Agenda item

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol, sy'n galluogi Aelodau i adolygu defnydd y Cyngor o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (fel y'i diwygiwyd) ('RIPA') am y cyfnod o 1 Ebrill 2019 i 31 Rhagfyr 2020, gan gynnwys ymateb i ymchwiliad Swyddfa'r Comisiynydd Pwerau Ymchwilio (IPCO); a'r Ddogfen Polisi a Gweithdrefnau Corfforaethol newydd ar Gaffael Data Cyfathrebu o dan Ddeddf Pwerau Ymchwilio 2016 (IPA).

 

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yr wybodaeth flynyddol ddiweddaraf i'r Aelodau am ddefnydd y Cyngor o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (fel y'i diwygiwyd) yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2019 tan 31 Rhagfyr 2020. Esboniodd y Cyfarwyddwr fod Swyddfa'r Comisiynydd Pwerau Archwilio (IPCO) wedi newid ei gyfnod dychwelyd blynyddol i gyd-fynd â'r flwyddyn galendr; ac awgrymodd fod yr adroddiad ar ddefnydd y Cyngor o RIPA yn cael ei ddiwygio yn yr un modd i gyd-fynd â'r flwyddyn galendr.

 

Atgoffwyd yr Aelodau y gellir cyhoeddi awdurdodiadau gwyliadwriaeth dan gyfarwyddyd lle bo hynny'n angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn atal neu ganfod trosedd, neu atal anhrefn, lle gellir cosbi o leiaf un o'r troseddau trwy uchafswm cyfnod o garchar o leiaf chwe mis neu ragor, neu os yw'n ymwneud â gwerthu alcohol neu dybaco/nicotin dan oed. Yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2019 - 31 Rhagfyr 2020, dywedodd y Cyfarwyddwr y cyhoeddwyd pedwar awdurdodiad mewn perthynas â gwyliadwriaeth dan gyfarwyddyd; roedd pob un ohonynt mewn perthynas â Thipio Sbwriel.  Yn ystod yr un cyfnod, ni chafwyd unrhyw awdurdodiadau ar gyfer defnyddio ffynonellau cudd-wybodaeth ddynol.

 

Parhaodd y Cyfarwyddwr i siarad am y gwaith cudd, nad yw'n dod o fewn y gofynion statudol ar gyfer RIPA. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y defnydd o dechnegau gorfodi cudd yn cael eu hasesu i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni yn unol â gofynion Deddf Hawliau Dynol 1998. Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Cabinet y bu cynnydd yn y broses fonitro safleoedd rhyngrwyd, yn enwedig o ganlyniad i bandemig Covid-19. Dysgodd yr Aelodau fod adolygiad o'r gweithrediadau a'r ymchwiliadau hyn yn dangos nad oedden nhw wedi arwain at effaith amhriodol ar hawliau dynol unigolyn ar unrhyw adeg.

 

Yna siaradodd y Cyfarwyddwr am archwiliad tair blynedd yr IPCO ar y defnydd priodol o RIPA yn Rhondda Cynon Taf, a gynhaliwyd o bell ar 7 Medi 2020. Roedd yn braf nodi bod yr adroddiad archwilio yn ategu'r defnydd a'r gweithdrefnau RIPA sydd ar waith yn yr Awdurdod Lleol.

 

Cyn gorffen, tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at Atodiad B yr adroddiad, a oedd yn manylu ar Bolisi Corfforaethol newydd y Cyngor ar gyfer Caffael Data Cyfathrebu, a gafodd ei ddrafftio o ganlyniad i ddyfodiad y Ddeddf Pwerau Ymchwilio.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Cyfarwyddwr am y diweddariad a rhoi sicrwydd i'r Aelodau bod y RIPA yn parhau i gael ei defnyddio mewn modd cyson a phriodol. Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am y cyfeiriad at hyfforddiant yn y llythyr at y Prif Weithredwr a theimlai y byddai hyfforddiant yn fuddiol i'r holl Aelodau Etholedig yn y dyfodol agos.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad.

2.    Cydnabod bod RIPA wedi ei defnyddio mewn modd priodol sy'n gyson â pholisïau'r Cyngor, yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2019 tan 31 Rhagfyr 2020;

3.    Cymeradwyo'r Ddogfen Polisi a Gweithdrefnau Corfforaethol wedi'i diweddaru ar Gaffael Data Cyfathrebu o dan Ddeddf Pwerau Ymchwilio 2016 (IPA) sydd ynghlwm yn Atodiad B i'r adroddiad; a

4.    Cymeradwyo newid yn y cyfnod adrodd i flwyddyn galendr, i gyd-fynd â'r cyfnod dychwelyd ffurflenni IPCO.

 

 

Dogfennau ategol: