Trafod adroddiad ar y cyd y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol.
Cofnodion:
Rhoddodd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol drosolwg o'i adroddiad i'r Aelodau a oedd yn cynnwys gwybodaeth eithriedig.
Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:
Nodi:
1. Bod y strwythurau cyfarwyddiaeth diwygiedig a ddangosir yn Atodiadau 2(i), 2(ii) a 2(iii) yn cael eu gweithredu o 1 Awst 2021 a'r strwythur yn 2(iv) yn cael ei weithredu o 1 Hydref 2021. Yn ogystal â hynny, gweithredir y strwythur a ddangosir yn Atodiad 3 (i) o 1 Mai 2022. Byddai gweithredu'r strwythurau diwygiedig yn rhoi gostyngiad amcangyfrifedig o £250,000 mewn costau rheoli blynyddol ar lefel Uwch Reolwyr a Rheolwyr Cysylltiedig (sy'n cynnwys argostau);
2. Bod y Cabinet yn awdurdodi'r swyddi canlynol, sy'n deillio o'r strwythurau diwygiedig sydd wedi'u hamlinellu yn adran 2.1.1 yr adroddiad:
i) diwygio swydd Cyfarwyddwr - Eiddo'r Cyngor (Cyfarwyddwr Lefel 2) i Gyfarwyddwr - Eiddo'r Cyngor (Cyfarwyddwr Lefel 1);
ii) diwygio swydd Pennaeth Cyfrifeg Corfforaethol a Rheoli (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1) i Gyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyfrifeg Gorfforaethol a Rheoli (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2);
iii) diwygio swydd Pennaeth Addysg ac Adrodd ar Faterion Ariannol (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1) i Gyfarwyddwr Gwasanaeth - Addysg ac Adrodd ar Faterion Ariannol (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2);
iv) diwygio swydd Pennaeth Cyllid - Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1) i Gyfarwyddwr Gwasanaeth Cyllid - Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2);
v) diwygio swydd Pennaeth Datblygu'r Gyfundrefn (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1) i Gyfarwyddwr Gwasanaeth - Datblygu'r Gyfundrefn (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2);
vi) diwygio swydd Pennaeth Cysylltiadau â Gweithwyr (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 2) i swydd Pennaeth Cysylltiadau â Gweithwyr (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1);
vii) diwygio swydd Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Pensiynau, Caffael a Thrafodion (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2) i Gyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Pensiynau, Caffael a Thrafodion (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 1);
viii) diwygio swydd Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 2) i Bennaeth Refeniw a Budd-daliadau (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1);
ix) diwygio swydd Pennaeth y Gwasanaethau Llety (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 2) i Bennaeth y Gwasanaethau Llety (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1);
x) diwygio swydd Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant (Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Lefel 2) i Gyfarwyddwr – Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant (Cyfarwyddwr – Lefel 1)
xi) diwygio swydd Pennaeth Ysgolion yr 21ain Ganrif (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1) i swydd Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif a Thrawsnewid (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 1);
xii) diwygio swydd Pennaeth Materion Trawsnewid ac Addysg (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 2) i Bennaeth Materion Trawsnewid, Derbyn a Llywodraethu (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1);
xiii) diwygio swydd Pennaeth Cyflawniad Uwchradd (0.5) (gradd soulbury) i swydd Pennaeth Cyflawniad a Lles Uwchradd (gradd soulbury);
xiv) diwygio swydd Cymorth Cynghori i Ysgolion (graddfa soulbury) i Bennaeth Cyflawniad Ysgolion Cynradd (graddfa soulbury);
xv) diwygio swydd Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Rheng Flaen (Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Lefel 1) i swydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng Flaen (Cyfarwyddwr Lefel 1)
xvi) diwygio swydd Pennaeth Materion Buddsoddi Strategol (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1) i Gyfarwyddwr Gwasanaeth - Trafnidiaeth, Gorfodi a Materion Buddsoddi Strategol (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2);
xvii) diwygio teitl swydd Pennaeth Gwasanaethau Eiddo Gweithredol (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 2) i Bennaeth Ynni a Lleihau Carbon (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 2).
3. Bod y Cabinet yn awdurdodi'r swyddi canlynol, sy'n deillio o'r strwythurau diwygiedig sydd wedi'u hamlinellu yn adran 2.1.1 yr adroddiad:
i) creu swydd Pennaeth Materion Technoleg (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 1);
ii) creu swydd Pennaeth Materion Trawsnewid Digidol (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 2);
iii) creu swydd Pennaeth Gweithrediadau TGCh (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 2);
iv) creu swydd Pennaeth Data, Rheoli Gwybodaeth a Systemau (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 2);
v) creu swydd Pennaeth Anableddau Dysgu ac Iechyd Meddwl (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 1);
vi) creu swydd Pennaeth Gwasanaethau'r Gymuned a'r Gymraeg (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 2);
vii) creu swydd Pennaeth Gwasanaethau'r Celfyddydau, Diwylliant a'r Llyfrgelloedd (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 2);
viii) creu swydd Pennaeth Gwasanaethau Hamdden, Chwaraeon a Pharciau (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 2);
ix) creu swydd Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoliadol (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 1);
x) creu swydd Pennaeth Gwasanaethau Diogelwch yn y Gymuned a Gwasanaethau Tai (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 2);
xi) creu swydd Pennaeth Materion Cynllunio (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 1);
xii) creu swydd Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 2);
xiii) creu swydd Pennaeth Materion Strategaeth a Buddsoddiadau Tai (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 2);
xiv) creu swydd Pennaeth Rheoli Asedau Isadeiledd (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 2);
xv) creu swydd Pennaeth Materion Rheoli Perygl Llifogydd a Phrosiectau Strategol (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 2);
4. Cymeradwyo diwygio swydd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant (gradd Cyfarwyddwr Cyfadran) i swydd Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant (gradd Cyfarwyddwr Cyfadran);
5. Nodi bod y Cabinet wedi cytuno i drosglwyddo:
i) Gwasanaethau Glanhau Cyfleusterau o'r Gwasanaethau Rheng Flaen i Wasanaethau Eiddo'r Cyngor;
ii) Gwasanaethau Cefn Gwlad o Gyfadran Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned i'r Gwasanaethau Rheng Flaen.
6. Cymeradwyo'r argymhellion canlynol gan y Pwyllgor Penodiadau o'i gyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2021:
7. Yn unol â phroses rheoli newid y Cyngor, oherwydd yr hawliad cytundebol sydd ar waith, dylid penodi Mr David Powell i swydd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor (Cyfarwyddwr Lefel 1) yn weithredol o 1 Awst 2021;
8. Yn unol â phroses rheoli newid y Cyngor, oherwydd yr hawliad cytundebol sydd ar waith, dylid penodi Mrs. Gaynor Davies i swydd Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant (Cyfarwyddwr Lefel 1) yn weithredol o 1 Awst 2021;
9. Yn unol â phroses rheoli newid y Cyngor, oherwydd yr hawliad cytundebol sydd ar waith, dylid penodi Mr Roger Waters i swydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng Flaen (Cyfarwyddwr Lefel 1) yn weithredol o 1 Hydref 2021
10. Bod Mr Paul Mee yn cael ei benodi'n ffurfiol i rôl Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant (gradd Cyfarwyddwr Cyfadran) yn weithredol o 1 Awst 2021;
11. Rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol i wneud y newidiadau sydd angen eu gwneud i Gyfansoddiad y Cyngor o ganlyniad i'r uchod.
(D.S: Fel y cyfeiriwyd ato yng nghofnod Rhif 39, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D R Bevan a'r Prif Swyddogion a oedd yn bresennol y cyfarfod pan drafodwyd y mater ac yn ystod y bleidlais, ac eithrio'r Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr, Adnoddau Dynol a arhosodd yn y cyfarfod i gyflwyno'r adroddiad i'r Aelodau.)