Agenda item

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol sy'n rhoi trosolwg o gyflawniad y Cyngor, yn ariannol ac yn weithredol, sy'n seiliedig ar naw mis cyntaf y flwyddyn ariannol yma (hyd at 31 Rhagfyr 2020).

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaeth Cyflawni a Gwella – grynodeb i'r Aelodau am gyflawniad y Cyngor dros naw mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon (hyd at 31 Rhagfyr 2020), o ran materion ariannol a gweithredol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y sefyllfa gyllidebol ar gyfer y trydydd chwarter yn rhagweld gorwariant gwerth £1.049miliwn, sy'n cynrychioli sefyllfa well o'i chymharu â chwarter 1 a 2.  Ychwanegodd fod y rhagamcaniad yma'n adlewyrchu parhad y pwysau allweddol yn enwedig o fewn y Gwasanaethau i Blant a Gwasanaethau Oedolion. Nododd yr Aelodau bod sefyllfa'r gyllideb wedi'i gosod yng nghyd-destun digynsail Covid-19, a'i fod yn ystyried y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a dderbyniwyd am naw mis cyntaf y flwyddyn, yn ogystal â'r swm y mae disgwyl i'r Cyngor ei dderbyn am weddill y flwyddyn, mewn perthynas â gwariant ychwanegol ac incwm a gollwyd o ganlyniad i'r pandemig.

 

Yn rhan o drefniadau rheoli gwasanaeth a rheolaeth ariannol cadarn y Cyngor, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y gwaith yn parhau ym mhob gwasanaeth i gyfrannu at sicrhau bod y sefyllfa ariannol yn agosáu at fod yn unol â'r gyllideb; ac ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at bwysigrwydd darparu cyllid ychwanegol er mwyn diwallu pwysau costau parhaus.

 

Ar 31 Rhagfyr 2020, cyfanswm y buddsoddiad cyfalaf yw £57.483miliwn, gyda chynnydd yn parhau i gael ei wneud yn ystod Chwarter 3, gan ystyried cyfyngiadau Covid-19 a'r gofynion o ran diogelwch.  Daeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth a'i drosolwg i ben drwy roi gwybod am y cynnydd da sydd wedi'i wneud ym mhob un o flaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor, sef Pobl, Lleoedd a Ffyniant, sy'n parhau i ganolbwyntio ar ddarparu cymorth hanfodol i drigolion a busnesau i fynd i'r afael ag effaith sylweddol Covid-19 ar gymunedau lleol, ynghyd â bwrw ymlaen â gwaith cyflawni cynlluniau mawr.

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at y dangosyddion cadarnhaol mewn perthynas ag absenoldeb oherwydd salwch, gan ddiolch i holl staff y Cyngor am eu hymrwymiad a'u gwaith caled yn ystod blwyddyn heriol.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Eiddo'r Cyngor yr adroddiad, gan nodi'r gwelliannau sydd wedi'u gwneud ers yr adroddiad diwethaf.  Cyfeiriodd at y pwysau parhaus sy'n wynebu'r Cyngor mewn perthynas â'r Gwasanaethau Cymdeithasol gan ganmol swyddogion am y gwaith sy'n cael ei wneud er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd cyllid grant.

 

Roedd yr Arweinydd hefyd wedi diolch i staff y Cyngor am y gwaith sydd wedi'i wneud, gan gyfeirio at fuddsoddi a gwaith mewn ysgolion, canol trefi ac eiddo gwag ledled y Fwrdeistref Sirol.  Siaradodd yr Arweinydd hefyd am bwysau sylweddol ar y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.     Nodi'r amgylchiadau digynsail parhaus y mae Gwasanaethau'r Cyngor yn eu hwynebu o ganlyniad i bandemig Covid-19.

 

Refeniw

2.     Nodi a chytuno ar sefyllfa alldro refeniw'r Gronfa Gyffredinol ar 31 Rhagfyr 2020 (Adran 2 o'r Crynodeb Gweithredol) gan gynnwys y cyllid parhaus gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau yn sgil Covid-19.

 

Cyfalaf

3.     Nodi sefyllfa alldro cyfalaf y Cyngor fel y mae ar 31  Rhagfyr 2020 (Adrannau 3a-e o'r Crynodeb Gweithredol).

 

4.     Nodi manylion y Dangosyddion Materion Darbodusrwydd Cylch Rheoli’r Trysorlys fel y mae ar 31 Rhagfyr 2020 (Adran 3f o'r Crynodeb Gweithredol).

 

Blaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol

5.     Nodi diweddariadau cynnydd Chwarter 2 ar gyfer blaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y mae'r Cyngor wedi cytuno arnyn nhw (Adrannau 5 a - c o'r Crynodeb Gweithredol).

 

6.     Nodi'r diweddariad cynnydd i wella ymateb byr dymor a hir dymor y Cyngor mewn perthynas â digwyddiadau tywydd eithafol Adran 6 o'r Crynodeb Gweithredol

 

 

Dogfennau ategol: