Agenda item

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A S Fox i Ddirprwy Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Webber:

“Sut mae'r Cyngor hwn yn cefnogi ei gymuned Lluoedd Arfog leol?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Webber:

 

Dywedodd y Cynghorydd Webber mai RhCT yw'r Cyngor cyntaf yng Nghymru i ymuno â Chyfamod y Lluoedd Arfog sy'n ddatganiad gwirfoddol o gydgefnogaeth rhwng y lluoedd arfog a'r gymuned sifil ac mae'n addo cydnabod y parch sy'n bodoli rhwng y Cyngor, ei asiantaethau partner, ei gymunedau a'n Personél Lluoedd Arfog (sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd ac sydd wedi ymddeol) a'u teuluoedd. Yn 2019 lansiodd Cyngor RhCT ei Wasanaeth Cyngor i Gyn-Filwyr ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog, sy'n cael ei gynnig gan Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog (AFLOW). Mae'r swyddog yn darparu sesiynau codi ymwybyddiaeth i staff ac yn sicrhau bod y lefel orau o gefnogaeth yn cael ei chynnig. Mae'r Cyngor yn cynnig ffioedd claddu gostyngedig i gymuned y lluoedd arfog sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd ac sydd wedi ymddeol ac sy'n byw yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos ar Gofeb Ryfel Aberdâr, Cofeb Ryfel Llantrisant, Cofeb Ryfel Gilfach Goch ac wedi cynnal trafodaethau ynghylch Cofebion Rhyfel yn Nhonypandy, Penrhiwceiber a Chwm-parc. Eleni mae'r Cyngor wedi cyflwyno cais llwyddiannus am arian gan gronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog ar gyfer y Cynllun Cysylltu Cyn-filwyr i helpu i gynnal cyswllt rhwng cyn-filwyr a'u teuluoedd trwy dechnoleg ddigidol sy'n lleihau arwahanrwydd cymdeithasol.

 

Bydd gwaith yn y dyfodol yn cynnwys cyflwyno adroddiad i'r Cabinet ynghylch goresgyn rhwystrau i gyflogaeth sifil a allai arwain at gyflwyno cynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd arfog, cyn-filwyr wrth gefn a'u priod os ydynt yn bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer swyddi gwag.

 

I gloi, dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod ei chyfraniad personol ei hun wedi cynnwys cefnogi’r prosiectau sy'n ymwneud â Chofeb Ryfel, cefnogi Grwpiau Cyn-filwyr y Cymoedd gyda’u prosiectau a’u clybiau brecwast, gan roi tystiolaeth i Bwyllgor Dethol T?’r Cyffredin ar Fil y Lluoedd Arfog, cefnogi Cyn-filwyr yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae'r Dirprwy Arweinydd hefyd yn cyflawni rôl llefarydd y Lluoedd Arfog Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. S. Fox:

 

“Dywedodd y Cynghorydd Fox fod cymuned Penrhiwceiber wedi ymrwymo i dalu teyrnged i aelodau cymuned y lluoedd arfog a gofynnodd a all y Dirprwy Arweinydd ddarparu diweddariad ynghylch y gwaith i adfer y cloc coffa”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Webber

 

“Cadarnhaodd y Cynghorydd Webber ei bod hi wedi ymweld â’r Gofeb Ryfel ym Mhenrhiwceiber a rhoddodd wybod bod y cloc Coffa wedi’i restru ond ychwanegodd fod y Cyngor wedi bod mewn cysylltiad â Cadw. Er nad oes llawer o arbenigwyr cloc ar gael, mae adroddiad pensaer a chyngor arbenigol mewn perthynas â'r cloc wedi cael eu casglu a'u hanfon at Cadw. Mae'r Cyngor wedi gwneud cais am rywfaint o gyllid gan Gronfa Cofebion Rhyfel er mwyn ei defnyddio i drwsio'r cloc a daeth y Dirprwy Arweinydd i ben drwy ymrwymo y bydd y cloc yn cael ei adfer. ”

 

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol E Webster i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

"Beth sy'n digwydd pan fydd wal afon bwysig yn y fwrdeistref mewn perygl o gwympo, ond dydyn ni ddim yn gwybod pwy yw'r perchennog â hawliau glannau afon?"

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

“Ymatebodd yr Arweinydd drwy ddweud bod Deddf Rheoli Llifogydd a D?r 2010 yn nodi’r awdurdod rheoli risg priodol wrth fynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n ymwneud â llifogydd. Cyngor RhCT yw'r Awdurdod Perygl Llifogydd Arweiniol sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol am berygl llifogydd i gyrsiau d?r cyffredin, llifogydd d?r wyneb. Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy'n gyfrifol am brif afonydd a'r risg o lifogydd yn yr afonydd. Yn yr achos gyntaf, bydd atgyfeiriadau'n cael eu cyfeirio at CNC. Byddai CNC yn nodi a yw’r asedau yn eiddo iddyn nhw ac a oes broblem o ran perchennog glannau'r afon. ”

Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol E Webster:

 

“Mae wal amddiffyn yr afon yn strwythur parhaus sy'n rhedeg o'r Barics ym Mhentre trwy Dreorci hyd at Ynys-wen. Mae'r Awdurdod yma'n gyfrifol am rannau o'r afon, mae trigolion preifat a busnesau yn gyfrifol am rannau eraill ac mae rhannau eraill, megis S?n yr Afon, heb berson cyfrifol. Mae'n amlwg bod y wal yn heneiddio ac mae'r methiant yn S?n Yr Afon yn ystod Storm Dennis yn arwydd o hynny. Mae'r llyncdwll wedi tyfu i dros 30 troedfedd sy'n bryder i'r trigolion. Mae CNC yn honni bod hwn yn cynrychioli risg isel o lifogydd i drigolion, ond nid ydyn nhw wedi ystyried y difrod pe byddai’r wal yn disgyn i'r afon. Mae yna lyncdwll tebyg ar ben uchaf Treorci ac mae rhannau gwahanol o'r wal wedi erydu. Mae'r wal yn cynrychioli mesur amddiffyn hollbwysig, pa sicrwydd y gall y Cyngor hwn ei roi i drigolion sy'n profi bod y wal hon yn ddiogel ac a fyddwch chi'n gweithio gyda CNC i gynnal arolwg o gyflwr y wal yn ei chyfanrwydd? ”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

“Dywedodd y Cynghorydd Morgan nad yw CNC yn cyfrif y wal hon fel amddiffynfa rhag llifogydd. Mae'r Cyngor yn cynnal arolygon sylweddol mewn perthynas â phob wal afon sy'n eiddo i'r cyngor lle bu sgwrio ac yn cyflawni unrhyw waith angenrheidiol. Nid yw'r darn o dir lle mae'r llyncdwll yn berchen i unrhyw un ar hyn o bryd, mae'n ddarn o dir heb ei gofrestru ac mae CNC yn nodi nad yw'r llyncdwll yn peri risg, nac yn ased llifogydd afon felly mae'n dod o dan berchnogaeth glannau'r afon. O ganlyniad i hynny, byddai gofyn i drigolion drafod â'u cwmnïau yswiriant eu hunain i weld a oes risg i'w heiddo a'u gerddi. Ychwanegodd yr Arweinydd fod milltiroedd o waliau afon yn RhCT sy'n berchen i unigolion a chyfrifoldeb y Cyngor yw defnyddio pwerau brys neu gyflwyno hysbysiadau i dirfeddianwyr cyfagos sy'n gofyn iddyn nhw weithredu. I gloi, roedd yr Arweinydd wedi ymrwymo y byddai'n trafod y wal benodol hon gyda CNC. ”

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol K. Morgan i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

“A wnaiff yr Aelod ddatganiad ar Isadeiledd y Priffyrdd ym mhentref Hirwaun os gwelwch yn dda”.

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

“Dywedodd yr Arweinydd fod y cynlluniau a’r gwariant ar Isadeiledd y Priffyrdd fel a ganlyn:

Bron i £1miliwn ar isadeiledd dros y 10 mlynedd diwethaf, £150,000 ar lwybrau troed, £400,000 ar strwythurau, 21 o gynlluniau cyfalaf wedi'u cwblhau hyd yma, megis cynllun adnewyddu Pont Heol yr Orsaf ac atgyweirio llwybrau troed a nifer o gynlluniau gwella goleuadau stryd dros y blynyddoedd. "

Cwestiwn ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol K.Morgan:

 

“Dywedodd y Cynghorydd K Morgan fod ceisiadau blaenorol am adolygiad rheoli traffig a chynllun i fynd i’r afael â’r materion y mae trigolion yn eu hwynebu wedi cael eu diwallu gyda’r cyllid sydd ei angen ar gyfer adolygu, dylunio, blaenoriaethu cyllid. Mae dechrau gwaith deuoli Ffordd Blaenau'r Cymoedd wedi gwaethygu'r problemau diogelwch ffyrdd presennol ac mae hyn yn cynnwys cerbydau cludo nwyddau mawr iawn yn defnyddio ein strydoedd i osgoi'r ciwiau ar Ffordd Blaenau'r Cymoedd ynghyd â'r dargyfeiriadau swyddogol anochel. Roedd y Cynghorydd Morgan wedi gobeithio am ddull rhagweithiol i liniaru'r effeithiau ar y pentref megis cyfyngiadau pwysau, yn debyg i'r rhai sydd ar waith yn Llwydcoed.

Pa gamau y bydd y Cyngor yn eu cymryd yn ystod y blynyddoedd nesaf i sicrhau y bydd Hirwaun yn elwa o'r gwaith yma yn hytrach na dioddef o hyd?

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

“Dywedodd y Cynghorydd Morgan mai cyfrifoldeb y datblygwyr priffyrdd yw edrych ar y mesurau lliniaru ond pwysleisiodd y byddai’n codi’r materion gyda’r Swyddogion Priffyrdd er mwyn iddyn nhw gyfathrebu â’r cwmni datblygu sy'n cyflawni gwaith deuoli'r A465 gan dynnu sylw at rai o’r pryderon a godwyd a gweld a oes angen trafodaethau pellach gyda Llywodraeth Cymru a'r partneriaid sy'n cyflawni'r A465. ”

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Griffiths i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

“A yw’r Arweinydd, drwy’r Cyngor hwn neu Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi derbyn unrhyw ddiweddariad mewn perthynas â Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, sydd i fod i ddisodli Cronfeydd Strwythurol yr UE?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

“Dywedodd y Cynghorydd Morgan, bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol unigol wedi bod yn lobïo i sicrhau bod buddion cyllid Refeniw a Chyfalaf Ewropeaidd yn cael eu cynnal. Mae'r Gronfa Adfywio Cymunedol ar gael, a chyflwynwyd nifer o geisiadau am gyllid (gwerth cyfanswm o £ 40miliwn). Ychwanegodd yr Arweinydd ei fod ef, ynghyd ag Arweinwyr eraill, wedi darparu tystiolaeth am Gronfa Codi'r Gwastad i’r Pwyllgor ar Faterion Cymreig. Yn ystod y cyfarfod yma, cafodd neges gyson ei chyfleu, hynny yw; er ein bod ni'n croesawu'r cyllid, byddai angen cynnydd mawr yn y cyllid yn ystod y blynyddoedd nesaf. Dywedodd yr Arweinydd fod y neges gan Lywodraeth y DU ynghylch cyfranogiad Llywodraeth Cymru wedi bod yn aneglur. Pwysleisiodd yr Arweinydd bwysigrwydd cymunedau lleol yn elwa o'r cyllid. ”

Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Griffiths:

 

“Onid yw’r gronfa codi'r gwastad yn 'gronfa gil-dwrn' ar gyfer AS y Blaid Geidwadol a oedd wedi elwa o'r gronfa ychydig fisoedd yn ôl?"

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

“Cadarnhaodd Arweinydd y Cyngor ei fod ef wedi cael cyfarfod cadarnhaol gyda Robert Jenrick, Ysgrifennydd Gwladol dros faterion Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, am bwysigrwydd sicrhau cyllid Cronfa Codi'r Gwastad ar gyfer ardaloedd megis RhCT. Roedd yn gobeithio y bydd cyfanswm y cyllid yn cynyddu ”

 

Dogfennau ategol: