Agenda item

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyflawniad Gwasanaethau a'u Gwella ddrafft o Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol Rhondda Cynon Taf, sy'n nodi'r cynnydd yn 2020/21 a'r cynlluniau ar gyfer 2021/22 mewn perthynas â blaenoriaethau strategol y Cyngor.  Mae hefyd yn nodi sut mae'r Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol yn cyflawni'r ddyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor, fel gyda phob Cyngor yng Nghymru, i gyhoeddi amcanion, cymryd pob cam rhesymol i gyflawni'r amcanion hynny a llunio adroddiad blynyddol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod yr Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol yn adroddiad cytbwys sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi'i osod yng nghyd-destun yr heriau digynsail a gyflwynwyd gan bandemig Covid 19 a'r adferiad ers Storm Dennis. Ychwanegodd fod yr wybodaeth yn cynnwys ystod o ffynonellau, gwybodaeth am wasanaeth, adroddiadau gan reoleiddwyr allanol a rhoddwyd sylw allweddol i adroddiad cyflawniad diwedd blwyddyn 2020/21 y Cyngor a adroddwyd i'r Cabinet ac a gafodd ei graffu gan y Pwyllgor Craffu – Cyllid a Chyflawniad ym mis Gorffennaf 2021.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 18 Hydref 2021, wedi argymell y dylai'r Cyngor gymeradwyo'r Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol. Yn ddibynnol ar drafodaeth y Cyngor, bydd y cynlluniau gweithredu y cytunwyd arnyn nhw ar gyfer y tair blaenoriaeth Pobl, Lle a Ffyniant yn rhan o'r Adroddiad Cyflawniad Chwarterol a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ac yn cael ei graffu gan y Pwyllgor Craffu ar faterion Cyllid a Chyflawniad yn ystod y flwyddyn. Mae gan reoleiddwyr allanol y Cyngor, Archwilio Cymru, ddyletswydd statudol i archwilio'r Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol a fydd yn cael ei adrodd yn ffurfiol i'r Cyngor maes o law.

 

Talodd Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol deyrnged i holl staff, staff rheng flaen, gweithwyr gofal cymdeithasol a phartneriaid fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am eu gwaith yn ystod y pandemig Covid 19.

 

Yn dilyn trafodaethau, dywedodd yr Arweinydd fod pwyllgorau craffu’r Cyngor yn parhau i graffu ar ymateb parhaus y Cyngor i’r pandemig ac wrth symud ymlaen mae’n debygol y gofynnir iddo, fel Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ddarparu tystiolaeth i ymchwiliad Cymreig ac ymchwiliad y Deyrnas Unedig i’r pandemig ond pwysleisiodd na ddylai fwrw bai, dylai ganolbwyntio ar ddysgu gwersi.

 

Lle nodwyd hynny, cadarnhawyd y byddai gwybodaeth yn cael ei darparu i'r Aelodau yn dilyn y cyfarfod. Yn ogystal â'r ymholiadau eraill a godwyd, dywedodd y Prif Weithredwr fod adroddiad diweddar ynghylch prosiectau bioamrywiaeth y Cyngor wedi'i gyflwyno i'r Cabinet i hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol. Yn yr un modd, cyflwynir adroddiad yn flynyddol i'r Cabinet yn amlinellu nifer a natur y cwynion i'r Awdurdod Lleol. RhCT yw'r Awdurdod Lleol sy'n derbyn yr ail nifer isaf o gwynion fesul person.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo drafft yr Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol fel y'i cymeradwywyd gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 18 Hydref 2021.

 

(Noder: Roedd yr Aelodau a oedd yn bresennol o Gr?p Annibynnol RhCT (Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol M Powell, L Walker, K Jones, W Owen) a Chynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Belzak yn dymuno cofnodi'u henwau'n rhai sy'n gwrthwynebu cymeradwyo drafft yr Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol)

 

Dogfennau ategol: