Gwaith cyn-graffu ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar Strategaeth Newid Hinsawdd y Cyngor (2021-2025).
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd ei
adroddiad. gan roi cyfle i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu gyflawni gwaith cyn-
graffu ar yr adroddiad ar yr Ymatebion i'r Ymgynghoriad ar y Strategaeth Newid
Hinsawdd Ddrafft (2021-2025).
Dywedodd y Rheolwr Polisi ac Materion Ymgynghori Cortfforaethol fod y
Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd wedi'i alw yn "Dewch i Siarad am Newid yn
yr Hinsawdd RhCT", a chafodd yr ymgyrch ei chynnal drwy borth ar-lein lle
roedd modd rhannu straeon, sgyrsiau, holiaduron byr a fideos. Roedd y garfan
Cyfryngau Cymdeithasol wedi cysylltu'r ymgynghoriad ag ymgyrchoedd
allweddol fel 'Diwrnod y Ddaear' i ennyn mwy o ddiddordeb a trafodaeth ymhlith
y preswylwyr, busnesau, ysgolion a'r Grwpiau i Bobl H?n a oedd wedi
ymgysylltu. Y gobaith oedd y byddai ymgynghori wyneb yn wyneb yn bosibl yn
yr haf.
Croesawodd yr aelodau'r Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd ddrafft (2021-
2025), gan ddweud bod angen mawr amdani a'i bod wedi cychwyn trafodaeth
gadarnhaol ymhlith preswylwyr a busnesau RhCT. Fe wnaethon nhw nodi'r
awydd i fentrau gwyrdd gael eu cynnal nifer o grwpiau cymunedol ledled y
fwrdeistref sirol ond pwysleision nhw hefyd bwysigrwydd cydgysylltu'r gwaith
da yn lleol er mwyn osgoi 'dull ar wasgar'.
Cododd un Aelod bryder ynghylch y cwestiynau yn yr ymgynghoriad
a oedd yn rhy arweiniol yn eu barn nhw, ac yn annog yr ymatebion cadarnhaol
yn unig. Teimlai'r Aelod y gellid gwneud mwy i ymgysylltu â phreswylwyr a
busnesau, gan ofyn cwestiynau anoddach a mwy heriol am yr anfanteision a
gosod blaenoriaethau.
Roedd un Aelod yn siomedig mai dim ond 56% o'r ymatebwyr a oedd o'r farn y
byddai'r Ymrwymiadau Hinsawdd yn helpu'r Cyngor i gyflawni ei dargedau o
ran gostyngiadau carbon.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y nifer fawr o gamau yn y Strategaeth ddrafft,
fel cefnogi landlordiaid i wneud eu heiddo yn 'wyrdd', fel gweithredoedd tymor
hir a fydd yn cael eu gweithredu dros y 15-20 mlynedd nesaf. Pwysleisiodd fod
llawer o'r gweithredoedd, waeth pa mor fach ydynt, yn cyfrannu at y strategaeth
gyffredinol ac mai un rhan hollbwysig o gyflawni targedau oedd ymgysylltu â
phreswylwyr cymaint â phosibl.
Gwnaeth yr aelodau sylwadau a gofyn am sicrwydd bod y sgyrsiau parhaus a'r
strategaeth ddrafft yn ystyried:
• Cefnogaeth i blannu coed a fyddai'n helpu i liniaru llifogydd;
• Grwpiau cymunedol yn prynu coetir ac yn datblygu prosiectau gerddi trefol;
• Mabwysiadu safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer contractwyr a chyflenwyr i'w hannog i gefnogi'r cyngor i ddod yn garbon niwtral;
• Cynlluniau hydro;
• Isadeiledd priodol i gefnogi a hwyluso gwefru cerbydau trydan gartref ac i ymchwilio i ffyrdd o wireddu gwefru ar y stryd, sut i wneud hyn yn ymarferol;
• Trafodaethau cynnar gyda datblygwyr i osod cyfleusterau cerbydau trydan ym mhob adeilad newydd
Wrth ymateb i'r ymholiadau a godwyd, dywedodd y Prif Weithredwr fod
strategaeth yn cael ei datblygu i sicrhau aildyfiant naturiol coetir sy'n rhoi'r
'goeden iawn yn y lle iawn' yn fwy na phlannu, a gall hyn osgoi cyflwyno
afiechyd. Mae prosiectau adfer mawnog hefyd ar y gweill fel ffordd
o liniaru amledd storm uwch a glawiad a allai fod yn uwch trwy storio
mwy o dd?r yn yr ucheldiroedd. Gall adfer y nifer o fawnod diraddiedig hefyd
gynyddu atafaelu carbon yn RhCT.
Roedd yr aelodau'n awyddus i gymeradwyo y bydd tai newydd yn garbon sero
ond yn cydnabod nifer yr eiddo a chartrefi h?n sydd ledled y sir a fyddai'n elwa
o gynlluniau ôl-osod i'w hatal rhag 'gollwng egni';
Rhoddodd yr Aelod Lleol dros Ffynnon Taf ddiweddariad mewn perthynas â
Phrosiect Ynni Adnewyddadwy'r Ffynnon Taf, a'r gobaith yw y bydd modd
ehangu hyn y tu hwnt i gyflenwi Pafiliwn y Parc ac Ysgol Gynradd Ffynnon Taf.
Cytunodd yr Aelodau â'r prif themâu a nodwyd yn yr ymatebion fel 'rhaid i bawb
chwarae rhan' ac 'ymgysylltu ac addysg', gyda'r awgrym y gall pob Cynghorydd
chwarae rhan allweddol wrth ddylanwadu ar gymunedau lleol ac ysgolion trwy
eu rolau fel Llywodraethwyr Ysgol.
PENDERFYNWYD:
1. Cyflwyno sylwadau ac arsylwadau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i Gabinet y Cyngor cyn ei gyfarfod ar 24 Mehefin 2021; a
2. Cydnabod mai dyma fan cychwyn y trafodaethau am newid hinsawdd gyda phreswylwyr a busnesau ar draws RhCT gydag ymgysylltiad cyhoeddus ychwanegol i'w ddilyn a chyfle i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ymgysylltu ymhellach â'r materion a godwyd.
Dogfennau ategol: