Agenda item

Derbyn y newyddion diweddaraf am y Celfyddydau yn RhCT yn ystod Pandemig COVID-19.

 

 

Cofnodion:

Rhannodd Rheolwr Strategol - Y Celfyddydau a Diwylliant ddiweddariad llafar ar sefyllfa'r Gwasanaethau Celfyddydau yn ystod pandemig Covid-19. Hysbysodd yr Aelodau am aelodau staff ychwanegol a oedd wedi ymuno â'r garfan yn ystod y cyfnod, ac eglurodd sut roedd y gwasanaeth wedi parhau i gynnig y ddarpariaeth dros y 18 mis diwethaf.

 

Rhannodd y Rheolwr Datblygu a Gweithrediadau’r Theatrau yr wybodaeth ddiweddaraf am y Theatrau a rhoi gwybod i'r Aelodau am y cynllun i fabwysiadu dull gofalus o ailagor. Mae'n cydnabod bod lefelau uchel o achosion yn parhau yn Rhondda Cynon Taf ac yn ymwybodol o’r effaith y gallai ailagor unrhyw beth ar raddfa fawr ei chael ar niferoedd yr achosion a'r niferoedd sy'n mynd i'r ysbyty. Amlinellodd fanylion cynlluniau i ailagor darpariaethau sinema mewn ffordd sy'n cynnal cadw pellter cymdeithasol tuag at ddiwedd mis Hydref 2021, er mwyn caniatáu i'r gwasanaeth brofi systemau a rhoi prosesau ar waith i sicrhau bod gwesteion a staff yn cadw'n ddiogel wrth drefnu darpariaeth barhaus tuag at Nadolig, gan gynnwys ffilmiau Nadoligaidd.

 

Parhaodd i amlinellu'r bwriad ar gyfer trefnu sioeau byw gan roi gwybod i'r Aelodau o'r bwriad i ddechrau cynnwys 400-600 o bobl yn y gynulleidfa o fis Chwefror 2022 ymlaen, er y nodwyd y byddai lefelau CO2 yn cael eu monitro er mwyn parhau i sicrhau diogelwch pob un wrth i niferoedd aelodau'r gynulleidfa gynyddu. Roedd cymhlethdod darparu sioeau byw mewn amgylchedd diogel hefyd wedi'i grybwyll gan y Rheolwr Datblygu a Gweithrediadau’r Theatrau, a manylodd ar sut y bydd angen cynnal trafodaethau i bennu maint castiau a chriw cefn llwyfan ac elfennau ymarferol, gan gynnwys polisïau ad-daliad. Gorffennodd trwy roi gwybod i'r Aelodau o'r bwriad i ddarparu dull gofalus o ailafael mewn perfformiadau gan sicrhau bod iechyd a diogelwch y cyhoedd bob amser wrth wraidd penderfyniadau.

 

Hefyd, darparodd y Rheolwr Datblygu Rhaglenni'r Theatrau a Chynulleidfaoedd ddiweddariad llafar i'r Aelodau am arlwy'r Gwasanaeth dros y Nadolig a sôn am fanylion y Pantomeim. Dywedodd er eu bod yn rhwystredig bod amserlenni wedi'u symud o 2020 i 2022, mae asiantau allanol wedi bod yn gefnogol i'r penderfyniadau a wnaed. Fodd bynnag, roedd hi hefyd yn cydnabod awydd y darparwyr yma ddychwelyd i ddarparu achlysuron â chapasiti llawn. Hysbysodd yr Aelodau fod ffilmio ar gyfer y Pantomeim Nadolig eleni yn dod yn ei flaen yn dda gyda'r amserlen yn dod i ben yr wythnos yma. Diolchodd i bawb a fu'n ymwneud â'r Pantomeim ac roedd yn falch o adrodd bod y cynhyrchiad hyd yma wedi cynnig gwaith i 24 o weithwyr llawrydd. Bydd Iaith Arwyddion Prydain a chapsiynu ar gael yn rhan o'r cynhyrchiad.

 

Hefyd, rhannodd Rheolwr y Celfyddydau a'r Diwydiannau Creadigol ddiweddariad â'r Aelodau yn manylu ar y gefnogaeth a ddarparwyd ganddyn nhw'n rhan o'r Rhaglen Gwella Gwyliau'r Ysgol yn ystod yr Haf. Rhannwyd deilliannau cadarnhaol y cynllun 'Haf o Hwyl' gyda'r Aelodau, sef cyfres o weithdai a gynhaliwyd yn Theatr y Colisëwm, Aberdâr. Rhoddwyd gwybodaeth fanwl i'r Aelodau am brosiectau amrywiol ar y cyd â rhaglen Cymunedau am Waith a phrosiectau Canol Trefi ac Adfywio.

 

Gwahoddwyd Aelodau i ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau. Holodd un Aelod gwestiwn am gymorth ar gyfer darparu gwasanaethau yn Gymraeg ac a oedd y cyhoeddiad i ohirio ailagor Theatrau yn gynamserol o ystyried lefelau'r cyfyngiadau symud cyfredol ac o'u cymharu â lleoliadau eraill sy'n gweithredu hyd eithaf eu gallu. Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Cymuned fod y penderfyniad wedi'i wneud drwy ystyried y lefelau uchel o achosion sy'n dal i fodoli yn Rhondda Cynon Taf a'r cyfleusterau sydd ar gael yn adeiladau'r Theatr, o gymharu â chyfleusterau eraill a allai fod â systemau awyru mwy modern. Ychwanegodd fod modd adolygu'r sefyllfa pe bai nifer yr achosion yn gwella ond byddai diogelwch gwesteion ac aelodau staff yn parhau i fod yn flaenoriaeth.

 

Holodd Aelod arall am y cysylltiadau rhwng Cynghorau Tref a Chymuned a'r rhaglenni Celfyddydau a gynigir. Dywedodd Rheolwr Strategol - Y Celfyddydau a Diwylliant eu bod yn gweithio gyda charfan Achlysuron y Cyngor i edrych ar y cynnig ar gyfer achlysuron adeg y Nadolig yng Nghanol y Trefi a gweithdai tymhorol ychwanegol lle bo hynny'n bosibl. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Cymuned y bu cyfarfodydd strategol cychwynnol rhwng grwpiau ym Mhontypridd i edrych ar sut y gellir hwyluso gweithio cydweithredol o ran cynnal achlysuron yn ymwneud â'r celfyddydau a diwylliant.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu diweddariadau a'u hymatebion cynhwysfawr a nododd yr Aelodau'r wybodaeth a ddarparwyd.