"Mae'r Cyngor yma'n cydnabod:
• bod achosion parhaus o ollwng sbwriel yn cael effaith niweidiol ar gymunedau yn Rhondda Cynon Taf. Mae'n gwneud yr ardal yn anneniadol i ymwelwyr ac nid yw'n ennyn unrhyw falchder ymhlith y bobl sy'n byw yn yr ardal.
• yr angen i addysgu pobl er mwyn newid eu harferion os ydyn ni am lwyddo i lanhau ein hardaloedd lleol ac er mwyn gwneud hynny mae angen slogan ymgyrchu arnom ni i ddal sylw pobl.
Mae'r Cyngor yma'n nodi:
• llwyddiant ymgyrchoedd fel yr ymgyrch 'Check Your Balls' i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ganser y ceilliau.
• ymgyrchoedd ardaloedd eraill, e.e. Abertawe
https://www.abertawe.gov.uk/article/59212/Peidiwch-a-thaflu-sbwriel-dros-benwythnos-gwyl-y-banc
• y bu nifer o ymgyrchoedd yn cynnwys 'Don't be a Tosser' ledled y DU i annog pobl i beidio â thaflu sbwriel ers i'r Cyngor yma glywed y syniad a'i wrthod yn 2009.
• bod pethau wedi newid cryn dipyn yn ystod y 12 mlynedd ddiwethaf, ac mae geiriau a fu unwaith yn annerbyniol bellach yn cael eu hystyried yn wahanol.
Mae'r Cyngor hwn, felly, yn penderfynu:
• gofyn i'r Cabinet a swyddogion perthnasol roi ystyriaeth lawn i gyflwyno ymgyrch 'Don't Be a Tosser' er mwyn annog pobl i beidio â thaflu sbwriel.
B. Rhybudd o Gynnig sydd wedi'i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol: G. Caple, R. Williams, L. M. Adams, D. R. Bevan, H. Boggis, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, A. Calvert, A. Crimmings, A. Davies-Jones, L. De- Vet, J. Elliott, S. Evans, G. Jones, M. Fidler Jones, M. Forey, A. Fox, E. George, M. Griffiths, J. Harries, G. Holmes, G. Hopkins, R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S. Pickering, S. Powell, S. Rees, A. Roberts, J. Rosser, G. Stacey, M. Tegg, G. Thomas, W. Treeby, R. K. Turner, M. Webber, D. Williams, T. Williams a R. Yeo
Ar Ebrill 29 2021, cyhoeddodd y Pwyllgor Dethol Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) ei adroddiad ar Gynllun Pensiwn y Glowyr. Roedd yr adroddiad yn archwilio anghyfiawnder hanesyddol glowyr yn cael eu hamddifadu o'u hawliau pensiwn haeddiannol.
Fel y bydd yr Aelodau’n cofio, cefnogodd y Cyngor yma Rybudd o Gynnig yn cefnogi Ymgyrch Cyfiawnder a Chwarae Teg Cymdeithas Bensiwn y Glowyr y DU yn 2017, gan alw i aildrafod y trefniant i rannu unrhyw arian dros ben 50:50 rhwng y cyn-lowyr a Llywodraeth y DU. Er gwaethaf galw am Ddadl Seneddol, cafodd y mater ei wneud yn destun ymchwiliad Pwyllgor Dethol.
Nawr, mae'r adroddiad BEIS a gyhoeddwyd yn ddiweddar wedi nodi y dylid adolygu’r trefniant yma i rannu'r arian dros ben a sefydlu system decach yn ei le sy’n gweld y rhai sy'n derbyn y pensiwn yn cael “canran fwy realistig o unrhyw arian dros ben.”
Mae'r adroddiad yn cydnabod nifer o broblemau arwyddocaol gyda chanlyniad trafodaethau 1994, gan gynnwys methiant y Llywodraeth i gyflawni diwydrwydd dyladwy ac absenoldeb cyngor actiwaraidd. Mae hyn wedi arwain at Lywodraeth San Steffan yn derbyn dros £4 biliwn o'r trefniant, a'r disgwyl yw y bydd yn derbyn £1.9 biliwn pellach. Mae'r elw sylweddol yma wedi'i wneud heb i Lywodraeth San Steffan dalu ceiniog i'r cynllun.
Dylid chwilio am drefniant newydd ar frys, ac mae'r Cyngor yma'n cefnogi'r model argymelledig sy'n cael ei gynnig yn adroddiad BEIS. Mae'r model yn cynnwys y manylion canlynol:
Felly mae'r Cyngor yma'n penderfynu y dylai Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at y Prif Weinidog, Canghellor y Trysorlys a'r Gweinidog Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i ddangos cefnogaeth y Cyngor i argymhellion adroddiad BEIS ac i annog Llywodraeth San Steffan i newid y trefniant annheg a chyflwyno setliad teg sy'n seiliedig ar gyngor actiwaraidd ac sy'n canolbwyntio ar fudd gorau derbynwyr y pensiwn.
Cofnodion:
Derbyniwyd y Rhybudd o Gynnig canlynol yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol M Powell, L Walker, W Owen, K Jones, W Jones a P Howe:
"Mae'r Cyngor yma'n cydnabod:
• bod achosion parhaus o ollwng sbwriel yn cael effaith niweidiol ar gymunedau yn Rhondda Cynon Taf. Mae'n gwneud yr ardal yn anneniadol i ymwelwyr ac nid yw'n ennyn unrhyw falchder ymhlith y bobl sy'n byw yn yr ardal.
• yr angen i addysgu pobl er mwyn newid eu harferion os ydyn ni am lwyddo i lanhau ein hardaloedd lleol ac er mwyn gwneud hynny mae angen slogan ymgyrchu arnom ni i ddal sylw pobl.
Mae'r Cyngor yma'n nodi:
• llwyddiant ymgyrchoedd fel yr ymgyrch 'Check Your Balls' i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ganser y ceilliau.
• ymgyrchoedd ardaloedd eraill, e.e. Abertawe https://www.abertawe.gov.uk/article/59212/Peidiwch-a-thaflu-sbwriel-dros-benwythnos-gwyl-y-banc
• y bu nifer o ymgyrchoedd yn cynnwys 'Don't be a Tosser' ledled y DU i annog pobl i beidio â thaflu sbwriel ers i'r Cyngor yma glywed y syniad a'i wrthod yn 2009.
• bod pethau wedi newid cryn dipyn yn ystod y 12 mlynedd ddiwethaf, ac mae geiriau a fu unwaith yn annerbyniol bellach yn cael eu hystyried yn wahanol.
Mae'r Cyngor hwn, felly, yn penderfynu:
• gofyn i'r Cabinet a swyddogion perthnasol roi ystyriaeth lawn i gyflwyno ymgyrch 'Don't Be a Tosser' er mwyn annog pobl i beidio â thaflu sbwriel.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD – mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig.
(Nodwch: Roedd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol P. Jarman a W. Lewis yn dymuno cofnodi eu bod wedi pleidleisio i beidio â mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig)
PENDERFYNWYD y dylai Rheol Gweithdrefn 10.6 y Cyngor cael ei atal fel bod modd trafod y Rhybudd o Gynnig isod, a hynny gan ystyried bod cefnogwr y Rhybudd o Gynnig, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Williams, wedi datgan buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu ac sydd, o ganlyniad i hynny, ddim yn cymryd rhan yn y cyfarfod.
Derbyniwyd y Rhybudd o Gynnig canlynol yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol G. Caple, R. Williams, L. M. Adams, D. R. Bevan, H. Boggis, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, A. Calvert, A. Crimmings, A. Davies-Jones, L. De- Vet, J. Edwards, J. Elliott, S. Evans, G. Jones, M. Fidler Jones, M. Forey, A. Fox, E. George, M. Griffiths, J. Harries, G. Holmes, G. Hopkins, R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S. Pickering, S. Powell, S. Rees, A. Roberts, J. Rosser, G. Stacey, M. Tegg, G. Thomas, W. Treeby, R. K. Turner, M. Webber, D. Williams, T. Williams a R. Yeo:
Ar 29 Ebrill 2021, cyhoeddodd y Pwyllgor Dethol Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) ei adroddiad ar Gynllun Pensiwn y Glowyr. Roedd yr adroddiad yn archwilio anghyfiawnder hanesyddol glowyr yn cael eu hamddifadu o'u hawliau pensiwn haeddiannol. Fel y bydd yr Aelodau’n cofio, cefnogodd y Cyngor yma Rybudd o Gynnig yn cefnogi Ymgyrch Cyfiawnder a Chwarae Teg Cymdeithas Bensiwn y Glowyr y DU yn 2017, gan alw i aildrafod y trefniant i rannu unrhyw arian dros ben 50:50 rhwng y cyn-lowyr a Llywodraeth y DU. Er gwaethaf galw am Ddadl Seneddol, cafodd y mater ei wneud yn destun ymchwiliad Pwyllgor Dethol. Nawr, mae'r adroddiad BEIS a gyhoeddwyd yn ddiweddar wedi nodi y dylid adolygu’r trefniant yma i rannu'r arian dros ben a sefydlu system decach yn ei le sy’n gweld y rhai sy'n derbyn y pensiwn yn cael “canran fwy realistig o unrhyw arian dros ben.” Mae'r adroddiad yn cydnabod nifer o broblemau arwyddocaol gyda chanlyniad trafodaethau 1994, gan gynnwys methiant y Llywodraeth i gyflawni diwydrwydd dyladwy ac absenoldeb cyngor actiwaraidd. Mae hyn wedi arwain at Lywodraeth San Steffan yn derbyn dros £4 biliwn o'r trefniant, a'r disgwyl yw y bydd yn derbyn £1.9 biliwn pellach. Mae'r elw sylweddol yma wedi'i wneud heb i Lywodraeth San Steffan dalu ceiniog i'r cynllun. Dylid chwilio am drefniant newydd ar frys, ac mae'r Cyngor yma'n cefnogi'r model argymelledig sy'n cael ei gynnig yn adroddiad BEIS. Mae'r model yn cynnwys y manylion canlynol:
Felly mae'r Cyngor yma'n penderfynu y dylai Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at y Prif Weinidog, Canghellor y Trysorlys a'r Gweinidog Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i ddangos cefnogaeth y Cyngor i argymhellion adroddiad BEIS ac i annog Llywodraeth San Steffan i newid y trefniant annheg a chyflwyno setliad teg sy'n seiliedig ar gyngor actiwaraidd ac sy'n canolbwyntio ar fudd gorau derbynwyr y pensiwn. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD – mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig.
(Nodwch: Roedd yr Aelodau canlynol o'r Gr?p Llafur yn dymuno cofnodi eu bod nhw wedi pleidleisio o blaid y Rhybudd o Gynnig:
Roedd yr Aelodau canlynol o Gr?p Plaid Cymru'n dymuno cofnodi eu bod nhw wedi pleidleisio o blaid y Rhybudd o Gynnig:
Roedd yr Aelodau canlynol o Gr?p Annibynnol RhCT yn dymuno cofnodi eu bod nhw wedi pleidleisio o blaid y Rhybudd o Gynnig:
|