Agenda item

Cofnodion:

Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint, rhannodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am Eisteddfod 2024, fydd yn cael ei chynnal yn Rhondda Cynon Taf. Darparodd wybodaeth gefndirol am yr Eisteddfod, gan dynnu sylw mai hi yw'r ?yl ddiwylliannol fwyaf i'w chynnal yn Ewrop gan ddenu dros 175,000 o ymwelwyr yn flynyddol. Amlinellodd nodau’r Eisteddfod heddiw i ddathlu iaith a diwylliant Cymru drwy gynnal achlysur bywiog a chroesawgar. Amlinellodd y Prif Weithredwr bwysigrwydd cael dylanwadau lleol ar yr Eisteddfod a'r cyfle i ardal Rhondda Cynon Taf roi ei stamp ei hun ar yr achlysur. Tynnodd sylw at bwysigrwydd gweithio gyda'r Awdurdod Lleol i sicrhau bod pob cymuned yn cael ei chynnwys ac i gyflawni'r deilliannau a ddymunir wrth annog trigolion lleol ac ymwelwyr i ddod i'r Eisteddfod. Rhannodd fanylion gyda'r Aelodau am saith gwaddol posibl yr Eisteddfod, sef gwaddol cymunedol, diwylliannol, ieithyddol, economaidd, digidol, cynhwysol a gwaddol gwirfoddolwyr. 

 

Parhaodd Pennaeth Cyfathrebu'r Eisteddfod â'r cyflwyniad gan amlinellu i Aelodau fanylion Prosiect Cymunedol yr Eisteddfod gan gynnwys croesawu Swyddog Prosiect ymroddedig o Rondda Cynon Taf. Rhannodd fanylion y cynllun strategol i greu fforwm cymunedol a gweithio gyda grwpiau yn yr ardal leol i roi blas o'r Eisteddfod. Rhoddwyd manylion y 2 gam o waith i'r Aelodau yn amlinellu'r camau a gymerir i ymgysylltu â grwpiau ledled y sir.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Eisteddfod am ddarparu cyflwyniad mor fanwl i'r Gr?p a nododd fod yr Eisteddfod yn gyfle gwych i ardal RhCT. Fe wnaeth y Cadeirydd ganmol gwaddol posibl yr Eisteddfod a chyfeiriodd at ei daith ei hun yn dysgu Cymraeg, gan fynegi iddo gael ei ysbrydoli gan yr Eisteddfod.

 

Canmolodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu y cyflwyniad a nododd, er bod y pandemig wedi effeithio ar yr Eisteddfod, roedd yn sicr y byddai'n parhau i fod yn llwyddiant ysgubol ac yn gyfle gwych i'r Fwrdeistref Sirol.

 

Parhaodd y drafodaeth a phwysleisiodd un Aelod yr angen i wneud yr Eisteddfod mor gynhwysol ac amrywiol â phosibl. Nododd yr Aelod y bu buddsoddiad sylweddol mewn ysgolion yn RhCT ac y bydd pobl ifainc yn arwain yr Eisteddfod. Nododd yr Aelod bod cyfrifoldeb ar bobl ifainc i annog y cenedlaethau h?n i gymryd rhan a chrybwyll gwaddol yr Eisteddfod i'r holl genedlaethau, sy'n elfen bwysig iawn i'n cymunedau ni.

 

Nododd Aelod arall bwysigrwydd denu pobl nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg i gymryd rhan yn yr Eisteddfod a chanmolodd waith y Fforymau Cyfathrebu wrth gyflawni hyn.

 

Cynigiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Ysgolion yr 21ain Ganrif a Materion Trawsnewid ei bod ar gael i gynnig unrhyw gymorth i’r Eisteddfod mewn perthynas ag ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol a nodi’r cyfleoedd cyffrous sy'n cael eu creu yn sgil yr Eisteddfod. Cytunodd y Cadeirydd, a nododd bwysigrwydd cael ysgolion nad ydyn nhw'n rhai Cymraeg i gymryd rhan yn yr Eisteddfod hefyd.

 

Canmolodd Cynrychiolydd Menter Iaith, Einir Siôn, gyflwyniad yr Eisteddfod a nododd ddau bwynt. Yn gyntaf, fe wnaeth gynnig cefnogaeth y Menter Iaith a nodi gwaith gwych y Fforymau Cyfathrebu a'r newidiadau cadarnhaol a ddaw yn eu sgil mewn perthynas â'r ffordd o weithio yn ein cymunedau lleol. Yn ail, cwestiynodd a fydd strategaeth 5 mlynedd newydd Cyngor RhCT yn berthnasol ar ôl yr Eisteddfod. A oedd cynlluniau i gynnwys gwaddol yr Eisteddfod yn y strategaeth? Nododd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Cymraeg y bydd llwyddiant a gwendidau'r strategaeth 5 mlynedd gyfredol yn cael eu hystyried a dylai'r strategaeth newydd gynnwys camau i gefnogi gwaddol yr Eisteddfod yn RhCT.

 

Parhaodd y trafodaethau a nododd y Cadeirydd y bydd yr oedi a achoswyd i'r Eisteddfod gan y pandemig yn gwneud yr Eisteddfod hyd yn oed yn fwy o lwyddiant gan ei fod wedi rhoi rhagor o amser i swyddogion baratoi.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Cymuned y bydd gwaddol yr Eisteddfod yn RhCT yn cael ei hystyried ar draws pob adran yn y Cyngor ac y bydd yn berthnasol mewn cynlluniau gweithredu ar gyfer yr holl wasanaethau.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD yr Aelodau nodi'r diweddariad mewn perthynas ag Eisteddfod Genedlaethol RhCT.