Agenda item

Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i drafod cynigion cychwynnol y Comisiwn Ffiniau i Gymru a rhoi adborth i gyfarfod y Cyngor ar 20 Hydref 2021.

 

Nodwch: Mae holl Aelodau'r Cyngor wedi'u gwahodd i gyfrannu at yr eitem yma.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad ac amlinellodd bwrpas y cyfarfod, i gynnig bod y Cyngor yn mabwysiadu ymateb ffurfiol yr awdurdod lleol yn dilyn ymgynghoriad y Pwyllgor Trosolwg a Craffu ar y trefniadau newydd arfaethedig o etholaethau seneddol.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor fod y dull

arfaethedig hyn yn cynrychioli cam cyntaf y broses, gyda dau ymgynghoriad ychwanegol ar wahân i ddod cyn i'r cynigion terfynol gael eu cyflwyno, a'r disgwyl y bydd y newidiadau terfynol yn dod i rym ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf. Rhoddodd y Cyfarwyddwr rhywfaint o wybodaeth allweddol gan gynnwys nifer yr etholaethau yng Nghymru, a fydd yn gostwng o 40 i 32, a'r ffaith bod rheolau newydd San Steffan yn mynnu bod pob etholaeth sy'n cael ei llunio gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru yn cynnwys rhwng 69,724 a 77,062 o bleidleiswyr cofrestredig. Cafodd yr aelodau eu hannog i fynegi eu barn gyffredinol yn ystod y cam cyntaf hwn er mwyn i'r Comisiwn ei hystyried.

 

Cydnabu'r aelodau fod y dasg y mae'r Comisiwn Ffiniau wedi ymgymryd â hi yn un gymhleth, ac roedden nhw'n deall na fyddai llawer o gyfle i newid y cynigion cychwynnol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol. Â hynny mewn golwg, ac yn dilyn arweiniad blaenorol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, cyfyngodd yr aelodau eu sylwadau i'r egwyddorion ehangach y byddai'r Comisiwn Ffiniau yn eu hystyried.

 

Nododd yr aelodau bryderon y gallai'r cynigion newydd beri dryswch i drigolion y Fwrdeistref Sirol wrth iddynt wahaniaethu rhwng cynrychiolaeth leol ar lefel y Senedd ym Mae Caerdydd a'r Cyngor. Mynegodd yr aelodau bryder hefyd fod etholaethau cyfagos fel Gogledd Caerdydd a Gorllewin Caerdydd yn ymddangos eu bod yn cael eu cadw yn y cynigion newydd, ond gyda wardiau unigol o Rondda Cynon Taf wedi'u hychwanegu atynt.

 

Cyflwynodd yr aelodau bwyntiau mewn perthynas â wardiau etholaethol Pont-y-clun, Ffynnon Taf a Nantgarw, a mynegon nhw bryderon am etholaethau newydd Gorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd, gan eu bod yn teimlo bod cysylltiadau lleol cyfyngedig rhyngddynt. Nododd yr aelodau'n gyffredinol y byddai modd i'r cyhoedd deimlo bod pedair etholaeth Rhondda Cynon Taf wedi'u torri'n ddarnau gan fod hyn yn 'opsiwn haws' na chynnig ailgynllunio ffiniau Seneddol y brifddinas.

 

Nododd yr aelodau bryderon tebyg am gymunedau Llanharan a Brynna yn cael eu cynnwys yn etholaeth Cwm Rhondda yn y dyfodol. Roedden nhw'n teimlo bod y cymunedau hyn ar wahân yn diwylliannol ac yn hanesyddol, a gofynnon nhw a fyddai cyfle i'r cymunedau hyn ddod yn rhan o etholaeth newydd Pen-y-bont ar Ogwr neu Fro Morgannwg, neu'n rhan o etholaeth newydd Pontypridd. Roedd yr Aelodau'r awyddus i ddal ati i ddefnyddio enw'r Rhondda o fewn unrhyw drefniadau etholaethol yn y dyfodol o ganlyniad i'w arwyddocâd hanesyddol yn hanes Cymru fodern ac o fewn y Fwrdeistref Sirol ehangach.  

 

Holodd yr aelodau pam y bydd Evanstown, yn rhan o etholaeth newydd Cwm Rhondda er ei fod wedi'i leoli yn etholaeth Ogwr ac yn cysylltu â'r Gilfach Goch.

 

Roedd yr aelodau'n unfryd yn eu barn fod rhannu etholaethau Cwm Cynon yn cael ei weld fel dewis hawdd, a chyfeiriwyd at sylwadau'r Comisiwn fod etholaeth wedi'i llunio o'r ardaloedd hyn ddim yn dilyn daearyddiaeth y cymoedd o'r gogledd i'r de. Nodwyd y byddai gan lawer o breswylwyr Aberdâr fwy o gysylltiad â Merthyr Tudful na Pontypridd er enghraifft, ond tynnodd yr Aelodau sylw at y ffaith y byddai hyn yn wir yn achos trigolion Aberaman hefyd, ac roedden nhw eisiau i'r pwynt hwn gael ei nodi hefyd.

 

Nododd yr Aelodau ei bod hi'n bwysig i gynigion yn y dyfodol ystyried trefniadau etholiadol Rhondda Cynon Taf ar gyfer y dyfodol. Cafodd y rhain eu cyflwyno'n ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, a byddan nhw mewn grym o fis Mai 2022.

 

I gloi, PENDERFYNODD yr aelodau y byddai'r sylwadau a'r adborth

yn cael eu cyflwyno i'w trafod gan y Cyngor yn ei gyfarfod ar 20 Hydref

2021 i'w fabwysiadu’n ymateb ffurfiol ar ran yr awdurdod lleol i'r ymgynghoriad

ar y trefniadau newydd arfaethedig ar gyfer etholaethau seneddol.

 

 

Dogfennau ategol: