Cyflawni gwaith cyn y cam craffu mewn perthynas â'r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol.
Cofnodion:
|
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu amlinelliad o'r cyfle cyn y cam craffu a ddarparwyd i Aelodau mewn perthynas â'r adroddiad monitro cydraddoldeb blynyddol ar gyfer 2019/20, gan roi cyfle i'r Pwyllgor Craffu gyflwyno'i sylwadau i'r Cabinet yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2021. Cyflwynodd y Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant adroddiad monitro cydraddoldeb blynyddol y Cyngor ar gyfer 2019/20 gan roi gwybod bod yr adroddiad yn cynnwys y cynnydd a gafodd ei wneud yn ystod y flwyddyn 2019/20 wrth gyflawni'r amcanion cydraddoldeb sydd wedi'u nodi yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor.
Tynnodd Aelod sylw at bwysigrwydd ymateb i ddigwyddiadau diweddar yn y cyfryngau, a’r angen i fynd i’r afael â diogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus. Cafodd cynnig ei gyflwyno y dylai cyfarfod o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, yn gweithredu yn unol â'i swyddogaeth fel Pwyllgor Materion Troseddau ac Anhrefn y Cyngor, gael ei drefnu ar frys, i drafod diogelwch a chydraddoldeb i fenywod yn y gymuned gan gynnig gwahoddiad i bartneriaid perthnasol. Pleidleisiodd y Cynghorwyr yn unfrydol o blaid y cynnig gyda'r bwriad o drefnu cyfarfod o'r Pwyllgor Materion Troseddau ac Anhrefn.
Trafododd yr Aelodau'r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol ac roedden nhw o'r farn bod y gofynion adrodd allweddol mewn perthynas ag adrodd ynghylch monitro cyflogaeth, cydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol ac ymrwymiad y Cyngor i egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi cael eu cyflawni. Wrth ymateb i ymholiad ynghylch effaith Covid-19 ar materion megis troseddau casineb, rhoddodd y Rheolwr Amrywiaeth a Chydraddoldeb wybod y byddai'r adroddiad blynyddol nesaf yn adlewyrchu unrhyw effaith ar y maes yma o ganlyniad i'r pandemig. Cydnabyddodd y byddai darparu ffigurau lleol ar ôl Covid-19 yn ddefnyddiol er mwyn i'r Pwyllgor eu hadolygu.
Gofynnodd yr Aelodau am gadarnhad bod gwaith yn cael ei wneud mewn perthynas â nifer o feysydd sydd angen eu gwella o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod bod y Gweithgor Gwasanaethau Democrataidd: Amrywiaeth mewn Democratiaeth wedi cael ei sefydlu'n ddiweddar i gynorthwyo'r Cyngor i sicrhau amrywiaeth mewn democratiaeth cyn etholiadau llywodraeth leol 2022 ac i annog unigolion i gymryd rhan mewn gwaith Cynghorau Tref, Cymuned a'r Prif Awdurdodau. Cafodd ei nodi bod cynllun gweithredu yn cael ei ddatblygu i wella amrywiaeth y Cyngor. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod hwn yn agenda sy'n datblygu'n gyflym ac sy'n cael ei flaenoriaethu gan Lywodraeth Cymru. Cyfeiriodd at bapur a oedd ar fin cael ei gyflwyno i Gyngor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i geisio cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer newidiadau a fydd yn cael eu rhoi ar waith ar ôl 2022.
Rhoddodd y Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant amlinelliad o'r materion ynghylch cau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a gweithdrefn adolygu cyflawniad staff y Cyngor sy'n cael ei chyflwyno fesul cam i sicrhau ei bod yn cael ei weithredu mewn modd effeithiol a bod gan bawb ddealltwriaeth o'r weithdrefn yn ogystal â'r gwaith parhaus i ddatblygu cynllun gweithredu fydd yn cefnogi rhaglen Menywod mewn Arweinyddiaeth, llinyn penodol o waith fydd yn cael ei rannu gyda'r pwyllgor maes o law.
Cododd y Pwyllgor bryder ynghylch effaith hirdymor cam-drin emosiynol gan gydnabod camau gweithredu yn yr adroddiad, sy'n nodi y byddai rhaglen i ysgolion yn cael ei datblygu yn rhan o Strategaeth Llesiant y Gyfadran Addysg. Byddai'r rhaglen yma'n codi ymwybyddiaeth o gam-drin emosiynol mewn perthynas.
Cododd y Pwyllgor faterion mewn perthynas â chasglu a dadansoddi data sy'n gysylltiedig ag achosion o fwlio mewn ysgolion; cafodd ei nodi bod canllawiau perthnasol pellach wedi'u rhannu â'r holl ysgolion er mwyn cyflawni gwaith monitro yn y maes yma. Codwyd materion mewn perthynas â'r Iaith Gymraeg a'r rhwystrau sy'n gysylltiedig â chodi ymwybyddiaeth ynghylch achlysuron gan ystyried ardal ddaearyddol y Fwrdeistref.
Yn dilyn trafodaeth ynghylch yr Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol ar gyfer 2019/20, PENDERFYNWYD:
1. Nodi cynnwys yr adroddiad;
2. Bydd sylwadau'r Aelodau'n cael eu cynnwys yn rhan o'r adborth fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth 2021; a
3. Bydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, yn rhinwedd ei swyddogaeth fel Pwyllgor Trosedd ac Anrhefn y Cyngor, yn cwrdd cyn gynted ag y bo modd i drafod diogelwch menywod a'r anghydraddoldebau y maen nhw'n eu hwynebu mewn mannau cymunedol.
|
Dogfennau ategol: