Darparodd Rheolwr Uned Busnes y Cyngor
drosolwg o'r fframwaith adrodd ar gyfer Cynllun
Strategol Drafft Cymraeg mewn Addysg y Cyngor, gan ddweud wrth yr
Aelodau am y cyfle i wneud sylwadau ar y cynllun drafft a'r
ymgynghoriad cysylltiedig, cyn i'r Cabinet ei drafod ar 20
Gorffennaf. Dywedwyd wrth yr aelodau mai'r bwriad oedd y byddai'r
cynllun Drafft yn cael ei gyflwyno ymhellach i'r Gr?p Llywio, yn
amodol ar benderfyniad y Cabinet, cyn i'r Cabinet ei drafod, a
hynny fel bod modd i'r gweithgor helpu gyda phroses benderfynu
gadarn.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro ar
faterion Ysgolion yr 21ain Ganrif a Thrawsnewidfanylion pellach i'r Aelodau mewn
perthynas
â'r adroddiad.
Yn ogystal â'r targed i gynydducanran y dysgwyr blwyddyn un mewn addysg gyfrwng
Gymraeg, cafodd yr Aelodau eu hatgoffa bod y Cynllun Strategol
Cymraeg mewn Addysg
hefyd yn cynnwys saith deilliant neu faes sy'n nodi sut mae
disgwyl i Awdurdodau Lleol
wella addysg Gymraeg yn eu hardal. Ein blaenoriaethau
yw:
1.
Deilliant 1: Mwy o ddisgyblion Meithrin / tair oed yn derbyn eu haddysg
trwy gyfrwng y Gymraeg.
2.
Deilliant 2: Mwy o ddisgyblion dosbarth Derbyn / pump oed yn derbyn eu
haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
3.
Deilliant 3: Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau iaith Gymraeg wrth
bontio o un Cyfnod o'u haddysg statudol i un arall.
4.
Deilliant 4: Mwy o ddisgyblion yn astudio ar gyfer cymwysterau wedi'u
hasesu yn y Gymraeg (y pwnc) a phynciau trwy gyfrwng y
Gymraeg.
5.
Deilliant 5: Mwy o gyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio'r Gymraeg mewn
cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol.
6.
Deilliant 6: Cynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag
Anghenion Dysgu Ychwanegol.
7.
Deilliant 7: Cynyddu nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu'r Gymraeg ac
addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn dilyn trosolwg manwl, cafwyd trafodaeth. Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddogion am y trosolwg manwl a nododd fod y Cynllun
Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi bod yn benllanw gwaith manwl,
caled gan Swyddogion, ar y cyd â gwaith ymgysylltu
llwyddiannus â phartneriaid allanol. Roedd y Cadeirydd yn
falch o weld y safbwynt tymor hwy a nododd y bydd adolygiadau
rheolaidd yn cael eu cynnal dros y 10 mlynedd.
Diolchodd Aelod arall i'r swyddogion am roi diweddariad manwl
a nododd, mewn perthynas â deilliant 5, ei bod hi'n bwysig
bod disgyblion yn cael eu hannog i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan
i'r ysgol ac yn y gymuned leol. Nododd yr Aelod yr her bwysig sydd
o’n blaenau o ran sicrhau bod gyda'r disgyblion hyder i
siarad Cymraeg mewn busnesau lleol a holodd sut roedd swyddogion yn
bwriadu goresgyn yr her yma yn y dyfodol. Dywedodd y Rheolwr
Gwasanaeth - Gwasanaethau'r Gymraeg wrth yr Aelodau fod y
strategaeth 5 mlynedd yn rhedeg ochr yn ochr â'r Cynllun
Strategol Cymraeg mewn Addysg a phwysleisiodd fod Llywodraeth Cymru
yn awyddus i'r canlyniadau redeg ochr yn ochr â'i gilydd.
Pwysleisiodd y Rheolwr Gwasanaeth eu bod ar hyn o bryd wrthi'n
llunio cynllun 5 mlynedd newydd, a fydd yn barod erbyn tua'r
Gwanwyn nesaf. Bydd y cynllun 5 mlynedd newydd yn cael ei gyflwyno
i'r Gr?p Llywio cyn gynted ag y bydd wedi'i gwblhau. O ran busnesau
lleol a'r her o annog disgyblion i ddefnyddio'r Gymraeg yn y
gymuned leol, pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y bydd y
gwasanaeth yn parhau i weithio'n agos gyda meysydd gwasanaeth y
Cyngora phartneriaid yn y gymuned.
|