Agenda item

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor, sy'n rhoi diweddariad i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd mewn perthynas â'r gwaith sydd ar y gweill o ran llunio Strategaeth Gwefru Ceir Trydanol a sut mae'n berthnasol i ymrwymiadau ehangach y Cyngor o ran Net Sero a Lleihau Carbon. 

 

Cofnodion:

Fe wnaeth y Pennaeth Rheoli Prosiectau Ynni roi diweddariad i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd mewn perthynas â'r gwaith sydd ar y gweill o ran llunio Strategaeth Gwefru Ceir Trydanol a sut mae'n berthnasol i ymrwymiadau ehangach y Cyngor o ran Sero Net a Lleihau Carbon.

 

Clywodd y Gr?p Llywio bod ymgynghoriad digidol wedi'i gynnal rhwng 19 Ebrill 2021 a 31 Mai 2021 gyda chyfanswm o 325 ymateb i'r arolwg ar-lein, ynghyd â 122 o ymatebion i'r arolwg. Yn ôl y prif ganfyddiadau:

·         Nodwyd 222 o leoedd yn bwyntiau gwefru ceir trydan posibl yn RhCT, trwy'r teclyn ar y wefan;

·         Ar hyn o bryd mae 80% o'r rhai ymatebodd i'r arolwg yn berchen ar 2 gerbyd neu lai;

·         Mae gan 55% o'r rhai ymatebodd i'r arolwg le parcio preifat oddi ar y stryd, ac mae 42% yn parcio ar y stryd;

·         Ar hyn o bryd, nid yw 83% o'r bobl sydd wedi ymateb yn berchen ar gerbyd trydan, a does dim un yn gysylltiedig â'u cartref.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am y diweddariad a nododd y byddai canlyniadau'r ymgynghoriad cychwynnol yn sylfaen ddefnyddiol o ran mesur canfyddiad y cyhoedd o ddyfodol Gwefru Ceir Trydanol.

 

Nododd y Cadeirydd fod y bobl a wnaeth ymateb wedi codi llawer o'r pryderon gafodd eu codi o'r blaen gan y Gr?p Llywio megis dichonoldeb a llawer o heriau sy'n gysylltiedig â gosod pwyntiau gwefru ar draws y Fwrdeistref Sirol. Siaradodd y Cadeirydd am y potensial ar gyfer model 'hybiau' yng nghanol trefi mewn lleoliadau amlwg megis canolfannau hamdden a meysydd parcio a seilwaith cyfagos y lleoliadau i sicrhau'r defnydd gorau o'r pwyntiau.

 

Cododd yr Aelodau bryderon ynghylch y costau ariannol a llygredd sy'n gysylltiedig â cherbydau trydanol ac ar ben hynny, fe wnaeth yr Aelodau drafod y pryderon ynghlwm â phrynu cerbydau trydanol yn sgil y diffyg seilwaith ategol sydd ar gael ar hyn o bryd. Fe wnaeth y swyddog gydnabod y pryderon a phwysleisiodd bwysigrwydd offer gwefru cyflym, a fyddai’n sicrhau bod cerbydau trydan yn gallu cael eu gwefru o fewn cyfnod byr o amser, yn unol â rhoi petrol / diesel mewn cerbyd. Pan ofynnwyd iddo faint o amser, fel arfer, mae'n ei gymryd i wefru cerbyd trydan, dywedodd y swyddog ei bod hi'n dibynnu ar faint y gwefrydd. Esboniwyd y byddai gwefrydd 22KW yn cymryd sawl awr i wefru cerbyd, ond byddai 'gwefrydd cyflym' 50KW yn cymryd tua 15 munud.

 

Gan gyfeirio at y 222 o leoliadau a nodwyd gan breswylwyr yn bwyntiau gwefru ceir trydan posibl yn RhCT, cwestiynodd un Aelod sut y byddai hyn yn cael ei drafod. Dywedodd y swyddog y byddai'r broses gychwynnol yn cynnwys dewis y lleoliadau mwyaf synhwyrol a thargedu'r adnoddau i weddu orau i anghenion y Fwrdeistref Sirol.

 

PENDERFYNODDGr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad diweddaru yma ynghylch y Strategaeth Gwefru Ceir Trydanol yn rhan o waith parhaus Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd; a

Derbyn adroddiadau pellach gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn 2021.

Dogfennau ategol: