Agenda item

Derbyn adroddiad am gynnydd y Miwni yn ogystal â chyflwyniad gan Ymddiriedolaeth Awen ar gynnydd a strategaeth Canolfan Gelf y Miwni a sut mae'n cefnogi Pontypridd fel cyrchfan ddiwylliannol.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Mr Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, ddiweddariad i'r Aelodau mewn perthynas â throsglwyddo ased cymunedol Canolfan Gelf y Miwni i Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.

 

Cafodd Aelodau’r Gr?p Llywio gyflwyniad mewn perthynas â’r throsglwyddo'r Miwni, a oedd yn cynnwys nifer o ffotograffau mewn perthynas â dyluniad y Miwni wrth symud ymlaen. Pwysleisiwyd bod angen i'r lleoliad gadw ei hunaniaeth a'i wreiddiau yn y gymuned ond hefyd sefydlu safle newydd yn y farchnad. Nodwyd mai uchelgais y Cyngor yw dathlu asedau diwylliannol ledled y Fwrdeistref Sirol sy'n cynnig cyfle am dwf. Cafodd yr Aelodau gwybod bod y dull o weithio mewn partneriaeth rhwng CBSRhCT ac Awen yn glir yn sgil y cais i Gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU. 

 

Cafwyd trafodaethau a dymunodd y Cadeirydd ddiolch i Awen am roi cyflwyniad mor fanwl i'r Aelodau. Rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r Aelodau fod yr Awdurdod Lleol yn dal i aros am ganlyniad y cais i Gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU. Nododd y Cadeirydd fod y Miwni yn adeilad eiconig a bod y sylfeini ar waith iddo gael ei ddatblygu fel adeilad allweddol ar gyfer twf diwylliannol yn y gymuned.

 

Parhaodd y trafodaethau a holodd Aelod beth fydd yn digwydd i Ffenestr y Rhosyn yn y Miwni. Dywedodd Richard Hughes wrth yr Aelodau fod Ffenestr y Rhosyn yn nodwedd dreftadaeth allweddol o'r Miwni a'i bod yn taflu goleuni yn y festri a rhoddodd sicrwydd i'r Aelodau y bydd hyn yn cael ei gadw.

 

Roedd Aelod arall wedi canmol y cyflwyniad gan nodi y byddai'n hwb anhygoel i ddiwylliant yng Nghymoedd De Cymru. Holodd yr Aelod a fyddai'r trefniadau o ran seddi yn aros fel yr oedden nhw, a fydd oriel yr arcêd yn cael ei defnyddio fel oriel gelf, a fydd mynediad i'r anabl yn rhan o strwythur yr adeilad a gofynnodd a yw Awen wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r YMCA mewn perthynas â'i weledigaeth ar gyfer y Miwni. Dywedodd Richard Hughes wrth yr Aelodau y bydd seddi y gellir eu tynnu'n ôl yn yr awditoriwm a balconi sefydlog. Pwysleisiodd Richard Hughes y bydd mynediad i'r anabl yn rhan allweddol o'r adeilad newydd, yn enwedig o ran gosod lifftiau ym mhob rhan o'r adeilad ac ystafell newid ddynodedig. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymuned wybod i'r Aelodau y bydd cyfarfod o sefydliadau diwylliannol yn ardal Pontypridd, mae hyn yn cynnwys yr YMCA. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth sicrwydd i'r Aelodau fod y Cyngor yno i hwyluso'r cyfarfodydd hyn a bod modd adrodd yn ôl i'r Gr?p Llywio mewn perthynas â materion allweddol ar y flaenraglen waith. Rhoddodd Ceri Evans, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, wybod i'r Aelodau y bydd rhaglenni a gynhelir yn y Miwni yn ategu'r asedau diwylliannol sydd eisoes ym Mhontypridd gan bwysleisio'r angen i rannu adnoddau ac i weithio mewn partneriaeth ag eraill. Dywedodd yr Aelod wrth Awen y byddai Trafnidiaeth Cymru yn bartner allweddol i'w ystyried. Diolchodd Ceri Evans i'r Aelod gan bwysleisio i'r Gr?p y byddai Awen yn croesawu unrhyw awgrymiadau sydd ganddyn nhw wrth symud ymlaen.

 

Cafwyd trafodaethau a holodd Aelod sut y byddai'r Gronfa Codi'r Gwastad yn gweithio mewn perthynas â'r Miwni. Dywedodd Richard Hughes wrth y Gr?p Llywio y bydd y cais, os yn llwyddiannus, yn darparu rhagor o gyfleoedd i ddatblygu'r Miwni a bod modd parhau gyda'r gwaith o ddarparu gweithgareddau wrth aros am ganlyniad y cais. Dywedodd y Cadeirydd wrth y Gr?p Llywio bod cais Cronfa Codi'r Gwastad y Cyngor wedi'i gymeradwyo gan Gabinet CBSRhCT ac y gallai swyddogion o'r Adran Adfywio fynychu cyfarfodydd yn y dyfodol i drafod y cais yn fanylach, os yw'n llwyddiannus?

 

Nododd Mr Chris Coppock, yr Aelod Cyfetholedig, ei fod yn falch o weld bod yr Awdurdod Lleol y tu ôl i adfywiad diwylliannol Pontypridd. Fodd bynnag, holodd yr Aelod Cyfetholedig am y model busnes ar gyfer y Miwni ac eglurodd yr hoffai weld ffigurau terfynol yn cael eu cyflwyno i'r Gr?p Llywio. Dywedodd Richard Hughes wrth y Gr?p Llywio na fyddai Awen wedi cymryd rhan pe bai'r model busnes ar gyfer y Miwni yn rhy hapfasnachol. Nododd fod y contract ar waith dros y 5 mlynedd nesaf i sicrhau canlyniadau i Bontypridd a phwysleisiodd pa mor gefnogol y mae CBSRhCT wedi bod mewn perthynas â'r prosiect yma. Nododd Richard Hughes, er ei bod hi'n bwysig canolbwyntio ar faterion masnachol, bod y prosiect hwn hefyd yn gyfle i ganolbwyntio ar y gymuned. Pwysleisiodd Ceri Evans, Cyfarwyddwr Busnes Awen, fod y cynllun busnes a gyflwynwyd i GBSRhCT yn mynd trwy broses wirio drylwyr a'i fod yn destun craffu gan nifer o wahanol onglau. Pwysleisiodd y Cadeirydd hyn trwy bwysleisio bod llawer o waith gwirio diwydrwydd dyladwy wedi'i wneud gan swyddogion RhCT.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD yr Aelodau nodi'r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: