Agenda item

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor, sy'n rhoi diweddariad i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd mewn perthynas â'r gwaith sydd ar y gweill o ran prosiect i feithrin dealltwriaeth o Ôl-troed Carbon gweithgarwch Cyngor Rhondda Cynon Taf a sut mae'n berthnasol i ymrwymiadau ehangach y Cyngor o ran Net Sero a Lleihau Carbon. 

 

Cofnodion:

Fe wnaeth y Pennaeth Rheoli Prosiectau Ynni roi diweddariad i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd mewn perthynas â'r gwaith sydd ar y gweill o ran prosiect i feithrin dealltwriaeth o Ôl troed Carbon gweithgarwch Cyngor Rhondda Cynon Taf a sut mae'n berthnasol i ymrwymiadau ehangach y Cyngor o ran cyrraedd Sero Net a Lleihau Carbon. 

 

Tynnodd y swyddog sylw'r Aelodau at Adran 4 yr adroddiad, a oedd yn manylu ar y camau a gymerwyd i gyfrifo proffil Ôl troed Carbon Cyngor RhCT yn ystod y Flwyddyn Ariannol 2019-2020. Cafodd yr Aelodau wybod bod cyfanswm amcangyfrifedig yr ôl troed ar gyfer Rhondda Cynon Taf (RhCT) yn ystod y Flwyddyn Ariannol 2019/20 yn 105,257tCO2e a bod modd ei rannu'n dri maes, yn ôl y Protocol Nwyon T? Gwydr:

 

·         Maes 1: Allyriadau uniongyrchol sy'n gysylltiedig â defnyddio nwy naturiol mewn adeiladau, tanwydd a ddefnyddir gan gerbydau'r Cyngor, ac oeryddion a thanwydd eraill (17,888 tCO2e);

·         Maes 2: Allyriadau anuniongyrchol sy'n gysylltiedig â thrydan wedi'i brynu mewn adeiladau (6,360 tCO2e); a

·         Maes 3: Allyriadau anuniongyrchol sy'n gysylltiedig ag allyriadau deunyddiau, gan gynnwys nwyddau a gwasanaethau sydd wedi'u caffael, nwyddau cyfalaf, gweithwyr yn cymudo, teithio ar gyfer busnes, allyriadau cychwynnol o weithgareddau Maes 1 a 2, adeiladau ar brydles a'r defnydd o dd?r yn ystod Blwyddyn Ariannol 19/20 (81,009 tCO2e).

 

Cafodd yr Aelodau wybod am y bwriad ar gyfer y camau nesaf a nodwyd y byddai diweddariadau pellach yn cael eu rhannu â'r Gr?p Llywio yn y dyfodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am y diweddariad ar ddata Ôl troed Carbon y Cyngor. Gofynnodd y Gr?p Llywio am y data yma mewn cyfarfod blaenorol. Dywedodd y Cadeirydd fod y data yn onest ac y byddai'n chwarae rhan annatod wrth leihau'r ôl troed carbon yng ngwahanol feysydd y Cyngor.

 

Gan gyfeirio at y 'Canllaw sector cyhoeddus Cymru ar gyfer adrodd ar garbon sero-net' sylweddol gan Lywodraeth Cymru, nododd un Aelod y byddai'r broses ar gyfer adrodd yn ffurfiol â goblygiadau sylweddol i rwymedigaethau adrodd Carbon Cyngor RhCT yn y dyfodol a hefyd i rai agweddau ar y prosiect Ôl troed Carbon. Holodd a oedd cyfle i rannu arfer gorau ag Awdurdodau Lleol eraill. Dywedodd y swyddog fod y gwahanol ddyddiadau cau yn y canllawiau ar gyfer adrodd yn cael eu hystyried yn anymarferol gan lawer o Awdurdodau Lleol a'r gobaith oedd y byddai'r rhain yn cael eu diwygio yn y dyfodol agos. Sicrhawyd yr Aelodau bod swyddogion yn cwrdd yn rheolaidd â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ac yn mynychu cyfarfodydd Consortiwm Awdurdodau Lleol Cymru ar gyfer awdurdodau De Ddwyrain Cymru, sy'n caniatáu i gymheiriaid gwrdd yn rheolaidd a rhannu gwybodaeth ar draws y 22 Awdurdod Lleol.

 

Roedd un Aelod yn falch o nodi bod allyriadau anuniongyrchol sy'n gysylltiedig ag allyriadau corfforedig wedi'u cynnwys. Cwestiynodd yr Aelod a oedd y Cyngor yn ystyried pob prosiect a siaradodd am y costau ynghlwm â defnyddio ynni sy'n gysylltiedig â gweithredu mesurau tawelu traffig 20MPH ledled y Fwrdeistref Sirol yn ddiweddar. Teimlai'r Aelod y byddai cynlluniau o'r fath yn dystiolaeth o'r anhawster o gyflawni targedau carbon heb gefnu ar Bolisïau arferol y Cyngor. Dywedodd y swyddog fod cyfrifiadau'n cael eu gwneud yn rhan o gyfrifiad yr Ymddiriedolaeth Garbon ond ar lefel uchel yn unig. Esboniwyd bod y Cyngor yn buddsoddi llawer iawn o arian mewn prosiectau cyfalaf ac felly mae'r ffigurau'n uwch na'r rhai sydd â chontractau cyfalaf llai. Sicrhawyd yr Aelodau, o brofiad swyddogion, bod contractwyr hefyd yn gweithio ar leihau eu hôl troed carbon eu hunain ac yn y dyfodol, a byddai swyddogion yn ystyried prosiectau unigol i gyfrifo'r ynni sy'n rhan o'r broses.

 

Pan holwyd a oedd cronfa bensiwn y Cyngor wedi'i chynnwys yn y ffigurau, dywedodd y swyddog nad oedd wedi'i chynnwys.

 

PENDERFYNODD Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad ar ddiweddariad y project ôl troed carbon yn rhan o waith parhaus Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd; a

2.    Derbyn adroddiad pellach yn 2021 gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd camau 2 a 3.

 

Dogfennau ategol: