Agenda item

Derbyn diweddariad am gynnydd Cyd-gabinet  Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ('CCR') (y 'Cabinet Rhanbarthol' - cyd-bwyllgor), i oruchwylio twf economaidd y Rhanbarth ac i gyflawni'r ymrwymiadau a nodir ym Margen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod bod adroddiad mewn perthynas â Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cael ei gyflwyno i Aelodau er mwyn cyflawni gwaith cyn y cam craffu cyn i'r adroddiad gael ei drafod yn ystod cyfarfod o'r Cabinet ar 25 Chwefror 2021, a hynny yn dilyn trafodaethau yn ystod cyfarfod o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar 18 Ionawr 2021.

 

Rhannodd y Prif Weithredwr adroddiad, sy'n rhoi diweddariad am gynnydd gwaith Cyd-gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ('CCR') (y 'Cabinet Rhanbarthol' - cyd-bwyllgor), i oruchwylio twf economaidd y Rhanbarth ac i gyflawni'r ymrwymiadau a nodir ym Margen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Cafodd Aelodau wybod am gefndir y cynllun i greu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn 2016, a rhoddodd y Prif Weithredwr wybod bod hyn yn gytundeb rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a deg arweinydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Cafodd Aelodau grynodeb o raglen y Fargen Ddinesig, sy'n cynnwys:

  • Buddsoddiad gwerth £1.2 biliwn yn isadeiledd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd trwy Gronfa Fuddsoddi 20 mlynedd;
  • Creu Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol anstatudol i gydlynu gwaith cynllunio a buddsoddi ym maes trafnidiaeth, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru;

Aeth y Prif Weithredwr ymlaen gan roi gwybod bod y buddsoddiad gwerth £ 1.2biliwn ar gyfer cynllun Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnwys dwy elfen benodol. Mae hyn yn cynnwys £734miliwn ar gyfer cynllun METRO a £495miliwn ar gyfer Cronfa Buddsoddi Ehangach y Cabinet Rhanbarthol. Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at adran 5 yr adroddiad, sy'n rhannu'r newyddion diweddaraf ar y cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â'r Adolygiad Porth y mae angen ei gyflawni bob 5 mlynedd.  Cafodd yr Aelodau wybod bod SQW wedi cael ei gomisiynu gan Lywodraeth y DU i gyflawni gwerthusiad o effaith y buddsoddiadau sydd wedi'u gwneud hyd yn hyn yn rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. Cafodd manylion yngl?n â'r cynnydd a'r buddsoddiadau mawr sydd wedi'u gwneud hyd yn hyn eu rhannu â'r Aelodau.

Daeth y Prif Weithredwr a'i adroddiad i ben trwy roi gwybod am y gwaith cadarnhaol y mae'r deg awdurdod lleol wedi'u gwneud i ddatblygu Bargen Ddinesig sydd wedi'i chydlynu, sy'n drefnus ac sy'n canolbwyntio ar faterion economaidd sy'n darparu sylfaen arbennig i gyflawni pymtheng mlynedd nesaf rhaglen gyllid y Fargen Ddinesig, gan ddyblu'r cyllid grant sydd ar gael a chreu cyfres o gronfeydd cynaliadwy sy'n gallu cefnogi twf economaidd am sawl flwyddyn i ddod.

Rhannodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Rheng Flaen a Chyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu'r newyddion diweddaraf mewn perthynas â gwaith yr awdurdod trafnidiaeth rhanbarthol ac effaith adfywio a thai a'r manteision y mae'r rhain yn eu cynnig i'r Fwrdeistref Sirol.

Roedd y Cadeirydd wedi diolch i'r swyddogion am yr adroddiad a nododd y datblygiadau cadarnhaol mewn perthynas â'r seilwaith trydanol i gefnogi mannau gwefru ar gyfer tacsis. Cafodd y rhain eu nodi yn ystod adolygiad y gweithgor a gafodd ei sefydlu i drafod datblygu seilwaith i gefnogi perchnogaeth cerbydau carbon isel.

Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman wedi holi cyfres o gwestiynau i swyddogion ac aethon nhw ati i ymateb iddyn nhw.  Cafodd yr Aelod wybod bod mwy na 10 cyfarfod o'r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cael eu cynnal. Mae CBSRhCT bellach yn cefnogi'r trefniadau craffu sydd ar waith.  O ran ymholiadau'r Cynghorydd Jarman mewn perthynas â'r Adolygiad Porth, dywedodd y Prif Weithredwr fod penodi SQW wedi bod yn rhan o'r broses safonol sy'n cael ei chynnal ledled y DU, gan Drysorlys y DU. Dywedodd hefyd fod SQW wedi'i sefydlu yn rhan o fframwaith cystadleuol ledled y DU. O ganlyniad i hyn roedd modd i academyddion o Gymru gystadlu ar gyfer y gwaith yma.. Cafodd yr Aelod ei chyfeirio at yr adroddiad SQW sydd wedi'i nodi yn yr atodiad i'r adroddiad yn ogystal â'r adborth cynhwysfawr a chadarnhaol sydd wedi'i ddarparu.

O ran yr ymholiad mewn perthynas â nifer y swyddi sydd wedi cael eu creu yn rhan o'r rhaglen, rhoddodd y Prif Weithredwr wybod nad oedd modd iddo roi'r union nifer y swyddi a gafodd eu creu hyd yn hyn, ond cadarnhaodd fod gan y rhaglen darged o greu 25,000 o swyddi newydd erbyn 2036.

Rhannodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Rheng Flaen, fanylion y gwaith buddsoddi sydd eisoes wedi cael ei gyflawni ar y rheilffyrdd ledled y Fwrdeistref Sirol â'r Cynghorydd Jarman. Roedd y gwaith yma'n darparu gwelliannau er mwyn lliniaru difrod gan lifogydd ond hefyd i gynorthwyo â datblygiadau'r Metro, gyda mwy o waith sylweddol yn cael ei gyflawni na'r disgwyl gan fanteisio ar gyfnodau teithio llai prysur o ganlyniad i bandemig Covid.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y Cyngor yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i ddatrys y problemau sydd wedi codi mewn perthynas â llinell Cwm Cynon.  Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth at adroddiadau WelTAG a fyddai'n cael eu cyflwyno i'r Cabinet mewn perthynas â'r cynigion i ymestyn y rheilffordd tu hwnt i Aberdâr tuag at Hirwaun, datblygu'r cynllun parcio a theithio yn ardal Glan-bad, Trefforest. Siaradodd hefyd am yr achos busnes amlinellol sy'n cael ei gyflwyno mewn perthynas ag ymestyn Astudiaeth Trawstaith RhCT.  Wrth ymateb i ymholiad pellach, cadarnhawyd y byddai'r posibilrwydd o ehangu gwasanaethau rheilffordd tu hwnt i Dreherbert tuag at ardal Tynewydd yn cael ei ystyried fel elfen yn rhan o Astudiaeth Cysylltedd Canolbarth y Cymoedd sy'n cael ei chychwyn ar hyn o bryd.

Roedd y Cyfarwyddwyr Materion Ffyniant a Datblygu wedi siarad am atyniad 'Zip World' a'r adenillion y mae disgwyl i'r atyniad eu dychwelyd.  Soniodd y Cyfarwyddwr am yr angen i fanteisio ar yr atyniad yma i sicrhau bod twristiaid yn aros yn y Fwrdeistref Sirol.  Aeth y Cyfarwyddwr ati i fynd i'r afael â chwestiwn y Cynghorydd Jarman mewn perthynas â chronfa buddsoddi mewn tai a'r angen am drefniadau gwerthuso datblygiadau cadarn gan Ddatblygwyr.

Holodd y Cadeirydd am bosibiliadau 'tocyn trwodd' ar y rheilffordd a chostau gwasanaeth o'r fath, rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod bod trafodaethau'n cael eu cynnal gyda chwmni Trafnidiaeth Cymru i sefydlu cwmpas y systemau tocynnau gan gynnig un math o docyn ar gyfer sawl math o drafnidiaeth.

Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Brencher wedi holi swyddogion am y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Holodd sut y mae swyddogion yn mynd ati i gyllido RhCT gwell, gan nodi rôl bwysig Prifysgol De Cymru.  Siaradodd y Prif Weithredwr am ansicrwydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin gan nodi bod Llywodraeth y DU yn awyddus i roi cyllid i Ranbarth y Fargen Ddinesig yn hytrach na gan Lywodraeth Cymru.  Cytunodd y Prif Weithredwr fod Prifysgol De Cymru yn chwarae rôl hollbwysig yn y Fargen Ddinesig, a siaradodd am gyfraniadau Is-ganghellor y Brifysgol a'r gwaith ymgysylltu sy'n mynd rhagddo â Phenaethiaid y Colegau yn y rhanbarth yn rhan o Bartneriaeth Twf.

Holodd Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Griffiths pryd y byddai RhCT yn gweld effaith y cynlluniau sydd ar y gweill, os yw'r adolygiadau porth ond yn cael eu cyflawni bob 5 mlynedd.  Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai peth amser yn mynd heibio cyn gweld effeithiau economaidd mawr a chyfeiriodd at gynlluniau blaenorol y mae'r Cyngor wedi'u cyflawni a'r amserlenni cysylltiedig, gan gyfeirio at gynllun Dyffryn Taf.  

Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Cox wedi holi tri chwestiwn mewn perthynas ag effeithiolrwydd y Fargen Ddinesig hyd yn hyn a goblygiadau pandemig Covid, goblygiadau ar economi RhCT a threfniadau llywodraethu'r Fargen Ddinesig. 

Roedd y Prif Weithredwr wedi ymateb i Aelodau trwy gyfeirio at dudalen 113 o'r adroddiad, sy'n nodi'r trefniadau llywodraethu sydd ar waith yn rhan o gyd-cabinet a siaradodd am yr effaith gadarnhaol y byddai Cyd-Bwyllgor Corfforaethol posibl yn y dyfodol yn ei chael ar wella trefniadau llywodraethu.

O ran pandemig Covid, dywedodd y Prif Weithredwr fod nifer o geisiadau wedi'u gwneud i lywodraeth y DU am gyllid i fuddsoddi mewn rhwydweithiau ffeibr i wella gwasanaethau digidol.  Dywedodd y Prif Weithredwr, er bod patrymau teithio wedi newid oherwydd pandemig Covid, byddai galw o hyd ar y rhwydwaith rheilffyrdd.

Holodd yr Aelod Cyfetholedig, Mr J Fish, y swyddogion am y cyllid Ewropeaidd a ymrwymwyd i'r rhaglen a hefyd y cysylltiadau addysg a'r llwybrau gyrfa o fewn sectorau Fintech.  Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y cyllid Ewropeaidd wedi'i warantu a dywedodd y byddai'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn disodli'r ddarpariaeth ariannu wrth symud ymlaen.  O ran llwybrau gyrfa, cyfeiriodd y Prif Weithredwr at waith gyda Phrifysgol De Cymru er mwyn datblygu rhaglenni i raddedigion a rhaglen Meistr yn y meysydd hynny lle mae yna brinder sgiliau.  Yn dilyn cwestiwn ychwanegol gan y Cadeirydd, cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor eisoes yn hyrwyddo cyfleoedd gyrfa yn yr ysgolion uwchradd.

Tynnodd nifer o Aelodau sylw at rannau o'r adroddiad gan siarad am y manteision cadarnhaol a fyddai'n amlwg ledled y Fwrdeistref Sirol o ganlyniad i raglen y Fargen Ddinesig, gan gyfeirio at y gwelliannau nodedig a fyddai’n cael eu cyflawni ym maes trafnidiaeth er budd trigolion y Sir o ganlyniad i'r metro yn ogystal â'r diwydiant twristiaeth yn y Fwrdeistref Sirol.

Yn dilyn craffu manwl mewn perthynas â'r adroddiad, fe wnaeth y Pwyllgor PENDERFYNU:

  1. Cydnabod cynnwys adroddiad Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a gafodd ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gais y Pwyllgor; a
  2. Bod y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yn rhannu sylwadau'r Aelodau yn ystod cyfarfod o Gabinet y Cyngor ar 25 Chwefror.

Nodwch: Ar yr adeg yma yn y cyfarfod, roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Brencher wedi datgan buddiant personol: “Mae fy mab yn gweithio i gwmni Trafnidiaeth Cymru”.

 

 

Dogfennau ategol: