Agenda item

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr yn rhoi diweddariad i'r Aelodau ar gyflwyno Cydbwyllgorau Corfforaethol yn unol â darpariaeth Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (Cymru) 2021.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr drosolwg i'r Aelodau o'i adroddiad a oedd yn nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol (CJCs).

 

Atgoffwyd yr Aelodau y darparwyd ar gyfer ffurfio Cyd-bwyllgorau Corfforaethol  yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) gan ychwanegu y byddai Cyd-bwyllgorau Corfforaethol dros amser yn newid tirwedd a llywodraethu rhai o swyddogaethau lles economaidd, cynllunio strategol a chludiant strategol a gyflawnir ar hyn o bryd gan y cynghorau cyfansoddol sy'n ffurfio'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol  ar draws Rhanbarth De Ddwyrain Cymru neu Lywodraeth Cymru neu gorff cyhoeddus arall a noddir gan Lywodraeth Cymru.  Nodwyd bod Llywodraeth Cymru yn gobeithio ei fod yn gweithredu fel catalydd i ddatblygu a gweithredu trefniadau cydweithredol ar draws llywodraeth leol, lle mae cynllunio a darparu rhanbarthol yn gwneud synnwyr, gan eu defnyddio fel ffordd o sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru trwy gynnal atebolrwydd ddemocrataidd lleol, lleihau cymlethdodau a gwneud y defnydd gorau o adnoddau.

 

Aeth y Prif Weithredwr ymlaen i ddweud bod Cabinet ar y Cyd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn Ne Ddwyrain Cymru wedi ceisio bod yn rhagweithiol a chytuno i drosglwyddo'r swyddogaethau o dan gytundeb y Fargen Ddinesig, a gymeradwywyd yn flaenorol gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r deg cyngor ym mis Mawrth 2016, i Gyd-bwyllgor Corfforaethol De Ddwyrain Cymru ar 28 Chwefror 2022. Dyma'r dyddiad y daw'r swyddogaethau lles economaidd, cynllunio strategol a chludiant i fodolaeth ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforaethol newydd.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Prif Weithredwr am y diweddariad a chynghorodd y byddai diweddariadau mewn perthynas â Cyd-bwyllgorau Corfforaethol yn dod gerbron y Cabinet a'r Cyngor.  Siaradodd yr Arweinydd yn gadarnhaol am fanteision gweithio ar y cyd, yn enwedig trwy drefniadau'r Fargen Ddinesig, a chyfeiriodd at y nifer o brosiectau cadarnhaol a gyflawnwyd trwy waith o'r fath.

 

Ar y pwynt hwn yn y cyfarfod, a gyda chaniatâd yr Arweinydd, anerchodd  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman y Cabinet ar yr eitem hon.  Mewn ymateb i rai o sylwadau'r Cynghorydd Jarman mewn perthynas â'r Fargen Ddinesig, dywedodd y Prif Weithredwr fod buddion y trefniadau yn sylweddol uwch na'r hyn y gellid fod wedi'i gyflawni heb drefniadau gweithio o'r fath, gan gyfeirio at brosiectau fel Zipworld.

 

Adleisiodd yr Arweinydd y sylwadau hyn mewn perthynas â chydweithio a rhoddodd sicrwydd na fyddai Cyd-bwyllgorau Corfforaethol yn cael eu ffurfio oni bai bod hynny yn gweithio'n dda i'r Awdurdod.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi'r rheoliadau newydd sydd wedi sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforaethol De Ddwyrain Cymru a datblygu'r swyddogaethau canlynol yn y dyfodol ar draws y rhanbarth o 1 Mawrth 2022; (1) lles economaidd, (2) cynllunio datblygu strategol, a (3) datblygu polisïau trafnidiaeth;

 

2.    Nodi penderfyniad Cydbwyllgor Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar 20 Rhagfyr 2021 i drosglwyddo ei swyddogaethau presennol, sydd yn bennaf mewn perthynas â chytundeb y Fargen Ddinesig fel yr ymrwymwyd iddo gan y deg cyngor yn Ne Ddwyrain Cymru ym mis Mawrth 2016, i Gydbwyllgor Corfforaethol De Ddwyrain Cymru ar 28 Chwefror 2022. Mae trosglwyddo'r Fargen Ddinesig o'r Cyd-bwyllgor presennol i'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol newydd, yn golygu bod modd i'r broses fod yn ddidrafferth, sy'n cynnwys diogelu lles economaidd rhanbarthol a swyddogaethau cludo presennol.

 

3.    Bod diweddariadau ychwanegol yn cael eu darparu i'r Cabinet a'r Cyngor Llawn, lle bo hynny'n briodol gan fod Llywodraeth Gymru yn darparu mwy o fanylion ar bwerau a chyfrifoldebau Cyd-bwyllgor Corfforaethol De Ddwyrain Cymru a datganoliad posibl pwerau a swyddogaethau o Lywodraeth Cymru i'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol.

 

 

Dogfennau ategol: