Agenda item

Derbyn adroddiad yr Astudiaeth Cludiant Coridor Gogledd-orllewin Caerdydd.

 

 

Cofnodion:

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad a'r bwriad i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu roi sylwadau arno ac adborth i'r Cabinet mewn perthynas ag Astudiaeth o Gludiant Coridor Gogledd-orllewin Caerdydd. Cadarnhawyd bod adroddiadau union yr un fath yn cael eu trafod gan Cyngor Dinas Caerdydd.

 

 

Awgrymodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y dylai'r Gweithgor Craffu sy'n trafod datblygu isadeiledd trafnidiaeth ar gyfer y dyfodol er mwyn ymateb i gynllun Metro De Cymru, o ganlyniad i Rybudd o Gynnig yn y Cyngor Llawn, ailafael yn ei waith a chwrdd eto ar 7 Gorffennaf 2021. Bwriad hyn yw trafod yr ymatebion a gafwyd gan bartneriaid yn ogystal â'r wybodaeth yn yr adroddiad i'r Cabinet, a derbyn diweddariad am isadeiledd trafnidiaeth ar gyfer y dyfodol.   

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau'r Rheng Flaen, ei adroddiad ac esboniodd, oherwydd twf sylweddol a nodwyd ar hyd y coridor sy'n cysylltu Tonysguboriau, Llantrisant a Gogledd-orllewin Caerdydd, o ran datblygiadau preswyl a gweithgaredd economaidd sydd wedi cael ei amlygu gan Gynlluniau Datblygu Lleol priodol Caerdydd. a RhCT, nodwyd coridor Gogledd-orllewin Caerdydd fel un o'r 4 coridor uchaf a dyfarnwyd cyllid iddo yn 2020/21 i symud ymlaen at gam cyntaf y broses WelTAG (Achos Amlinellol Strategol (SOC)). Canlyniad y Cam WelTAG 1 yw rhestr fer o atebion posib ar gyfer y coridor. Mae'n goridor sylweddol sydd heb opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus go iawn ar hyn o bryd.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod gwaith sylweddol eisoes yn mynd rhagddo megis gweithio gyda Tradnidiaeth Cymru ar y Metro i ddarparu 12 trên yr awr i Bontypridd, 4 trên yr awr i Gwm Rhondda a Chwm Cynon, a fydd o fudd i'r cymunedau hynny ar hyd y llwybr i Gaerdydd. Gwaith ar orsafoedd newydd yn Ystâd Trefforest, Glan-bad a'r potensial ar gyfer Gogledd Pontypridd. Ymestyn rhwydweithiau rheilffyrdd, Aberdâr tuag at Hirwaun a chomisiynu astudiaeth yn edrych ar estyniad o Dreherbert i Dynewydd. Coridor y Cymoedd Canol o Borthcawl (gyda chyswllt trafnidiaeth gyhoeddus yn rhedeg ar hyd coridor yr A473 tuag at Drefforest ac yna ymlaen o Bontypridd i Abercynon, a chysylltiad rheilffordd newydd posib tuag at Treharris a Nelson, gan ddefnyddio'r llinell fwynau i Ystrad Mynach gyda chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus pellach i'r dwyrain tuag at y Coed Duon, Pont-y-p?l a Brynbuga, o bosibl.

Mae Hwb y Porth yn parhau i gael ei ddatblygu ac ystyriaethau Parcio a Theithio o amgylch Pont-y-clun, Porth, Treorci, Trecynon a Hirwaun hefyd yn cael eu trafod. Mae'r prosiect tocynnau integredig hefyd yn cael ei ystyried.

I gloi, esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno o dan fframwaith WelTAG a nodwyd rhestr fer o opsiynau sy'n haeddu datblygiad ac asesiad pellach yng Ngham 2 WelTAG.

 

Trafododd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr adroddiad a nodi'r

opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus tymor byr a thymor hir sy'n cynnig yr achosion busnes gorau

er mwyn gwella mynediad o RhCT trwy Ogledd-orllewin Caerdydd i gyfeiriad canol y ddinas.

 

Nodon nhw'r ymholiadau canlynol-

Roedd yr aelodau'n awyddus i nodi sut y byddai'r opsiynau yn yr adroddiad yn cysylltu ag adolygiad CDLl RhCT o ran  diogelu'r llwybrau a'r safleoedd a ddyrannwyd eisoes yn y CDLl cyfredol i gefnogi cyflwyno'r gwaith a sicrhau cyllid yn y dyfodol.

Gwnaeth yr aelodau sylwadau a gofyn am sicrwydd o ran y canlynol:

  • Bod y cynigion yn yr adroddiad yn gynigion realistig a gellid eu cyflawni o fewn amserlenni 2020-2030 (Nodwyd na fyddai rhai o'r prosiectau'n cael eu gweithredu tan ddiwedd y degawd hwn)
  • Byddai'r cynigion yn dod â buddion economaidd i RhCT nad oedd yn amlwg ar yr olwg gyntaf.
  • Bydd dull gwell a chydgysylltiedig o deithio ac amserlenni bysiau a rheilffyrdd i ddarparu ar gyfer cymudwyr sy'n teithio yn hwyrach gyda'r nos
  • Bod modd parhau i drydaneiddio Prif Linell De Cymru, na dderbyniodd arian gan Lywodraeth San Steffan

 

Nododd yr Aelodau fod y buddion economaidd uniongyrchol yn cynnwys cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant a phrofiad teithio cyhoeddus cydgysylltiedig rhwng Tonysguboriau, Ystad Ddiwydiannol Llantrisant a'r ardaloedd cyfagos, a fydd o gymorth sylweddol i'r cymunedau hyn.

Gwnaeth y Pwyllgor sylwadau am nifer y datblygiadau tai mawr yn Ne'r Fwrdeistref Sirol, sydd wedi creu eu traffig eu hunain ac sy'n tyfu, a gofynnodd am sicrwydd bod asesiadau effaith y Cyngor ei hun yn ddigon cadarn i lywio'r gwaith o wneud penderfyniadau. Roedd y Pwyllgor yn falch o glywed y byddai dylanwadu a dyrannu safleoedd yn agos at gyfnewidfeydd cludo yn ffordd ymlaen, ac y byddai gwaith ochr yn ochr â Strategaeth y Cyngor i fynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd yn datblygu dull i newid symudiadau teithio cyfredo yn sylweddol. Ar hyn o bryd mae 80% o'r cymudwyr yn teithio mewn car.

Gan gyfeirio at gynllunio ar ôl Covid, rhagweld, patrymau symud preswylwyr a'r effaith ar adeiladau swyddfa lle nad yw gweithwyr ond yn teithio i mewn i Gaerdydd ddeuddydd yr wythnos, roedd yr Aelodau'n teimlo nad oedd llawer o dystiolaeth yn yr adroddiad bod hyn wedi'i ystyried.

Nodwyd bod siwrneiau bws i Gaerdydd yn haws o ganlyniad i isadeiledd da, ac mae preswylwyr yn defnyddio eu tocynnau bws. Roedd yr Aelodau'n falch y bydd isadeiledd tebyg yn ymestyn i rannau eraill o RhCT ond gofynnon nhw sut, yn y cyfamser, mae modd gwneud gwelliannau i'r gwasanaethau Bysiau Cludo Cyflym (Rapid Transit) rhwng ardaloedd fel Gilfach-goch a Chaerdydd?

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth at ddarparu lonydd bysiau â blaenoriaeth ar hyd y coridorau i ddarparu amseroedd teithio cyflymach a mwy cyson a chydnabu y gallai hyn roi defnyddwyr ceir dan anfantais, ac felly y gellir eu hannog i ddefnyddio'r bws.

Trafododd y Pwyllgor fanteision cerbydau trydan yr oeddent yn eu hystyried yn fwy cynaliadwy a derbyniol, a phwysigrwydd cael isadeiledd i gefnogi'r dull megis pwyntiau gwefru yn agos at orsafoedd trên. Fe wnaethant hefyd nodi'r newyddion diweddar am ddatblygiad cerbydau hydrogen. Atgoffwyd yr aelodau bod y Gweithgor Trosolwg a Chraffu wedi cynnal adolygiad i ddatblygiad isadeiledd i gefnogi perchnogaeth cerbydau carbon isel.

Siaradodd y Pwyllgor am bwysigrwydd ymgynghori â'r preswylwyr ar y cynigion, fel eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai unrhyw ymgynghoriad yn eang ac yn cynnwys preswylwyr a busnesau Caerdydd yn ogystal â'r rhai yn RhCT trwy lwyfan ymgysylltu ar-lein newydd a chyfryngau cymdeithasol, yn debyg i'r ymgynghoriadau diweddar ar faterion Newid yn yr Hinsawdd a Theithio Llesol. Pwysleisiodd hefyd fod y cynigion yn rhai tymor hir, a byddai nifer o gynlluniau yn dod gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ôl yr angen.

PENDERFYNWYD:

  1. Cydnabod canlyniad Astudiaeth Cludiant Coridor Gogledd-orllewin Caerdydd hyd yma;
  2. Gofyn i'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu gyflwyno sylwadau ac arsylwadau'r Pwyllgor i'r Cabinet ar 17 Mehefin 2021;

 

  1. Derbyn adroddiadau pellach y bydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn eu trafod yn y dyfodol. 

 

Dogfennau ategol: