iechyd gael gwared ar rai o elfennau gweinyddol gwaith y meddyg teulu i sicrhau bod eu hamser clinigol yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd well.

Cadarnhaodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg nad oes strategaeth ar waith sy'n golygu bod cleifion iau yn cael eu trin o flaen cleifion h?n, mae'r triniaethau'n seiliedig ar yr amser mae'r claf eisoes wedi bod yn aros, nid yw oedran yn ffactor. I gloi, dywedodd y Prif Weithredwr fod prosesau ar waith ar gyfer adrodd am gwynion a digwyddiadau yn ymwneud â Gwasanaethau Mamolaeth a gwnaed newidiadau i'r prosesau trosglwyddo.

Mynegodd Arweinydd y Cyngor ei ddiolch i gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am ddod ac awgrymodd y byddai ymweliad arall â'r Cyngor Llawn yn cael ei drefnu yn y Gwanwyn i drafod llawfeddygaeth ddewisol, Gofal Sylfaenol a chyflwyno'r brechlyn. .

Dywedwyd wrth yr aelodau y dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau pellach at Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i gael ymateb.