Agenda item

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf â'r Aelodau am Raglen Amlinellol Strategol Ysgolion yr 21ain Ganrif ddiwygiedig y Cyngor, a gymeradwywyd mewn egwyddor yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant yr wybodaeth ddiweddaraf â'r Aelodau am Raglen Amlinellol Strategol Ysgolion yr 21ain Ganrif ddiwygiedig y Cyngor, a gymeradwywyd mewn egwyddor yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.

 

Rhoddwyd trosolwg i'r aelodau o'r prosiectau a ddygwyd ymlaen, gan gynnwys:

·       Cwblhau Ysgol Gynradd Hirwaun

·       Parhau â'r gwaith yn YGG Aberdâr, sy'n gwneud cynnydd da;

·       Parhau â'r gwaith yn Ysgol Gyfun Rhydywaun, sy'n gwneud cynnydd da;

·       Dechrau ar gyfnod ymgynghori (cynllunio) ar gyfer ysgol Gymraeg newydd yn Rhydfelen;

·       Mae gwaith dylunio manwl bron wedi'i gwblhau ar gyfer 3 ysgol gynradd newydd a ariennir trwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, sef Ysgol Gynradd Pont-y-Clun, Ysgol Gynradd Penygawsi ac Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref;

·       Mae gwaith sefydlu 2 ysgol pob oed yn mynd rhagddo ym Mhontypridd a'r Ddraenen-wen;

·       Mae'r adeilad newydd ar gyfer addysgu'r 6ed a'r gwelliannau eraill i Ysgol Gyfun Bryncelynnog wrthi'n cael eu dylunio

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y cynnydd sylweddol yng nghyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn gyfle cyffrous i ragor o ddisgyblion a chymunedau elwa ar gyfleusterau addysgol a chymunedol gwell.  Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y rhaglen yn caniatáu i ragor o ddisgyblion gael eu haddysgu yn Gymraeg a'i fod yn sicrhau bod modd i ddisgyblion mwy agored i niwed fanteisio ar gyfleusterau Ysgolion yr  21ain Ganrif.

 

Nodwyd y byddai'r Rhaglen yn darparu cyfleoedd cyffrous ar gyfer agenda 'ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned', gan roi ysgolion wrth galon y gymuned a chaniatáu i'r Cyngor barhau i gyflawni ei nod uchelgeisiol o wneud pob ysgol yn ysgol wych. 

 

Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant am y cynnig cyffrous gyda’r buddsoddiad yn nodi mai cyfanswm y rhaglen wreiddiol oedd £167 miliwn - ac mai cyfanswm y Rhaglen newydd yw £252 miliwn. Dyma gynnydd sylweddol a alluogodd i £85 miliwn arall gael ei fuddsoddi yn ysgolion Rhondda Cynon Taf. 

 

Pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet fod y rhaglen yn creu cyfalaf a buddsoddiad ychwanegol ac nad oedd yn arwain at gau cyfleusterau.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai y newyddion a siaradodd am yr angen dirfawr am welliannau mewn rhai adeiladau ysgol, er enghraifft ysgol Pen-rhys, gan holi'r Cyfarwyddwr am amserlenni. Ymatebodd y Cyfarwyddwr y byddai'r rhaglen yn para am 5 mlynedd.

 

Ar y pwynt yma yn y cyfarfod, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Caple am yr eitem.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ei bod hi'n braf gweld y buddsoddiad ar gyfer y dyfodol yn cael ei gynnig, a fyddai'n caniatáu i bobl ifainc yr Awdurdod fanteisio ar y cyfleusterau gorau, sef yr hyn maen nhw'n ei haeddu.

 

Dywedodd yr Arweinydd mai hwn oedd y buddsoddiad mwyaf erioed mewn ysgolion, a chroesawodd y buddsoddiad ar draws y Fwrdeistref Sirol.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.     Nodi bod y buddsoddiad yn y Rhaglen Amlinellol Strategol gymeradwy wedi cynyddu'n sylweddol o £167 miliwn i £252 miliwn, sef cynnydd o £ 85 miliwn.

 

2.     Derbyn adroddiadau pellach wrth i'r prosiect ddatblygu a symud ymlaen trwy brosesau cymeradwyo Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

 

 

Dogfennau ategol: