Agenda item

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau wybod bod ymddiheuriadau am absenoldeb wedi'u derbyn gan y Cynghorydd A S Fox a chadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, na fyddai cwestiwn 5 yn cael ei gyflwyno i'r Aelod o'r Cabinet.

 

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol . Treeby i Arweinydd y Cyngor – Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

“A all yr Arweinydd wneud datganiad ar ddiogelwch cymunedol a phlismona lleol yn Rhondda Cynon Taf?”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

Dywedodd yr Arweinydd mai Bwrdd Partneriaeth Cymunedau Diogel Cwm Taf yw'r gr?p arwain strategol ar gyfer cynllunio, comisiynu a darparu gweithgareddau a gwasanaethau sy'n gysylltiedig â diogelwch cymunedol. Mae aelodau'r Bwrdd Partneriaeth yn cynnwys: Cynghorau RhCT a Merthyr Tudful, Heddlu De Cymru, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Bwrdd Iechyd CTM, a hefyd aelodau anstatudol.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y Bwrdd yn delio â nifer o faterion yn ymwneud â lleihau troseddau a gwella diogelwch cymunedol yn Cwm Taf, gan ganolbwyntio'n benodol ar feysydd fel Ymddygiad Gwrthgymdeithasol lle mae carfan Diogelwch Cymunedol y Cyngor yn gweithio'n agos gyda HDC i sicrhau bod pawb sy'n cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol yn destun ymateb priodol. Mae gr?p strategol yn cyfarfod yn fisol i drafod y meysydd mwyaf problemus, gyda chynlluniau gweithredu ar waith i ymateb i faterion a nodwyd.

 

Mae maesydd arall yn cynnwys Rheoli Troseddwyr sy'n gweithio gyda'r Gwasanaeth Prawf, gwaith camddefnyddio sylweddau gyda Bwrdd Cynllunio Ardal CTM drwy ddarparu fframwaith rhanbarthol ar gyfer cefnogi Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau LlC, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae Carfan Cymunedau Diogel yn ail-lansio ymgyrch “Gofynnwch am Angela”, a bydd hyn yn cael ei gyflwyno ar draws adeiladau trwyddedig yn y sir ar gyfer pobl sy'n teimlo'n fregus neu'n anniogel. 

 

Yn ogystal, esboniodd yr Arweinydd fod y Bwrdd Partneriaeth Diogelwch hefyd yn cynnwys meysydd fel cydlyniant Cymunedol a Gwrthderfysgaeth sy'n dangos bod llu o wasanaethau ar waith.

 

Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Treeby:

 

“Yn dilyn buddsoddiad dros y blynyddoedd diwethaf mewn camerâu teledu cylch cyfyng yng nghanol trefi, pa effaith y mae’r buddsoddiad wedi’i chael ac a yw wedi bod yn werth chweil? ”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

Dywedodd yr Arweinydd fod symud i'r camerâu digidol wedi bod yn werth chweil ac ychwanegodd ei fod wedi mynychu'r ganolfan teledu cylch cyfyng yn ddiweddar i weld y buddsoddiad dros ei hun. Dywedodd fod ansawdd y lluniau wedi gwella'n sylweddol ac mae'n cynorthwyo'r Heddlu i adnabod pobl yn hawdd ac yn gyflym, ac yn eu galluogi i weithredu 

gan gyfuno gwybodaeth leol â lluniau teledu cylch cyfyng. Mae adborth yr Heddlu wedi bod

yn amhrisiadwy.

 

 

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Williams i Arweinydd y Cyngor - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

“A wnaiff yr Arweinydd amlinellu cynlluniau’r Cyngor hwn i ddatblygu Rhwydwaith Trafnidiaeth Integredig ar draws y Fwrdeistref Sirol?”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

Dywedodd yr Arweinydd, er bod awdurdodau lleol yn gweithio ar Gynllun Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru, a luniwyd gan awdurdodau lleol i drafod ôl troed rhanbarthol, mai'r Metro fydd yr effaith fwyaf. Dywedodd fod y cerbydau newydd wrthi'n cael eu creu, rhai yng Nghasnewydd ac eraill yn Ewrop. Bydd y gwelliannau i'r gwasanaeth yn aml yn cynyddu'r gwasanaeth i 4 trên yr awr i bob cyfeiriad ac yn cael effaith enfawr ar amlder trenau o ardaloedd Merthyr, Aberdâr a Treherbert thrwy Bontypridd.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor yn buddsoddi mewn hybiau trafnidiaeth, fel y cyfleuster newydd yn ardal Porth, gorsafoedd bysiau, ac yn datblygu cynlluniau i gynyddu'r ddarpariaeth o lwybrau cerdded a beicio i orsafoedd trên er mwyn annog preswylwyr i adael eu cerbydau a chadw draw o ffyrdd prysur fel yr A470. Gyda'r cynlluniau hyn ar waith a chyllid gan Lywodraeth Cymru, nododd yr Arweinydd fod y newid sylweddol mewn cysylltiadau trafnidiaeth yn cyd-fynd yn well ag anghenion preswylwyr o fewn y 3-4 blynedd nesaf.

 

 

Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Williams:

 

“A allwch chi ddweud wrthym am y buddsoddiad mewn cynnal a gwella’r cysylltiadau trafnidiaeth lleol ledled y Sir dros y blynyddoedd diwethaf?”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

Dywedodd yr Arweinydd fod cymysgedd o arian LlC a'r Cyngor wedi galluogi buddsoddiadau o ran troedffyrdd, ail-wynebu ffyrdd a chysylltiadau trafnidiaeth gwell, ac mae cyllid teithio llesol craidd gan LlC wedi galluogi cynnal a chadw a gwella nifer o lwybrau fel llwybrau Cynon a Taf. Defnyddir nifer o'r llwybrau teithio llesol gan lawer o bobl ac maent yn dioddef traul ar ôl blynyddoedd lawer felly mae cyllid refeniw LlC wedi helpu gyda gwelliannau megis rhwystrau a chanllawiau. Mae yna lawer o waith yn cael ei wneud. Yn ogystal, cyfeiriodd yr Arweinydd hefyd at uwchraddio'r seilwaith presennol, fel newid croesfan sebra i groesfan pâl, sy'n fwy diogel i'r cerddwr ac yn well ar gyfer llif traffig.

 

 

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Jones i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

“A all Arweinydd y Cyngor ddarparu diweddariad ar gynigion y Gronfa Lefelu a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU gan y Cyngor hwn?”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

Dywedodd yr Arweinydd na chafwyd ymateb i gais y Cyngor ers iddo gael ei gyflwyno, er gwaethaf iddo ysgrifennu at y Gweinidog R Jenrick ar y pryd fel Arweinydd RhCT a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Mae llythyr arall wedi'i anfon ers hynny ar ran y 22 Awdurdod Lleol at y Gweinidog newydd M Gove yn gofyn am ddiweddariad.

 

Eglurodd yr Arweinydd fod pob cais yn cael ei gyflwyno fesul ardal etholaethol a gellir cyflwyno prosiect trafnidiaeth ychwanegol os mai'r awdurdod yw'r awdurdod arweiniol ar gyfer trafnidiaeth. Rhoddodd ddiweddariad ar bob cais unigol fel a ganlyn:

 

Etholaeth Pontypridd -Cais wedi'i gyflwyno i ailddatblygu Canolfan Gelf y Miwni yn llawn

 

Etholaeth Rhondda -Cyfraniad i Hwb Trafnidiaeth Porth ar gyfer y gwaith adfywio.

 

Cwm Cynon -Datblygu hen safle Ffatri Mayhew Chicken i greu safle defnydd cymysg ar gyfer diwydiant a thrafnidiaeth.

 

Prosiect Trafnidiaeth Ychwanegol -Mae Deuoli'r A4119 yn rhan annatod o rwydwaith priffyrdd strategol rhanbarthol ehangach, ac mae'n gysylltiedig â chyfleoedd economaidd ardaloedd gorllewinol RhCT a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

 

Cwestiwn ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Jones:

 

“Roeddwn i eisiau rhagor o wybodaeth am ddatblygiad y Ffatri yn Nhrecynon

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd nad oes diweddariadau pellach ar y ceisiadau ond erbyn yr 17 Hydref 2021 mae'n bosibl y bydd modd cyhoeddi'r cynigion ar yr un pryd â'r adolygiad gwariant cynhwysfawr.

 

Ymhelaethodd yr Arweinydd ar ddatblygiad y Ffatri, a'r bwriad o greu maes Parcio a Rennir, a allai ddatblygu'n faes Parcio a Theithio pe bai estyniad rheilffordd Hirwaun yn cael ei gymeradwyo. Bydd y safle Parcio a Theithio yn cynnwys cyfleusterau gwefru trydan a bydd rhan o'r datblygiad yn cynnwys nifer o unedau diwydiannol ysgafn, tebyg i'r rhai sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd yn Nhresalem.

 

 

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G R Davies i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

A wnewch chi ddatganiad ar isadeiledd trafnidiaeth ym mhen uchaf y Rhondda Fawr?

 

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

Dywedodd yr Arweinydd y byddai ei ymateb yn debyg i'r ymateb a roddwyd i'r Cynghorydd R Williams ar y gwelliannau i drydaneiddio rhwydwaith Core Valley Lines i'r gogledd o Gaerdydd i Dreherbert, fel rhan o gynllun Metro De Ddwyrain Cymru. Mae hyn eto'n cynnwys cerbydau newydd, gwasanaethau amlach a gwelliannau i orsafoedd ynghyd â'r gwaith dichonoldeb o ran ymestyn y rheilffordd o Dreherbert i Dynewdd a hyd at Flaenrhondda.

Dywedodd yr Arweinydd fod yna gynigion i ymestyn a chynyddu capasiti'r gorsafoedd Parcio a Theithio a naill ai gwella'r cyfleusterau parcio a theithio presennol neu adeiladu cyfleusterau newydd. Mae cynlluniau teithio yn cael eu datblygu i ddarparu ar gyfer cerddwyr a beicwyr i sicrhau bod ardaloedd wedi'u goleuo'n dda ac yn ddiogel i bawb a gwella cyfleoedd teithio llesol. Bydd tocynnau integredig yn fudd enfawr, er enghraifft yn Hwb Trafnidiaeth Porth. I gloi, dywedodd yr Arweinydd fod angen buddsoddiad sylweddol a pharhaus ym maes teithio.

 

Cwestiwn Ategol gan y Cynghorydd G.R.Davies

 

“Rwyf wedi gofyn yn aml sut mae’r prosiectau trafnidiaeth yn y Rhondda Fawr yn datblygu, y prosiect lonydd beicio, y prosiect i ymestyn y rheilffordd i Dreherbert a Tynewydd a'r gwaith i oresgyn y tagfeydd o amgylch Sgwâr Stagg. A allwch ymrwymo, yn ystod datblygiad y CDLl, y byddwch o leiaf yn cefnogi llawer o wahanol brosiectau fel na chollir y cyfle i'w datblygu yn y dyfodol?”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

Ymatebodd yr Arweinydd y byddant, mewn egwyddor, yn cael eu cefnogi, er y bydd y gwaith dichonoldeb sy'n mynd rhagddo ar nifer o'r prosiectau hyn yn cael ei fwydo i'r adolygiad parhaus o'r CDLl. Fodd bynnag, os oes materion sylfaenol lle na ellir datblygu prosiect, yna ni fyddai'n gwneud synnwyr i amddiffyn llwybr neu leoliad coridor o fewn y CDLl gan fod yn rhaid iddo fod yn seiliedig ar dystiolaeth.

 

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol H. Boggis i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Gwasanaethau Treftadaeth - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Crimmings:

 

“A all Aelod y Cabinet ddarparu diweddariad ar fuddsoddiad y Cyngor mewn parciau a chadarnhau a yw hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen?”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Crimmings:

 

Ymatebodd yr Aelod o'r Cabinet fod yr holl barciau a mannau chwarae yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol gan eu bod yn darparu ystod o fuddion iechyd a lles i breswylwyr ac ymwelwyr, ac mae'r pandemig a'r cyfyngiadau ar fywydau preswylwyr mewn amrywiol ffyrdd wedi tynnu sylw at bwysigrwydd ardaloedd o'r fath. 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet fod yr ymrwymiad parhaus yn yr ardal hon wedi'i amlygu gan benderfyniad y Cabinet i gymeradwyo cynlluniau ar gyfer tir ym Mharc Cefn Gwlad Cwm Clydach, i'w ddynodi'n Barc Gwledig swyddogol. Yn hanfodol, gall y Cyngor weithio gyda'r Bwrdd Strategol a sefydlwyd yn ddiweddar i wneud cais am gyllid allanol i wella a datblygu'r safle, sydd eisoes yn boblogaidd, ymhellach. Cadarnhaodd yr Aelod o'r Cabinet fod y Parc Beicio Teulu Disgyrchiant newydd wedi agor ym Mharc Gwledig Cwm Dâr yn ddiweddar, tra bod ardal chwarae'r plant wedi'i gwella'n sylweddol yn ddiweddar fel rhan o'r pecyn buddsoddi cyffredinol o £1.5m (cyfuniad o £ 1 miliwn o Cyllid Canolfannau Darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd a £500,000 o fuddsoddiad Cyfalaf y Cyngor ei hun). 

Yn ddiweddar, cwblhawyd uwchraddiadau pellach ar oleuadau stryd ac adnewyddiad llawn o'r prif droedffyrdd ym Mharc Coffa Ynysangharad oherwydd buddsoddiad cyfun o raglen Parc Rhanbarthol y Cymoedd a chyllid y Cyngor ei hun. Bydd cam pellach o'r gwaith yn cychwyn yn fuan gan ddefnyddio Cyllid Loteri Treftadaeth sylweddol, a bydd hyn yn dod â rhai o'r nodweddion gwreiddiol yn ôl i'r Parc Rhestredig Gradd II - mae'r gwaith hwn yn cynnwys adfer y bandstand ac adnewyddu'r ardd suddedig

 

I gloi, nododd yr Aelod o'r Cabinet fod y parciau gwledig hefyd yn agwedd allweddol ar ein strategaeth dwristiaeth, a gymeradwyodd y Cabinet yn ddiweddar.  Y nod yw rhoi hwb i'n heconomi leol trwy gynyddu nifer yr ymwelwyr â RhCT a'r rhanbarth ehangach - bydd hyn wedyn yn helpu i ddenu nifer cynyddol o ymwelwyr i ganol ein trefi.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd H. Boggis:

 

“A allwch chi ddarparu rhagor o wybodaeth am y Parc Beicio Disgyrchiant?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Crimmings:

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet fod Parc Beicio Disgyrchiant yn cynnwys gwahanol lwybrau a'r trac codi, sy'n boblogaidd iawn, gyda'r holl sesiynau hyfforddi wedi'u bwcio'n llawn yn ystod mis Awst.  Mae Pedal-A-Bike-Away yn gweithio mewn partneriaeth â'r Cyngor i ddarparu sesiynau wythnosol sy'n targedu menywod a merched ifainc, plant 2-5 oed ac oedolion dros 50 oed. Gall digwyddiadau fel y sesiwn Merched yn unig hefyd helpu gydag iechyd a lles preswylwyr trwy roi cyfle iddynt gymdeithasu â choffi wedyn.

 

Yn ogystal â'r cyfleuster newydd, mae'r Cyngor hefyd wedi canolbwyntio ar wella profiad yr ymwelydd trwy fuddsoddi mewn adnewyddu ac ymestyn y bloc cawodydd, gan gynnwys newid lleoedd teuluol a newid, mae llety'r gwesty a'r maes chwarae hefyd wedi'u huwchraddio.

 

Dogfennau ategol: