Agenda item

Trafod adroddiad y Prif Weithredwr, sy'n amlinellu Strategaeth Ddrafft y Cyngor 2021-2025 – Mynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr gyfle i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd drafod Strategaeth Ddrafft y Cyngor - Mynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd, fyddai'n destun ymgynghoriad â thrigolion a busnesau, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr wybod i'r Aelodau bod y gwaith sydd wedi'i gyflawni gan y Gr?p Llywio yn ystod y 18 mis diwethaf wedi'i gyfuno i lunio strategaeth glir er mwyn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, mae hefyd yn mynd law yn llaw â Chynllun Corfforaethol y Cyngor.

 

Tynnodd y Prif Weithredwr sylw'r Gr?p Llywio at Strategaeth Ddrafft Cyngor RhCT - Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer 2021-2025, oedd wedi'i chynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad, a chroesawodd unrhyw sylwadau.

 

Dymunodd y Cadeirydd ddiolch i'r Prif Weithredwr am yr adroddiad gan gydnabod ymrwymiad cadarnhaol y Cyngor at gyflawni targedau lleol, cenedlaethol a byd eang mewn perthynas â lleihau lefelau carbon ym mhob un o wasanaethau'r Cyngor ac roedd yn falch o nodi'r targedau uchelgeisiol o ran cyflawni targed Neto Sero 2030.

 

Roedd yr Is-gadeirydd yn gefnogol o'r Strategaeth uchelgeisiol i Fynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd a nododd y bydd datblygu'r strategaeth yma'n cyfrannu at y saith nod cenedlaethol, yn benodol o ran Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, Cymru fwy Cydnerth, Cymru Iach a Chymru o gymunedau cydlynus.

 

Nododd un Aelod agwedd uchelgeisiol y Cyngor o ran sefydlu rhwydwaith o fannau gwefru cerbydau trydan ledled y Sir, ysgogi'r farchnad ac ehangu'r ddarpariaeth gwefru, ond roedd yr Aelod hefyd o'r farn y dylai'r Strategaeth ganolbwyntio ymhellach ar gyfleoedd gwefru cerbydau trydan mewn ardaloedd preswyl. Pwysleisiodd yr Aelod bryderon blaenorol a godwyd gan y Gr?p Llywio mewn perthynas â'r anawsterau logistaidd sy'n gysylltiedig â gosod mannau gwefru ar strydoedd sydd heb gyfleusterau parcio oddi ar y stryd a gosod ceblau gwefru ar hyd troedffyrdd.  

 

Roedd yr Aelodau wedi cydnabod y drafodaeth mewn perthynas â'r seilwaith i gefnogi gwaith gosod mannau gwefru cerbydau trydan mewn ardaloedd preswyl gan nodi bod adroddiad manwl wedi'i gynnwys ar yr agenda. Cytunodd yr Aelodau y byddai'r Cyngor yn gweithredu dull cam wrth gam o ganlyniad i'r dechnoleg sy'n newid yn gyson a byddai angen ceisio enghreifftiau  arfer da gan Awdurdodau Lleol eraill yn Y Deyrnas Unedig.

 

Er bod yr adroddiad yn nodi nad oedd unrhyw oblygiadau ariannol a byddai unrhyw fuddsoddiad sydd ei angen i fynd i'r afael â'r blaenoriaethau sy'n destun yr ymgynghoriad yn cael eu hadrodd a'u trafod ar wahân yn rhan o Gynllun Tymor Canolig y Cyngor, aeth un Aelod ati i ganmol y Cyngor am ei fuddsoddiad sylweddol ym maes lleihau Carbon, o ran arbed ynni a gwelliannau i adeiladau.

 

Roedd y Cadeirydd wedi diolch i'r Prif Weithredwr am yr adroddiad gan roi gwybod y bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn ystod cyfarfod nes ymlaen yn y mis.

 

PENDERFYNODD Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad yma a Strategaeth Ddrafft y Cyngor mewn perthynas â Newid yn yr Hinsawdd yn yr Atodiad;

2.    Trafod Strategaeth Ddrafft y Cyngor mewn perthynas â Newid yn yr Hinsawdd a llunio argymhellion mewn perthynas â'r strategaeth ar gyfer Cabinet y Cyngor cyn i'r Cabinet fynd ati i drafod y Strategaeth yn ystod ei gyfarfod nes ymlaen yn y mis. Bydd gofyn i'r Cabinet drafod a yw'n dymuno cychwyn gwaith ymgysylltu eang gyda thrigolion a busnesau mewn perthynas ag ymateb y Cyngor i newid yn yr Hinsawdd gan ddechrau ym mis Ebrill 2021; a

3.    Bod canlyniadau'r ymgynghoriad ar Strategaeth Ddrafft y Cyngor mewn perthynas â Newid yn yr Hinsawdd yn cael eu trafod gan y Gr?p Llywio ar Faterion Newid yn yr Hinsawdd ym mis Mehefin cyn cyfarfod y Cabinet ym mis Mehefin.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: