Agenda item

Trafod adroddiad ar y cyd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

Cofnodion:

CYFANSODDIAD Y CYNGOR – NEWIDIADAU ARFAETHEDIG A MATERION ATEGOL

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y diwygiadau arfaethedig i Gyfansoddiad y Cyngor ynghyd â materion ategol fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ar y cyd. Ymatebodd hefyd i ofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru 2021. Ychwanegodd fod y materion yn destun ystyriaeth, ac yn cael eu cefnogi gan Bwyllgor y Cyfansoddiad.

 

Amlygodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth rai o'r cynigion allweddol a oedd yn cynnwys anfon gw?s pwyllgor electronig yn ddiofyn, ond ychwanegodd na fydd yn atal unrhyw Aelod rhag gofyn am gopi caled cyn Pwyllgor. Cyflwyno amser eitem dangosol ar yr agenda, sy'n cefnogi'r trefniadau rhithwir ac yn helpu'r holl Aelodau a grwpiau gwleidyddol i gynllunio eu sylwadau cyn cyfarfod a chynnwys egwyl gysur lle bo hynny'n briodol. Dywedodd fod hyn yn arbennig o bwysig o ran pwyllgorau hir a ffurfioli'r cais i ymestyn busnes lle bo angen.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth at ddatblygiad Porth yr Aelodau, sydd wedi'i oruchwylio gan Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd, a'r cyfleoedd y mae'n eu rhoi i Aelodau ymgymryd â nifer o brosesau democrataidd. Y canllawiau ychwanegol mewn perthynas â chwestiynau atodol sy'n egluro, pan fo'r 20 munud wedi dod i ben,  ni chaniateir i'r aelod ofyn ateb ei gwestiwn atodol na chael ateb iddo.

 

I gloi, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth at y newid yn nheitl y

Pwyllgor Archwilio i'r 'Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio', a'r newid yn nheitl y

Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a Materion Cyfansoddiadol i "Bwyllgor y 

Cyfansoddiad".

 

Yn dilyn trafodaethau  PENDERFYNWYD cytuno ar y diwygiadau arfaethedig a'r materion atodol sy'n ymwneud â Chyfansoddiad y Cyngor fel y'u nodwyd yn yr adroddiad rhwng 2.1 a 2.21 ac fel y ganlyn:

 

Diwygiadau i Reolau Gweithdrefn y Cyngor

 

Amseroedd a Mannau Cynnal y Cyfarfodydd

 

2.1       Am y rhesymau sydd wedi'u hamlinellu ym mharagraffau 4.1 – 4.3 yr adroddiad, i ddiwygio Rheol Gweithdrefn y Cyngor 4 fel y ganlyn:

 

4.1       Y Swyddog Priodol fydd yn penderfynu'r amser a mannau ar gyfer cynnal y cyfryw gyfarfodydd, ac yn rhoi gwybod i'r Aelodau amdanynt yn yr w?s.

 

4.2       At holl ddibenion y Cyfansoddiad nid yw'r term “cyfarfod” yn gyfyngedig o ran ystyr i gyfarfod o bersonau y mae pob un ohonynt, neu unrhyw un ohonynt, yn bresennol yn yr un lle. Mae unrhyw gyfeiriad at “le” i’w ddehongli fel lle mae cyfarfod yn cael ei gynnal, neu i’w gynnal, yn cynnwys cyfeiriad at fwy nag un lle gan gynnwys lleoliadau electronig, digidol neu rithwir fel lleoliadau rhyngrwyd, cyfeiriadau gwe neu rifau ffôn galwadau cynhadledd.

 

Gw?s i Gyfarfod Pwyllgor

 

2.2       Am y rhesymau a amlinellir ym mharagraffau 4.4 – 4.8 o'r adroddiad, diwygio Rheol Gweithdrefn y Cyngor 5.1 fel y ganlyn: -

 

5.1       "Y Swyddog Priodol fydd yn rhoi gwybod i'r cyhoedd am amseroedd a mannau unrhyw gyfarfodydd, yn unol â'r Rheolau Hawl i Gael Gafael ar Wybodaeth. O leiaf tri diwrnod clir cyn Cyfarfod, bydd y Swyddog Priodol yn anfon gw?s a lofnodwyd ganddo ef neu ganddi hi at bob Aelod o’r Cyngor. Bydd yr w?s yn nodi dyddiad, amser a lleoliad pob cyfarfod gan gynnwys p'un a yw'r cyfarfod am gael ei gynnal ar-lein neu a oes trefniadau ar gyfer cyfarfod hybrid (corfforol ac ar-lein) ar waith/ Bydd hefyd yn nodi'r busnes i'w drafod, ac unrhyw adroddiadau sydd ar gael ar yr adeg honno.  Bydd yr w?s hefyd yn nodi p'un a fydd y cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y we. Gall unrhyw Aelod nad yw'n dymuno derbyn yr w?s trwy e-bost ofyn (yn ysgrifenedig i'r Swyddog Priodol) am ba bynnag ddull cyflwyno rhesymol arall yr hoffen nhw, gyda'r ceisiadau hynny yn cael eu hadolygu o bryd i'w gilydd gan y Swyddog Priodol.

 

Cworwm

 

2.3       Am y rhesymau sydd wedi'u hamlinellu ym mharagraffau 4.9 – 4.12 yr adroddiad, diwygio Rheol Gweithdrefn y Cyngor 7 fel y ganlyn:

 

Ac eithrio cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Rheoli Materion Datblygu, cworwm cyfarfod fydd chwarter cyfanswm yr Aelodau.

 

Bydd Aelod sy'n mynychu cyfarfod o bell yn cael ei gyfrif at ddibenion sefydlu cworwm cyhyd â bod modd i'r Aelod hwnnw, pan fydd yn siarad, gael ei glywed (a'i weld lle bo hynny'n bosibl) a'i fod yn gallu clywed (a gweld lle bo hynny'n bosibl) yr Aelodau eraill sy'n mynychu'r cyfarfod a'r Swyddog Priodol, neu swyddog arall a benodwyd i weithredu ar ei ran.

 

Os yw'r Llywydd/Cadeirydd yn cyfrif nifer yr aelodau sy'n bresennol (rhith-bresenoldeb a mynychwr wyneb yn wyneb) mewn unrhyw gyfarfod ac yn datgan nad oes cworwm yn bresennol, yna bydd y cyfarfod yn cael ei ohirio ar unwaith. Os yw hyn yn cael ei achosi gan anawsterau technegol a brofir gan Aelodau sy'n ceisio ymuno â'r cyfarfod, neu oherwydd cynnal cyfarfod ar-lein, caniateir cyfnod o 15 munud i asesu p'un a oes modd datrys y mater. Os yw'r cyfarfod yn parhau i fod heb gworwm, bydd y materion sy'n weddill yn cael eu trafod ar amser a dyddiad a bennir gan y Llywydd/Cadeirydd. Os nad yw ef neu hi yn pennu dyddiad, caiff y materion sy'n weddill eu trafod yn y Cyfarfod Cyffredin nesaf.

 

 

            Hyd y Cyfarfod

 

2.4       Am y rhesymau sydd wedi'u hamlinellu ym mharagraffau 4.13 – 4.17 yr adroddiad, diwygio Rheol Gweithdrefn y Cyngor 8 fel y ganlyn:

Hyd a Busnes Cyfarfodydd y Cyngor

 

8.1  Bydd gan y Llywydd/Cadeirydd y disgresiwn i alw gohiriad ar amser priodol er mwyn hwyluso seibiant o 10 munud.  Mae modd i'r Llywydd ailadrodd toriad o'r fath yn ôl yr angen.

 

8.2  Cytunir ar yr agenda a'r amseriadau ar gyfer eitemau busnes ar gyfer unrhyw Gyfarfod o'r Cyngor yn unol â'r Rheolau hyn gan y Llywydd (Neu ddirprwy Lywydd yn ei absenoldeb) mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Priodol o leiaf 7 Diwrnod Gwaith cyn dyddiad cyfarfod y Cyngor.  Dim ond yn ôl disgresiwn y Llywydd y mae modd ymestyn unrhyw derfynau amser ar eitemau ar yr agenda.

 

            Cyfeiriadau at y Llywydd yn y Cyfansoddiad

 

2.5       Am y rheswm a amlinellir ym mharagraff 4.18, cynigir y dylid disodli pob cyfeiriad yn y Cyfansoddiad at “Aelod Llywyddol” (Presiding Member) gyda "Llywydd" (Presiding Officer)"

 

Cwestiynau gan yr Aelodau

 

2.6       Am y rhesymau a amlinellir ym mharagraffau 4.19-4.20 o'r adroddiad, diwygio Rheol Gweithdrefn y Cyngor 9.2 a 9.4(d) fel y ganlyn: -

           

9.2     Bydd uchafswm o 20 munud yn cael ei ganiatáu ar gyfer Cwestiynau gan Aelodau yng nghyfarfodydd y Cyngor Llawn. Ni chaniateir i aelod ofyn ei gwestiwn atodol, na chael ateb iddo, os yw'r 20 munud wedi dod i ben. Ni fydd cwestiynau pellach yn cael eu gofyn ar ôl i'r 20 munud ddod i ben.  Bydd trefn y cwestiynau sy'n cael eu gofyn ym mhob cyfarfod yn cael ei phennu gan y Swyddog Priodol wrth iddo/iddi eu dewis ar hap.  Bydd angen ailgyflwyno unrhyw gwestiynau nad oes cyfle wedi bod i'w hateb i'r Swyddog Priodol ar gyfer cyfarfod llawn nesaf y Cyngor, yn unol â'r rheolau hyn. Nid yw'r rheol hon yn atal Aelod rhag gofyn cwestiwn brys y mae'r Llywydd wedi cytuno arno yn unol â Rheol 9.4(b). Bydd unrhyw gwestiynau brys o'r fath yn cael eu cynnwys cyn dechrau'r 20 munud a ddyrannwyd ar gyfer cwestiynau sydd wedi'u derbyn ymlaen llaw.

 

9.4(d)   Rhaid i'r Aelod sy'n dymuno gofyn y cwestiwn gyflwyno'r cwestiwn i'r Swyddog Priodol, neu mae modd i Arweinydd y Gr?p ar ran yr Aelod hwnnw yng nghyfarfod perthnasol y Cyngor/Pwyllgor wneud hynny hefyd

 

Cynigion gyda Rhybudd

 

2.7       Am y rhesymau sydd wedi'u hamlinellu ym mharagraffau 4.21 – 4.22 yr adroddiad, i ddiwygio ail bwynt bwled Rheol Gweithdrefn y Cyngor 10.1(b) fel y ganlyn:

 

·       yn ysgrifenedig, drwy ffacs, neu drwy ebost, gydag enwau'r Cynigydd a'r Eilydd wedi'u datgan yn glir, wedi'i lofnodi gan y Cynigydd; a

 

2.8       Am y rhesymau a amlinellir ym mharagraffau 4.23 yr adroddiad, i ddiwygio Rheol Gweithdrefn y Cyngor 10.1(e) fel y ganlyn: -

 

Pan fydd Cynigion wedi'u cyflwyno o dan y Rheol 10 hon, ac wedi'u llofnodi gan fwy na dau o Aelodau, fe dybir taw'r ddwy lofnod a fo wedi'u rhestru yw rhai'r Cynigydd a'r Eilydd. Gall Arweinydd Gr?p gyflwyno Rhybudd o Gynnig ar ran y cynigydd ac eilydd y cynnig.

           

Pleidleisio

 

2.9       Am y rhesymau a amlinellir ym mharagraffau 4.24 – 4.26 o'r adroddiad, diwygio Rheol Gweithdrefn y Cyngor 15.1 fel y ganlyn: -

 

Oni bai bod y Cyfansoddiad hwn yn darparu fel arall, penderfynir ar unrhyw fater gan fwyafrif syml o’r Aelodau hynny sy’n pleidleisio ac yn bresennol yn yr ystafell ar yr adeg y cyflwynwyd y cwestiwn a'i roi gerbron i'w osod.

 

Ffotograffau a Recordio Cyfarfodydd

 

2.10       Am y rhesymau a amlinellir ym mharagraffau 4.27 – 4.29 o'r adroddiad, diwygio Rheol Gweithdrefn y Cyngor 23 fel y ganlyn: - 

 

Bydd trafodaethau mewn cyfarfodydd yn cael eu trydar yn fyw trwy gyfrif twitter swyddogol y Cyngor a'u ffrydio'n fyw trwy we-ddarlledu ar wefan y Cyngor. Caniateir i Aelodau Etholedig a'r cyhoedd hefyd ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ystod cyfarfodydd y Cyngor ar yr amod nad yw'n tarfu a y drafodaeth (Rhaid i aelodau gadw eu ffonau symudol (ac offer cyfathrebu tebyg arall) wedi'u diffodd, neu wedi'u tawelu, yn ystod y cyfarfod). Ar wahân i hyn, does dim hawl gwneud unrhyw ffotograff, fideo, na recordiad sain o drafodaethau mewn cyfarfodydd, nac mewn unrhyw ffordd o gwbl drosglwyddo'r trafodion y tu allan i'r cyfarfod heb ganiatâd blaenorol Llywydd. Oherwydd methiant i gydymffurfio â'r Rheol hon efallai y caiff Rheol 19.4 (Aelodau i adael y Cyfarfod) ac 20.1 (symud ymaith Aelodau o'r cyhoedd) ei chymhwyso.

 Yn rhan o hyn, bydd fideo a recordiad sain ohonoch chi'n cael ei wneud drwy gydol y cyfarfod. Os oes gan gyfranogwr unrhyw bryderon, ynghylch recordio o'r fath, dylent gysylltu â'r swyddog priodol cyn y cyfarfod. Os derbynnir unrhyw bryderon, bydd y Swyddog Priodol yn penderfynu ar y ffordd orau o barhau â'r cyfarfod, a allai arwain at aildrefnu neu ohirio'r cyfarfod. Ni fydd cyfranogwyr yn cael eu cosbi am godi pryderon yn ymwneud â'r Recordiad Fideo.

            Presenoldeb o Bell gan Aelodau (o dan ddarpariaethau Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

           

2.11     Nodi, am y rhesymau a amlinellir ym mharagraffau 4.30 – 4.32 o'r adroddiad, cafodd Rheol Gweithdrefn y Cyngor 26.1 a 26.2 isod eu dileu o Reolau Gweithdrefn y Cyngor o dan y pwerau dirprwyedig a roddwyd i'r Swyddog Monitro (a'u cyfleu ymlaen llaw i'r Arweinwyr Gr?p) a'u disodli gan y canlynol:

 

Cyfarfodydd Aml-leoliad

26.1     Ni chaniateir Cyfarfodydd Aml-leoliad (Presenoldeb o bell) yng nghyfarfodydd y Cyngor oni bai bod amodau adran 47 (2) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru 2021 yn cael eu bodloni, sy'n golygu bod unrhyw Aelod sy'n mynychu cyfarfod o bell (y “mynychwr o bell”) pan fyddant yn siarad, gallu cael eu gweld a’u clywed gan yr Aelodau sy’n mynychu’r cyfarfod yn y man lle cynhelir y cyfarfod (“Aelodau mewn presenoldeb wyneb yn wyneb”) a rhaid i’r mynychwr o bell, yn ei dro, gallu gweld a chlywed y rhai sy'n bresennol mewn wyneb yn wyneb. Yn ogystal, rhaid i fynychwr o bell allu cael ei weld a'i glywed gan unrhyw aelodau o'r cyhoedd sydd â hawl i fynychu'r cyfarfod ac sy'n arfer hawl i siarad yn y cyfarfod, a rhaid i'r mynychwr allu eu gweld a'u clywed nhw hefyd. Os oes mwy nag un lleoliad o bell, rhaid i'r holl Aelodau sy'n mynychu o bell allu clywed, ond nid o reidrwydd, gweld y mynychwyr eraill sydd o bell.

 

26.2     Ni fydd methiant unrhyw ddarpariaeth dechnolegol p'un a yw hynny'n arwain at golli cysylltiad yn rhannol neu'n llwyr rhwng y mynychwyr o bell a'r Aelodau hynny sy'n bresennol yn ystod y cyfarfod yn annilysu unrhyw ran o'r trafodaethau nac unrhyw bleidlais a gymerwyd. Gall y Llywydd/Cadeirydd ohirio'r cyfarfod os yw'n barnu bod hynny'n briodol neu mae modd gohirio'r cyfarfod os yw e o'r farn bod hynny'n briodol tra bod unrhyw faterion technolegol yn cael eu datrys.

 

26.3     Os oes busnes brys neu gyfyngedig o ran amser y mae'n rhaid ei gynnal mewn cyfarfod, dylid egluro i'r Aelodau y byddai'r cyfarfod yn parhau ac y byddai pleidlais yn cael ei chynnal heb eu presenoldeb pe bai problem o ran cyfathrebu/technoleg yn codi.

 

26.4     Bydd yn ddyletswydd ar gyfranogwyr sy'n mynychu cyfarfodydd o bell i sicrhau addasrwydd eu lleoliad ar gyfer y cyfarfod ac i sicrhau nad yw unrhyw eitemau cyfrinachol a ystyrir yn y cyfarfod, fel y'u diffinnir yn Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn cael eu datgelu i'r cyhoedd.

 

26.5     Pan fydd y Llywydd/Cadeirydd yn penderfynu nad yw'r Aelod yn cadw at yr amodau a nodir yn 26.4 uchod, mae ganddynt y disgresiwn i ofyn i'r Aelod yn symud i leoliad a fyddai'n bodloni'r amodau ar gyfer 26.4 uchod.

 

            Llofnodi Dogfennau

 

2.12     Am y rhesymau a amlinellir ym mharagraffau 4.33 o'r adroddiad, diwygir Rheolau Gweithdrefn y Cyngor lle mae sôn am 'lofnodi', megis 16.1 (llofnodi cofnodion); 17 (cofnod o bresenoldeb)

 

Lle mae Aelodau'n bresennol ar-lein, bydd y Swyddog Priodol yn sicrhau bod y manylion hyn yn cael eu nodi yn unol â hynny.

 

Rheolau Dull Gweithredu – Hawl i Gael Gafael ar Wybodaeth

 

2.13     Am y rhesymau sydd wedi'u hamlinellu ym mharagraffau 4.34 – 4.36 yr adroddiad, diwygio Rheol Gweithdrefn y Cyngor 12.2 fel y ganlyn:

 

            … Bydd angen sicrhau bod Rhaglen Waith y Cabinet ar gyfer y Dyfodol yn gadarn, yn agored ac yn dryloyw o ran y penderfyniadau sydd ar ddod i sicrhau bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cael digon o wybodaeth i'w alluogi i gyflawni ei rôl yn effeithiol.  Cyhoeddir y rhaglen waith 14 niwrnod o leiaf cyn dechrau'r cyfnod dan sylw. Bydd y Swyddog Priodol yn cyhoeddi'r Rhaglen Waith ar gyfer y Dyfodol ar wefan y Cyngor.

 

Diwygiadau arfaethedig i reolau'r Weithdrefn Weithredol

 

            Dirprwyaeth gan yr Arweinydd

 

2.14     Am y rhesymau a amlinellir ym mharagraffau 4.37 o'r adroddiad, diwygio Rheol Gweithdrefn y Cyngor 1.2 fel y ganlyn: -

 

Yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor, fe fydd yr Arweinydd yn cyflwyno i'r Cyngor Llawn gofnod  o'r dirprwyo a wnaeth ef, i'w gynnwys yng Nghynllun Dirprwyo'r Cyngor fel Rhan 3 o'r Cyfansoddiad hwn. Bydd y ddogfen a gyflwynir gan yr Arweinydd yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol ynghylch swyddogaethau gweithredol mewn perthynas â'r flwyddyn sy'n dod:

(i)             enwau'r bobl a benodir i'r Cabinet gan yr Arweinydd;

 

            Cyfarfodydd y Cabinet - Pryd a Ble?

 

2.15     Am y rhesymau a amlinellir ym mharagraffau 4.38 o'r adroddiad, diwygio Rheol Gweithdrefn y Cyngor 1.6 fel y ganlyn: -

 

Bydd y Cabinet yn cyfarfod o leiaf 12 o weithiau ym mhob blwyddyn fwrdeistrefol, ar adegau i'w cytuno gan yr Arweinydd. Bydd y Cabinet yn cyfarfod ym mhrif swyddfeydd y Cyngor, trwy sawl lleoliad (hybrid) neu mewn lleoliad arall y bydd yr Arweinydd yn cytuno arno.

 

Diwygiad Arfaethedig i'r Rheolau Gweithdrefn - Trosolwg a Chraffu

 

            Cyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, ac o Bwyllgorau Craffu'r Cyfadrannau

 

2.16     Am y rhesymau sydd wedi'u hamlinellu ym mharagraffau 4.39 – 4.40 yr adroddiad, i ddiwygio Rheol Gweithdrefn y Cyngor 5 fel y ganlyn: -

 

Rhaid cynnal o leiaf chwe Chyfarfod Cyffredin o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, ac o leiaf wyth Cyfarfod Cyffredin o bob un o'r Pwyllgorau Craffu Cyfadrannau, ym mhob blwyddyn. Yn ychwanegol at hynny, fe geir galw cyfarfodydd arbennig o bryd i'w gilydd yn ôl pan fo hynny yn briodol. Fe gaiff y Cadeirydd, neu'r Swyddog Priodol alw Cyfarfod os yw ef neu hi yn ystyried bod hynny yn angenrheidiol neu'n briodol.

 

            Galw i Mewn

 

2.17     Am y rhesymau sydd wedi'u hamlinellu ym mharagraffau 4.41 yr adroddiad, i ddiwygio Rheol Gweithdrefn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 17.1 fel y ganlyn: -

 

(I) Mae modd cyflwyno cais am alw penderfyniad i mewn, a wneir yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, naill ai â llaw i swyddog Gwasanaethau Democrataidd gan ddefnyddio'r ffurflen galw i mewn ddynodedig (mae copi ohoni ar gael ar gais gan y Gwasanaethau Democrataidd ) neu drwy bost electronig (e-bost), neu drwy lenwi'r ffurflen berthnasol sydd i'w gweld ar Borth yr Aelodau. Rhaid i unrhyw gais a gyflwynir yn electronig gael ei anfon gan un o'r tri llofnodwr, ac, os yw'n cael ei gyflwyno mewn e-bost, dylid ei anfon i'r cyfeiriad e-bost canlynol - craffu@rctcbc.gov.uk. At ddibenion gwirio cydymffurfiaeth â'r rheolau yma, bernir bod y cyflwyniadau electronig wedi'u derbyn ar yr adeg maen nhw'n cyrraedd y blwch post Craffu/Porth yr Aelodau. Er mwyn bod yn gais dilys, rhaid i unrhyw gais a gyflwynir yn electronig gynnwys yr un wybodaeth a manylion ag sy'n ofynnol i'w llenwi ar y ffurflen bapur. Mae atodi copi o'r ffurflen galw i mewn i'r e-bost neu Borth yr Aelodau yn dderbyniol. Dylai'r tri llofnodwr i'r cais gadw cofnod o'u cytundeb i gyflwyno'r cais galw i mewn gyda'i gilydd. Dim ond os bydd unrhyw anghydfod na chydsyniodd aelod (neu aelodau) i fod yn llofnodwr i'r cais galw i mewn y bydd y Swyddog Priodol yn gofyn am hyn.

 

Diwygiadau arfaethedig i Godau a Phrotocolau Rhan 5 - Pwyllgor Cynllunio a Datblygu -

 

            Gweithdrefnau cyfarfod

2.18     Am y rhesymau sydd wedi'u hamlinellu ym mharagraffau 4.42 – 4.44 yr adroddiad, diwygio gweithdrefnau 'Siarad Cyhoeddus yn y Cyfarfod' fel y ganlyn:

·       Caniatáu offer anghysbell (dronau) i hwyluso ymweliadau safle er nad yw hyn yn disodli'r dewis o gynnal ymweliadau corfforol.

·       Mae manylion Cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ar gael ar wefan y Cyngor, gyda chyfarfodydd yn digwydd bob yn ail dydd Iau (oni bai bod y wefan yn nodi’n wahanol.) Dylid gwneud ymholiadau cyffredinol mewn perthynas â chyfarfodydd i Uned Busnes y Cyngor. BusnesyCyngor@rctcbc.gov.uk

·       Os yw'r cyhoedd eisiau gwybod pryd, neu os yw cais cynllunio penodol yn mynd i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu, dylent gysylltu â'r Adran Gynllunio yn Nh? Sardis, Pontypridd: GwasanaethauCynllunio@rctcbc.gov.uk

 

Newidiadau i Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio

2.19     Am y rhesymau a amlinellir ym mharagraffau 4.45 - 4.47 o'r adroddiad i ddiwygio Rheol Gweithdrefn Ariannol 4.3 a 4.1 o Gyfansoddiad y Cyngor (ac o ganlyniad yr holl gyfeiriadau yn y Cyfansoddiad at yr un peth) a newid enw'r Pwyllgor Archwilio i'r:

 

·       Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

 

2.20     Am y rhesymau a amlinellwyd yn Adroddiad y Pwyllgor Archwilio a gyflwynwyd i'r Pwyllgor ar y 26 Ebrill, 2021 fel y manylir ym mharagraffau 4.41 - 4.43 o'r adroddiad hwn, argymell i'r Cyngor ychwanegu'r ddau bwynt bwled canlynol at gylch gorchwyl y Pwyllgor:

 

Trefniadau Cyflawniad y Cyngor

 

(Gweithle)  

(i) Trafod adroddiad Hunanasesu Cyflawniad Blynyddol drafft y Cyngor ac os bernir ei fod yn angenrheidiol, gwneud argymhellion ar gyfer newidiadau i'r Cyngor.

 

            (ii) Derbyn adroddiad Hunanasesiad Blynyddol terfynol y Cyngor mewn perthynas â blwyddyn ariannol cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol honno.

 

            (iii) O leiaf unwaith yn ystod y cyfnod rhwng dau etholiad cyffredin yn olynol i'r Cyngor, trafod adroddiad Asesiad Cyflawniad Panel annibynnol ar sut mae'r Cyngor yn bodloni'r gofynion o ran cyflawniad.

 

            (iv) Derbyn ac adolygu ymateb drafft y Cyngor i adroddiad Asesiad Cyflawniad annibynnol y Panel ac, os bernir bod angen, mae modd gwneud argymhellion ar gyfer newidiadau i'r datganiadau a wnaed yn yr ymateb drafft i'r Cyngor.

 

            Ymateb i Gwynion

 

(X)      

(i) Adolygu ac asesu gallu'r Cyngor i ddelio â chwynion yn effeithiol.

 

            (ii) Llunio adroddiadau ac argymhellion mewn perthynas â gallu'r Cyngor i ddelio â chwynion yn effeithiol. “

 

Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a Materion Cyfansoddiadol

 

2.21     Am y rhesymau a amlinellir ym mharagraff 4.48 o'r adroddiad, diwygio enw'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a Chyfansoddiad i'r 'Bwyllgor y Cyfansoddiad ".

 

(Nodyn: Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Belzak yn dymuno iddo gael ei gofnodi ei fod wedi pleidleisio yn erbyn yr argymhellion a nodwyd yn 2.1-2.21)

 

 

Dogfennau ategol: