Agenda item

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned yr adroddiad i'r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn trafod materion perthnasol mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005, yn ogystal â materion atodol eraill sy'n codi o gyfrifoldebau'r Pwyllgor. 

 

Rhoddwyd gwybod bod nifer yr Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro (TENs) yn isel yn ystod y cyfnod yma. Gallai hyn gael ei briodoli i Reoliadau'r Coronafeirws sy'n cyfyngu ar weithgareddau trwyddedig.  Fodd bynnag, ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud sy’n galluogi eiddo trwyddedig i ailagor mewn mannau agored yn unig. Rhagwelwyd y byddai cynnydd yn nifer y ceisiadau yn ystod y cyfnod nesaf, yn enwedig o ran clybiau, sydd ag amodau trwydded gwahanol o'u cymharu â thafarndai a bwytai. Nododd y Cyfarwyddwr hefyd fod nifer sylweddol o drosglwyddiadau a newidiadau o ran Goruchwyliwr Safle Penodedig, a hynny hefyd, mae'n debyg, o ganlyniad i'r ansicrwydd sy'n wynebu tafarndai a chlybiau oherwydd y pandemig.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod un cais i amrywio trwydded mangre wedi cael ei wrthwynebu ers adroddiad diwethaf y Pwyllgor. Adroddwyd hefyd y bu dau adolygiad ar gais Heddlu De Cymru yn ystod y cyfnod. Roedd yr adolygiad cyntaf yn ymwneud â thafarn Red Lion, Trefforest. Penderfynodd yr Isbwyllgor ddiddymu'r Drwydded. Roedd yr ail adolygiad yn ymwneud â Gwesty White Lion, Aberdâr a phenderfynodd yr Isbwyllgor ddiddymu'r Drwydded. Cafodd yr Aelodau wybod bod yr ymgeisydd ar gyfer Gwesty White Lion wedi apelio yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu i ddiddymu'r drwydded mangre a byddai'r Gwrandawiad yn cael ei gynnal am 10am ar 12 Mai 2021 yn Llysoedd Merthyr Tudful.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau at adran 4.3 yr adroddiad lle mae arolygiadau o eiddo a thor rheolau'n cael eu hamlinellu. Cafodd yr Aelodau wybod bod y gyfradd cyflawni gyfredol yn parhau i fod yn 90.5% gan fod cyn lleied o arolygiadau wedi'u cwblhau yn ystod y cyfnod, o ganlyniad i'r ffaith bod gofyn i dafarndai, clybiau a bwytai gau yn sgil cyfarwyddiadau'r Llywodraeth ac wrth i swyddogion ganolbwyntio ar arolygiadau Covid-19.

 

Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i ddisgrifio'r sefyllfa yn ystod y cyfnod yma, gan egluro bod yr holl dafarndai, clybiau a bwytai trwyddedig wedi rhoi'r gorau i fasnachu o ganlyniad i'r cyfyngiadau gan Lywodraeth Cymru er mwyn mynd i'r afael â phandemig y coronafeirws. Er i'r mangreoedd yma gael eu cau, cafodd Aelodau wybod bod swyddogion wedi parhau i gynnal ymweliadau, ynghyd â charfan gorfodi RhCT a Heddlu De Cymru, i sicrhau'u bod yn cydymffurfio â Covid. 

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i'r Pwyllgor am y cyfyngiadau diweddaraf i gael eu llacio a'r ymholiadau y mae'r masnachwyr wedi'u cyflwyno yn ystod y cyfnod yma mewn perthynas ag ailagor clybiau yn yr awyr agored. Cafodd yr Aelodau wybod bod amodau gorfodol wedi'u gosod ar dystysgrifau mangre ar gyfer tafarn a bwyty yn wahanol i'w gilydd. Mae hyn yn rhwystro nifer o glybiau rhag agor yn yr awyr agored yn ystod yr wythnosau nesaf.

 

O ran ailagor tafarndai a bwytai yn yr awyr agored, rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i'r Pwyllgor bod problemau wedi codi mewn perthynas â sefydlu mannau awyr agored gyda gasebo. Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at Adran 4.4 o'r adroddiad, a oedd yn cynnwys cymhorthion gweledol sy'n dangos beth sy'n addas ac esboniodd bod angen sicrhau bod 51% o ochrau'r gasebo'n agored.

 

O ran adennill ffioedd blynyddol, cafodd yr Aelodau wybod bod yr Adran Drwyddedu wedi penderfynu yn y lle cyntaf i beidio gorfodi talu ffioedd ar unwaith yn ystod y cyfnod oherwydd y caledi economaidd sy'n wynebu safleoedd, ond ei bod bellach yn gofyn am daliadau oherwydd gofynion y Ddeddfwriaeth. Nodwyd mai cyfanswm yr incwm a dderbyniwyd ar 31 Mawrth 2021 oedd £ 127,240, ac roedd hyn o ganlyniad i waith caled y garfan.

 

Nododd yr aelodau nad oedd unrhyw newidiadau sylweddol o ran Deddf Gamblo 2005. Cafodd yr Aelodau wybod bod disgwyl i Ddatganiad o Egwyddor RhCT gael ei adnewyddu erbyn Ionawr 2022, ac y byddai'r broses yn cychwyn yn ystod y cyfnod adrodd nesaf.

 

Gofynnodd un Aelod bod yr Aelodau Lleol yn cael gwybod pan fydd ceisiadau'n cael eu cyflwyno yn eu wardiau nhw. Cytunodd yr Aelodau i wneud hynny.

 

Manteisiodd yr Aelodau ar y cyfle i ddiolch i'r Garfan Trwyddedu am eu gwaith caled parhaus, PENDERFYNWYD: -

a)    Nodi cynnwys yr adroddiad mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 a;

b)    Nodi cynnwys yr adroddiad mewn perthynas â Deddf Gamblo 2005.

 

 

Dogfennau ategol: