Agenda item

Rhag-graffu ar Raglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif - Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM).

 

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant mewn perthynas â Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM),  Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif. Roedd cais i ychwanegu'r mater yma at flaenraglen waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu eisoes wedi'i gyflwyno a phenderfynwyd cyflwyno'r eitem pan fo'n addas.

Nododd yr Aelodau fod yr adroddiad, ar hyn o bryd, yn ceisio caniatâd i gyflwyno Achos Busnes Amlinellol i Lywodraeth Cymru i'w ystyried ym mis Gorffennaf / Awst 2021 ac i symud ymlaen i gam dau o broses y Model Buddsoddi Cydfuddiannol gyda Llywodraeth Cymru a'r partner sector preifat.

Yn dilyn trosolwg o'r adroddiad, gofynnodd nifer o Aelodau am eglurhad ynghylch y gwahaniaeth rhwng y Fenter Cyllid Preifat flaenorol a oedd yn cynnig pecyn gwasanaethau cynhwysol ac yn cynnwys yr holl wasanaethau rheoli cyfleusterau am gyfnod o 25 mlynedd, er enghraifft, gwasanaethau glanhau; cynnal a chadw'r tir; dodrefn; a TGCh ymhlith eraill.  Mae'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol presennol ond yn cynnig gwasanaethau cynnal a chadw adeiladau am gyfnod o 25 mlynedd.  Yn ogystal â hynny, mae gan y Model Buddsoddi Cydfuddiannol drefniadau mwy cadarn ar waith ar lefel Llywodraeth Cymru, megis Cyfarwyddwr Prosiect penodol ar gyfer MIM, Bwrdd Partneriaeth Strategol gyda chynrychiolaeth o'r holl Awdurdodau Lleol (mae Andrea Richards a Dave Powell yn cynrychioli RhCT), contractau cyffredinol a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pob Awdurdod Lleol a chyfradd ymyrraeth o 81%.

Roedd yr Aelodau'n awyddus i nodi a fyddai'r cynllun yn mynd yn ei flaen os yw'r cais yn aflwyddiannus a gofynnwyd a oes gan yr awdurdod lleol drefniadau amgen yn yr achos hwnnw, megis model cyllido mwy traddodiadol.

Nododd yr Aelodau fod y cyllid cyfalaf ar gyfer rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg, Band B, wedi'i neilltuo ar gyfer Ysgolion ardal Pontypridd a bod y rhaglen gyfan ar gyfer buddsoddi cyfalaf wedi'i dyrannu. Fe'u cynghorwyd bod Model Buddsoddi Cydfuddiannol, sef yr unig opsiwn sydd ar gael i'r Awdurdod Lleol, yn cynnig manteision, yn fforddiadwy ac yn galluogi'r awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o Ysgolion yr 21ain Ganrif gan ei fod yn ffynhonnell cyllid ychwanegol. Cafodd yr Aelodau gwybod bod RhCT yn un o ddau Awdurdod Lleol a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen gyda Phrosiect Braenaru Ysgolion - Model Buddsoddi Cydfuddiannol.  Oherwydd bod y prosiect yma'n Brosiect Braenaru a chynllun peilot Carbon Sero-Net, bydd Llywodraeth Cymru'n ariannu 100% o'r gwaith arolygu ychwanegol a’r gwaith Carbon Sero-Net technegol.

Cododd yr Aelodau yr ymholiadau canlynol mewn perthynas â'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol ei hun:

  • Sut mae'r costau dangosol yn cymharu ag ysgolion eraill sy'n cael eu hariannu'n draddodiadol?
  • Trosglwyddo risg i'r sector preifat - os bydd y cwmnïau'n cael eu diddymu, pwy sy'n talu'r costau ariannol a sut fyddai'r contract yn cael ei gynnal?

 

Cafodd yr Aelodau gwybod y byddai'r Cwmni Cerbydau Pwrpas Arbennig (SPV), hynny yw’r cwmni a gafodd ei bennu i gyflawni'r prosiect yma ac sydd â chontract gyda'r Awdurdod Lleol, yn talu unrhyw gostau ychwanegol - pe byddai'r contractwyr yn cael eu diddymu.  Nid oes gan yr Awdurdod Lleol unrhyw gyswllt uniongyrchol â'r contractwyr, maent yn cael eu contractio a'u rheoli gan y Cwmni Cerbydau Pwrpas Arbennig sy'n gyfrifol am rwymedigaethau cytundebol gyda'r contractwyr. 

Gan gyfeirio at y costau dangosol, costau cyfalaf yr awdurdod lleol (yn seiliedig ar y ffigurau amcangyfrifedig cyfredol) yw £21.9miliwn.  Y swm sy'n daladwy gan yr Awdurdod Lleol, yn amodol ar fynegeio dros 25 mlynedd, ac yn seiliedig ar amcangyfrifon cost cyfredol yw tua £11.4 miliwn ar gyfer 3 ysgol newydd sbon, a gynhelir yn llawn (cynnal a chadw adeiladau) am gyfnod o 25 mlynedd. Mae hyn yn cymharu'n ffafriol â model cyfalaf lle gallai pob ysgol gostio rhwng £8miliwn a £10miliwn (gan ddibynnu ar faint yr ysgol). Mae'r gyfradd ymyrraeth o 81% yn fantais enfawr i'r awdurdod lleol ac mae'n helpu i ddarparu rhagor o ysgolion.

Cafodd y Pwyllgor wybod fod rôl 'profwr annibynnol' yn rhan o'r contract. Dyma swydd sydd wedi'i phenodi ar y cyd rhwng y cwmni a'r awdurdod lleol. Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod y gwiriadau priodol yn cael eu cynnal trwy gydol y cyfnod adeiladu a throsglwyddo. Mae gwiriadau a phrosesau rheoli mecanyddol a thechnegol ar waith hefyd.  Mae Adran Eiddo'r Cyngor wedi bod yn rhan o'r broses a bydd yn parhau i fod yn rhan o'r broses, bydd modd i'r awdurdod lleol gynnal archwiliadau rheolaidd mewn perthynas â'r gwaith.

Codwyd ymholiad ynghylch y goblygiadau ariannol, gan nodi bod cyllid yn ddarostyngedig i 'gymeradwyaeth y Cabinet a Llywodraeth Cymru ar ôl cyflwyno'r Achosion Busnes perthnasol a derbyn costau manwl terfynol' a'r posibilrwydd na fydd Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo'r achos busnes.  Cafodd y Pwyllgor wybod bod yn rhaid i'r awdurdod lleol gyflwyno achosion busnes i Lywodraeth Cymru i'w hadolygu a'u cymeradwyo yn dilyn proses model busnes pum achos y Trysorlys - mae hon yn broses fanwl a chadarn a bydd y goblygiadau ariannol a'r amserlen dalu yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet i'w cymeradwyo unwaith y bydd costau terfynol y prosiect ar gael.

Cafwyd datganiad mewn perthynas â'r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb yn yr adran 'Pa dystiolaeth sydd wedi'i defnyddio i ategu'r safbwynt yma?' Awgrymwyd nad oedd yr ymatebion yn cynrychioli tystiolaeth gadarn a phendant ar ffurf data nac o ran cyfeirio at astudiaethau i ategu'r honiadau a gafodd eu gwneud. 

O ran yr Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg, sydd ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad 2, lle nodir 'Y bwriad oedd ymgorffori arferion ac agweddau cadarnhaol tuag at y Gymraeg ymhellach mewn ysgolion ac i hyrwyddo defnydd anffurfiol o'r Gymraeg ymhlith dysgwyr yn yr ysgolion a thu hwnt' , cafodd ymholiad ei godi ynghylch i ba raddau mae'r cynigion yn dod â'r awdurdod yn agosach at gyflawni'r targedau sydd wedi'u hamlinellu yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, sy'n cefnogi uchelgais Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.

Nododd y Pwyllgor fod y Cyngor yn cynyddu capasiti Ysgol Gyfun Rhydywaun ac YGG Aberdâryn rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac ysgolion yn yr ardaloedd hynny lle mae angen Addysg Cyfrwng Cymraeg. Mae ysgolion yn annog defnyddio'r Iaith Gymraeg ym mhob rhan o'r cwricwlwm ac yn ystod cyfnodau chwarae ac amser egwyl ac yn hyrwyddo addysg Gymraeg a chyfleoedd ychwanegol i ddysgu Cymraeg a / neu ddatblygu sgiliau a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwysleisiwyd bod ysgolion yn ysgolion cymunedol ac yn cael eu hintegreiddio'n llwyr ac mae modd eu defnyddio i hyrwyddo'r iaith Gymraeg.  Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (drafft) y Cyngor yn rhoi manylion o ymrwymiad y Cyngor i wella'r defnydd o'r Gymraeg ym mhob ysgol a darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau (Deilliant 5) yn ystod y 10 mlynedd nesaf.

I gloi, cadarnhawyd y bydd broses drosglwyddo trylwyr ar ddiwedd y tymor 25 mlynedd. Bydd hyn yn cael ei goruchwylio gan syrfëwr annibynnol (ac yn cynnwys arbenigwyr technegol o garfan Eiddo'r Cyngor) a fydd yn cynnal asesiad manwl o'r adeiladau i nodi unrhyw faterion a mynd i'r afael ag unrhyw gostau prosiect / gwaith cywiro gofynnol yn rhan o'r cytundeb cyn i'r adeilad gael ei drosglwyddo i'r awdurdod lleol.

PENDERFYNWYD:

1.       Nodi'r wybodaeth yn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, ynghyd â'r atodiadau a'r wybodaeth a ddarparwyd yn ystod y cyfarfod;

 

2.       Gofyn bod sylwadau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cael eu rhannu â'r Cabinet i'w hystyried cyn ei gyfarfod ar 20 Gorffennaf 2021;

 

3.       Nodwch y bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno er mwyn i'r Cabinet ei drafod yn y dyfodol. Bydd yr adroddiad yma'n rhoi manylion goblygiadau ariannol ac amserlenni talu'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol.

 

Dogfennau ategol: