Agenda item

a)       Ethol Llywydd y Cyngor.

 

b)       Ethol Dirprwy Lywydd y Cyngor.

 

c)       Derbyn anerchiad gan Faer y Cyngor ar gyfer 2020-2021.

 

d)       Ethol Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022. 

(Er mwyn i'r Maer gyhoeddi ei gymar/ei chymar ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022)

 

e)       Penodi Dirprwy Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022.

(Er mwyn i'r Dirprwy Faer gyhoeddi ei gymar/ei chymar ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022)

 

f)        Penodi Arweinydd y Cyngor.

 

g)       Cadarnhau bod Arweinydd yr Wrthblaid fwyaf yn cael ei benodi'n/ei phenodi'n Arweinydd yr Wrthblaid. 

 

 

Cofnodion:

2a. Ethol Llywydd y Cyngor

 

PENDERFYNWYD – ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Powderhill i fod yn Llywydd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/22.

 

Cymerodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Powderhill y Gadair yn dilyn ei benodiad.

 

2b. Ethol Dirprwy Lywydd y Cyngor

 

PENDERFYNWYD – ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes i fod yn Ddirprwy Lywydd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/22.

 

(Nodyn: Ymataliodd y Gr?p Ceidwadol rhag pleidleisio ar y mater)

 

2c. Derbyn anerchiad gan Faer y Cyngor ar gyfer 2020-2021.

 

Manteisiodd y Maer ar y cyfle i fyfyrio ar ei blwyddyn fel Maer Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020/21. Diolchodd y Maer i'r Cyngor am roi'r anrhydedd fawr iddi o wasanaethu yn Faer Rhondda Cynon Taf, er bod hynny mewn modd gwahanol iawn i bob Maer blaenorol. Tynnodd y Maer sy'n gadael sylw at rai o'r achlysuron pwysig a gymerodd hi ran ynddyn nhw tra'n cadw pellter cymdeithasol, megis Gwasanaeth Coffa ger Cofeb Glynrhedynog fis Tachwedd, lle gosododd hi dorch flodau yn deyrnged i filwyr y gorffennol a'r presennol.

 

Yn dilyn llacio'r cyfyngiadau, llwyddodd y Maer i ymweld â Chartref Gofal T? Nant i dderbyn rhodd hael a roddwyd i Elusennau'r Maer, gan eu preswylwyr a'r Cartref yn lle anfon Cardiau Nadolig.

 

Talodd y Maer deyrnged i bawb sydd wedi colli eu bywydau yn ystod y pandemig a thalodd deyrnged bersonol i weithwyr hanfodol, gwasanaethau rheng flaen a gweithwyr meddygol proffesiynol, yn ogystal â'r rhai sy'n rhan o'r Rhaglen Frechu yn Rhondda Cynon Taf. Cydnabu ymroddiad a phroffesiynoldeb cynifer o bobl sydd wedi dangos cryfder aruthrol yn ystod y cyfnod yma.

 

Manteisiodd y Maer sy’n ymddeol ar y cyfle i ddymuno pob hwyl i’w holynydd a daeth i ben gyda geiriau’r diweddar Capten Syr Tom, “bydd yfory yn ddiwrnod gwell”.

 

Wrth ymateb i hyn, talodd yr Aelodau deyrnged i'r Maer sy'n ymddeol, gan ei chanmol am ei holl waith caled a'i hymdrechion yn ystod blwyddyn nas gwelwyd ei thebyg o'r blaen.

 

2d Ethol Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022.

 

PENDERFYNWYD - ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Bonetto yn Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022

 

Diolchodd Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022 i'r Maer sy'n ymddeol, yn ogystal â diolch ac am y cyfle a roddwyd iddi fel Maer newydd. Cyhoeddodd mai ei g?r, Lawrence, a'i merch, Nicola Charlesworth, fydd ei chydweddogion. Yr elusennau a ddewiswyd ganddi yw 'Help for Heroes', 'To Wish Upon A Star' ac 'AP Cymru'.

 

Dymunodd yr Aelodau yn dda i'r Maer newydd ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

2e. Penodi Dirprwy Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022.

 

PENDERFYNWYD - ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Treeby yn Ddirprwy Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022.

 

Llongyfarchodd y Dirprwy Faer y Maer newydd, yn ogystal â diolch am yr anrhydedd o gael ei hethol yn Ddirprwy Faer ar gyfer 2021-22. Cyhoeddoddd mai Mr Paul Hammett fyddai ei chydweddog, a dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at gefnogi'r Maer yn ystod ei thymor yn y swydd.

 

2f. Penodi Arweinydd y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD – penodi Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/2022.

 

Estynnodd y Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan ei ddiolch i'r Aelodau am eu cefnogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac i'r holl staff am eu gwaith caled a'u hymrwymiad dros y 12 mis diwethaf, yn enwedig yr uwch swyddogion a oedd wedi rhoi cyfle i'r Arweinydd ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a chynrychioli cymunedau RhCT. Rhoddodd sicrwydd cadarn i'r Aelodau ac i'r cyhoedd y byddai'r 12 mis nesaf yn canolbwyntio ar adferiad, swyddi a gwella ein cymunedau, yn ogsytal â llywio dyfodol RhCT mewn modd cadarnhaol.

 

Cydnabu'r Arweinwyr Gr?p benodiad yr Arweinydd a chynnig eu cefnogaeth barhaus yn ystod y cyfnod adfer.

 

2g Cadarnhau bod Arweinydd yr Wrthblaid fwyaf yn cael ei benodi'n/ei phenodi'n Arweinydd yr Wrthblaid.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau penodiad Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman yn Arweinydd yr Wrthblaid.