Agenda item

Trafod 'Crynodeb Archwilio Blynyddol 2020' Swyddfa Archwilio Cymrua gyflwynwyd i'r Cyngor ar 10 Mawrth 2021.

 

Cofnodion:

Yn rhan o'i adroddiad, roedd Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau  Democrataidd a Chyfathrebu wedi rhoi amlinelliad o 'Grynodeb Archwilio Blynyddol 2020 Archwilio Cymru’ a gafodd ei gyflwyno i'r Cyngor ar 10 Mawrth 2021 ac i'r Pwyllgor Archwilio ar 26 Ebrill 2021.

 

Cafodd yr Aelodau gyfle i drafod y cynnydd y mae Gwasanaethau'r Cyngor wedi'i wneud hyd yn hyn o ran cyflwyno cynigion ar gyfer gwella ac argymhellion Archwilio Cymru yn ogystal â thrafod a oes angen cyfeirio unrhyw faterion i Bwyllgor Archwilio'r Cyngor. Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth hefyd wedi gofyn i'r Aelodau drafod unrhyw faterion y mae angen i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu eu craffu ymhellach a'u cynnwys yn rhan o'r Blaenraglen Waith ar gyfer 2021/22.

 

Yn yr adran sy'n mynd i'r afael â Thrais yn Erbyn Menywod, Cam-drin yn y Cartref a Thrais Rhywiol' '(Gwasanaethau VAWDASV), holodd un Aelod a oedd unrhyw dystiolaeth sy'n dangos bod dynion, sydd hefyd yn dioddef cam-drin yn y cartref, yn cael eu trin yn gyfartal. Gofynnodd y Cadeirydd bod yr ymholiad yma'n cael ei drafod yn ystod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosedd ac Anrhefn sy'n cael ei gynnal ar 17 Mai gan y bydd y Swyddogion perthnasol a Heddlu De Cymru yn

bresennol.

 

Cafodd ei nodi hefyd y dylai'r adran ar dudalen 24 ddweud:

'Mae'n werth nodi bod yr Adroddiad Archwilio…. '

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cyfetholedig at y Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru

ar gyfer 2018-20 a holwyd a fyddai unrhyw ymholiadau'n ymwneud â risgiau posibl o ganlyniad i Covid-19 yn cael eu cyfeirio i'r Pwyllgor Archwilio neu'r Pwyllgor Trosolwg a'r Chraffu?

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Cyflawniad Gwasanaethau a'u Gwella bod adnoddau wedi cael eu dyrannu i fynd i'r afael â pheryglon yn gysylltiedig â Covid-19 yn ystod Blwyddyn y Cyngor 2020-21 megis Grantiau Cymorth Busnes a thaliadau Prydau Ysgol Am Ddim (PYD). Ychwanegodd y bydd yr adroddiadau hyn yn adroddiadau agored ac yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor cyn cael eu cyflwyno i Bwyllgor Archwilio'r Cyngor. Bydd unrhyw gais gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ynghylch cyflawni gwaith craffu mewn perthynas â'r adroddiadau yn cael ei wneud ble'n addas.

 

Gofynnwyd am ddiweddariad cynnydd mewn perthynas â gwaith datblygu'r gwasanaeth rhanbarthol newydd yn y tymor canolig o ran y Gwasanaethau VAWDASV, a fydd yn mynd i'r afael â phryderon ynghylch dyblygu gwaith a fyddai'n codi yn sgil y gwahanol ddulliau o fewn yr awdurdod a gyda phartneriaid. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyflawniad Gwasanaethau a'u Gwella wybod y byddai'r adborth yn cael ei rannu â'r Pwyllgor gan ddilyn y model gwasanaeth a'r gwaith sy'n cael ei gyflawni o hyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

 

O ran ymholiad a gafodd ei godi mewn perthynas ag adran 'Cysgu Allan yng

Nghymru - Problem i Bawb; Cyfrifoldeb i Neb,' rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor

Iechyd a Lles wybod fod ei Bwyllgor ef wedi cyflawni gwaith craffu mewn

perthynas â'r cynnydd y mae'r Gwasanaeth Tai yn ei wneud o ran Strategaeth

Digartrefedd CBSRhCT ar gyfer 2018-2022 a'r Cynllun Gweithredu sy'n cefnogi'r

Strategaeth honno.

 

Mewn perthynas ag adran 'Adolygiad o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus', codwyd ymholiad ynghylch y gwendidau a nodwyd ledled Cymru o ran sut mae'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) yn cael eu craffu a beth all yr Awdurdod Lleol ei wneud i helpu i wella dulliau craffu'r BGC. Cytunodd y Cadeirydd bod yna diffyg o ran gwaith craffu ac atebolrwydd mewn perthynas â'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a bod angen newid i'r ddeddfwriaeth i gefnogi hyn.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu

wedi atgoffa'r Aelodau bod Cadeirydd ac aelodau'r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn bresennol. Nododd fod yr Aelod Lleyg wedi herio Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus mewn perthynas â mesur llwyddiant a chynnydd cynllun llesiant y BGC yn ystod cyfarfod diwethaf y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod partneriaid/sefydliadau'r trydydd sector wedi cytuno eu bod nhw wedi gweithio'n agos ac wedi ychwanegu gwerth at yr ymateb i'r pandemig. Roedd y BGC wedi cydnabod bod angen dangos sut mae'r Bwrdd yn mesur ei lwyddiant, ac mae hwn yn faes y mae'n bosibl y bydd angen i Lywodraeth Cymru fyfyrio arno yn ystod unrhyw adolygiad o bartneriaeth strategol wrth symud ymlaen.

 

Cytunodd Cadeirydd y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu fod gwaith craffu mewn perthynas â'r BGC wedi bod yn heriol yn ystod Blwyddyn 2020/21 ond bod y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi canolbwyntio ar un elfen o gynllun lles y BGC er mwyn sicrhau canlyniadau mwy cadarn.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

  1. Cydnabod y cynnydd y mae Gwasanaethau'r Cyngor wedi'i wneud hyd yn hyn o ran rhoi'r cynigion ar gyfer gwella / argymhellion Archwilio

Cymru ar waith; a

 

  1. Derbyn gwybodaeth bellach, yn ôl y gofyn, a'i rhannu gyda'r Pwyllgor.

 

 

 

Dogfennau ategol: