Derbyn crynodeb o elfennau amrywiol y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 20 Ionawr 2021.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a
Chyfathrebu ei adroddiad ar y cyd â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a
oedd yn crynhoi elfennau gwahanol Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)
2021 a dderbyniodd Cydsyniad Brenhinol ar 20 Ionawr 2021.
Roedd yr adroddiad yn gofyn i'r Pwyllgor ystyried datganiad sefyllfa'r Cyngor mewn
perthynas â gofynion y Ddeddf gan roi sylw arbennig i'r camau y bydd angen mynd
i'r afael â hwy i sicrhau bod RhCT yn cydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y bydd sawl elfen yn cael eu hystyried yn
rhan o gyfarfodydd nifer o Bwyllgorau ffurfiol y cyngor megis y Pwyllgor Safonau, a
fydd yn trafod Cod Ymddygiad yr Aelodau a'r rôl y bydd yr Arweinwyr Gr?p yn ei
chwarae o ran ymddygiad eu haelodau a bydd y Cabinet hefyd yn trafod yr
adroddiad hwn yn ei gyfarfod nesaf ym mis Mawrth 2021.
Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wedi cydnabod bod rhan fawr o'r trafodaethau
hyd yma wedi canolbwyntio ar y Cydbwyllgorau Corfforedig ac ymestyn yr
etholfraint i 16 ac 17 oed yn ystod etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf
yn ogystal â pharatoi ar gyfer ymestyn yr etholfraint i'r gr?p oedran yma mewn da
bryd ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2022.
Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yn falch o roi gwybod bod y Cyngor eisoes
wedi gwneud llawer o'r gwaith cychwynnol er mwyn hyrwyddo prosesau
democrataidd ac ymgysylltu â'r cyhoedd sy'n ffurfio rhai o ystyriaethau'r Ddeddf ac
a fydd yn cael eu cyflawni gan y Cyngor. Tynnodd sylw'r Aelodau at y meysydd
eraill y mae'r Ddeddf yn gyfrifol am sicrhau darpariaeth ar eu cyfer, megis y p?er
cymhwysedd cyffredinol ar gyfer prif gynghorau a'r cynghorau cymuned cymwys,
galluogi Gweinidogion Cymru i weithredu dulliau gweithio rhanbarthol mwy cydlynol
ledled Cymru, perfformiad mwy ffurfiol a threfniadau llywodraethu wedi'u seilio ar
adolygiadau hunanasesu a chyfoedion. Dywedodd y Cyfarwyddwr
Gwasanaeth fod y cynigion i sicrhau bod rôl craffu o fewn prif gyngoryn fwy
effeithiol gan gryfhau'r trefniadau craffu'n berthnasol iawn i'r Pwyllgor Trosolwg a
Chraffu. Mae hyn oherwydd bod y Pwyllgor yn cyflwyno cyfleoedd i graffu a thrafod
penderfyniadau allweddol cyn i'r Cabinet benderfynu ar y materion hynny. Nodwyd
bod hyn yn faes y mae'r Pwyllgor Craffu eisoes yn ei gyflawni fel mater o arfer da.
Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wedi cydnabod meysydd allweddol eraill o
ddiddordeb y bydd angen i'r pwyllgor yma'u trafod yn y dyfodol, megis diwygio
cyfranogiad y cyhoedd a'r penderfyniad a fydd yn galluogi'r Aelodau i fynychu
cyfarfodydd rhithwir. Esboniodd y bydd modd i'r Cyngor ddarlledu'i gyfarfodydd cyn
bo hir ar ôl cyflwyno cyfleuster gweddarlledu sy'n cael ei ddarparu gan Public I.
Bydd y cyfleuster yn cael ei integreiddio'n llwyr â'r trefniadau rhithwir presennol.
Byddan nhw hefyd yn ein galluogi ni i ddarparu dull hybrid ar gyfer cyfarfodydd gan
barhau i allu darlledu'n fyw ar-lein.
O ran agenda amrywiaeth, rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod bod yna
newidiadau i'r trefniadau absenoldeb teuluol a chyfleoedd rhannu swydd ar gyfer
Aelodau'r Cabinet a Chadeiryddion y Pwyllgorau. Gwelliannau i rôl Pennaeth y
Gwasanaethau Democrataidd i gryfhau a chefnogi rôl aelodau anweithredol a
dylanwad craffu ym mhob rhan o'r Cyngor. Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth
ymlaen i roi amlinelliad o'r newidiadau i drefniadau'r weithrediaeth, rhannu
gwybodaeth rhwng y rheolyddion, newidiadau i Drefniadau'r Awdurdod Tân ac
Achub, newidiadau i Gomisiwn Ffiniau a sut y bydd y Byrddau Gwasanaethau
Cyhoeddus yn gweithredu. Rhoddodd wybod y bydd gwybodaeth bellach mewn
perthynas â sut y bydd y Ddeddf yn dod i rym a pha elfennau y bydd angen eu
dwyn ymlaen o Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor y flwyddyn yma,
Etholiadau Llywodraeth Leol 2022 a thu hwnt.
I gloi, rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod bod y Cyngor wedi cael ei ofyn
i gymryd rhan mewn gweithgor mewn perthynas â'r agenda cyfranogi er mwyn
gallu llywio'r rheoliadau.
Yn dilyn y cyflwyniad, fe wnaeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau
Democrataidd a Chyfathrebu ymateb i nifer o ymholiadau ynghylch y system
Pleidleisio Sengl Trosglwyddadwy ar ôl 2022, rôl Cydbwyllgorau Corfforedig,
diffiniad swyddi dan gyfyngiadau gwleidyddol mewn perthynas ag ymgyrchu ac
ymgeisio, a statws Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a chryfhau'r rôl
statudol.
Yn unol ag ymholiad cynharach, roedd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol wedi ymateb
i bryder a godwyd ynghylch sut mae'r Cyngor yn diogelu staff iau os nad ydyn
nhw'n llwyddiannus mewn etholiad. Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod nifer o
bolisïau ar waith megis polisi chwythu'r chwiban sy'n diogelu unigolion yn ogystal â
cheisio cymorth gan yr undebau llafur.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD nodi datganiad sefyllfa'r Cyngor wedi'i amlinellu yn yr adroddiad mewn perthynas â gofynion y Ddeddf.
Dogfennau ategol: