Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.
(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)
Cofnodion:
Cwestiynau gan yr Aelodau
Dywedwyd wrth yr Aelodau y derbyniwyd ymddiheuriadau o absenoldeb gan yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Rosser, yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Oedolion a’r Gymraeg, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hopkins a Chadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A S Fox ac felly byddai ymatebion ysgrifenedig mewn perthynas â chwestiynau 4, 7, 8 a 10 yn cael eu rhannu â'r holl Aelodau yn dilyn y cyfarfod.
Gofynnwyd i'r Aelodau nodi hefyd na fydd cwestiynau 5 a 18 yn codi yn sgil ymddiheuriadau gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S M Powell a P Howe.
1. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Yeo i Arweinydd y Cyngor – Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:
“A all Arweinydd y Cyngor wneud datganiad ar y cynlluniau i ddatblygu Coridor Trafnidiaeth y Gogledd Orllewin?”
Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:
Dywedodd yr Arweinydd fod cam cychwynnol y gwaith wedi'i gomisiynu gan Drafnidiaeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Dinas Caerdydd a Llywodraeth Cymru a bod astudiaeth drafnidiaeth ar Goridor y Gogledd Orllewin wedi'i lunio, gyda'r gobaith o geisio gwella cysylltedd teithio rhwng cymunedau yn RhCT a gogledd orllewin Caerdydd.
Amlygodd yr Arweinydd rai o'r cynlluniau penodol sydd wedi'u nodi i wella cysylltiadau cerdded, beicio a thrafnidiaeth ar hyd y Coridor erbyn 2025, er enghraifft, cynyddu nifer y gwasanaethau ar Linell y Ddinas i o leiaf bedwar trên yr awr rhwng Caerdydd Canolog a Radur gyda gorsaf newydd ym Melin Trelái, gwelliannau i orsaf reilffordd Ystad Ddiwydiannol Trefforest a gwasanaeth parcio a theithio gyda bysiau strategol ger Cyffordd 33 yr M4. Mae'r pecynnau hyn o fesurau yn cynrychioli ffordd fwy teg o deithio.
Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Yeo:
Rwy'n croesawu prosiect Llwybr Trafnidiaeth Beddau. Pa fath o fanteision mae'r Arweinydd yn credu bydd y cynllun yn ehangach yn eu cynnig?
Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:
Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn brosiect sylweddol a fydd yn cynnig llawer o fanteision i'r trigolion lleol a'r rhai sy'n cymudo ar hyd yr A4119 sy'n llawn tagfeydd, a'i fod yn gobeithio y byddai'n dod â phecyn o fesurau a fyddai'n cynnig dewis arall cynaliadwy yn lle'r rhwydwaith ffyrdd sy'n dod dan bwysau cynyddol.
2. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol E George i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:
“A all Arweinydd y Cyngor amlinellu pa drafodaethau sydd wrthi'n cael eu cynnal trwy'r Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru neu'n uniongyrchol trwy RhCT mewn perthynas â setliad cyllideb y flwyddyn nesaf?”
Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:
Dywedodd yr Arweinydd fod pob un o 22 Arweinydd y Cynghorau yn cwrdd yn rheolaidd â'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans, ac roedd yr Arweinydd wedi cyfarfod â'r is-gr?p Cyllid a Llywodraeth Cymru yn ddiweddar. Mae'r trafodaethau wedi bod yn gadarnhaol hyd yn hyn. Dywedodd y bydd Llywodraeth Cymru yn gweld cynnydd sylweddol yn eu cyllideb y flwyddyn nesaf, yn rhannol yn sgil y cynnydd mewn Yswiriant Gwladol. Ar 27 Hydref 2021, bydd adolygiad gwariant cynhwysfawr yn cael ei gyhoeddi.
Ychwanegodd yr Arweinydd y bydd cyfran fawr o unrhyw arian ychwanegol i Lywodraeth Leol yn mynd yn ôl i Drysorlys Llywodraeth y DU oherwydd y cynnydd mewn Yswiriant Gwladol. Cafwyd buddsoddiad sylweddol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn eleni i leddfu'r pwysau ar ofal cymdeithasol ac mae’n debyg y bydd cyllid pellach ar gyfer gofal cymdeithasol yn y dyfodol.
Dywedodd yr Arweinydd, er bod y cyllid yn ystod y flwyddyn yn sylweddol ac i'w groesawu, mae'n arwydd o'r pwysau ar y sector gofal cymdeithasol ac y bydd yn cael llai o effaith yn y flwyddyn i ddod oherwydd gofynion diweddaru sylfaenol ar gyfer costau Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Dywedodd yr Arweinydd y dylid lobïo Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru cyn y 27 Hydref i sicrhau bod yr arian ychwanegol yn cael ei roi i lywodraethau lleol.
I gloi, nododd yr Arweinydd fod y Llywodraeth yn darparu gwerthoedd a dosraniadau grant dangosol nawr er mwyn i awdurdodau lleol allu cynllunio eu cyllidebau yn effeithlon.
Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol E George:
“Beth yw blaenoriaethau’r Arweinydd ar gyfer y flwyddyn nesaf?”
Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:
Dywedodd yr Arweinydd mai gofal cymdeithasol fydd prif flaenoriaeth y Cyngor y flwyddyn nesaf a'r maes fydd yn derbyn y rhan fwyaf o unrhyw gyllid ychwanegol. Mae ysgolion bob amser wedi cael eu gwarchod ac yn parhau i gael eu gwarchod, a llynedd defnyddiwyd cyllid sylweddol i hybu gwasanaethau cymorth fel Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd sydd wedi chwarae rhan allweddol wrth sicrhau iechyd a lles cyhoeddus ein cymunedau, yn ogystal â Gwasanaethau Ieuenctid y Cyngor. I gloi, dywedodd yr Arweinydd bod y broses ymgynghori ar y gyllideb ar y gweill a chyn bo hir bydd yr Aelodau'n derbyn adroddiad ar oblygiadau'r Setliad Dros Dro.
3. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol L M Adams i’r Aelod o’r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol, y Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M A Norris:
“A oes modd i'r Aelod o'r Cabinet ddarparu diweddariad ar gyflwyno prosiect y Cyngor i gyflwyno Wi-Fi am ddim yng nghanol ein trefi?
Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Norris:
Cadarnhaodd y Cynghorydd Norris fod y cynllun yn rhan o gymorth ehangach y Cyngor i adfywio canol trefi. Mae'n cefnogi masnachwyr i weithredu'n ddigidol ac yn eu helpu i gynyddu eu presenoldeb ar-lein i gysylltu â rhagor o gwsmeriaid. Mae hefyd yn gymhelliant ychwanegol i annog preswylwyr i siopa'n lleol. Mae'r gwasanaeth wedi'i achredu'n llawn gan y gwasanaeth Friendly Wi-Fi, sy'n gynllun gan y llywodraeth sy'n rhwystro pobl rhag cyrchu tudalennau gwe a chynnwys amhriodol a nodwyd gan y Internet Watch Foundation wrth ddefnyddio gwasanaeth Wi-Fi y Cyngor. Mae hyn yn rhoi hyder i breswylwyr y gellir mwynhau'r gwasanaeth a'i ddefnyddio'n ddiogel.
Dywedodd y Cynghorydd Norris fod Wi-Fi am ddim wedi'i gyflwyno i ganol tref Tonypandy yn ddiweddar ac erbyn diwedd y mis rhagwelir y bydd gan yr olaf ar y rhestr, canol tref Pontypridd, Wi-fi am ddim hefyd. Bu'n rhaid symud dyddiad cwblhau'r prosiect ym Mhontypridd yn sgil cymhlethdodau cysylltu gwasanaeth band-eang y Cyngor yn Nh? Sardis i'r system. Serch hynny, mae'r profion olaf ar y signalau cyn lansio ar waith.
I gloi, nododd y Cynghorydd Norris mai'r addewid gwreiddiol yn ystod yr Etholiad diwethaf oedd treialu Wi-Fi am ddim yng nghanol 7 o brif drefi'r ardal ac roedd yn un o'r 12 addewid craidd a wnaed. Canol Tref Pontypridd yw'r ardal olaf ar y rhestr o ran cyflawni'r prosiect Wi-Fi am ddim.
Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.
4. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Bonetto i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:
“A oes modd i Arweinydd y Cyngor roi diweddariad ar ba drafodaethau a gynhaliwyd gyda Thrafnidiaeth Cymru ar gynlluniau Metro De Cymru a rhoi diweddariad ar y gwaith i baratoi ar gyfer trydaneiddio llinellau’r Cymoedd?”
Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:
Esboniodd yr Arweinydd ei fod, yn ei rôl fel Arweinydd y Cyngor, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac fel Prif Lefarydd Trafnidiaeth Cymru yn cynnal trafodaethau rheolaidd â Thrafnidiaeth Cymru. Fel ymhob diwydiant, bu rhywfaint o oedi o ran cynnydd yn sgil Covid, ond mae gwaith i osod polion yn y Cymoedd ar gyfer y gwifrau uwch ben y rheilffordd wedi dechrau. Amlygodd fod y gwaith gosod polion gyda pheiriant yn mynd i fod yn dawel, fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o bolion angen gwaith morthwylio, ac mae hynny'n waith sy'n achosi cryn dipyn o aflonyddwch. Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau yng Nghwm Cynon, bydd yn symud ymlaen i Gwm Rhondda y flwyddyn nesaf. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi nodi bod rhwng 3 a 6 mis o oedi yn amserlen y prosiect ond mae wedi ymrwymo i drydaneiddio Cledrau'r Cymoedd yn llawn gyda threnau newydd wedi'u harchebu ac mae'r gwaith i ddepo Ffynnon Taf ar y gweill.
Cwestiwn Ategol gan y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol J Bonetto:
“A all yr Arweinydd ddarparu gwybodaeth am ansawdd y trenau newydd a rhai o’r nodweddion ychwanegol fydd ganddynt?"
Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:
Dywedodd yr Arweinydd ei fod wedi cael cyfle yn ddiweddar i weld modelau'r trenau newydd i weld yn uniongyrchol yr ansawdd gwell a'r nodweddion megis WI-FI, gwefryddion ffôn ger pob sedd gyda phlyg ar gyfer gliniaduron. Mae yna hefyd fannau pwrpasol ar gyfer beiciau, yn arbennig i aelodau'r cyhoedd sydd eisiau manteisio ar deithio llesol a beicio i'r orsaf.
Esboniodd yr Arweinydd fod y trenau newydd yn dawelach a fydd hynny o fudd i'r preswylwyr sy'n byw ger y rheilffyrdd. Bydd trenau'n gweithredu yn hwyrach yn y nos, yn amlach ac yn cynnig gwasanaeth mwy effeithlon ar y penwythnosau. Ychwanegodd fod y trenau newydd yn gyflymach. Bydd y gwasanaeth o Aberdâr i Gaerdydd a'r gwasanaeth o Dreherbert i Gaerdydd oddeutu 14 munud yn gyflymach na'r gwasanaethau presennol. Bydd y trenau newydd yn cynnig gwasanaeth cyhoeddus mwy hyfyw a deniadol i gymudwyr.
5. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G P Thomas i Arweinydd y Cyngor - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:
“A all Arweinydd y Cyngor ddarparu diweddariad ar atyniad Zip World, gan fanylu ar nifer y swyddi gafodd eu creu, nifer yr ymwelwyr i’r atyniad hyd yn hyn a’r hwb economaidd posibl i’r Sir?”
Dywedodd yr Arweinydd fod Zip World wedi bod yn llwyddiant hyd yma a nifer yr ymwelwyr yw 49,656 (cyfranogwyr yn cymryd rhan ar y llinellau zip neu'r certiau) gyda 14,897 (gwylwyr) sy'n cyfateb i bron i 65,000 o ymwelwyr ers iddo agor. O ran cyflogaeth, mae 150 o weithwyr wedi'u cyflogi trwy Zip World gyda 105 yn gyflogedig ar hyn o bryd (mae'r gostyngiad yn y niferoedd yn cael ei briodoli i waith tymhorol ac am fod tymor y gaeaf newydd ddechrau). Y trosiant hyd yma yw £2.5 miliwn. O ran y rhagweld, mae'r gwariant lleol oddeutu £16.25 miliwn ar draws y rhanbarth (gyda chyfyngiadau yn effeithio ar nifer yr ymwelwyr) sy'n cynnwys arlwywyr, llety fel Airbnb, darparwyr bysiau / teithio ac mae'n bosibl y bydd buddsoddiadau pellach o ganlyniad i Zip World.
Roedd yr Arweinydd yn dymuno cofnodi ei ddiolch i'r swyddogion o'r Cyngor sydd wedi helpu i yrru'r prosiect yn ei flaen.
Dogfennau ategol: