Agenda item

Derbyn adroddiad ar y cyd gan Gyfarwyddwr Cyfadran Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen a Chyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor, sy'n rhannu trosolwg o gynlluniau tymor canolig a hir dymor y Cyngor i ddatblygu isadeiledd gwefru Cerbydau Trydan â'r Gr?p Llywio. Bwriad y cynlluniau yma yw rhedeg ochr yn ochr â gwaith y Fargen Ddinesig mewn perthynas â'r sefyllfa bresennol ynghylch dull arfaethedig RhCT o ran datrysiadau ar gyfer gwefru Cerbydau Trydan ledled y Fwrdeistref Sirol a bydd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu strategaeth gwefru Cerbydau Trydan ar gyfer y Cyngor.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Eiddo Corfforaethol drosolwg o gynlluniau tymor canolig a hir dymor y Cyngor mewn perthynas â datblygu'r isadeiledd gwefru cerbydau trydan.

 

Yn gyntaf, roedd y Cyfarwyddwr wedi atgoffa'r Gr?p Llywio o'r trafodaethau blaenorol ynghylch adroddiadau sy'n ymwneud â'r sefyllfa o ran allyriadau carbon, trafnidiaeth a'r camau wedi'u nodi i leihau allyriadau o'r fath. Soniodd y Cyfarwyddwr am dystiolaeth yr oedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi'i chyflwyno i Lywodraeth Cymru, a oedd yn rhagweld y bydd nifer y cerbydau trydan trwyddedig yn y DU yn cyrraedd 13.6 miliwn erbyn 2030 ac yn cynrychioli 60% o gyfran y farchnad.

 

Cafodd y Gr?p Llywio wybod am y meysydd gwaith canlynol y mae'r Cyngor eisoes wedi'i gyflawni i leihau allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â Thrafnidiaeth:

·       Briff dylunio ar gyfer yr holl gynlluniau mawr a chynlluniau Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif sydd wedi'u diwygio i gynnwys darpariaeth mannau gwefru cerbydau trydan ar gyfer pob cynllun yn y dyfodol;

·       Gosod mannau gwefru cerbydau trydan mewn prosiectau a gwblhawyd yn ddiweddar;

·       Gweithio gydag Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas Ranbarth Caerdydd i gaffael cyllid gwerth £1.3miliwn gan Lywodraeth Cymru yn ystod 2021 i sefydlu rhwydwaith o fannau gwefru cerbydau trydan ar gyfer tacsis ledled y rhanbarth;

·       Gweithio gydag Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas Ranbarth Caerdydd i ddatblygu cynigion i osod mannau gwefru 22KW mewn amrywiaeth o safleoedd sy'n eiddo i'r cyngor ledled y rhanbarth;

·       Arbrofi gyda mannau gwefru hybrid a mannau gwefru cerbydau trydan yn ogystal â monitro'r posibilrwydd ar gyfer datrysiadau tanwydd mewn perthynas â cherbydau fflyd, megis hydrogen; a

·       Archwilio'r posibilrwydd o osod canopïau solar yn y maes parcio yn un o ganolfannau hamdden y Cyngor, gyda'r cyfle i gynnwys mannau gwefru Cerbydau Trydan yn y cynllun os yw'r cynllun yn cael ei weithredu.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at Adran 5 o'r adroddiad, sy'n nodi manylion y cynnydd sydd wedi'i wneud gan Awdurdodau Lleol cyfagos a'r sector preifat. Mae nifer ohonyn nhw wedi sicrhau darpariaeth o fannau gwefru cerbydau trydan ar gyfer trigolion a chwsmeriaid.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr am yr angen i ddatblygu Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan y Cyngor gyda nodau tymor byr, tymor canolig a hir dymor i fynd i'r afael â gofynion RhCT yn y dyfodol a dywedodd y byddai'r strategaeth yn sefyll ochr yn ochr â pholisïau cynllunio newydd a fabwysiadwyd o fewn y Cyngor ond y byddai angen adolygu a diweddaru'r rhain yn unol â mentrau rhanbarthol a/neu'r galw ar gyfer mannau gwefru cerbydau trydan yn y dyfodol. Dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai'r Cyngor, lle bo hynny'n bosibl, yn ceisio archwilio unrhyw gyfleoedd cyllido i gyflawni'r newid yn llwyddiannus.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cyfarwyddwr a'r swyddogion am yr adroddiad manwl. Soniodd y Cadeirydd am y cynnydd yn y galw am gerbydau trydan ymhlith trigolion ac roedd yn falch o nodi dull rhagweithiol y Cyngor i fodloni gofynion defnyddwyr yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Siaradodd yr Is-gadeirydd yn gadarnhaol am y gwaith y mae'r Cyngor wedi'i wneud i leihau allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â chludiant ac roedd yn arbennig o falch o nodi bod y Cyngor yn ystyried ei fflyd ei hun. Soniodd yr Aelod am bwysigrwydd ceisio enghreifftiau o arfer gorau gan Awdurdodau Lleol eraill ac am ymgynghoriad eang, a fyddai’n rhoi mewnwelediad gwell i ofynion trigolion.

 

Cyfeiriodd un Aelod at y map o RCT sy'n dangos mannau gwefru cerbydau trydan posibl, sydd wedi'i nodi yn Atodiad III yr adroddiad, gan awgrymu y dylai'r Cyngor ystyried ardal Cwm Rhondda uchaf. Yn ogystal â hynny, cododd Aelod bryderon mewn perthynas â chyflenwad p?er sydd ar gael ar gyfer mannau gwefru cerbydau trydan a chyfyngiadau grant y Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel, sy'n golygu na fyddai nifer o drigolion y Fwrdeistref, sydd heb fannau parcio oddi ar y stryd, yn gymwys.

 

Roedd Pennaeth Rheoli Prosiectau Ynni wedi nodi sylwadau'r Aelod mewn perthynas â'r problemau sy'n gysylltiedig â ph?er ledled De Cymru. Rhoddodd wybod bod Gweithredwyr y Rhwydwaith Dosbarthu yn y broses o newid Gweithredwyr y Rhwydwaith Dosbarthu gyda'r bwriad o greu rhwydwaith sy'n fwy hygyrch a hyblyg.

 

Siaradodd un Aelod am gyfarfodydd Trafnidiaeth Ranbarthol a pha mor galonogol yw hi i weithio ar y cyd ag Awdurdodau Lleol eraill, o ran rhannu gwersi a ddysgwyd ac arferion da.

 

Gyda chytundeb y Cadeirydd, siaradodd yr Aelod nad yw’n Aelod o'r Pwyllgor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Griffiths am yr eitem a gofyn i’r Cyngor ystyried amrywiaeth o leoliadau yn Ne'r Sir ar gyfer sefydlu mannau gwefru cerbydau trydan, megis Canolfan Hamdden Llantrisant a maes parcio i'r cyhoedd yn ardal Pont-y-clun. Roedd yr Aelod o'r farn y byddai gosod mannau gwefru cerbydau trydan ar safleoedd Parcio a Theithio yn achosi problemau oherwydd bod modd gadael y cerbyd yna drwy'r dydd.

 

Dymunodd Gyfarwyddwr Eiddo Corfforaethol ddiolch i'r Aelodau am eu hawgrymiadau a'u sylwadau gan nodi y bydd y rhain yn cael eu hystyried.

 

PENDERFYNODD Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad a nodi bod y Cyngor wir yn awyddus i sbarduno newid o ran isadeiledd gwefru cerbydau trydan ledled y Fwrdeistref Sirol;

2.    Parhau â'r gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud megis parhau â threialu cerbydau trydan i'w ddefnyddio yn fflyd y Cyngor;

3.    Y bydd swyddogion yn datblygu Strategaeth Isadeiledd Gwefru Cerbydau Trydan i eistedd ochr yn ochr â Strategaeth Drafnidiaeth a Pholisïau Cynllunio ar gyfer y dyfodol; a

4.    Y bydd cynllun gweithredu yn cael ei ddatblygu i gyflawni prosiectau ochr yn ochr â'r Strategaeth.

 

 

Dogfennau ategol: