Agenda item

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a

Chyfathrebu ei adroddiad. Rhoddodd yr adroddiad gyfle i aelodau'r Pwyllgor

Trosolwg a Chraffu drafod ei ymateb i ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith ar

Reoleiddio Diogelwch Tomenni Glo yng Nghymru a'i fabwysiadu'n ffurfiol, a

hynny yn dilyn trafodaethau gyda chynrychiolwyr Comisiwn y Gyfraith (Cymru a

Lloegr) yn ei gyfarfod ar 5 Gorffennaf 2021.

 

Cafodd yr Aelodau gwybod y byddai unrhyw sylwadau pellach mewn perthynas â'r ymgynghoriad yn cael eu hychwanegu at yr ymatebion i'r ymgynghoriad sydd wedi'u hatodi a'u cyflwyno cyn y dyddiad cau ar 10 Medi 2021.

 

Er bod yr ymatebion drafft yn cynnwys y rhan fwyaf o’u sylwadau a'u hadborth, roedd yr Aelodau’n dymuno bod y pwyntiau canlynol yn cael eu cynnwys cyn cyflwyno'r fersiwn derfynol i ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith:

 

Ø  Ai bwriad Llywodraeth Cymru yw diddymu Deddf Mwynfeydd a Chwareli (Tipiau) 1969 neu barhau â Deddfwriaeth Cymru a Lloegr, ar sail ofnau y bydd y ddau yn gwrthdaro ar ryw adeg yn y dyfodol?;

 

Ø  Cwestiwn 31 yr ymgynghoriad - Yn gyffredinol, roedd yr Aelodau o'r farn y dylid gwneud darpariaeth ddeddfwriaethol yn yr achosion hyn sy'n nodi mai staff arbenigol, cymwys a phanel o beirianwyr fydd yn gyfrifol ac yn gweithredu o dan yr amgylchiadau hyn. Dywedodd yr Aelodau hefyd y dylai'r awdurdod priodol fod yn gyfrifol am wneud y penderfyniadau, gweithredu (yn gyflym lle bo angen) ac ymateb i argyfyngau tomenni glo;

 

Ø  Cwestiwn 32 yr ymgynghoriad - Gofynnodd yr Aelodau eto am gyngor ynghylch a fydd Llywodraeth Cymru yn diddymu Rheoliad 40 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 o blaid dewis arall yng Nghymru;

 

Ø  Cwestiwn 34 yr ymgynghoriad - Roedd yr Aelodau'n gobeithio y byddai'r Ecolegwyr yn parhau i gydnabod bod llawer o domenni glo bellach yn datblygu i fod yn gynefinoedd ecolegol unigryw yn eu rhinwedd eu hun;

 

Ø  Cwestiwn 13 yr ymgynghoriad - Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch yr ymateb yma gan eu bod yn teimlo y dylai gwybodaeth am y Gofrestr Tomenni fod ar gael i'r cyhoedd ond roeddent yn ymwybodol na ddylai gwybodaeth benodol a gynhwysir yn y gofrestr, megis gwybodaeth bersonol, cyfrifiadau a chostau, fod yn hygyrch i'r cyhoedd. O ran adroddiadau archwilio tomenni, awgrymodd y Pwyllgor y gallai'r rhain gael eu rhyddhau os oes dull unffurf safonol a system dosbarthu mewn perthynas â'r adroddiadau tomenni ar waith a bod peirianwyr cymwys, profiadol yn ymgymryd â nhw. Fodd bynnag, roedd Cyfarwyddwr Gwasanaethau'r Priffyrdd a Thrafnidiaeth yn cydnabod y gallai fod angen eglurhad pellach gan Wasanaethau Cyfreithiol y Cyngor cyn darparu ymateb a dywedodd y byddai'n cadarnhau hyn yn dilyn y cyfarfod.

 

 

Yn dilyn trafodaeth bellach mewn perthynas â'r materion a godwyd a'r ymatebion, PENDERFYNWYD:

 

·       Ychwanegu'r sylwadau uchod at yr ymatebion i'r ymgynghoriad cyn eu cyflwyno; a

 

·       Bod llythyr yn cael ei anfon at y Gweinidogion perthnasol ar ran y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn gofyn am eglurhad clir a diamwys ynghylch a fydd Llywodraeth Cymru yn diddymu Deddf Mwynfeydd a Chwareli (Tomenni) 1969 neu a fydd yn aros fel dwy Ddeddfwriaeth ar wahân ac a fydd Rheoliad 40 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 yn cael ei diddymu i gynnig dewis arall yng Nghymru.

 

 

 

Dogfennau ategol: