Agenda item

Cadw Menywod a Merched yn Ddiogel yn RhCT - Trosolwg o'r Trefniadau Cyfredol ar gyfer Mannau Cyhoeddus.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned ei hadroddiad, a oedd yn rhoi cyfle i'r Pwyllgor gael diweddariad ar y trefniadau cyfredol sydd ar waith yn Rhondda Cynon Taf er mwyn cadw merched a menywod yn ddiogel mewn mannau cyhoeddus, sydd yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer y Cyngor.

 

Yn ogystal â'r adroddiad, rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod y bydd Swyddogion Heddlu De Cymru yn cynnig trosolwg o'r gwaith cenedlaethol a gwaith ledled y DU sy'n cael ei gyflawni i gryfhau polisïau strategol yn y maes yma, gan gynnig data lleol mewn perthynas â throseddau megis stelcio, aflonyddu a thrais yn erbyn menywod a merched yn ardal Heddlu De Cymru.

 

Yn rhan o'u cyflwyniad, amlinellodd Heddlu De Cymru y penawdau fel a ganlyn:

 

Ø  Prif Ganfyddiadau - Covid

Ø  Pryder wrth Galon y Llywodraeth

Ø  Beth yw stelcio?

Ø  Stelcio ac aflonyddu

Ø  Troseddau Stelcio ac Aflonyddu - Dadansoddiad (Morgannwg Ganol)

Ø  Tueddiadau Cenedlaethol - Stelcio ac Aflonyddu

Ø  Trais gydag anaf - Data

Ø  RhCT

Ø  Rhoi Gwybod am Drosedd v Prawf Tystiolaethol

Ø  Strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched Gwasanaeth Erlyn y Goron (‘CPS’)

Ø  Beth sydd Nesaf? - Yn fras

Ø  Mentrau

Ø  Crynodeb

 

I gloi, rhoddodd y Pwyllgor wybod bod Heddlu De Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â RhCT ar sawl menter i gadw trigolion yn ddiogel a datblygu'r mesurau sydd ar waith yn barod.

 

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned nifer o benawdau allweddol yn ei hadroddiad. Mae pob un o'r rhain yn cefnogi'r Heddlu i gadw trigolion a chymunedau yn ddiogel fel y rhwydwaith teledu cylch cyfyng helaeth ledled RhCT a chefnogi nifer o fentrau ar lawr gwlad. Mae hyn yn cynnwys StoreNet a Pubwatch yn rhan o gynllun gydweithio â nifer o bartneriaid, y fasnach drwyddedu, busnesau lleol a'r fasnach letygarwch.

 

Cafodd y Pwyllgor wybod am y mentrau ehangach yn y gymuned sydd wedi'u datblygu i fynd i'r afael â phroblemau megis alcohol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn rhan o'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ac atal y niwed i bobl ifainc gan alcohol drwy sefydlu dwy ardal Partneriaeth Alcohol Gymunedol yn ardal Porth a Phontypridd.

 

Roedd Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned wedi cydnabod pwysigrwydd dull addysg gyfan o ran hyrwyddo perthynas iach yn yr ysgolion er mwyn torri'r patrwm o ymddygiad a diwylliant o fewn teuluoedd gan amlinellu sut caiff y sesiynau yma'u cyflwyno yn yr ysgolion. Mae'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid wedi bod yn rhan hollbwysig o ddarparu gweithgareddau i bobl ifainc yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan ddefnyddio cylchoedd trafod ac arolygon er mwyn i ni ddeall sut maen nhw'n teimlo yn eu cymunedau. O ganlyniad i hynny, mae'r carfanau o weithwyr ieuenctid ar y stryd wedi cael eu gweithredu ledled RhCT o fis Hydref 2020 er mwyn ymateb i anghenion y bobl ifainc.

 

Yn dilyn y cyflwyniadau, holodd Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu gwestiynau gan rannu pryderon â Swyddogion y Cyngor a Heddlu De Cymru.

 

Gwnaeth yr Aelodau y sylwadau canlynol gan ofyn am ragor o wybodaeth:

 

• Mae digon o deledu cylch cyfyng ar waith ac mae darpariaeth 24 awr, o gofio bod 40% o bobl ifanc eisiau gweld rhagor o gamerâu teledu cylch cyfyng;

· Mae cysondeb ym mhob ysgol o ran sut i fynd i'r afael â'r problemau ac efallai dylai Consortiwm Canolbarth y De fod yn rhan o'r gwaith, gan gynnal adolygiad i sicrhau bod hynny'n wir;

· Mae gwybodaeth leol yn hanfodol, ond does dim digon o bobl yn rhoi gwybod am y materion yma o ganlyniad i broblemau gyda rhif ffôn 101;

· Mae'r Heddlu’n gweithio'n agos â Phrifysgol De Cymru i gryfhau'r gwaith;

· Dylai'r trefniadau o ran perthynas iachach gael eu cyfeirio at y garfan ysgol gyfan

 

Nododd yr Aelodau fod rhwydwaith eang o gyfarpar teledu cylch cyfyng ar draws y Fwrdeistref Sirol sydd wedi'i ddiweddaru a'i uwchraddio dros y 3 blynedd diwethaf a bod camerâu wedi'u lleoli yn y mannau mwyaf priodol ac yn cael eu harwain gan wybodaeth. Mae camerâu ychwanegol y mae modd eu hailddefnyddio a'u symud i gadw llygad ar y mannau o bwys. Pan fydd angen, mae pob un o'r camerâu yn recordio'r hyn sy'n digwydd ac mae modd i'r ystafell reoli ymateb i geisiadau gan yr Heddlu. Caiff dull wedi'i arwain gan wybodaeth ei ddefnyddio i sicrhau bod y camerâu'n cael eu defnyddio yn y modd mwyaf effeithiol.

 

O ran nifer y bobl sy'n cael eu herlyn mewn perthynas â sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol, cadarnhaodd Heddlu De Cymru bod y gyfradd rhwng 8 a 10% o ganlyniad i'r cymhlethdodau a'r amrywiolion sydd ynghlwm ag unrhyw ymchwiliad a'r dystiolaeth sydd ei hangen.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned y byddai'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant yn cynnig ymateb mewn perthynas â dull addysg gyfan ym mhob ysgol yn dilyn y cyfarfod.

 

Cododd yr Aelodau nifer o ymholiadau eraill:

 

  • A oedd yr adolygiadau y cyfeirir atyn nhw yn ystod y trafodaethau yma wedi digwydd cyn neu ar ôl llofruddiaeth Sarah Everard?
  • A yw'r mannau sy'n cael eu goruchwylio gan swyddogion Heddlu De Cymru wedi'u seilio ar y boblogaeth neu yn ôl nifer y digwyddiadau?
  • Gan gyfeirio at yr astudiaeth achos mewn perthynas â theledu cylch cyfyng sydd yn yr adroddiad, a yw'r system teledu cylch cyfyng ar y bysiau wedi'i chysylltu â'r brif system teledu cylch cyfyng?
  • Menter Mannau Diogel - pa ganol trefi fyddai'n elwa o'r fenter yma?
  • A yw'r datganiad yn yr adroddiad ynghylch 'darparu goleuadau stryd am ran o'r nos mewn ardaloedd preswyl' yn ddibynadwy?
  • Cyfathrebu maleisus ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n effeithio ar fenywod - A oes taflen wybodaeth ar gael i fenywod a merched?
  • Dylai'r Berthynas Iach fod yn drefniant ysgol gyfan/ garfan gyfan
  • Clybiau Ieuenctid Symudol - Pam nad yw'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn defnyddio Hwb?
  • A yw'r 'Tueddiadau Cenedlaethol' yn cyfeirio at achosion yng Nghymru/Lloegr?

 

Gofynnodd Aelod a oes polisi wedi'i gynnwys yn rhan o Gynllun Comisiynydd yr Heddlu sy'n ymwneud â strategaeth sy'n galluogi menywod a merched i wneud ymarfer corff a cherdded eu c?n bob dydd neu ydyn nhw ymhlith y polisïau hwyr hynny sydd wedi arwain at brotest gan y cyhoedd?

 

Nododd y Pwyllgor fod nifer o fentrau a chynigion yn yr adroddiad wedi bod ar waith dros nifer o flynyddoedd ac yn cael eu hadlewyrchu yn y Cynllun Diogelwch y Cyhoedd. Y bwriad yw y bydd y Cynllun, sydd ar fin cael ei adnewyddu, yn cynnwys unrhyw ofynion neu ddeddfwriaeth gan Lywodraeth y DU neu gan Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu mewn perthynas â diogelwch merched a menywod.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned wedi ymateb i sawl ymholiad:

 

·         Caiff dull poblogaeth gyfan mewn perthynas â diogelwch menywod a merched ei roi ar waith ledled RhCT; 

·         Nid oes mynediad i deledu cylch cyfyng ar fysiau oni ofynnir amdano wrth ymateb i ddigwyddiad;

·         Mannau Diogel - dyma waith sy'n cael ei gyflawni ar hyn o bryd ac yn dibynnu ar fusnesau a sefydliadau sy'n fodlon gweithio gyda'r ALl i greu rhwydwaith o fannau diogel - mae hwn yn waith sy'n cael ei gyflawni o hyd a bydd yr Aelodau'n cael eu diweddaru'n gyson;

·         Bysiau - mae lleoliad y rhain yn cael ei benderfynu gan y bobl ifanc gan nad yw pob person ifanc eisiau mynd i leoliad penodol ac mae modd targedu ardaloedd penodol gan ddefnyddio bysiau, yn ôl yr angen.

 

Cododd Aelod bryderon mewn perthynas â'r diwylliant o beidio â rhoi gwybod am ddigwyddiadau ymhlith menywod a merched, mae angen eu hannog nhw i roi gwybod neu fel arall bydd data'n cynyddu os nad ydyn nhw'n rhoi gwybod am ddigwyddiadau.

 

Codwyd bryder mewn perthynas â phwysigrwydd gallu mesur llwyddiant ac effaith y mentrau a'r gwaith sydd wedi cael ei gyflawni ac sy'n cael ei gyflawni ar hyn o bryd, a p'un a yw cyfnod yn y carchar a mathau eraill o adsefydlu yn effeithio ar ymddygiad dynion.

 

Cytunodd Heddlu De Cymru ei bod yn anodd mynd i’r afael â diffyg rhoi gwybod am ddigwyddiadau ac mae wedi bod yn ffocws, yn enwedig ym maes trais domestig, ers cryn amser. Un o'r dulliau mwyaf llwyddiannus o fynd i'r afael â'r mater yma yw ymgysylltu â phartneriaid y trydydd sector, megis Cymorth i Fenywod ym Mhontypridd neu'r Hwb Diogelu Amlasiantaeth. Mae 'Byw Heb Ofn' yn darparu cyngor a chefnogaeth 24 awr i ddioddefwyr ac yn darparu llawer o wybodaeth i ddioddefwyr a'u teuluoedd.

 

Dywedodd Swyddogion Heddlu De Cymru fod gweithdrefnau sy'n hwyluso rhoi gwybod am droseddau wedi'u diwygio a'u symleiddio. Mae troseddau casineb yn cael sylw mewn ysgolion gan swyddogion cyswllt yr ysgol ac mae hyn yn cael effaith gadarnhaol. Mae rhaglen o'r enw 'DRIVE' sy'n gweithio gyda throseddwyr cam-drin domestig i atal eu hymddygiad ymosodol ac amddiffyn dioddefwyr yn rhan allweddol o newid ymddygiad troseddwyr yn y canolfannau adsefydlu.

 

Holwyd cwestiwn mewn perthynas â'r defnydd cynyddol o fechnïaeth amodol sy'n ymwneud â thrais domestig. Rhoddodd Aelod wybod bod data o astudiaeth 2020 YouGov yn awgrymu bod 86% o fenywod 18-24 oed wedi wynebu achos o aflonyddu mewn man cyhoeddus, roedd 96% o'r rhain wedi penderfynu peidio â rhoi gwybod am yr achos. Mae hyn yn dangos bod yna lleoedd anniogel, dyw hi ddim yn anghyffredin i fenyw wynebu aflonyddu a bod menywod yn newid eu hymddygiad er mwyn ymdopi â'r ffaith bod aflonyddu yn debygol o ddigwydd. Gofynnodd yr Aelod am eglurhad mewn perthynas â'r cyfraddau erlyn. A oes unrhyw waith pellach y gellir ei wneud i asesu effeithiolrwydd strategaethau addysg mewn ysgolion

 

Codwyd ymholiadau pellach:

 

  • Faint o Weithwyr Ieuenctid sydd gan y Cyngor nawr, o'i gymharu â 5 mlynedd / 10 mlynedd yn ôl;
  • Beth yw cyllideb y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid nawr, 5 mlynedd / 10 mlynedd yn ôl; data a allai ddangos bod y maes gwasanaeth yma wedi wynebu toriadau mawr a sut rydym yn darparu adnoddau ar gyfer y gwasanaethau yma
  • Beth allwn ni ei wneud o ran dull mwy cyffredinol ar gyfer ein trigolion i sicrhau eu bod nhw'n derbyn y neges bod y strydoedd yn ddiogel, beth allwn ni ei wneud fel Cyngor i hawlio'r strydoedd yn ôl?

 

Roedd y Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned wedi cydnabod bod y ffordd y mae'r Cyngor yn mynd ati i fesur llwyddiant y gwaith sy'n cael ei wneud ac sydd wedi'i wneud yn bwysig a bod yr hyn y mae modd i'r Cyngor ei wneud i hawlio'r strydoedd ar gyfer ei drigolion yn ymwneud â dealltwriaeth y cyhoedd o'r gweithdrefnau/mentrau sydd ar waith. Awgrymodd y Cyfarwyddwr fod angen i'r Awdurdod Lleol drafod y camau gweithredu mewn perthynas â chyfathrebu â'r cyhoedd.

 

Cadarnhawyd y byddai data y gofynnwyd amdano mewn perthynas â Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn cael ei ddarparu a'i rannu â'r holl aelodau yn dilyn y cyfarfod.

 

Adroddwyd ar nifer yr achosion mechnïaeth fel a ganlyn (er y pwysleisiwyd bod y pandemig wedi dylanwadu ar y data yma): Ym mis Chwefror 2021 roedd 245 o achosion mechnïaeth o gymharu â 308 o achosion ym mis Chwefror 2020, ym mis Ionawr 2021 roedd 287 o achosion mechnïaeth o gymharu â 316 ym mis Ionawr 2020. Cafodd y Pwyllgor wybod y bydd nifer yr achosion mechnïaeth yn cynyddu wrth i'r pandemig ddod i ben, ond bydd amodau mechnïaeth yn cael eu trafod a bod dau reolwr Cam-drin yn y Cartref wedi'u penodi'n ddiweddar. Mae'r ffordd y mae'r amodau mechnïaeth yn cael eu gorfodi yn cael eu hystyried a bydd data dros y 6 mis nesaf yn rhoi rhagor o eglurder.

 

Wrth ymateb i bryder ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol ar drafnidiaeth gyhoeddus, anogodd Heddlu De Cymru unigolion i roi gwybod am ddigwyddiadau sy'n ymwneud â hybiau trafnidiaeth a phwysleisiodd nad yw diwylliant gangiau yn gyffredin yn ardal RhCT.

 

Awgrymodd yr Aelod Cyfetholedig y gallai ac y dylai'r awdurdod lleol fynd i'r afael â'r materion cymdeithasol mawr a hir dymor sy'n cael eu trafod gan fod RhCT wedi arwain y ffordd mewn perthynas â llawer o faterion pwysig eraill. Cytunodd fod addysg mewn ysgolion yn allweddol wrth i ni fynd i'r afael â'r materion yma ac roedd yn falch o glywed y byddai'r Cyfarwyddwr Addysg a Chynhwysiant yn cael ei chynnwys yn rhan o'r trafodaethau yma. Yn y tymor byr, roedd e'n cefnogi unrhyw waith y byddai'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a'r Pwyllgor Craffu - Plant a Phobl Ifainc yn ei gyflawni, hyd yn oed o ran mynd i'r afael a'r materion hynny sy'n rhan o'r ddau gylch gwaith ac yn gofyn am graffu ar y cyd.

 

Roedd yr Aelod Cyfetholedig wedi codi ymholiad mewn perthynas â data stelcio yn 2021, yr oedd Heddlu De Cymru wedi cyfeirio ati yn ei gyflwyniad, gan holi a oedd y data yma'n cynrychioli achosion unigol neu nifer o achosion lle’r oedd yr un achos wedi codi sawl tro. Eglurwyd bod rhywfaint o'r data yn berthnasol i'r un drosedd a bod cymysgedd o achosion unigol a chyfres o achosion wedi'u cynnwys yn y data yma.

 

Aeth Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ati i grynhoi’r pwyntiau allweddol a gafodd eu codi yn ystod y trafodaethau, gan awgrymu bod y Pwyllgor yn cwrdd eto ymhen 6 mis i drafod y data ar ôl y cyfyngiadau symud, gan ofyn bod Partneriaeth Cymunedau Diogel a'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant yn bresennol.

 

(Noder: Roedd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol P Jarman ac A Cox yn dymuno bod eu henwau'n cael eu cofnodi fel y sawl a oedd wedi pleidleisio o blaid y cynnig aflwyddiannus:

 

'Yn dilyn y gwaith craffu sydd wedi'i gyflawni mewn perthynas â phopeth sydd o'n blaenau heno, mae'n amlwg nad yw'r pwyllgor hwn yn fodlon fod menywod a merched mor ddiogel ag y gallen nhw fod yn RhCT. Rydw i'n cynnig ein bod ni'n cyflwyno sylwadau i'r Bartneriaeth Cymunedau Diogel er mwyn cryfhau'r mentrau hynny i gadw menywod a merched yn y gymuned yn ddiogel gan ddod â'r adroddiad yn ôl ymhen 6 mis')

 

PENDERFYNWYD:

 

1.     Ymchwilio i fentrau pellach sy'n mynd i'r afael â'r nifer isel o fenywod a merched sy'n rhoi gwybod am droseddau (yn ein trefi a'n pentrefi);

2.     Bod data ansoddol, mewn perthynas â'r effaith y mae'r mentrau/gwaith sydd eisoes wedi'u cyflawni'n ei chael ar ddiogelwch menywod a merched yn ein cymunedau yn cael ei gyflwyno yn ein cyfarfod nesaf;

3.     Bod adroddiad pellach mewn perthynas ag ymchwilio i ffyrdd o wella'r rhwydwaith Teledu cylch cyfyng cyfredol yn cael ei gyflwyno yn ystod y cyfarfod nesaf;

4.     Bod cyswllt yn cael ei sefydlu rhwng Cyngor RhCT a Phrifysgol De Cymru mewn perthynas â'r problemau sy'n gysylltiedig â diogelwch menywod a merched yn RhCT;

5.     Bod Partneriaeth Cymunedau Diogel, ar y cyd â Heddlu De Cymru a Chyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant y Cyngor yn mynychu cyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosedd ac Anrhefn (ymhen 6 mis) er mwyn trafod y materion a godwyd (gan gynnwys pwysigrwydd dull addysg gyfan); a

6.     Bydd yr wybodaeth y mae'r Pwyllgor wedi gofyn amdani'n cael ei rhannu ar ôl y cyfarfod.

 

Dogfennau ategol: