Agenda item

Mae'r adroddiad yma'n diweddaru'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am y trefniadausydd ar waith ar hyn o bryd, a'r rhai sydd ar y gweill, sy'n cefnogi Cyfrifoldebau Diogelu Corfforaethol y Cyngor.

 

 

Cofnodion:

Rhannodd y Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant y newyddion diweddaraf yngl?n â'r cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â threfniadau diogelu corfforaethol y Cyngor yn ystod y 12 mis diwethaf.  Cyfeiriwyd at adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru a gynhaliwyd yn 2019 a oedd wedi canfod bod y Cyngor wedi cwrdd, neu wedi cwrdd yn rhannol, â'r rhan fwyaf o'r argymhellion a'r cynigion blaenorol ar gyfer gwella. Fodd bynnag, ychwanegodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod rhai cynigion pellach ar gyfer gwella wedi'u gwneud er mwyn cryfhau agweddau ar drefniadau Diogelu Corfforaethol y Cyngor a chafodd manylion ynghylch chwe chynnig eu darparu.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Cyfadran ymlaen i drafod y sefyllfa bresennol a'r gwaith pellach y mae angen ei gyflawni mewn perthynas â'r trefniadau diogelu, gan gyfeirio at atal hunanladdiad, Cam-drin Plant yn Rhywiol a Diogelu Cyd-destunol.

 

Siaradodd Aelodau'r Pwyllgor am bwysigrwydd materion megis trefniadau diogelu ar gyfer plant ac oedolion sy'n agored i niwed.  Siaradodd y Cadeirydd a Chynghorydd y Fwrdeistref Sirol Jarman am yr effaith dorcalonnus y mae hunanladdiad yn ei chael ar aelodau'r teulu a chafodd y Cyfarwyddwr Cyfadran ei holi am y cymorth sydd ar gael i gefnogi aelodau'r teulu yn ystod cyfnodau heriol yn rhan o'r strategaeth amlasiantaeth.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod y Bwrdd wedi bwrw ymlaen â gr?p goruchwylio strategol sy'n ceisio llunio drafft o strategaeth atal hunanladdiad, ar ôl cydnabod nad oedd bwrdd cydlynu rhanbarthol yn bodoli ac o ganlyniad i gynnydd yn nifer yr achosion o hunanladdiad yn y rhanbarth.  Siaradodd Cyfarwyddwr y Gr?p am y trefniadau ychwanegol sydd ar waith mewn perthynas â gr?p adolygu sy'n edrych ar 'wersi a ddysgwyd'.  Darparodd y Rheolwr Busnes, Bwrdd Diogelu Cwm Taf rhagor o wybodaeth mewn perthynas ag un strategaeth ranbarthol ar gyfer atal hunanladdiad sydd wedi cael ei datblygu a'r amcan strategol sydd wedi'i nodi yn y strategaeth ac sy'n ymwneud â gwella sut mae gwybodaeth yn cael ei darparu i'r rheiny sydd wedi cael eu heffeithio gan hunanladdiad. Nododd y Rheolwr bod y Bwrdd wedi cydnabod bod angen gwella hyn.  Cafodd yr Aelodau wybod bod Llywodraeth Cymru wedi penodi Cydlynydd Atal Hunanladdiad a rhoddodd y Rheolwr wybod am y gwaith agos sy'n cael ei gyflawni rhwng y Bwrdd a'r Cydlynydd ar gyfer y rhanbarth. Cyfeiriodd hefyd at y llwybr profedigaeth Cenedlaethol sy'n cael ei gyflawni yn yr ardal yma.

 

Holodd Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol Cox a oedd y trefniadau diogelu wedi'u heffeithio o ganlyniad i bandemig covid, gan ystyried bod plant ddim wedi bod yn bresennol yn lleoliadau ysgol a felly mae'n bosibl bod llai o atgyfeiriadau wedi bod.  Holodd yr Aelod am gynlluniau hir dymor i sicrhau nad yw plant ac oedolion sy'n agored i niwed yn cael eu colli yn ystod y cyfnod unigryw yma.

 

Cytunodd y Cyfarwyddwr Cyfadran taw dyma un o'r brif heriau ar gyfer y gwasanaeth ac roedd y gwasanaeth yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod plant ac oedolion sy'n agored i niwed ddim yn cael eu colli, gan ddefnyddio cyfarfodydd rhithwir os yw'n bosibl a pharhau i gynnal cyfarfodydd gan gadw pellter cymdeithasol pan fo angen. Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod yr holl arferion gwaith wedi'u haddasu yn unol â rheoliadau covid a'r gwasanaethau hanfodol a gynhelir. Roedd pob gr?p partneriaeth ar gyfer byrddau diogelu bellach yn gweithredu unwaith eto ar ôl atal cyfarfodydd ar ddechrau'r cyfyngiadau symud.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod y pandemig wedi ychwanegu pwysau i'r gwasanaeth a nododd ei bod hi'n bosibl y bydd y pwysau yma'n cynyddu wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio dros y misoedd nesaf, bydd y gwasanaeth yn ymateb i fodloni gofynion y gwasanaeth.

 

Holodd Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Brencher am y mesurau diogelu sydd ar waith mewn perthynas â 'bwlio ar-lein'.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod hwn yn flaenoriaeth ar gyfer y Bwrdd.   Roedd Rheolwr Busnes, Bwrdd Diogelu Cwm Taf, wedi pwysleisio pwysigrwydd mynd i'r afael â'r maes diogelu yma a chyfeiriodd at y gwaith roedd y Bwrdd yn ei gyflawni gyda Heddlu De Cymru o ran darparu hyfforddiant rhithwir mewn perthynas â cham-drin ar-lein.  Dywedodd y Rheolwr hefyd am ymgyrchoedd covid y mae Heddlu Du Cymru wedi'u cyflawni gyda phobl ifainc am y peryglon sy'n gysylltiedig â llwyfannau ar-lein.

 

Siaradodd y Cynghorydd W Jones yn gadarnhaol am y dulliau cydweithredol rhwng ysgolion a sawl adran y cyngor er budd pobl ifainc ac oedolion sy'n agored i niwed.

 

Holodd y Cadeirydd a oedd unrhyw effaith ar 'Linellau Sirol' a holodd sut ydyn nhw'n mynd i'r afael â hyn yn ystod y cyfyngiadau symud.  Dywedodd Cyfarwyddwr y Gr?p fod gwybodaeth yn cael ei darparu gan Heddlu De Cymru.  Dywedodd fod effaith Llinellau Sirol hyd yn hyn wedi'i chyfyngu, ond bod y bygythiad yn parhau a bod y gwasanaethau yn gweithio gyda'r partneriaid i ddiogelu plant ac oedolion ifainc sy'n agored i niwed.

 

Dogfennau ategol: