Derbyn cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) a gwaith allweddol arall y Bwrdd
Cofnodion:
Diolchodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yr Athro Marcus Longley i Gyngor RhCT am wahodd aelodau'r Bwrdd i annerch cyfarfod llawn o'r Cyngor. Talodd deyrnged i staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Rhondda Cynon Taf am eu hymrwymiad a'u hymroddiad dros y 15 mis diwethaf yn ymdopi â phwysau gwaith.
Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint, cyflwynodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Mr Paul Mears, drosolwg o faterion allweddol o dan y penawdau canlynol:
Ø Diweddariad o ran Covid - Diweddaru'r Ymateb i Covid
Diweddariad ar dri mater allweddol - profi, brechu ac adsefydlu yn dilyn Covid
Ø Rhaglen Adferiad Dewisol
Manylion mewn perthynas â'r Rhaglenni Adfer Gofal a Gwelliannau Brys i Ofal arfaethedig
Ø Ffocws Gofal Sylfaenol
Pwyslais ar nifer o feysydd allweddol, megis dechrau e-ymgynghori a'r cynnig am ganolfan arbennig i gyfeirio pobl at wasanaeth 111 y GIG.
Ø Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol
Diweddariad ar y Rhaglen Gwella Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol, gan sôn am barhau i weithio'n agos gyda'r Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth (IMSOP)
Bu cyflwyniad PowerPoint arall mewn perthynas â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) Cwm Taf Morgannwg, yn benodol yngl?n â sut mae'r gwasanaeth wedi datblygu dros y flwyddyn ddiwethaf ac ystyried yr heriau sydd o'u blaenau, gan gynnwys y gwaith partneriaeth gyda'r Awdurdodau Lleol.
Ø CAMHS Cwm Taf Morgannwg
Ø Buddsoddiad Newydd 2021/22
Gan gynnwys diweddariad ar gyllid gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Gofal Canolraddol
Ø Gwelliannau Allweddol - Ymyrraeth Gynnar
Ffocws o'r newydd ar gyfleoedd gweithio ar y cyd a meithrin perthnasoedd ag asiantaethau partner
Ø Gwelliannau Allweddol - Covid
Cynnal y gwasanaeth drwy gydol pandemig Covid a chynnal gwasanaethau Argyfwng wyneb yn wyneb parhaus 7 diwrnod yr wythnos
Ø Gwelliannau Allweddol - CAMHS
Diweddariad ar Un Pwynt Mynediad, staffio ac ailgynllunio gwasanaethau
Ø Gweledigaeth a Chynlluniau ar gyfer y Dyfodol
Trosolwg o'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys yr angen am ymateb cyflym a hyblygrwydd parhaus dros y 12-24 mis nesaf a rhoi modelau a llwybrau newydd ar waith.
Arweinydd y Cyngor
Diolchodd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol A Morgan i aelodau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am ddod i'r cyfarfod a rhannu'r newyddion diweddaraf am CAMHS a materion ehangach. Awgrymodd y byddai sesiynau diweddaru pellach yn cael eu trefnu i fynd i'r afael â materion yn ymwneud ag adfer yn dilyn Covid a gwasanaethau gofal sylfaenol megis llawdriniaeth ddewisol. Fe wnaeth yr Arweinydd gydnabod bod CAMHS wedi bod dan bwysau o’r blaen a gyda disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol llawn amser, roedd yn rhagweld y byddai galw mawr am gymorth.
Gofynnodd yr Arweinydd a oedd swyddi gwag gyda nhw o hyd a phwysau ar staff a sut mae recriwtio i'r gwasanaeth?
Y Cynghorydd P Jarman - Arweinydd yr Wrthblaid
Tynnodd y Cynghorydd Jarman sylw at yr angen am wasanaeth CAMHS a gofynnodd faint o blant sydd ar restr aros CAMHS?
A oes trefniant tebyg yn RhCT i'r un ym Merthyr Tudful lle mae gwasanaethau offthalmig wedi'u hategu yn ddiweddar drwy drefniant rhwng Specsavers a'r Ymddiriedolaeth?
Y Cynghorydd M Powell - Arweinydd Gr?p Annibynnol RhCT
Gofynnodd y Cynghorydd Powell a oedd y cyfraddau uchel o Covid y cyfeiriwyd atyn nhw yn y cyflwyniad yn cynrychioli symudiad i fyny ar y gromlin?
Mae'r gofal a gynlluniwyd wedi cael chwistrelliad o £16 miliwn, a chwestiynodd a yw hynny'n ddigon?
Faint o aelodau staff sydd wedi dychwelyd i'r UE a gadael Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a sut mae'r Bwrdd yn llenwi'r swyddi gwag hynny?
A yw diffyg Uned Mân Anafiadau ym Mhontypridd / Taf-elái yn cael effaith ar Ysbyty Brenhinol Morgannwg?
Ffigurau ambiwlans - a allwch chi rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am y data?
Darparwyd yr ymatebion canlynol fel a ganlyn:
Cyflwynwyd cwestiynau pellach:
Darparwyd ymatebion gan y Prif Weithredwr, Mr Paul Mears a Kate Burton o garfan CAMHS fel a ganlyn:
Dywedodd y Prif Weithredwr pe bai gan Aelodau unrhyw ymholiadau neu gwestiynau pellach; dylen nhw eu hanfon ymlaen at Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i gael eglurhad ac ymateb.
Diolchodd y Llywydd i aelodau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am ddod i'r cyfarfod a darparu trosolwg o wasanaethau CAHMS a materion ehangach.