Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a
Chyfathrebu adroddiad 'Amrywiaeth mewn Democratiaeth' Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru sy'n amlinellu'r gwaith a wnaed gan Weithgor
Trawsbleidiol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Amrywiaeth o ran
Democratiaeth leol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y cynigion yn
cael eu cefnogi gan holl Arweinwyr Gr?p Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru,
a'i fod yn ceisio cefnogaeth pob cyngor yng Nghymru i gymeradwyo'r
egwyddorion yn y datganiad. Nod hyn yw cynyddu cyfranogiad ac ehangu
amrywiaeth ymhlith ymgeiswyr ar gyfer Etholiadau 2022.
Hefyd rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod i'r aelodau am y gwaith a
wnaed gan Weithgor Amrywiaeth Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y
Cyngor a'r adroddiad yr oedd y Pwyllgor wedi'i fabwysiadu'n ddiweddar. Mae'r
adroddiad yn nodi'r camau gweithredu y bydd y Gwasanaethau Democrataidd
yn eu rhoi ar waith dros y flwyddyn nesaf i gefnogi amrywiaeth ymgeiswyr a'r
ddarpariaeth sy'n ofynnol, trwy grwpiau gwleidyddol, i wireddu'r uchelgeisiau yn
yr adroddiad interim a datganiad Cymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru.
Estynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ei ddiolch i Ms Emma Wilkins am lunio'r adroddiad interim manwl.
I gloi, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, os yw'r Cyngor yn cefnogi datganiad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddod yn 'Gyngor Amrywiol' heno, yna Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fyddai'r Cyngor cyntaf i wneud hynny.
Canmolodd yr Aelod Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor a Hyrwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Cyngor adroddiad a gwaith y Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dan arweiniad y Cyd-gadeirydd - y Cynghorydd Mary Sherwood, sy'n llefarydd ar ran Cydraddoldebau, Diwygio Lles a Gwrth-dlodi, a'r Cyd-Gadeirydd - y Cyng Susan. Elsmore, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Gydraddoldebau, Diwygio Lles a Gwrth-dlodi. Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet hefyd i aelodau'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am eu cyfraniadau i'r adroddiad interim ac i'r agenda amrywiaeth sy'n cyd-fynd â'r gwaith y mae'r Cyngor wedi bod yn ceisio'i gyflawni ers nifer o flynyddoedd.
Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor bwysigrwydd cefnogi datganiad amrywiaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac argymhellion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a fyddai'n hyrwyddo amrywiaeth o fewn y Cyngor.
Yn ystod ei thrafodaethau, yn arbennig ynghylch y set ddata yn adroddiad interim y Gweithgor Gwasanaethau Democrataidd, gwnaeth Arweinydd Gr?p Plaid Cymru sylwadau am y cyfle a gollwyd i benodi Cadeirydd benywaidd i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ddiweddar, yn ogystal â penodi Cadeirydd benywaidd yn Gadeirydd ar Weithgor y Gwasanaethau Democrataidd. Dywedodd fod angen i'r Cyngor wella ei gymhareb o ran Cadeiryddion Pwyllgorau sy'n fenywod ac yn ddynion. Roedd Arweinydd yr Wrthblaid yn dymuno cywiro enw'r Cynghorydd E Stephens yn ffurfiol yn yr adroddiad.
Yn ystod y drafodaeth bellach, cydnabuwyd dull cadarnhaol y Cyngor o hyrwyddo'r Gymraeg. Gwnaed sylwadau pellach ar bwysigrwydd trin pob Aelod yn gyfartal, waeth beth fo'u hoedran, rhyw a chefndir, yn ogystal â phwysigrwydd ymrwymo i'r fesur canlyniadau'r argymhellion sy'n deillio o'r adroddiad Amrywiaeth.
Roedd Cadeirydd y Gweithgor Amrywiaethyn falch o gyflwyno'r adroddiad interim a chefnogi'r datganiad amrywiaeth i'w fabwysiadu gan y Cyngor. Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r argymhellion yn yr adroddiad yn gwella'r ymgysylltiad sydd ei angen i apelio at ddarpar ymgeiswyr a phleidleiswyr ifainc trwy'r ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth a gyflwynwyd ar gyfer etholiadau'r Senedd.
Gwnaeth Arweinydd y Cyngor sylwadau am hanes cadarnhaol y Cyngor hyd yma o ran amrywiaeth, a nododd fod nifer y cadeiryddion benywaidd ar bwyllgorau yn 54.5% o'i gymharu â 45.3% o gadeiryddion sy'n wrywaidd. Ychwanegodd fod amrywiaeth yn golygu mwy na thrafod cynrychiolaeth dynion a menywod ar bwyllgorau, a chytunodd fod angen i bob plaid wleidyddol wella. Cymeradwyodd yr Arweinydd yr adroddiad a chefnogodd ddatganiad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddod yn 'Gyngor Amrywiol'.
PENDERFYNWYD:
Dogfennau ategol: