Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhannu'r newyddion diweddaraf am y dull arfaethedig ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu â thrigolion a'r gymuned mewn perthynas â Newid yn yr Hinsawdd.
Cofnodion:
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu diweddariad i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd yngl?n â'r dull o ymgysylltu â'r gymuned a chyfathrebu mewn perthynas â Newid yn yr Hinsawdd.
Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth bwysigrwydd cychwyn sgwrs ehangach gyda'r gymuned mewn perthynas â phwysigrwydd mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd er mwyn annog newid mewn ymddygiad a newid o ran sicrhau cefnogaeth y gymuned, yn ogystal â thargedu sgwrs ynghylch meysydd penodol megis Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd y Cyngor.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth amlinelliad o'r dull rhithwir arfaethedig ar gyfer y drafodaeth barhaus mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd, sydd wedi ystyried yr heriau sy'n gysylltiedig ag ymgysylltu, a oedd wedi codi o ganlyniad i bandemig Covid-19. Rhoddodd y Gr?p Llywio wybod am ddatblygiad y porth Newid yn yr Hinsawdd canolig a'r nod o sefydlu sgwrs barhaus gyda thrigolion, gyda chymorth y Grwpiau Amgylcheddol.
Cynigodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ymgynghoriad 6-8 wythnos o ran Strategaeth Ddrafft y Cyngor mewn perthynas â Newid yn yr Hinsawdd, fyddai'n defnyddio'r dulliau canlynol i godi ymwybyddiaeth:
· Gwefan 'Dewch i Siarad RhCT', fyddai'n cynnwys dogfennau ar-lein, arolygon, arolygon barn a fideos;
· Gwefannau cyfryngau cymdeithasol amrywiol;
· Gweithio mewn partneriaeth gyda grwpiau cymunedol; a
· Sesiynau ymgysylltu rhithwir amrywiol.
Cafodd yr Aelodau wybod am y bwriad i sefydlu cynllun ymgysylltu a chyfathrebu manwl yn gynnar yn ystod Blwyddyn nesaf y Cyngor, fyddai'n cynnwys rhai o ymgyrchoedd y Cyngor wedi'u targedu er mwyn i'r Gr?p Llywio'u trafod.
Roedd y Cadeirydd wedi diolch i'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth am y Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu a nododd y brwdfrydedd y mae'r trigolion eisoes wedi'i ddangos mewn perthynas â mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Siaradodd y Cadeirydd am y cyfyngiadau cyfredol sydd ar waith o ganlyniad i bandemig Covid-19 a siaradodd am bwysigrwydd sicrhau bod y dull mor hygyrch ag sy'n bosibl ac mor hawdd i'w ddefnyddio ag sy'n bosibl er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd cynulleidfa ehangach.
Siaradodd yr Is-gadeirydd am fanteision cyfathrebu wyneb yn wyneb â thrigolion a defnyddiodd ymgynghoriad y Cyngor mewn perthynas â'r gyllideb fel enghraifft, roedd yn fodlon y byddai'r Cyngor yn defnyddio pob dull posibl i ymgysylltu â'r gymuned ar bwnc pwysig fel hyn. Aeth yr Aelod ymlaen i siarad am strategaeth ymgysylltu flaenorol y Cyngor mewn perthynas ag ailgylchu a phwysleisiodd bwysigrwydd defnyddio'r derminoleg gywir wrth ymgysylltu â thrigolion.
Siaradodd un Aelod am bwysigrwydd ymgysylltu â phobl ifanc, y cyfeiriwyd ato yn Adran 4.6 yr adroddiad. Siaradodd yr Aelod am frwdfrydedd a sylwadau gwerthfawr plant a phobl ifanc mewn perthynas ag ymgysylltu ac ailgylchu.
Adleisiodd un Aelod sylw a gafodd ei wneud mewn perthynas â phwysigrwydd ymgysylltu â phobl ifainc, ac awgrymodd rhai meysydd eraill y mae modd i'r Cyngor ei ystyried yn rhan o'r cynllun ymgysylltu:
· Rhwydwaith llysgenhadon ifainc Cymru ar gyfer newid yn yr hinsawdd;
· Y potensial i sefydlu Cynulliad Newid yn yr Hinsawdd, fel yr un yn Blaenau Gwent; a'r
· Cyfle i fanteisio ar becyn hyfforddi Technoleg Amgen ar gyfer Prydain Di-garbon.
Gyda chytundeb y Cadeirydd, siaradodd yr Aelod nad yw'n Aelod o'r Pwyllgor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Griffiths am yr eitem gan ofyn i'r Cyngor gynnwys grwpiau cymunedol llai a grwpiau gweithgar yn rhan o'r gwaith ymgysylltu y mae'r Cadeirydd wedi cytuno arnyn nhw.
PENDERFYNODD Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd:
1. Cymeradwyo'r dull arfaethedig ar gyfer ymgynghori ar y Strategaeth Ddrafft - Newid yn yr Hinsawdd, a'r ymgyrch cyfathrebu/hyrwyddo cysylltiedig, a fydd yn cael eu cynnal ym mis Ebrill a Mai 2021;
2. Trafod a chefnogi'r dull diwygiedig o gynnal y sgwrs barhaus mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd;
3. Cytuno i'r swyddogion weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid a grwpiau amgylcheddol allweddol er mwyn datblygu'r dull yma ar gyfer y dyfodol, a gofyn iddyn nhw gydweithio â ni ar weithgarwch cyfathrebu ac ymgysylltu penodol; a
4. Derbyn diweddariadau ar gynnydd sydd wedi'i wneud yn ystod cyfarfodydd yn y dyfodol, gan gynnwys adborth ar ymgynghoriad y strategaeth newid yn yr hinsawdd.
Dogfennau ategol: