Agenda item

Croesawu swyddogion Comisiwn y Gyfraith ar gyfer Cymru a Lloegr a fydd yn amlinellu cynigion yr ymgynghoriad mewn perthynas â'r trefniadau diogelwch newydd ar gyfer tomenni glo yng Nghymru.

 

Rheoleiddio Diogelwch Tomenni Glo yng Nghymru | Comisiwn y Gyfraith

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad gan ddweud wrth y Pwyllgor fod cynrychiolwyr o Gomisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr yn bresennol yn y cyfarfod i amlinellu'r cynigion o ran ymgynghori ar y drefn ddiogelwch newydd ar gyfer tomenni glo yng Nghymru.

 

Cyflwynwyd y cyflwyniad Power Point 'Rheoleiddio Diogelwch Tomenni Glo yng Nghymru' o dan y penawdau canlynol:

 

Ø  Y gyfraith gyfredol a phroblemau gyda'r gyfraith gyfredol

Ø  Cynigion Arfaethedig

Ø  Cwestiynau enghreifftiol ar gyfer Rhanddeiliaid

Ø  Ymgynghori

 

Ymatebodd cynrychiolwyr o Gomisiwn y Gyfraith, Mr Nicholas Paines QC a Lisa Smith, Cyfreithiwr, i nifer o gwestiynau:

 

Ø  A fydd y ddeddfwriaeth newydd arfaethedig, i ddisodli deddfwriaeth 1969, yn Ddeddfwriaeth Sylfaenol sy'n ddeddfwriaeth ledled y DU neu'n ddeddfwriaeth eilaidd, gan ychwanegu at Ddeddf 1969;

Ø  A yw'r brîff yn cynnwys ystyried atebolrwydd o ran tomenni glo neu a fydd hyn yn aros y tu allan i'r brîff?

Ø  A yw'r ddeddfwriaeth bresennol yn Ddeddfwriaeth Sylfaenol o fewn y DU?

Ø  Beth sy'n digwydd gyda Thirfeddianwyr absennol?

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi gwahodd Comisiwn y Gyfraith i gynnal adolygiad annibynnol o ddeddfwriaeth diogelwch tomenni glo, gyda diogelwch yn dod o dan fesurau datganoledig. Mae gan y Senedd y grym i lunio cyfundrefn newydd a'i phasio fel Deddfwriaeth Sylfaenol, byddai'n fater i Lywodraeth y DU pe byddai'n dymuno efelychu cyfundrefn Cymru.

 

Dywedodd Comisiwn y Gyfraith nad oes ganddo awdurdodaeth i argymell i ba raddau y dylai Llywodraeth y DU ryddhau cyllid pellach. Byddai angen i'r Senedd wneud penderfyniad polisi ynghylch a yw cost adfer tomenni yn deillio o arian cyhoeddus neu gan dirfeddianwyr unigol. Mae'r cynllun deddfwriaeth cyfredol yn golygu mai'r tirfeddiannwr sy'n gyfrifol, ond bydd Comisiwn y Gyfraith yn argymell strwythur eang sy'n sicrhau cyllid o arian cyhoeddus pan fydd ar gael, ac yn rhoi cyfle i godi tâl ar dirfeddianwyr am ddarnau unigol o waith neu drwy ffi flynyddol.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Rheng Flaen drosolwg o'r cyfundrefnau arolygu a gaiff eu dilyn yn RhCT. Ar hyn o bryd mae'r Tasglu Diogelwch Tomenni, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â'r Awdurdod Glo, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a'r Awdurdodau Lleol yn adolygu'r tomenni ledled y wlad. Mae'r Awdurdod Lleol yn parhau i gynnal asesiadau risg ac archwilio ei domenni, ac mae'r Awdurdod Glo yn cefnogi'r gwaith yma. 

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y gwaith hyd yma yn dilyn y tirlithriad a ddigwyddodd ar ochr bryn Llanwynno, Tylorstown, yn ogystal â thrafodaethau gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r awdurdod lleol ynghylch cyllido cam dau a thri (amcangyfrifir mai cost hyn fydd oddeutu £2.5 miliwn). Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhannu ar wefan y Cyngor (a chaiff yr Aelodau lleol eu hysbysu) sy'n cynnwys trosolwg o Gam 4 a gweledigaeth y Cyngor ar gyfer yr ardal yma yn y dyfodol.

 

Cododd rhai Aelodau bryder ynghylch y diffyg gwybodaeth o ran yr angen i roi sylw ar unwaith i unrhyw domenni yn yr awdurdod lleol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod dros £1 miliwn wedi'i wario ar gynnal a chadw tomennydd yn rheolaidd yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22. Nod hyn oedd lliniaru risgiau ac mae ymchwiliadau pellach yn parhau ar nifer o safleoedd a allai arwain at waith mwy sylweddol. Mae'r Awdurdod Glo yn bwriadu gwneud rhywfaint o waith ar Domen Wattstown Standard (dan berchnogaeth breifat) ac mae mesurau monitro o bell wedi'u gosod ar y cyd â'r Awdurdod Glo yn Nhomen Wattstown National, sy'n eiddo i Gyngor RhCT. Mae'r gwaith archwilio rheolaidd yn dal i fynd rhagddo ar bob safle er mwyn nodi problemau a'u rheoli. Caiff trafodaethau â'r Aelodau Lleol eu cynnal cyn i unrhyw waith sylweddol gael ei gyflawni, ac mae'r wybodaeth hefyd yn cael ei rhannu â'r cyhoedd ymlaen llaw.

 

Cododd yr Aelodau bryder y gallai tomenni glo losgi'n ddigymell o ganlyniad i danau mynydd. Trafodwyd y mater hwn ymhellach gan gyfeirio at safle Craig Y Dyffryn, a arferai fod yn eiddo i'r Arglwydd Aberdâr, a losgodd yn ddigymell ym 1969. Roedd hyn yn ddigwyddiad difrifol ar y pryd. Holodd yr Aelodau a fyddai'r ddeddfwriaeth newydd yn ystyrlon o ran yr etifeddiaeth lofaol. Dywedodd Mr Paines QC y cyfeirir at dân digymell o fewn briff ymgynghori Comisiwn y Gyfraith a dywedodd y dylid ymestyn cylch gorchwyl yr Awdurdod Lleol i'r awdurdod goruchwylio sengl i gwmpasu tân digymell. Er bod hyn yn ddigwyddiad prin, mae modd iddo ddigwydd ar unrhyw adeg.

 

Gofynnodd yr Aelodau am sicrwydd bod peirianwyr cymwys sydd ag arbenigedd yn y diwydiant glofaol yn cymryd rhan yn y broses arolygu yn dilyn cyfeiriad at ddiffyg peirianwyr cymwys yn y maes hwn. Manylodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Rheng Flaen, ar y buddion o ran cael un awdurdod goruchwylio gyda dyletswydd i oruchwylio rheolaeth yr holl domenni segur, gan nodi y byddai sgiliau'n cael eu cynnal ar draws corff arbenigol gyda'r cyfle i ddatblygu sgiliau trwy raglenni Graddedigion / Prentisiaethau ac i sefydlu'r arbenigedd a'r wybodaeth briodol o ran y ddeddfwriaeth.

 

I gloi, cyhoeddodd cynrychiolwyr o Gomisiwn y Gyfraith ddigwyddiad cyhoeddus ar 20 Gorffennaf 2021 lle bydd gwybodaeth bellach yn cael ei darparu am yr ymgynghoriad. Nodwyd fod croeso i'r holl Aelodau gymryd rhan a bod y Gwasanaethau Democrataidd eisoes wedi rhannu'r manylion.

 

Yn dilyn trafodaethau, PENDERFYNWYD y byddai'r ymatebion ymgynghori drafft a nodwyd yn sylwadau ac adborth yr Aelodau yn cael eu trafod a'u ffurfioli yng nghyfarfod arbennig y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar 16 Gorffennaf 2021 am 2pm.

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: