Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr, Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n rhoi diweddariad i'r Cabinet am yr ymatebion sy'n deillio o ymgynghoriad yr Ardoll Seilwaith Cymunedol mewn perthynas â Rhestr Rheoliad 123 y Cyngor.
Cofnodion:
Rhoddodd y Cyfarwyddwr, Materion Ffyniant a Datblygu, ddiweddariad i'r Cabinet am yr ymatebion sy'n deillio o ymgynghoriad yr Ardoll Seilwaith Cymunedol mewn perthynas â Rhestr Rheoliad 123 y Cyngor.
Esboniodd y Cyfarwyddwr fod y Cabinet, ar 17 Tachwedd 2020, wedi cymeradwyo'r Rhestr Rheoliad 123 wedi'i diweddaru, i'w chyhoeddi ar wefan y Cyngor am gyfnod o 28 diwrnod. Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ddydd Mawrth 24 Tachwedd 2020 a daeth i ben ddydd Llun 21 Rhagfyr 2020.
Cafodd yr Aelodau wybod am yr ymatebion canlynol o ganlyniad i'r ymgynghoriad:
· Argymhellodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Mark Adams y dylid ychwanegu estyniad Ffordd Liniaru Rhondda Fach i Maerdy at Restr Rheoliad 123; a
· Argymhellodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Joel James ac Aelodau Cyngor Cymuned Llanilltud Faerdref fod gofyniad i wella/cynyddu gallu addysgol yn Ysgol Gynradd Maesybryn, Llanilltud Faerdref.
Dywedodd y Cyfarwyddwr fod swyddogion wedi ystyried yr argymhellion uchod mewn ymgynghoriad ag Addysg a Phriffyrdd ac wedi cyflwyno'r materion i'r Cabinet i'w trafod.
O ran yr argymhelliad am Estyniad Ffordd Liniaru Rhondda Fach, atgoffodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau mai pwrpas Rhestr CIL 123 oedd lliniaru effaith twf a datblygiad sylweddol, yn enwedig yr hyn sy'n gysylltiedig â'r Cynllun Datblygu Lleol. O ran Ffordd Liniaru Rhondda Fach, dywedodd y Cyfarwyddwr fod nifer o gynlluniau trafnidiaeth eisoes wedi'u cynnwys yn Rhestr 123, gyda'r nod penodol o liniaru effaith datblygiadau. Eglurodd y Cyfarwyddwr nad oedd y cynllun yn cyd-fynd ag egwyddorion Rhestr Rheoliad 123 ac felly, cynigiodd beidio ag ychwanegu'r cynllun at Restr Rheoliad 123, ond yn hytrach, ystyried llwybrau cyllido eraill.
O ran argymhelliad Ysgol Gynradd Maesybryn, dywedodd y Cyfarwyddwr nad oedd unrhyw bwysau brys ar yr ysgol, a fyddai’n gwarantu ei chynnwys yn Rhestr Rheoliad 123 ar hyn o bryd, ond awgrymodd fod darpariaeth addysg, sy’n cyd-fynd â thwf, yn cael ei hystyried yn rhan adolygiad y Cynllun Datblygu Lleol.
Diolchodd yr Arweinydd i'r Cyfarwyddwr am y diweddariad a nododd, o ran argymhelliad Ysgol Gynradd Maesybryn, y gellid edrych ar hyn yn ddiweddarach pe bai'r sefyllfa'n newid. Gan gyfeirio at argymhelliad Estyniad Ffordd Liniaru Rhondda Fach, cydnabu’r Arweinydd nad oedd hyn briodol ar gyfer y rhestr ar hyn o bryd ond pwysleisiodd ei fod yn parhau i fod yn flaenoriaeth gan y Cyngor. Esboniodd yr Arweinydd fod maint y buddsoddiad yr oedd ei angen ar gyfer hyd llawn y ffordd yn fwy na £150 miliwn, ac o'r herwydd, byddai angen ystyried llwybrau cyllido eraill.
Cymeradwyodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai y sylwadau a wnaed gan yr Arweinydd a dywedodd fod ymestyn Ffordd Liniaru Rhondda Fach yn bwnc trafod gyda thrigolion yr ardal, gan y byddai mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei wella'n fawr. Cydnabu'r Aelod o'r Cabinet na fyddai'r estyniad yn briodol ar gyfer y rhestr gyfredol ac y byddai'r gwaith yn cael ei lywio'n well trwy'r Cynllun Datblygu Lleol.
Adleisiodd y Dirprwy Arweinydd y sylwadau blaenorol ac ychwanegodd fod y Cyfarwyddwr wedi mynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Cyd-gysylltu â'r Gymuned yn aml i atgoffa'r Cynghorau Cymuned o'r rhwymedigaethau i gyflwyno Rhestr 123.
PENDERFYNODD y Cabinet:
1. Nodi'r ymatebion ymgynghori a gafwyd gan Aelodau Etholedig a'r Cyngor Cymuned ym mharagraffau 5.2, 5.3 a 5.4 o'r adroddiad;
2. Nodi'r argymhellion mewn perthynas ag ymatebion yr ymgynghoriad a'r cynlluniau arfaethedig yn Adran 6; a
3. Mabwysiadu'r Rhestr Rheoleiddio 123.
Dogfennau ategol: