Agenda item

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol sy'n rhoi crynodeb i'r aelodau am gyflawniad y Cyngor yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon (hyd at 30 Medi 2021), mewn perthynas â materion ariannol a gweithredol.

 

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Cyllid a Gwella adroddiad a oedd yn nodi cyflawniad ariannol a gweithredol y Cyngor erbyn diwedd Chwarter 2 2021/22. 

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod sefyllfa cyllideb refeniw Chwarter 2 yn rhagamcanu gorwariant o £0.726 miliwn ac yn adlewyrchu'r pwysau allweddol parhaus sydd ar y Gwasanaethau i Oedolion a'r Gwasanaethau i Blant yn bennaf. Ychwanegodd fod gwaith ar y gweill ar draws yr holl wasanaethau yn rhan o drefniadau rheoli gwasanaeth a threfniadau rheoli ariannol cadarn y Cyngor.

 

Cyfeiriwyd yr Aelodau at sefyllfa'r gyllideb refeniw a ragwelir yng nghyd-destun effaith sylweddol a pharhaus Covid-19 ar ddarpariaeth gwasanaethau a dywedwyd wrth yr Aelodau bod y gyllideb yn cyfrif cyllid ychwanegol Llywodraeth Cymru i gefnogi costau ychwanegol a cholledion incwm, o ganlyniad uniongyrchol i'r pandemig.   Cafodd yr Aelodau sicrwydd y bydd gwaith yn parhau i fonitro sefyllfa ariannol y Cyngor, adnewyddu rhagolygon ariannol wrth i wybodaeth wedi'i diweddaru ddod ar gael a pharhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at bwysigrwydd darparu cyllid ychwanegol i gefnogi goblygiadau ariannol Covid-19 a phwysau parhaus costau parhaol.

 

Roedd buddsoddiad cyfalaf ar 30 Medi 2021 yn £31.718 miliwn gyda nifer o gynlluniau yn cael eu hail-broffilio yn ystod y chwarter i adlewyrchu newidiadau mewn costau yn ogystal â cheisiadau am grant allanol newydd sydd wedi'u cymeradwyo. Mae'r cynnydd a wnaed yn ystod 6 mis cyntaf y flwyddyn yn cynnal dull y Cyngor o fuddsoddi hir dymor a pharhaus yn y seilwaith. Mae effaith hynny yn cefnogi gwelliannau gweladwy mewn asedau ledled y Fwrdeistref Sirol, gan ystyried gofynion diogelwch Covid-19.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol ei bod yn braf gweld bod gwaith ar y gweill ar draws yr holl wasanaethau yn rhan o drefniadau cadarn y Cyngor ar gyfer rheoli ariannol i gyfrannu at leihau'r bwlch rhwng y sefyllfa ariannol a'r gyllideb. Ychwanegodd ei bod yn bwysig ein bod yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at bwysigrwydd darparu cyllid ychwanegol i gefnogi goblygiadau ariannol COVID-19 yn ogystal â lleddfu'r pwysau parhaus.  Daeth i'r casgliad ei bod yn braf gweld cynnydd yn cael ei wneud gyda phrosiectau buddsoddi cyfalaf er gwaethaf y pandemig.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd ei fod hefyd yn falch o weld cynnydd gyda'r prosiectau, ac roedd wedi gallu ymweld â rhai o ysgolion yn y Fwrdeistref i weld y cynnydd hynny ei hun.   Cyfeiriodd at y pwysau parhaus ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac i Blant, a oedd yn gysylltiedig â rhyddhau cleifion o'r ysbyty.  Rhoddodd sicrwydd i'r Aelodau eu bod yn dal i bwyso ar Lywodraeth Cymru am gyllid ychwanegol ar gyfer y maes hwnnw.

 

PENDERFYNWYD: 

 

1. Nodi effaith barhaus pandemig Covid-19 ar ddarparu gwasanaethau ac, ochr yn ochr, ailgyflwyno gwasanaethau wrth i gyfyngiadau Covid-19 gael eu codi'n raddol. Refeniw

 

2. Nodi a chytuno ar sefyllfa alldro refeniw'r Gronfa Gyffredinol ar 30 Medi 2021 (Adran 2 o'r Crynodeb Gweithredol) a nodi'r cyllid parhaus gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau yn sgil Covid-19. Cyfalaf

 

3. Nodi sefyllfa alldro cyfalaf y Cyngor fel y mae ar 30 Medi 2021 (Adrannau 3a-e o'r Crynodeb Gweithredol).

 

4. Nodi manylion Dangosyddion Materion Darbodusrwydd Cylch Rheoli'r Trysorlys fel y mae ar 30 Medi 2021 (Adran 3f o'r Crynodeb Gweithredol). Cynllun Corfforaethol a Blaenoriaethau

 

5. Nodi diweddariadau cynnydd Chwarter 2 ar gyfer blaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor (Adrannau 5 a-c o'r Crynodeb Gweithredol).

 

6. Nodi'r adroddiad cynnydd i wella ymateb tymor byr a thymor hir y Cyngor i ddigwyddiadau tywydd eithafol (adran 6 o'r Grynodeb Weithredol)

 

Dogfennau ategol: