Agenda item

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr, sy'n rhoi cyfle i'r Aelodau drafod Strategaeth Ddrafft y Cyngor - Mynd i'r Afael â Newid Hinsawdd - a chytuno i ymgysylltu ac ymgynghori â thrigolion a busnesau ar ymateb y Cyngor i Newid yn yr Hinsawdd.

 

Cofnodion:

Rhannodd y Prif Weithredwr drosolwg o'r gwaith y mae'r Cyngor wedi'i wneud mewn perthynas â Newid yn yr Hinsawdd, gan gynghori am yr ymrwymiad cadarnhaol i gyfrannu at dargedau byd eang, cenedlaethol a lleol o ran lleihau carbon ym mhob un o wasanaethau'r Cyngor. Cafodd yr Aelodau wybod bod y Cyngor eisoes yn prynu 100% o'i gyflenwad ynni trydanol gan ffynonellau ynni adnewyddadwy ac wedi lleihau ei ôl troed carbon gan 37% neu 12,725 tunnell yn ystod y pum mlynedd diwethaf. 

 

Cyfeiriwyd at waith y Gr?p Llywio ar faterion Newid yn yr Hinsawdd, is-bwyllgor o Gabinet y Cyngor, sy'n gyfrifol am ddatblygu ymateb y Cyngor i'r agenda Newid yn yr Hinsawdd a chefnogi'r Cabinet i gyflawni targed Net Sero 2030. Bu'r Gr?p Llywio'n canolbwyntio ar ddeall materion carbon amrywiol yn y Fwrdeistref Sirol, gan gyflwyno cyfres o argymhellion i Gabinet y Cyngor a chasglu gwybodaeth i lywio gwaith datblygu Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd y Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr sylw'r Aelodau at Strategaeth Ddrafft Newid yn yr Hinsawdd y Cyngor sydd i'w gweld yn Atodiad A yr Adroddiad. Mae'r strategaeth yma'n pennu gweledigaeth, pwrpas ac uchelgais cyffredinol y Cyngor fel Awdurdod Lleol o ran ôl troed carbon y Cyngor a'r Fwrdeistref Sirol.

 

Cafodd yr Aelodau wybod, yn amodol ar benderfyniad y Cyngor, y byddai'r Strategaeth Ddrafft Newid yn yr Hinsawdd yn destun ymgynghoriad cynhwysfawr â'r cyhoedd yn ystod y ddau fis nesaf, hyd at 31 Mai 2021. Y bwriad yw bod y strategaeth yn cael ei chraffu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, gan nodi pwysigrwydd cynnwys yr holl Aelodau yn rhan o'r broses ymgynghori.

 

Roed y Dirprwy Arweinydd wedi croesawu'r gwaith ymgysylltu â'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a'r cymunedau lleol i sicrhau bod y strategaeth yn canolbwyntio ar y materion cywir.

 

Siaradodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol mewn perthynas â'r ystod amrywiol o faterion sy'n cael eu trafod yn y strategaeth ddrafft uchelgeisiol, sy'n cynnwys amcanion hir dymor a byr dymor.  Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar y broses ymgynghori gadarn wedi'i threfnu a'r angen am waith ymgysylltu o'r fath.  Ychwanegodd y byddai'r strategaeth yn cael ei hadolygu o bryd i'w gilydd i sicrhau ei bod hi'n 'addas at y diben' ac yn ymateb i flaenoriaethau materion newid yn yr hinsawdd.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol a'r Arweinydd am yr eitem yma gan groesawu'r broses ymgynghori mewn perthynas â'r strategaeth.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad a Strategaeth Ddrafft Newid yn yr Hinsawdd sydd wedi'i atodi i'r adroddiad.

 

2.    Nodi Strategaeth Ddrafft Newid yn yr Hinsawdd y Cyngor a'r argymhellion sy'n deillio o'r cyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd ar 17 Mawrth, yn enwedig bod swyddogion yn ymgysylltu ac ymgynghori â thrigolion a busnesau ar ymateb y Cyngor i Newid yn yr Hinsawdd.

 

3.    Gofyn bod canlyniadau'r ymgynghoriad mewn perthynas â 'Strategaeth Ddrafft Newid yn yr Hinsawdd y Cyngor’ yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet yn y dyfodol.

 

 

 

Dogfennau ategol: